Symud i wasanaethau oedolion
Mae symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion yn gadael llawer yn teimlo eu bod wedi cael eu gadael, eu bod ar eu pen eu hunain ac yn cael eu hanwybyddu. Mae ein hymgyrch Sortiwch y Switsh yn brwydro dros newid y system.
Tâl Salwch Statudol
Nid yw Tâl Salwch Statudol yn ddigon da. Ni ddylai neb dalu pris mor uchel am orfod cymryd amser i ffwrdd yn sâl oherwydd eu hiechyd meddwl. Rydym yn ymgyrchu i'w newid.
Iechyd meddwl goroeswyr strôc
Dim ond 3% o oroeswyr strôc sydd â phroblem iechyd meddwl sy’n cael cymorth pan fydd ei angen arnynt fwyaf. Rydym yn gweithio gyda'r Gymdeithas Strôc i newid hyn.
Budd-daliadau
Nid yw'r system les yn gweithio i bobl â phroblemau iechyd meddwl. Rydym yn ymgyrchu i wneud yn siŵr bod budd-daliadau yn helpu pobl i fyw gydag annibyniaeth ac urddas.
Stigma
Rydym yn gweithio i roi terfyn ar stigma a gwahaniaethu ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl. Rydym yn gwneud hyn drwy ein hymgyrch gwrth-stigma, Amser i Newid Cymru.
Miliwn o ddwylo
Mae ein hymchwil yn dangos nad yw pobl ifanc bob amser yn deall sut i ofalu am eu hiechyd meddwl. Rydyn ni'n gweithio gyda'r Sgowtiaid fel bod mwy o bobl ifanc yn gallu dysgu am iechyd meddwl.
Sut i gymryd rhan
Mae ymgyrchwyr Mind yn gweithio gyda ni i ymgyrchu am well bargen i bobl â phroblemau iechyd meddwl.
Fel ymgyrchydd Mind, efallai y byddwch yn llofnodi deisebau, ysgrifennu at eich AS, neu rannu eich profiadau o iechyd meddwl.
Beth bynnag a wnewch, byddwch yn brwydro i wella iechyd meddwl pobl yng Nghymru.
Dysgwch fwy am iechyd meddwl yng Nghymru
Mae gennym lawer o adroddiadau am faterion iechyd meddwl, a sut maent yn effeithio ar bobl yng Nghymru.