Trawma
Mae'r adran hon yn egluro beth yw trawma a sut mae'n effeithio ar eich iechyd meddwl, a hefyd sut y gallwch eich helpu'ch hun, pa driniaethau sydd ar gael a sut i oresgyn rhwystrau er mwyn cael y cymorth priodol. Mae hefyd yn cynnwys cyngor i bobl sydd am helpu rhywun sydd wedi profi trawma.
Sut y gall pobl eraill helpu?
Gall fod yn anodd iawn ymdopi os yw rhywun sy'n annwyl i chi yn dioddef effeithiau trawma, ond mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud a allai fod o gymorth.
Ar y dudalen hon, mae nifer o awgrymiadau am ffyrdd i'w helpu gan ofalu yr un pryd am eich llesiant eich hun. Mae'r rhain yn cynnwys:
Gwrando ar y person
Efallai na fyddwch yn sicr beth i'w ddweud neu ei wneud os bydd rhywun yn sôn wrthych chi am drawma. Gallai fod o gymorth os byddwch yn gwneud y canlynol:
- Rhoi digon o amser i'r person. Gadael iddo siarad ar ei gyflymder ei hun – mae'n bwysig peidio â'i ruthro neu roi pwysau arno.
- Canolbwyntio ar wrando. Ceisiwch barchu ei ddewis o bethau i'w rhannu, yn hytrach na gofyn llawer o gwestiynau.
- Derbyn ei deimladau. Er enghraifft, derbyn ei fod yn teimlo gofid am beth sydd wedi digwydd.
- Peidio â'i feio neu feirniadu ei ymatebion. Gallech feddwl tybed pam nad oedd wedi gwneud rhywbeth yn wahanol, ond roedd wedi goroesi yn ôl ei allu ar y pryd.
- Defnyddio'r un geiriau â'r person. Mae pobl yn defnyddio geiriau gwahanol i ddisgrifio eu profiadau. Er enghraifft, eu dewis nhw yw a fyddan nhw'n sôn am fod yn 'ddioddefwr' neu'n 'oroeswr' trawma.
- Peidio ag wfftio ei brofiadau. Er enghraifft, peidiwch â dweud wrth y person am beidio â phoeni am bethau neu y gallai pethau fod yn waeth – nid yw hyn yn debygol o'i helpu. Cofiwch nad yw pobl yn gallu dewis beth sy'n achosi trawma iddynt na sut mae'n effeithio arnynt.
- Cynnig cyngor dim ond os gofynnir i chi. Efallai mai'r unig beth y mae am ei glywed yw eich bod yn ei gredu a'ch bod ar gael i'w helpu.
Cam mawr ymlaen i mi oedd derbyn y gallaf ddangos fy mod yn agored i niwed heb ofn dial na chosb... er mwyn gwneud hyn, rydw i wedi gorfod egluro pa mor agored i niwed ydw i i'r rhai sydd agosaf i mi... a hynny lawer gwaith pan ydw i'n ymddangos yn llwyr i'r gwrthwyneb.
Mae clywed am drawma yn gallu bod yn brofiad anodd iawn, pa un a fydd rhywun yn rhannu manylion penodol neu beidio. Er enghraifft, gallech deimlo'n ddig neu'n ofidus ynghylch beth mae wedi'i ddweud wrthych. Mae'r cysylltiadau defnyddiol ar gael i'ch helpu chi hefyd, ac mae rhagor am ofalu am eich iechyd meddwl eich hun yn bellach i lawr y dudalen hon.
Dysgu beth sy'n sbarduno ei ymatebion
Gallai fod o gymorth i chi holi a oes unrhyw fathau o sefyllfaoedd neu sgyrsiau a allai sbarduno ôl-fflachiau neu deimladau anodd. Er enghraifft, byddai synau uchel neu gweryla yn gallu peri gofid mawr iddo. Drwy ddeall beth sy'n sbarduno ei ymatebion, gallai fod yn haws i chi osgoi sefyllfaoedd o'r fath a bod yn fwy parod i ddelio ag ymatebion fel ôl-fflachiau.
Ceisio peidio â barnu
Os nad ydych wedi profi trawma eich hun neu os ydych yn teimlo'n wahanol am brofiadau a rannwyd, gall fod yn anodd deall pam nad yw ffrind neu aelod o'ch teulu yn gallu 'symud ymlaen'. Mae'n hawdd deall eich dymuniad i weld pethau'n gwella, ond mae'n bwysig peidio â beio'r person na phwyso arno i wella heb gael yr amser a'r cymorth sydd ei angen arno.
Peidio â chymryd drosodd
Os ydych yn poeni am rywun, mae'n hawdd deall eich dymuniad i'w helpu i wella neu'ch rhwystredigaeth os nad yw'n cytuno i wneud rhywbeth.
Ond fel arfer bydd profiadau trawmatig yn golygu bod rhywun yn teimlo'n ddiymadferth neu'n teimlo bod rheolaeth yn cael ei chymryd oddi arno. Felly os byddwch yn pwyso ar y person neu'n dweud wrtho beth i'w wneud, gall hyn waethygu ei deimlad o fod yn ddiymadferth.
Yn lle hynny, ceisiwch ei annog a'i helpu i wneud ei ddewisiadau ei hun.
Mae wedi bod yn anodd derbyn cymorth gan y rheini sydd agosaf i mi am mai fi oedd yn arfer gorfod bod yn gryf bob amser.
Parchu ei breifatrwydd
Peidiwch â rhannu manylion ei brofiadau oni bai ei fod wedi rhoi caniatâd i chi. Er enghraifft, mae'n bosibl na fydd am i chi ddweud wrth ffrindiau i chi neu aelodau'r teulu am beth sydd wedi digwydd iddo.
Nid yw hyn yn golygu cadw popeth i chi'ch hun a pheidio â chael cymorth. Mae awgrymiadau am leoedd i gael cymorth ar ein tudalennau ar gysylltiadau defnyddiol ar gyfer trawma a chysylltiadau defnyddiol ar gyfer helpu rhywun arall.
Ei helpu i ddod o hyd i gymorth
Os yw'r person yn dymuno i chi wneud hynny, gallech ei helpu i ddod o hyd i ragor o gymorth. Er enghraifft:
- Gallech edrych yn y rhestr o sefydliadau perthnasol ar ein tudalennau ar gysylltiadau defnyddiol ar gyfer trawma a chysylltiadau defnyddiol ar gyfer PTSD.
- Bydd ein tudalennau ar helpu rhywun sy'n ei niweidio ei hun a helpu rhywun sy'n profi teimladau hunanladdol o gymorth i chi os ydych yn gofalu am rywun sy'n ei niweidio ei hun neu'n profi teimladau hunanladdol.
Mae rhagor o awgrymiadau ar ein tudalen am helpu rhywun arall i chwilio am gymorth, yn cynnwys beth allwch a beth na allwch ei wneud os nad yw rhywun am gael cymorth.
Gofalu am eich iechyd meddwl eich hun
Rhaid cofio bod eich iechyd meddwl chi yn bwysig hefyd. Mae gwybodaeth a chyngor ar sut i ofalu amdanoch chi'ch hun ar ein tudalennau am helpu rhywun arall i chwilio am gymorth, sut i ymdopi wrth gynorthwyo rhywun arall, delio â straen a gofalu am eich llesiant.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Ionawr 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2022.
Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.