Get help now Make a donation

Athletau Cymru a Mind Cymru yn datgelu partneriaeth ddwy flynedd i wella iechyd meddwl drwy redeg

Tuesday, 06 February 2024 Mind
  • Sefydliadau blaenllaw ym maes chwaraeon ac iechyd meddwl yn uno i wella hyfforddiant a sbarduno neges ‘symud er lles iechyd meddwl’
  • I gefnogi’r lansiad, mae rhedwyr yn rhannu straeon am oresgyn gorbryder, PTSD ac unigrwydd drwy ymarfer corff

Mae partneriaeth newydd rhwng Athletau Cymru a Mind Cymru yn cael ei lansio heddiw (6 Chwefror), gyda’r nod o wella iechyd meddwl drwy chwaraeon.

Bydd y rhaglen newydd yn golygu y bydd Mind yn hyfforddi hyrwyddwyr iechyd meddwl yn y 100 clwb athletau a 60 grŵp rhedeg cymdeithasol sydd yng Nghymru.

Bydd gan bob hyrwyddwr yr adnoddau i wneud y canlynol:

  • dechrau sgyrsiau’n hyderus i gefnogi neu wella lles y rheini sy’n cael problemau iechyd meddwl

  • herio stigma a chyfeirio unigolion at wasanaethau iechyd meddwl

  • helpu i ledaenu manteision symud er lles iechyd meddwl mewn cymunedau

  • cefnogi pobl i ddechrau, parhau neu ddychwelyd i redeg

Bydd y bartneriaeth yn lansio’r bore yma yn y Senedd, mewn digwyddiad ‘rhedeg a brecwast’ dan nawdd John Griffiths AS a James Evans AS, a welodd rhedwyr o bob cwr o Gymru yn cymryd rhan mewn digwyddiad rhedeg, taith gerdded neu wthio un filltir ochr yn ochr ag aelodau’r Senedd.

Dyma’r bartneriaeth gyntaf o’i bath yng Nghymru – gwella iechyd meddwl mewn cymunedau rhedeg a defnyddio’r gamp i hyrwyddo manteision ehangach gweithgarwch corfforol.

Bydd hefyd yn cynyddu ymwybyddiaeth o’r cymorth mae Mind yn ei gynnig drwy ei wasanaethau, gan gynnwys ei linell wybodaeth a’i rwydwaith o ganghennau Mind lleol yng Nghymru, a rhoi hwb i’r cymorth sydd wir ei angen i gynnal y gwasanaethau hyn.

Mae ymchwil yn dangos bod eich ymennydd yn cael rhywbeth i ganolbwyntio arno drwy fod yn gorfforol egnïol, a gall fod yn strategaeth ymdopi gadarnhaol mewn cyfnodau anodd. Gall hefyd roi hwb i hunan-barch a lleihau’r risg o iselder hyd at 30%*.

Dywedodd James Williams, Prif Swyddog Gweithredol Athletau Cymru:

“Rydyn ni’n hynod ymwybodol o effaith a hyd a lled ein camp, gyda bron i 500,000 o bobl yn rhedeg yn rheolaidd ledled Cymru. Mae’r cyfle hwn i ddefnyddio grym rhedeg i gefnogi gwelliannau mewn lles meddyliol yn enfawr, a bydd y bartneriaeth hon yn ein galluogi i adeiladu rhwydwaith cynaliadwy o gymorth a fydd yn cael effaith barhaol ar draws pob rhan o Gymru.

“Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gwybod bod gweithgarwch corfforol yn drawsnewidiol i’n cyrff a’n meddyliau, ond mae cael problem iechyd meddwl yn gallu ei gwneud hi’n anodd iawn i rai pobl ddechrau arni. Mae cael delwedd negyddol o’r corff, diffyg hunan-barch – ddim yn gwybod sut i ddechrau arni neu heb neb i fynd gyda nhw – i gyd yn gallu bod yn rhesymau sy’n atal pobl rhag symud er lles eu hiechyd meddwl.

“Bydd y bartneriaeth bwysig hon yn ceisio mynd i’r afael â rhai o’r materion hyn. Gall ein hyrwyddwyr arbenigol nid yn unig gefnogi rhedwyr a chlybiau presennol, ond hefyd ehangu eu cyrhaeddiad mewn cymunedau drwy wreiddio a hyrwyddo’r negeseuon am fanteision rhedeg er lles iechyd meddwl. Bydd y bartneriaeth hefyd yn gwella’r dull o ymdrin ag iechyd meddwl ar draws Athletau Cymru a’i raglenni, drwy ymgorffori iechyd meddwl mewn rhaglenni a chymunedau presennol.”

Dywedodd Sue O’Leary, Cyfarwyddwr Gweithredol Mind Cymru:

“Rydyn ni’n gwybod bod gwneud ymarfer corff rheolaidd nid yn unig yn dda i’n cyrff ond hefyd yn gallu gwella ein lles meddyliol, a dyna pam rydyn ni’n falch iawn o weithio gydag Athletau Cymru ar y fenter hon. Mae nifer o’n canghennau Mind lleol wedi datblygu rhaglenni gweithgarwch corfforol sy’n cefnogi pobl â’u hiechyd meddwl drwy fod yn fwy egnïol. Credwn y bydd y bartneriaeth hon yn ychwanegu dimensiwn ychwanegol at y gefnogaeth y gallwn ei rhoi yn lleol ac yn cyfrannu at fwy o ymwybyddiaeth o iechyd meddwl yng Nghymru.

“Rhedeg yw un o’r ffyrdd mwyaf hygyrch a rhataf o fod yn egnïol. Rydym yn gobeithio y bydd y bartneriaeth hon nid yn unig yn gwella iechyd meddwl mewn chwaraeon, ond hefyd yn annog mwy o bobl i gymryd rhan drwy gynnig man cefnogol, croesawgar ac agored.

“Mae ymchwil Mind ei hun yn dangos bod ein hiechyd corfforol a meddyliol yn cydblethu, ac mae tystiolaeth dda y gall bod yn fwy egnïol yn gorfforol arwain at fanteision gwirioneddol i les meddyliol. Mae hyn yn cynnwys cysgu’n well, hwyliau hapusach, rheoli straen, gorbryder a meddyliau ymwthiol yn effeithiol. Gobeithio y gall y bartneriaeth hon fod yn llwyfan ar gyfer hyrwyddo pob un o’r manteision hyn, ac annog mwy o bobl i symud er lles eu hiechyd meddwl.”

Bydd Simon Clarke yn siarad yn lansiad y bartneriaeth. Sefydlodd glwb Speakeasy ar ôl cael diagnosis o iselder a gorbryder difrifol yn 2020. Eglurodd:

“Rydw i bob amser wedi gweithio ym maes chwaraeon, ac mae’n drist dweud nad sgyrsiau anodd yw’r norm yn rhy aml mewn amgylcheddau chwaraeon.

“Dyna pam roeddwn i eisiau sefydlu Speakeasy, i ddefnyddio fy mhrofiad fy hun o suddo i'r dyfnderoedd i wneud rhywbeth gwahanol. Yn fy marn i, gadewch i ni siarad am faterion prif ffrwd a bachu pobl yn y ffordd honno – ond wedyn gadewch i ni edrych ar y pynciau dyfnach hefyd. Os ydym yn siarad â ffigurau chwaraeon, gadewch i ni fod yn chwilfrydig am faterion fel colli hunaniaeth, am effeithiau anaf ar iechyd meddwl – gadewch i ni ddod i adnabod pobl yn iawn.

“Rydw i eisiau gwneud i bawb deimlo’n hyderus i fod yn chwilfrydig; rydw i eisiau i bobl allu adnabod eu ‘clwb’ – beth bynnag yw hwnnw, a gallu ei weld fel rhywle lle gallan nhw gwrdd â phobl o’r un anian a bod y fersiynau mwyaf dilys ohonyn nhw eu hunain.

“Bydd y bartneriaeth hon wir yn cyflawni hynny – ac yn cryfhau cymuned sydd eisoes yn gryf. Mae’n gam enfawr gweld Athletau Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â grym mor amlwg â Mind, gan ddefnyddio ei arbenigedd a’i broffil i hyrwyddo gweithgarwch corfforol.

“Mae manteision corfforol rhedeg yn cael eu hysbysebu a’u derbyn yn helaeth – ond gall y bartneriaeth hon sbarduno sgyrsiau a chysylltiad, sy’n gallu bod yn gwbl enfawr i rywun pan fyddant wir angen cymorth.”

Ways to get involved

arrow_upwardBack to Top