Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Rhaglen Miliwn o Ddwylo'r Sgowtiaid - gwell iechyd meddwl i bawb

Mae gan un o bob deg person ifanc yn y DU broblem iechyd meddwl. Gall problemau iechyd meddwl atal pobl ifanc rhag cyflawni eu nodau, nawr neu yn nes ymlaen mewn bywyd.

Mae pob person ifanc yn haeddu gallu cyrraedd ei lawn botensial. Rydyn ni'n gweithio gyda'r Sgowtiaid fel rhan o'u rhaglen Miliwn o Ddwylo, i helpu i wneud i hynny ddigwydd.

Pan rydyn ni'n ifanc, mae gennym ni'r cyfle gorau i adeiladu sylfeini ar gyfer iechyd meddwl da. Rydyn ni eisiau i bob person ifanc wybod sut i ofalu am eu hiechyd meddwl - fe all wneud gwahaniaeth positif i weddill eu bywydau.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Dysgu am iechyd meddwl am oes

Mae ymchwil yn dangos nad yw pobl ifanc bob amser yn deall beth yw iechyd meddwl na sut i ofalu amdano. Ond maen nhw wedi dweud wrthym ni eu bod yn teimlo'n angerddol yn ei gylch ac eisiau gwybod mwy.

Os ydych chi'n rhan o'r Sgowtiaid fe allwch chi ddefnyddio ein gweithgareddau hwyliog a chreadigol gyda'ch pobl ifanc fel eu bod yn cael dysgu am iechyd meddwl. Wedyn bydd posib iddyn nhw weithredu dros well iechyd meddwl lle rydych chi'n byw, gan helpu eraill yn eich cymuned hefyd.

Ydych chi a'ch bobl ifanc yn barod am yr her?

  • Gweithgareddau hwyliog
  • Dysgu i bobl ifanc
  • Helpu pobl eraill

Gweithredu gyda'n gweithgareddau iechyd meddwl

Cofrestrwch heddiw i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein thema Miliwn o Ddwylo - Gwell Iechyd Meddwl i Bawb. Os ydych chi'n rhedeg grŵp Sgowtiaid, fe fyddwn yn anfon diweddariadau dros e-bost atoch chi pan mae ein gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc yn barod.

Hefyd fe fyddwn ni'n rhoi gwybod i chi pan mae gennym ni newyddion pwysig arall i'w rannu am y rhaglen neu ein gwaith gyda phlant a phobl ifanc.

Sut rydyn ni'n prosesu'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydyn ni'n addo peidio byth â gwerthu eich data. Gallwch gael gwybod mwy am eich hawliau, sut rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol a sut rydyn ni'n cadw eich manylion yn ddiogel drwy ddarllen ein Polisi Preifatrwydd yn Saesneg. Am fwy o wybodaeth neu i ddileu eich tanysgrifiad, cysylltwch â [email protected].

Cofrestrwch yma

Beth yw problemau iechyd meddwl?

Mewn sawl ffordd, mae iechyd meddwl yr un fath ag iechyd corfforol: mae'n effeithio ar bawb ac mae angen i ni ofalu amdano.

Mae iechyd meddwl da yn golygu gallu meddwl, teimlo ac ymateb yn gyffredinol yn y ffyrdd rydych chi angen ac eisiau byw eich bywyd.  Ond os cewch chi gyfnod gwael o ran iechyd meddwl, gallech chi weld bod y ffyrdd rydych chi'n meddwl, yn teimlo neu'n ymateb yn aml yn anodd, neu'n amhosib hyd yn oed, ymdopi â nhw. Mae hyn yn gallu teimlo yr un mor ddrwg â salwch corfforol, neu waeth hyd yn oed.

"Un o'r pethau mwyaf y gallwch eu dysgu o fod yn aelod o'r Sgowtiaid yw annibyniaeth … nid dim ond pethau syml fel coginio a glanhau a gofalu amdanoch eich hun, ond yn feddyliol hefyd.

Pa fathau sydd?

Mae llawer o wahanol fathau o broblemau iechyd meddwl. Mae profiad pawb yn wahanol a gall newid ar wahanol adegau. Ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd.

Pobl ifanc

Gall pobl ifanc brofi amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl wrth ymdopi â phwysau tyfu i fyny. Ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd.

Dysgu mwy

Mae gan ein canllaw iechyd meddwl ddolenni at ein holl wybodaeth iechyd meddwl am bob pwnc. Ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd.

Stigma yn fy nheulu - stori Louise yn Saesneg

"Does gen i ddim dywilydd o fod â phroblemau iechyd meddwl, rydw i'n gwrthod cuddio hynny."

Dysgu mwy gydag animeiddio

Mae problemau iechyd meddwl yn effeithio tua un o bob pedwar o bobl mewn blwyddyn benodol.

Maen nhw'n amrywio o broblemau cyffredin, fel iselder a phryder, i broblemau prinnach fel sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol.

Ein partneriaeth

Rydyn ni'n cydweithio ag Inspire a SAMH fel rhan o'r rhaglen yma i Sgowtiaid sy'n rhedeg o 2019 i 2023.

Gyda'n gilydd fe wnawn ni gyrraedd mwy fyth o bobl ifanc, ledled y DU.

Cysylltwch â ni ar [email protected].

Other ways to get involved

arrow_upwardYn ôl i'r brig