Anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD)
Mae'n esbonio anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD), a elwir hefyd yn anhwylder personoliaeth ansefydlog yn emosiynol (EUPD). Mae'n cynnwys sut beth ydyw, achosion, triniaeth, cymorth a hunanofal, yn ogystal ag awgrymiadau ar gyfer ffrindiau a theulu.
Sut beth ydy byw gyda BPD?
Mae eich profiad o fyw gyda BPD yn unigryw i chi, ond mae'r dudalen hon yn disgrifio rhai profiadau cyffredin y gallech chi eu hadnabod:
Rwy'n dueddol o gadw fy emosiynau i fi fy hun, am fod pobl yn dweud wrtha i fy mod i'n gorymateb. Felly rwy'n teimlo fy mod yn garcharor yn fy nghorff fy hun, yn sgrechian ond fod neb yn fy nghlywed.
Sut gallech chi fod yn meddwl neu'n teimlo
- Unig
- Wedi'ch llethu gan gryfder eich emosiynau a pha mor gyflym maen nhw'n newid
- Fel pe bai rhywbeth mawr o'i le arnoch chi, ac mai eich bai chi yw'r ffaith bod pethau gwael yn digwydd i chi am eich bod chi'n eu haeddu
- Eich bod chi'n berson gwael, neu nad ydych chi'n berson go iawn o gwbl
- Nad ydych chi'n gwybod beth rydych chi am ei gyflawni mewn bywyd, neu beth rydych chi'n ei hoffi neu nad ydych chi'n ei hoffi
- Yn teimlo'n wag, yn ddideimlad, neu nad oes gennych chi unrhyw bwrpas
- Fel pe bai'n amhosibl deall neu ddisgrifio eich teimladau
- Fel pe baech yn blentyn mewn byd oedolyn
Sut gallech chi ymddwyn o ganlyniad i hynny
- Hunan-niweidio neu geisio lladd eich hun
- Gwario gormod neu orfwyta mewn pyliau
- Defnyddio cyffuriau hamdden, alcohol neu ysmygu i geisio ymdopi â'ch emosiynau
- Rhoi'r gorau iddi cyn cyflawni rhywbeth, neu osgoi gweithgareddau lle rydych chi'n meddwl y gallech chi fethu neu gael eich siomi
- Newid swyddi, diddordebau, nodau neu gynlluniau yn aml
- Cadw'n brysur iawn felly dydych chi byth ar eich pen eich hun.
Mae fy BPD yn effeithio ar bob rhan o fy mywyd - cydberthnasau, hunaniaeth, dewisiadau gyrfa, hwyliau. Dwi wedi newid fy enw ddwywaith drwy weithred newid enw. Mae'n deimlad ofnadwy a phoenus pan dydych chi ddim yn gwybod pwy ydych chi. Mae'n ymdrech fawr i ymdopi â phopeth ambell ddiwrnod.
Sut gallech chi fod yn meddwl neu'n teimlo
- Y bydd ffrindiau neu bartneriaid yn eich gadael chi am byth os byddan nhw'n flin neu wedi digio â chi
- Bod pobl yn eich beirniadu chi neu'n meddwl yn wael amdanoch chi
- Nad oes neb yn eich deall chi, neu nad ydych chi fel pobl eraill ac na fyddwch chi fyth yn gallu eu deall nhw
- Bod pobl naill ai'n gwbl berffaith a charedig, neu'n bobl ddrwg a chreulon, ac nad oes unrhyw fan canol (rhywbeth a elwir weithiau'n feddylfryd du a gwyn, neu'n 'hollti')
- Eisiau bod yn agos i eraill ond hefyd ofni cydberthnasau agos
- Fel pe bai'r byd yn lle ofnus a pheryglus, a'ch bod am ddianc a chuddio oddi
wrtho
Sut gallech chi ymddwyn o ganlyniad i hynny
- Mynd yn flin iawn neu deimlo'n rhwystredig gyda phobl
- Ei chael hi'n anodd ymddiried mewn pobl
- Meddu ar ddisgwyliadau afrealistig o bobl neu gysylltu â nhw'n aml iawn
- Eisiau bod yn agos at bobl ond gan boeni y byddan nhw'n eich gadael chi
neu'n eich gwrthod ac, felly, eu hosgoi neu eu gwthio i ffwrdd - Treulio llawer o amser yn meddwl ac yn poeni am bethau y mae pobl eraill yn eu gwneud neu'n eu dweud
- Gofyn am lawer o dawelwch meddwl neu brofi ymrwymiad pobl neu eu barn amdanoch chi
- Ymbellhau oddi wrth bobl neu ddod â chydberthnasau â ffrindiau neu
bartneriaid i ben am eich bod yn meddwl y gallen nhw eich gadael chi - Chwilio'n bryderus am arwyddion y gallai pobl eich gwrthod chi
Edrychwch ar ein tudalen hunanofal ar gyfer BPD i gael syniadau ynghylch sut mae ymdopi â theimladau anodd.
Mae fel pe bai rhywbeth ar goll ynof i. A does neb yn deall pan fydda i'n ceisio esbonio sut rwy'n teimlo.
Camddefnyddio alcohol a sylweddau
Gallai rhai pobl gyda BPD fod yn fwy tebygol o gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol fel ffordd o geisio ymdopi â'r emosiynau anodd maen nhw'n eu teimlo.
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am lle i gael cymorth, ar gael ar ein tudalennau ar effeithiau cyffuriau hamdden ac alcohol ar iechyd meddwl. Hefyd, mae modd i chi gael cyngor cyfrinachol am gyffuriau ac alcohol ar wefan FRANK.
Gall BPD fod yn flinedig. Mae fy meddwl yn mynd drwy amryw o emosiynau drwy'r amser, ond pan fydd yr emosiynau hynny'n hapus a llon, dyna'r teimlad gorau yn y byd.
Cymerodd amser hir i gael diagnosis o BPD/EUPD oherwydd bod gen i anhwylderau eraill hefyd, ond rydw i mewn lle da ar hyn o bryd, diolch i amryw o ffactorau.
Wynebu stigma am BPD
Gan fod BPD yn ddiagnosis cymhleth nad yw pawb yn ei ddeall yn dda, efallai y byddwch chi'n gweld bod gan rai pobl ddelwedd negyddol ohono, neu gamsyniadau amdanoch chi.
Gall hyn beri gofid a rhwystredigaeth fawr, yn enwedig os bydd ffrind, cydweithiwr, aelod o'r teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol yn teimlo fel hyn.
Gall rhai pobl, hyd yn oed gweithwyr iechyd proffesiynol, gredu bod BPD yn rhywbeth na ellir ei drin neu sy'n gwneud pobl yn 'anodd' eu helpu. Nid yw hyn yn deg, ac nid yw'n wir. Efallai eich bod chi wedi wynebu diffyg ymddiriedaeth, beirniadaeth neu ddiffyg empathi gan bobl yn y gorllewin. Os ydych chi wedi cael eich trin fel hyn, mae'n ddealladwy eich bod chi efallai'n poeni am geisio help neu ddweud wrth bobl am eich diagnosis.
I mi, mae BPD yn label sy'n eich rhoi dan anfantais mewn bywyd. Mae'n chwalu fy hyder.Mae'n bwysig cofio nad ydych chi ar eich pen eich hun, ac nad oes rhaid i chi oddef camsyniadau. Dyma rai opsiynau i chi eu hystyried:
- Dangos y wybodaeth i bobl. Gallai hyn eu helpu nhw i ddeall beth mae eich diagnosis yn ei olygu yn well.
- Cymryd mwy o ran yn eich triniaeth. Mae ein hadnoddau ar geisio help ar gyfer problem iechyd meddwl yn rhoi canllawiau ar fynegi eich barn ar eich triniaeth, sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed, a goresgyn rhwystrau.
- Gwybod eich hawliau. Mae ein hadnoddau ar hawliau cyfreithiol yn cynnwys rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut y gallwch chi gwyno am eich gofal.
- Cymryd camau gyda Mind. Mae ein hadnoddau ar ymgyrchu</
Y stigma ydy'r peth gwaethaf i mi. Rydw i'n unigolyn gofalgar ac empathig a fyddai'n gwneud unrhyw beth i'r bobl rwy'n eu caru.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Medi 2022. Byddwn yn ei diwygio yn 2025.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.