Get help now Make a donation

Mind Cymru yn croesawu adroddiad ar iechyd meddwl Cymru

Wednesday, 11 November 2020 Mind

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe wedi siarad â mwy na 13,000 o bobl i asesu effaith y pandemig ar iechyd meddwl yng Nghymru.

 

Dangosodd eu hastudiaeth fod tua hanner y cyfranogwyr wedi nodi gofid seicolegol sy’n ‘arwyddocaol yn glinigol’, gyda thua 20% yn dweud eu bod yn dioddef effeithiau difrifol.

 

Ymatebodd Simon Jones, Pennaeth Polisi Mind Cymru:

“Mae’r astudiaeth a gyhoeddwyd heddiw yn dangos tystiolaeth bellach o effaith y pandemig ar iechyd meddwl, rhywbeth mae pobl wedi bod yn dweud wrthym ni a sefydliadau ar draws y sector iechyd meddwl ers cynharach yn y flwyddyn. Mae'n alwad glir arall i sicrhau bod gan iechyd meddwl le amlwg yn yr ymateb cyffredinol i'r pandemig.

“Mae'r ymchwil hefyd yn tynnu sylw at rai o'r anghydraddoldebau o ran sut mae'r pandemig yn effeithio ar iechyd meddwl pobl. Rydyn ni wedi bod yn pryderu am yr effaith ar bobl ifanc, y rhai sy'n byw mewn tlodi, menywod, a phobl mewn cymunedau BAME. Roedd llawer o'r materion yma yn bodoli cyn y pandemig, ac maent yn gysylltiedig â ffactorau cymdeithasol sy'n rhoi pwysau ar iechyd meddwl pobl, ond hefyd y rhwystrau hanesyddol ynglŷn â chael gafael ar gymorth yn gyflym ac yn effeithiol. Mae angen i Lywodraeth Cymru a GIG Cymru ddeall hyn, a chymryd camau penodol i gefnogi cymunedau sydd mewn perygl o iechyd meddwl waeth.

“Mae'r buddsoddiad ychwanegol mewn iechyd meddwl a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn ogystal â phenodi Eluned Morgan MS yn Weinidog Iechyd Meddwl i ddarparu arweinyddiaeth a brys i'r ymateb, yn ddechrau da. Er hynny, mae angen i Lywodraeth Cymru gydnabod y bydd angen buddsoddiad parhaus i fynd i'r afael ag effeithiau'r pandemig ar iechyd meddwl yn y blynyddoedd i ddod. Mae hyn yn cynnwys y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn cyrraedd anghenion y cyhoedd yng Nghymru, a sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar gymorth yn gyflym.”

Ways to get involved

arrow_upwardBack to Top