Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD)

Mae'n esbonio anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD), a elwir hefyd yn anhwylder personoliaeth ansefydlog yn emosiynol (EUPD). Mae'n cynnwys sut beth ydyw, achosion, triniaeth, cymorth a hunanofal, yn ogystal ag awgrymiadau ar gyfer ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Beth sy'n achosi BPD?

Does dim rheswm clir pam fod rhai pobl yn profi rhai o'r anawsterau sy'n gysylltiedig â BPD. Mae mwy o fenywod yn cael diagnosis o BPD na dynion, ond gall effeithio ar bobl o bob rhyw a chefndir.

Mae ymchwilwyr yn credu bod cyfuniad o ffactorau yn achosi BPD, gan gynnwys:

Un o'r pethau roeddwn i'n ei chael hi'n anodd ymdopi ag ef oedd 'pam fi?' - roeddwn i'n teimlo bod eraill wedi wynebu llawer gwaeth ac wedi llwyddo i ymdopi ag ef, felly pam na allwn i? Dros amser, sylweddolais fod llawer o broblemau bach yn rheswm yr un mor ddilys ag un neu ddau drawma mwy dros ei chael hi'n anodd ymdopi.

Digwyddiadau llawn straen neu drawmatig mewn bywyd

Os byddwch chi'n cael y diagnosis hwn rydych chi'n fwy tebygol na'r rhan fwyaf o bobl o fod wedi cael profiad anodd neu drawmatig wrth dyfu i fyny, fel:

  • Teimlo'n ofnus, yn ypset neu'n teimlo nad oes unrhyw un yn eich cefnogi na'ch cydnabod yn aml
  • Anawsterau neu ansefydlogrwydd teuluol, fel byw gyda rhiant sy'n gaeth i rywbeth
  • Camdriniaeth rhywiol, corfforol neu emosiynol neu esgeulustod
  • Colli rhiant

Os ydych chi wedi cael profiadau anodd fel hyn yn ystod eich plentyndod, efallai eich bod wedi datblygu strategaethau ymdopi neu gredoau penodol amdanoch chi eich hun a phobl eraill, a allai fod yn llai defnyddiol dros amser a pheri gofid i chi. Gallech fod yn brwydro â theimladau o ddicter, gorbryder ac iselder.

Gallech gael BPD heb unrhyw hanes o ddigwyddiadau llawn straen a thrawmatig yn eich bywyd, neu fe allech chi fod wedi mynd drwy brofiadau anodd eraill.

Os ydych chi eisoes yn wynebu rhai o'r anawsterau hyn, yna gallai wynebu straen neu drawma fel oedolyn waethygu pethau. Mae ein hadnoddau ar sut i reoli straen ac anhwylder straen wedi trawma yn cynnwys awgrymiadau ar sut i ymdopi.

Gan nad oes gen i lawer o atgofion o gydberthnasau neu ymddygiad emosiynol iach, wn i ddim sut i ymdopi â'r rhain. Pan fydd rhywun yn fy siomi, mae'n cyfiawnhau fy nghred bod y byd yn llawn o bobl ddrwg a chas - fel fy rhieni.

Ffactorau genetig

Rydych chi'n fwy tebygol o gael diagnosis o BPD os oes gan rywun yn eich teulu agos ddiagnosis o'r fath. Mae hyn yn awgrymu y gallai ffactorau genetig gyfrannu at BPD. Ond rydyn ni hefyd yn gwybod y gall yr amgylchedd lle cawson ni ein magu a'n cydberthnasau cynnar effeithio ar y ffordd rydyn ni'n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn fel oedolion. Felly mae'n anodd i ymchwilwyr wybod faint yn union o rôl y mae genynnau'n ei chwarae.

Mae'n bosibl y gallai cyfuniad o ffactorau chwarae eu rhan. Gall geneteg eich gwneud chi'n fwy tebygol o ddatblygu BPD. Ond gallai profiadau trawmatig, anodd neu sy'n peri straen mewn bywyd wedyn sbarduno'r gwendidau hynny. Mae angen rhagor o ymchwil er mwyn deall y maes hwn.

Gwelais fy rhieni ac aelodau o'r teulu'n ymddwyn mewn ffyrdd afreolus yn fynych, ac roeddwn i'n meddwl bod hynny'n normal.

A all plant a phobl ifanc gael diagnosis o BPD?

Mae'n anodd iawn adnabod BPD ymhlith plant a phobl ifanc am eich bod yn mynd drwy gymaint o newidiadau wrth i chi dyfu i fyny. Ond mae'n bosibl y byddwch chi'n cael y diagnosis pan fyddwch chi yn eich arddegau os bydd eich anawsterau wedi para am gyfnod digon hir ac mai BPD yw'r diagnosis gorau sy'n cyfateb i'r hyn rydych chi'n ei brofi.

Efallai y byddwch chi hefyd yn clywed y term ‘anhwylder personoliaeth ffiniol sy'n dod i'r amlwg’. Mae YoungMinds yn cynnig rhagor o wybodaeth am BPD a BPD sy'n dod i'r amlwg i bob ifanc.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Medi 2022. Byddwn yn ei diwygio yn 2025.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig