Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Dicter

Mae’r dudalen hon yn egluro dicter, achosion posibl a sut mae’n gallu gwneud i chi deimlo ac ymddwyn. Mae’n cynnig awgrymiadau ymarferol ar gyfer yr hyn y gallwch ei wneud ac i le allwch chi fynd i gael cymorth. Mae hyn yn cynnwys cyngor i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Beth yw dicter?

Rydyn ni i gyd yn teimlo’n ddig weithiau – mae’n rhan o fod yn fod dynol. Mae dicter yn emosiwn normal, iach.

Mae nifer o wahanol resymau pam y gallem ni deimlo’n ddig. Efallai byddwn ni’n teimlo’n ddig oherwydd ein bod wedi cael ein trin yn wael neu’n annheg gan eraill. Efallai bod ein dicter yn ymateb i brofiadau anodd yn ein bywyd bob dydd, ein gorffennol, neu yn y byd o’n cwmpas. Neu efallai ei fod yn ffordd o ymdopi ag emosiynau eraill. Er enghraifft, gallem ni deimlo dicter ochr yn ochr â theimlo wedi’n hymosod arnom, yn ddiymadferth, yn gywilyddus neu’n ofn. Mae gan ein tudalen achosion dicter ragor o wybodaeth.

Efallai na fyddwn ni’n gwybod pam ein bod ni’n teimlo’n ddig ac mae hynny’n iawn hefyd. Does dim rhaid i ni gyfiawnhau neu egluro pam yr ydym ni’n teimlo mewn ffordd benodol.

Weithiau mae dicter yn gallu bod yn emosiwn defnyddiol. Ond weithiau mae’n gallu bod yn anodd ei reoli ac yn gwneud ein bywydau’n anoddach.

Mae dysgu sut i adnabod, mynegi a rheoli dicter yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i’n hiechyd meddwl. Mae gan ein tudalen am reoli eich dicter awgrymiadau ar gyfer sut i ymdopi â dicter.

Young People Chatting In Bathroom

Under 18? Read our tips on anger for young people

Sut all dicter fod yn ddefnyddiol?

Mae teimlo’n ddig yn gallu bod yn ddefnyddiol weithiau. Er enghraifft, mae teimlo’n ddig am rywbeth yn gallu:

  • Ein helpu i adnabod problemau
  • Ein hamddiffyn rhag pethau sy’n ein niweidio
  • Ein helpu i gael mwy o egni a ffocws ar dasg
  • Ein cymell i wthio ar gyfer newid yn y byd neu i helpu eraill sy’n cael eu trin yn wael
  • Ein helpu i herio a gwrthwynebu anghyfiawnder neu wahaniaethu
  • Ein helpu i aros yn ddiogel ac amddiffyn ein hunain mewn sefyllfaoedd peryglus drwy roi pwl o egni i ni fel rhan o ymateb naturiol ein corff i fygythiadau

Dwi wastad wedi cael fy annog i beidio â theimlo dicter. Ond mae rhywfaint o ddicter amddiffynnol yn gallu bod yn iach iawn.

Sut all dicter fod yn annefnyddiol?

Gall dicter fod yn emosiwn sy’n anodd delio ag ef, a byddwn ni i gyd yn cael adegau lle y byddwn ni’n cael trafferth â dicter. Weithiau, mae dicter yn gallu:

  • Tynnu ein sylw o’r hyn sydd angen i ni ei wneud
  • Ein hachosi i ddweud neu wneud pethau yr ydym ni’n eu difaru
  • Ei gwneud hi’n anoddach i ni fynegi ein hunain yn eglur neu’n bwyllog
  • Arwain at ddadleuon neu wrthdaro ag eraill
  • Ein hachosi i deimlo’n euog ac yn gywilyddus
  • Ein stopio rhag cydnabod neu ddelio ag emosiynau eraill
  • Ei gwneud hi’n anoddach i ni ofalu am ein hunain
  • Effeithio ar ein hunan-barch
  • Cael effaith ar ein corff, er enghraifft, effeithio ar ein cwsg
  • Arwain at bobl yn ein beirniadu

Pryd y mae dicter yn broblem?

Rydym ni i gyd yn cael trafferth rheoli ein dicter weithiau. Ond mae’r arwyddion y gallai fod yn broblem i chi yn cynnwys:

  • Rydych chi’n teimlo na allwch chi reoli eich dicter, neu ei fod yn rheoli eich bywyd
  • Rydych chi’n mynegi eich dicter drwy ymddygiad annefnyddiol neu ddinistriol, megis trais neu hunan-niweidio
  • Rydych chi’n poeni y gallai eich ymddygiad fod yn gamdriniol
  • Mae eich dicter yn cael effaith negyddol ar eich perthnasoedd, gwaith, astudiaethau neu ddiddordebau
  • Mae eich dicter yn aml yn anafu, ofni neu’n peri gofid i’r bobl o’ch amgylch
  • Rydych chi’n teimlo na allwch chi fyw eich bywyd bob dydd oherwydd eich dicter
  • Rydych chi’n meddwl am eich dicter bob amser
  • Rydych chi’n gwneud pethau neu’n dweud pethau yr ydych chi’n aml yn eu difaru
  • Mae eich dicter yn cael effaith negyddol ar eich iechyd meddwl a chorfforol cyffredinol
  • Dicter yw’r prif emosiwn yr ydych chi’n ei deimlo, gan rwystro eich gallu i deimlo emosiynau eraill
  • Mae eich dicter yn gwneud i chi deimlo’n waeth am eich hun neu eich bywyd yn rheolaidd
  • Ni allwch chi gofio pethau rydych chi’n eu gwneud neu’n eu dweud pan fyddwch chi’n ddig
  • Rydych chi’n defnyddio alcohol neu gyffuriau i ymdopi â’ch dicter

Dwi'n mewnoli dicter ac yn cosbi fy hun drwy hunan-niweidio.

Ni allwn ni wneud i’n dicter ddiflannu. Ond os ydych chi’n teimlo bod eich dicter yn broblem i chi, mae ffyrdd y gallwch chi roi cynnig arnynt i’w reoli. Mae’n bwysig ceisio triniaeth a chymorth, yn enwedig os ydych chi’n poeni y gallai eich dicter eich rhoi chi neu eraill mewn perygl.

Mae fy ymennydd yn mynd yn wag a dwi’n rhyddhau fy nicter heb feddwl drwy drais corfforol tuag at fy hun neu wrthrychau o fy amgylch. Dydw i ddim yn sylweddoli pa mor ddinistriol dwi wedi bod tan yn syth wedi hynny.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Awst 2023.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig