Awgrymiadau ar gyfer rheoli’r broses o adael CAMHS
Mae’r dudalen hon yn cynnig cyngor ac awgrymiadau i helpu pobl ifanc sydd yn y broses o adael CAMHS.
Gall gadael CAMHS deimlo fel profiad anodd iawn. Yn enwedig os oes llawer o brofiadau eraill yn digwydd i chi ar hyn o bryd, fel:
- Gadael yr ysgol, neu fynd yn ôl i’r ysgol os ydych chi wedi bod yn sâl
- Sefyll arholiadau neu astudio
- Cael problemau perthynas â phobl sy’n agos atoch chi
- Symud i le newydd ar gyfer prifysgol neu goleg
- Meddwl beth allech chi ei wneud fel swydd
- Symud i Wasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion (AMHS) neu i wasanaeth arall i oedolion
Os ydych chi’n parhau i gael cymorth ar gyfer eich iechyd meddwl, neu’n cael eich rhyddhau, gall ein hawgrymiadau eich helpu i deimlo’n well am adael CAMHS.
Mae’r dudalen hon yn cynnig awgrymiadau sy’n gallu rhoi arweiniad i chi ar sut i wneud y canlynol:
Pa gwestiynau allaf i eu gofyn i fy nhîm CAMHS?
Does dim cwestiynau cywir neu anghywir, ond dyma rai syniadau i’ch rhoi chi ar ben ffordd. Os nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus, gallech chi ofyn i oedolyn neu eiriolwr dibynadwy ofyn ar eich rhan chi.
- Ar ba oedran y bydd CAMHS yn rhoi’r gorau i fy nghefnogi yn fy ardal?
- Pa fath o wasanaethau oedolion sydd ar gael yn fy ardal i?
- Os nad ydw i’n mynd i AMHS, pa fathau eraill o gymorth sydd ar gael?
- Ble alla i ddod o hyd i gopi o’r polisi rydych yn ei ddefnyddio i symud o CAMHS i AHMS?
- Os ydych chi’n byw yn Lloegr: ydw i o dan y Dull Rhaglen Ofal (CPA)?
- Alla i weld fy nghynllun gofal?
- Pwy fydd yn rheoli’r broses o’m symud i AMHS?
- Pa mor aml fydda i’n cwrdd â rhywun i drafod y cynlluniau ar gyfer symud?
- Oes gen i gynllun pontio, ac a gaf i ei weld?
- Pa fathau o gymorth a thriniaeth fydda i’n cael fy atgyfeirio ar eu cyfer?
- Gyda phwy alla i siarad os ydw i’n teimlo bod fy iechyd meddwl yn gwaethygu ar ôl cael fy rhyddhau?
- Ydw i’n dal yn gallu cael fy atgyfeirio at AMHS yn y dyfodol?
- Allwch chi fy atgyfeirio at unrhyw wasanaethau eraill ar gyfer oedolion?
- Pa fathau eraill o gymorth alla i ddod o hyd iddyn nhw yn y gymuned?
- Alla i gael fy ailasesu gan CAMHS os bydd angen i mi wneud hynny?
Roeddwn i’n cael fy ngadael heb wybod pryd roeddwn i’n symud a sut roedd y broses yn gweithio.
Dweud wrth eich tîm CAMHS beth sy’n bwysig i’ch gofal
Os ydych chi’n gadael CAMHS i symud i wasanaethau oedolion fel AMHS, gallwch chi weithiau weld llawer o wahanol weithwyr iechyd proffesiynol. Gall hyn fod yn anodd os ydych chi’n gorfod ailadrodd eich stori ac esbonio’r hyn sydd ei angen arnoch i bobl wahanol.
Ceisiwch ysgrifennu’r hyn rydych yn dymuno i’r bobl sy’n eich cefnogi gael gwybod, fel y canlynol:
- Pethau rydych chi’n eu hoffi am eich triniaeth a’ch cefnogaeth bresennol
- Pethau sy’n bwysig i chi ar gyfer eich triniaeth a’ch cefnogaeth
- Pethau rydych chi wedi’u cael yn anodd yn CAMHS ac eisiau eu gweld yn cael eu newid
- Therapïau neu driniaethau rydych chi wedi rhoi cynnig arnyn nhw ac sydd wedi bod yn ddefnyddiol neu ddim yn ddefnyddiol
- Y mathau o gymorth neu driniaethau rydych chi eisiau
- Eich gobeithion ar gyfer eich iechyd meddwl a’ch llesiant yn y dyfodol
Gallech wneud hyn drwy lenwi pasbort pontio.
Felly 6 mis cyn i chi fod yn 18 oed, dyna pryd maen nhw i fod i ddechrau paratoi’r cyfan. Fe wnes i ddweud yn benodol nad oeddwn i eisiau seiciatrydd penodol pan wnes i drosglwyddo. I fod yn deg, fe wnaethon nhw hynny felly doedd dim rhaid i mi eu gweld nhw.
Llenwi ‘pasbort’ i rannu eich profiadau
Cyn i chi adael CAMHS, mae llenwi pasbort yn eich helpu i ddweud beth rydych chi eisiau i’r bobl sy’n eich cefnogi chi ei wybod. Gallwch chi restru eich anghenion a dweud wrthynt beth sy'n bwysig i chi.
Mae gennym 2 fath o dempledi pasbort. Gallwch eu llwytho i lawr a llenwi pa un bynnag sydd orau ar gyfer eich cynlluniau ar ôl gadael CAMHS:
Efallai y byddwch chi am rannu hwn â’ch meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall, fel therapydd.
Lawrlwytho eich pasbort symud ymlaen o CAMHS:
- Lawrlwytho ffeil Word (yn agor mewn ffenestr newydd)
- Lawrlwytho PDF (yn agor mewn ffenestr newydd)
Dylent roi rhywbeth fel hyn i chi yn SCAMHS yng Nghymru beth bynnag, ond gall pobl ifanc yn Lloegr hefyd gadw cofnod ysgrifenedig gan ddefnyddio ein templed.
Lawrlwytho eich pasbort ‘pontio i AMHS’:
- Lawrlwytho ffeil Word (yn agor mewn ffenestr newydd)
- Lawrlwytho PDF (yn agor mewn ffenestr newydd)
Gallwch rannu eich pasbort gyda’ch tîm CAMHS. Gofynnwch iddyn nhw gadw copi ar eich cofnodion – gallan nhw ei anfon at unrhyw bobl newydd sy’n gweithio gyda chi yn AMHS.
Os ydych chi’n byw yng Nghymru, gallwch chi hefyd edrych ar yr enghraifft fanylach hon o Basbort Pontio i Bobl Ifanc.
Roedd yr holl broses yn llethol ond rwy’n ddiolchgar am y ffordd y llwyddodd fy nhîm i’w rheoli. Roedden nhw’n wir yn ceisio gwneud pethau mor hawdd â phosibl i mi.
Adeiladu eich rhwydwaith cymorth
Pan fyddwch chi’n gadael CAMHS am unrhyw reswm, mae’n bwysig cael cymaint o gymorth â phosibl. Gallai hyn fod yn ffrindiau, partneriaid, aelodau o’r teulu, gofalwyr neu warcheidwaid. Gallwch chi hefyd ofyn am gymorth gan weithwyr proffesiynol dibynadwy fel staff CAMHS, athrawon neu weithwyr cymdeithasol.
I adeiladu a chynnal eich rhwydwaith cefnogi, ceisiwch wneud y canlynol:
- Daliwch ati i siarad. Weithiau, gall rhoi gwybod i bobl beth sy’n digwydd a sut rydych chi’n teimlo wneud pethau ychydig yn haws.
- Dywedwch wrth bobl eraill sut y gallant helpu. Efallai y byddwch chi am iddynt fod yno pan fydd eu hangen arnoch, neu ar gyfer pethau ymarferol fel mynd i apwyntiadau gyda chi.
- Gofynnwch am help os oes angen hynny arnoch chi. Gall hyn fod yn anodd ond mae’n bwysig dweud wrth y bobl o’ch cwmpas pan fyddwch chi’n gweld pethau’n anodd.
- Siaradwch â’ch tîm CAMHS. Os ydych chi’n poeni’n ofnadwy am adael gwasanaeth, dywedwch wrth rywun yn eich tîm CAMHS. Gallant drafod pethau gyda chi.
- Edrychwch ar ddewisiadau eraill o ran cymorth. Gall y rhain fod ar-lein, dros y ffôn, neu yn eich ardal leol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen ar ddod o hyd i gymorth i bobl ifanc. Os ydych chi dros 18 oed, gallwch chi ddarllen ein gwybodaeth i oedolion am chwilio am help ar gyfer problem iechyd meddwl.
I gael syniadau am ofalu amdanoch eich hun, edrychwch ar ein tudalen ar ofalu am eich llesiant.
Mae’n helpu i sicrhau bod gennych rwydwaith cefnogaeth o’ch cwmpas o bobl y gallwch ymddiried ynddynt. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i fod yno i chi eich hun pan fydd eich iechyd meddwl yn mynd yn anodd. Sefydlwch strategaethau sy’n gweithio i chi cyn i chi adael CAMHS.
Siarad ag eraill sydd wedi gadael CAMHS
Gall siarad â phobl ifanc eraill sydd wedi bod drwy brofiadau tebyg fod yn hynod ddefnyddiol. Efallai y byddan nhw’n gallu rhoi cyngor a help i chi deimlo nad ydych chi ar eich pen eich hun.
Os nad ydych chi’n adnabod rhywun, gallwch siarad â phobl ifanc eraill ar fyrddau negeseuon ar-lein, fel Kooth, The Mix a Childline.
Ar fyrddau negeseuon, gallwch:
- Ofyn cwestiynau
- Rhannu meddyliau
- Holi pobl eraill am eu profiadau
Efallai y gwelwch fod rhai pobl wedi mynd drwy brofiadau tebyg i chi. Gall hyn fod yn galonogol, hyd yn oed os nad yw’n brofiad da.
Roedd rhai o’r bobl ifanc y buom yn siarad â nhw wedi disgrifio gadael CAMHS mewn gwahanol ffyrdd. Dyma’r mathau o bethau y gallech chi eu dysgu wrth siarad ag eraill:
Roedd gadael CAMHS yn gam mawr i mi. Roedd yn rhaid i mi ddysgu gofalu am fy iechyd meddwl fy hun a bod yn gwnselydd i mi fy hun. Roedd hynny’n anodd i ddechrau, ond roedd wedi fy helpu i fod yn fwy gwydn ac yn llai dibynnol ar eraill i dawelu fy meddwl pan oeddwn i dan straen.
Fe wnes i adael CAMHS pan oeddwn i’n 18 oed a chael fy symud i sefydliad cymorth lleol arall. Roedd y broses hon yn eithaf anodd i mi, yn enwedig oherwydd bod y 2 berson a oedd yn gofalu amdanaf, ac a oedd yn gyfrifol am fy ngofal, i ffwrdd.
Cefais fy rhyddhau gan CAMHS cyn atgyfeirio fy hun at wasanaethau therapi seicolegol lleol. Mae’r amseroedd aros ar gyfer y rheini wedi bod yn hirach na gwasanaethau plant a phobl ifanc.
Yn ystod y broses o adael, ni chefais wybod beth i’w wneud pe bai angen help arnaf yn y dyfodol na sut i ailgyfeirio.
Rhywbeth eithaf poenus oedd teimlo eich bod yn cael eich troi oddi wrth CAMHS ar ôl bod gyda nhw am fwy na 4 blynedd.
Gofalu am eich llesiant
P’un ai a ydych chi’n cael eich rhyddhau neu’n parhau â’ch cymorth yn rhywle arall, gall gadael CAMHS deimlo fel cyfnod anodd iawn. Mae’n bwysig bod yn garedig â chi’ch hun.
Yn ystod y cyfnod hwn, ceisiwch wneud y canlynol:
- Siarad â rhywun dibynadwy ynglŷn â sut rydych chi’n teimlo, e.e. ffrind neu oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddynt. I gael syniadau am sut i ddechrau’r sgwrs, edrychwch ar ein tudalen ar siarad â phobl eraill.
- Gwneud pethau sy’n eich helpu i ymlacio, e.e. gwrando ar gerddoriaeth, darllen neu wylio eich hoff ffilmiau.
- Gwneud y pethau rydych chi’n eu mwynhau, e.e. gwneud amser ar gyfer eich hoff ddiddordebau, neu dreulio amser gydag anwyliaid.
- Gwneud blwch hunanofal. Llenwch flwch gyda phethau sy’n rhoi cysur i chi pan fyddwch chi’n teimlo’n isel neu’n cael trafferth gyda phethau. Gallwch gynnwys pethau rydych chi’n hoffi eu gwneud neu bethau sy’n eich helpu i ymlacio.
I gael rhagor o wybodaeth ac awgrymiadau ar gyfer pan fyddwch chi’n cael trafferth, edrychwch ar ein tudalennau ar ddod o hyd i gymorth a gofalu am eich llesiant.
Child and Adolescent Mental Health Services (CAMHS)
These are services that support young people with their mental health.
You might see them called different names sometimes, but they offer the same type of services for young people:
- In Wales, they're called Specialist Child and Adolescent Mental Health Services (SCAMHS)
- In England or Wales, you might also hear them called Children and Young People’s Mental Health Services (CYPMHS)
Find out more in our CAMHS information hub.
Adult Mental Health Services (AMHS)
These are NHS services that support adults with mental health problems.
Visit our full treatment and support glossaryCare team
These are the people look after you when you're getting treatment and support for your mental health problem. Your care team might include nurses, doctors and therapists.
They may look after you in hospital, support you through Child and Adolescent Mental Health Services (CAMHS), or look after you at home.
Visit our full treatment and support glossaryAdvocate
An advocate is someone who can listen to you and help make sure your voice is heard in decisions about you.
In some situations, you will have a right to have an advocate. This is called statutory advocacy.
Even if you don’t have a right to an advocate, there are other types of advocacy that can support you to get your voice heard.
See our page on advocacy for more information.
Visit our full treatment and support glossaryPolicy
This is a document that sets out how an organisation will act in certain situations. For example, a transition policy should explain how an organisation will manage a young person leaving their services.
Visit our full treatment and support glossaryCare Programme Approach (CPA)
This is a way of providing NHS support for people in England who have a mental health problem. It means you should have a care co-ordinator and a care plan.
Visit our full treatment and support glossaryCare plan
The name for a plan that explains your mental health problem, what treatment and support you need, and who will provide that support. Care plans might also cover what should happen if you're in a mental health crisis.
There are different types of plans, such as a Care Programme Approach (CPA) or Care and Treatment Plan (CTP). Whatever type of plan you have, you should always be given a copy of it.
Visit our full treatment and support glossaryTransition
This is when someone moves on from a children’s service to an adult service. For example, when someone moves on from Child and Adolescent Mental Health Services (CAMHS) to Adult Mental Health Services (AMHS).
See our page on moving to adult services for more information.
Visit our full treatment and support glossaryDischarge
This means your treatment at a hospital, clinic or other service is ending. You may be discharged because:
- you’ve completed your treatment
- you’re old enough to use a different service
- you’ve asked to leave
- the next part of your treatment needs to continue somewhere else.
Your care team should explain what this means, and what will happen if you need care in the future.
Visit our full treatment and support glossaryReferral
This is a request to a service asking them to review:
- how you’re feeling
- what support you need.
The referral helps explain to the new service why they should see you, and what the best way to help you might be.
Sometimes referrals can be made by yourself, a family member or social worker. But they’re often made by your doctor as they understand your medical history.
Visit our full treatment and support glossaryTherapy
This is treatment that aims to help improve your mental health and wellbeing. There are lots of different types of therapies. Here are some commons ones you might have heard of:
- talking therapies
- creative therapies
- ecotherapy (being in or around nature)
- medication (also called drug therapy).
Therapist
This is a trained professional who runs or supervises your therapy. Therapists help you explore how you’re thinking, feeling and behaving, and what can help you in the future.
There are different types of training and education for therapists. This means they all have different titles, like psychologist, therapist, counsellor or psychiatrist.
Visit our full treatment and support glossaryConfidentiality
Confidentiality is about keeping your information private.
It means that when you talk to professionals they shouldn’t tell anyone else what you’ve said.
They will only share what you tell them in certain situations. For example, if you ask them to or if they’re worried that you or someone else could be in danger.
See our page on confidentiality for more information.
Visit our full treatment and support glossaryCounselling
This is a type of talking therapy with a trained counsellor. Counselling can help you:
- talk through a problem or situation that is negatively affecting your mental health
- recognise how it affects you
- work out positive coping strategies or ways to make the situation better.
It may be face-to-face, over the phone or over video call.
Visit our full treatment and support glossaryCounsellor
Counsellors listen to you and give you a safe space to explore how you’re thinking, feeling and behaving. They also help you find ways to cope with things.
Visit our full treatment and support glossaryAdult services
These are public services that support adults rather than children and young people, like Adult Mental Health Services (AMHS) for example.
Visit our full treatment and support glossaryCafodd yr wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr 2022. Byddwn yn ei diwygio yn 2025.
Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os hoffech chi atgynhyrchu unrhyw ran o’r wybodaeth hon, gweler ein tudalen ar ganiatadau a thrwyddedau.