Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Eurinllys Trydwll (St John's wort)

Mae’r dudalen hon yn egluro beth yw Eurinllys Trydwll (St John's wort), am beth y mae’n cael ei ddefnyddio a pha sgil-effeithiau y gallech eu cael. Mae hefyd yn egluro pryd y dylech osgoi cymryd Eurinllys Trydwll ac ym mhle y gallwch chi ddysgu rhagor.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Beth yw Eurinllys Trydwll ac am beth y mae'n cael ei ddefnyddio?

Meddyginiaeth lysieuol yw Eurinllys Trydwll a ddefnyddir i drin problemau iechyd meddwl. Enw botanegol Eurinllys Trydwll yw Hypericum perforatum, ac weithiau mae’n cael ei farchnata a’i werthu fel 'Hypericum'. Mae’n cynnwys sawl sylwedd gweithredol, gan gynnwys hypericin a hyperforin, a dybir eu bod yn effeithio ar hwyliau.

Heddiw, defnyddir Eurinllys Trydwll yn bennaf fel meddyginiaeth dros y cownter i drin iselder cymedrol.

A oes sgil-effeithiau ac a yw'n ddiogel?

Mae rhai darnau o waith ymchwil yn dangos bod pobl sy’n cymryd Eurinllys Trydwll yn cael sgil-effeithiau llai difrifol, neu lai ohonynt, o gymharu â gwrthiselyddion sy’n cael eu rhagnodi’n gyffredin. Nid yw pawb sy’n cymryd Eurinllys Trydwll yn cael sgil-effeithiau.

Pan nad oeddwn i’n gallu cymryd SSRI’s mwyach oherwydd sgil-effeithiau, fe wnes i roi cynnig ar Eurinllys Trydwll fel opsiwn amgen. Mae wedi helpu fy iselder yn bendant ac mae fy hwyliau wedi codi’n eithaf sylweddol.”

Fodd bynnag, mae’r rhai hynny sydd yn cael sgil-effeithiau’n adrodd y rhai isod:

  • Teimlo’n gyfoglyd neu’n chwydu
  • Dolur rhydd
  • Cur pen
  • Adweithiau alergaidd
  • Blinder
  • Teimlo’n benysgafn
  • Dryswch
  • Ceg sych
  • Problemau croen
  • Mwy o sensitifrwydd

Mae rhai darnau o waith ymchwil yn dangos y gall Eurinllys Trydwll gynyddu symptomau seicosis yn y rhai hynny ohonom sydd ag anhwylder deubegwn neu sgitsoffrenia.

Os ydych chi’n profi unrhyw sgil-effeithiau yr ydych chi’n credu y dylid adrodd amdanynt, gallwch rannu eich profiadau gyda’r Medicines & Healthcare products Regulatory Agency (MHRA) trwy eu cynllun Cerdyn Melyn.

A yw'n gweithio?

Mae ymchwil yn awgrymu bod Eurinllys Trydwll yn gweithio mewn ffordd debyg i wrthiselyddion sylfaenol, gan gynyddu gweithgarwch cemegau yn yr ymennydd fel serotonin a noradrenaline y tybir eu bod yn chwarae rhan bwysig o reoli ein hwyliau. Mewn rhai achosion, gallai Eurinllys Trydwll fod yr un mor effeithiol â rhai gwrthiselyddion i drin iselder cymedrol.

“Roedd Eurinllys Trydwll yn codi fy hwyliau felly doeddwn i ddim yn dihuno am 5am bob bore. Roeddwn i’n teimlo fy mod yn gallu goddef bywyd ychydig yn fwy. Roeddwn i’n gweld lliw.”

Fodd bynnag, ar gyfer iselder difrifol does dim llawer o dystiolaeth i ddangos y gall fod o gymorth, ac ychydig iawn o dystiolaeth i ddangos y gall helpu â gorbryder neu anhwylder affeithiol tymhorol (SAD). Mewn gwirionedd, mae rhai darnau o waith ymchwil yn awgrymu y gall wneud teimladau o orbryder yn waeth i rai pobl. Mae profiadau’n amrywio o berson i berson ac mae angen gwneud rhagor o waith ymchwil, yn enwedig i ddarganfod a all Eurinllys Trydwll weithio dros gyfnod hir o amser.

Os nad yw Eurinllys Trydwll yn iawn i chi, mae mathau eraill o therapïau cyflenwol ac amgen y gallwch roi cynnig arnynt.

Pa ddos y dylwn i ei gymryd?

Gwerthir Eurinllys Trydwll mewn amrywiaeth o wahanol ffurfiau. Mae’r dosau sydd ar gael yn amrywio’n dibynnu ar y ffurf a’r brand rydych chi’n ei ddefnyddio. Fe’i werthir gan amlaf ar ffurf tabledi a chapsiwlau. Gallwch hefyd ei gael fel te, neu fel hylif o’r enw ‘tintur’, y gallwch ei gymryd fel diferion mewn dŵr.

Mae pob meddyginiaeth yn peri lefelau risg mewn gwahanol amgylchiadau, a gallant effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Does dim dos awgrymedig sylfaenol Eurinllys Trydwll yn y DU ac nid yw’n eglur ar hyn o bryd pa ddos sy’n gweithio orau.

Y ffordd hawsaf i gadw trac ar ba ddos yr ydych chi’n ei gymryd yw tabledi neu gapsiwlau Eurinllys Trydwll a sicrhau eich bod yn cadw at un brand penodol. Byddwch yn ymwybodol os ydych chi’n prynu brand gwahanol, gall y dos fod yn wahanol neu achosi gwahanol sgil-effeithiau.

“Mae fy mhrofiad o Eurinllys Trydwll wedi bod ychydig yn negyddol. Oherwydd meddyginiaeth lysieuol ydyw, dydych chi byth yn rhy sicr os ydych chi’n cymryd y dos cywir.”

Os ydych chi’n ystyried cymryd Eurinllys Trydwll, siaradwch â’ch meddyg neu fferyllydd yn gyntaf i drafod pa ddos fyddai orau i chi a gwiriwch na fydd yn rhyngweithio’n beryglus ag unrhyw feddyginiaethau eraill yr ydych chi'n eu cymryd.

Cyn penderfynu pa ddos i’w gymryd, darllenwch y pecyn yn ofalus ac ystyriwch:

  • Pa mor gryf yw’r cynnyrch. Dylai’r pecyn nodi hyn drwy ddisgrifio maint y trwyth hypericin neu hypericum yn y rhestr cynhwysion neu’r adran gwybodaeth am faeth.
  • Faint o weithiau y dylech chi gymryd y cynnyrch bob dydd. Dylai fod cyfarwyddiadau ar y pecyn. Mae tabledi a chapsiwlau fel arfer yn amrywio o 1-3 gwaith y dydd, yn dibynnu ar eu cryfder.

Ar becynnau rhai o’r cynnyrch, efallai bydd yn cyfeirio at y maint o Eurinllys Trydwll fel ’rhannau awyrol’. Mae hyn yn golygu’r rhan o’r planhigyn sy’n tyfu uwchben y tir.

“Mae’r datrysiad dros dro i wneud i chi deimlo fel petaech chi’n gwneud rhywbeth i gymryd rheolaeth ar iselder. Er hynny, mae effeithiau colli dos yn waeth nag SSRIs i mi.”

Alla i ei gymryd gyda meddyginiaethau eraill?

Mae Eurinllys Trydwll yn rhyngweithio’n arwyddocaol â nifer fawr o feddyginiaethau sy’n cael eu defnyddio’n gyffredin.

Mae hyn yn golygu y gall effeithio ar y ffordd y mae’r corff yn prosesu meddyginiaethau eraill, a all eu gwneud yn llai effeithiol, neu gynyddu’r tebygolrwydd o sgil-effeithiau niweidiol. Mae’r meddyginiaethau hyn yn cynnwys cyffuriau ar bresgripsiwn a meddyginiaethau y gallwch eu prynu eich hun dros y cownter.

Os ydych chi’n cymryd, neu’n ystyried cymryd Eurinllys Trydwll ar yr un pryd ag unrhyw feddyginiaethau eraill (presgripsiwn neu dros y cownter), mae’n bwysig iawn i gael cyngor proffesiynol gan fferyllydd neu eich meddyg.

Byddan nhw’n gallu siarad â chi am unrhyw ryngweithiadau posibl y gall Eurinllys Trydwll ei gael â’ch meddyginiaethau, a dweud wrthych am driniaethau neu ddosau eraill.

Er enghraifft, os ydych chi’n cymryd unrhyw un o’r cyffuriau canlynol, siaradwch â’ch meddyg cyn rhoi cynnig ar Eurinllys Trydwll:

  • Gwrthiselyddion
  • Tabledi gwrthseicotig
  • Tabledi cysgu ac anesthetigion
  • Dulliau atal cenhedlu hormonaidd (gan gynnwys dulliau atal cenhedlu brys)
  • Meddyginiaeth gwrthgeulo (cyffuriau sy’n teneuo’r gwaed)
  • Meddyginiaeth atal imiwnedd (cyffuriau sy’n atal eich system imiwnedd rhag niweidio celloedd iach)
  • Meddyginiaethau colestorol a chlefyd y galon
  • Meddyginiaethau pwysedd gwaed
  • Meddyginiaethau meigryn
  • Meddyginiaethau epilepsi
  • Triniaethau canser
  • Triniaethau HIV ac AIDS

I gael rhestr fanylach o feddyginiaethau y gwyddys eu bod yn rhyngweithio ag Eurinllys Trydwll, gallwch ymweld â gwefan National Institute for Health and Care Excellence (NICE).

Ym mhle alla i gael Eurinllys Trydwll?

Mae Eurinllys Trydwll ar gael ar bresgripsiwn mewn sawl gwlad Ewropeaidd. Fodd bynnag, yn y DU, nid yw’r National Institute for Health and Care Excellence (NICE) yn ei argymell ar hyn o bryd, felly nid yw meddygon yn Lloegr a Chymru fel arfer yn rhoi presgripsiwn ar gyfer Eurinllys Trydwll.

Mae hyn oherwydd mae’n anodd gwybod beth ddylai’r dos cywir fod, mae paratoadau’n amrywio llawer ac mae rhai rhyngweithiadau niweidiol posibl â meddyginiaethau cyffredin eraill.

Felly er y gallwch chi brynu Eurinllys Trydwll dros y cownter mewn fferyllfeydd a siopau bwyd iach heb bresgripsiwn, y peth gorau yw gofyn am gyngor gan eich meddyg teulu yn gyntaf i sicrhau ei fod yn ddiogel i chi. Fel hynny, gallwch hefyd siarad am ddewisiadau triniaeth gwahanol a sicrhau eich bod wedi’u deall i gyd cyn i chi wneud penderfyniad.

A fydda i'n cael symptomau diddyfnu wrth stopio?

Gan fod Eurinllys Trydwll yn gweithio mewn ffordd debyg i wrthiselyddion, mae’n bwysig cymryd gofal tebyg wrth eu stopio fel y byddech gyda gwrthiselyddion. Mae’n syniad da i leihau eich dos yn araf, oherwydd mae hyn yn lleihau’r tebygolrwydd o gael symptomau diddyfnu. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych chi wedi bod yn ei gymryd am hirach nag ychydig o wythnosau.

Os ydych chi’n meddwl am stopio cymryd Eurinllys Trydwll, gall fod yn ddefnyddiol iawn i siarad â’ch meddyg am y ffordd fwyaf diogel i ddiddyfnu. Mae rhai pobl yn stopio cymryd Eurinllys Trydwll heb unrhyw broblemau, tra bod eraill yn profi symptomau diddyfnu. Yn anffodus, nid yw gwybodaeth gyfredol am symptomau diddyfnu’n eglur iawn ac mae angen gwneud rhagor o waith ymchwil.

Mae’r rhai hynny sy’n profi symptomau diddyfnu’n tueddu adrodd teimlo’n gyfoglyd, yn benysgafn ac ar bigau’r drain yn ystod y cyfnod diddyfnu, yn enwedig os ydynt yn stopio ei gymryd yn sydyn heb leihau eu dos yn araf.

I gael awgrymiadau am hunanofal wrth brofi symptomau diddyfnu, gweler ein tudalen am hunan-ofal wrth ddiddyfnu.

“Chefais i ddim sgil-effeithiau heblaw am ffotosensitifrwydd a dim symptomau diddyfnu. Fel arfer, rwy’n sensitif iawn i sgil-effeithiau felly roedd hyn yn fudd mawr.”

Ym mhle alla i ddysgu rhagor?

I gael rhagor o wybodaeth am Eurinllys Trydwll a meddyginiaethau llysieuol yn gyffredinol, gweler:

I gael syniadau am therapïau neu feddyginiaeth eraill, gweler ein tudalen am fathau o therapïau cyflenwol ac amgen.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis 2022. Byddwn yn ei diwygio yn 2025.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig