Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylder gorfodaeth-obsesiynol (OCD)

Mae’r dudalen hon yn esbonio anhwylder gorfodaeth-obsesiynol (OCD), gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael mynediad at driniaeth a chymorth. Mae’n cynnwys awgrymiadau ar gyfer helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Beth sy'n achosi OCD?

Mae yna wahanol ddamcaniaethau ynghylch pam bod rhywun yn datblygu OCD. Ni all unrhyw ddamcaniaeth esbonio profiad pob person yn llawn. Ond mae ymchwil yn awgrymu y gallai'r rhain fod yn gysylltiedig ag achosi OCD:

Er nad ydym yn deall yn iawn beth sy'n achosi OCD, gellir ei drin yn llwyddiannus. Gweler ein tudalen ar driniaeth OCD am ragor o wybodaeth.

Profiad personol

Mae rhai damcaniaethau yn awgrymu bod OCD yn cael ei achosi gan brofiad personol. Er enghraifft:

  • Os ydych chi wedi cael profiad poenus yn ystod plentyndod, neu wedi dioddef trawma, cam-drin, gwahaniaethu neu fwlio, efallai y byddwch chi'n dysgu defnyddio obsesiynau a gorfodaeth i ymdopi â gorbryder.
  • Os oedd gan eich rhieni bryderon tebyg ac yn dangos mathau tebyg o ymddygiad gorfodol, efallai eich bod wedi dysgu ymddygiadau OCD fel techneg ymdopi.
  • Gallai gorbryder neu straen parhaus ysgogi OCD neu ei gwneud yn anoddach i'w reoli.
  • Gall beichiogrwydd neu roi genedigaeth weithiau achosi OCD amenedigol. Darllenwch ragor am OCD amenedigol

Ffactorau biolegol

Mae rhai damcaniaethau yn awgrymu y gall OCD gael ei achosi gan rywbeth corfforol yn ein corff neu ymennydd. Weithiau gelwir y rhain yn ffactorau biolegol.

Mae rhai damcaniaethau biolegol yn awgrymu y gallai diffyg cemegyn yr ymennydd serotonin fod â rôl mewn OCD. Fodd bynnag, nid yw'n glir a yw hyn yn achos neu'n effaith i'r cyflwr.

Mae astudiaethau hefyd wedi edrych ar ffactorau genetig a sut y gallai gwahanol rannau o'r ymennydd fod yn gysylltiedig ag achosi OCD. Ond nid ydynt wedi dod o hyd i unrhyw beth pendant.

Gallwch ddarllen rhagor am achosion OCD ar wefan OCD-UK.

A yw OCD plentyndod yn cael ei achosi gan haint?

Mae rhai arbenigwyr wedi nodi ei bod yn ymddangos bod rhai plant yn datblygu symptomau OCD yn sydyn iawn ar ôl cael haint streptococol (neu strep). Er enghraifft, strep gwddf neu’r dwymyn goch.

Cyfeirir at hyn weithiau fel PANS (Syndrom Niwroseiciatrig Aciwt Paediatrig) neu PANDAS (Anhwylder Niwroseiciatrig Awtoimiwnedd Paediatrig sy'n Gysylltiedig â Streptococcus).

Mae angen mwy o ymchwil i’r rheswm y gall hyn ddigwydd a'r opsiynau gorau ar gyfer triniaeth.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chymorth gan yr elusen PANS PANDAS UK

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Tachwedd 2023. Byddwn yn ei diwygio yn 2026.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig