Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Gwybodaeth i rieni a gofalwyr

Diolch i chi am ddangos diddordeb yng ngwaith pobl ifanc gyda Mind a’n Rhwydwaith Lleisiau Ifanc. Rydyn ni’n deall y gallech chi, fel rhiant neu ofalwr ym mywyd person ifanc, fod eisiau rhagor o wybodaeth am y broses hon a sut byddwn ni’n gweithio gyda nhw yn y rhwydwaith.

Isod, rydym wedi ceisio egluro popeth mor glir â phosibl, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach neu os hoffech siarad ag aelod o'r tîm, yna anfonwch e-bost atom: [email protected].

Cliciwch y penawdau isod i ddarganfod mwy.

Mae'r Rhwydwaith Lleisiau Ifanc yn gyfle i bobl ifanc rhwng 11 a 24 oed lywio gwaith Mind yn genedlaethol.

Rydyn ni eisiau creu a hyrwyddo cyfleoedd cadarnhaol i bobl ifanc o bob cefndir gael dweud eu dweud. Drwy ymuno â'r rhwydwaith, gallant gyfrannu at faterion pwysig iawn a fydd yn effeithio ar fywydau pobl ifanc ledled Cymru a Lloegr. Byddant yn gallu blogio am bynciau sy’n bwysig iddyn nhw, cymryd rhan mewn holiaduron ac arolygon barn, helpu i lywio ein gwaith, a chael mynediad at gyfleoedd hyfforddi a gwirfoddoli hyd yn oed.

Rydyn ni wedi sicrhau bod y broses yn un mor hawdd â phosibl i’r bobl ifanc ac i chithau hefyd. Os ydyn nhw’n awyddus i ymuno â’r rhwydwaith, gallant ddefnyddio ein ffurflen gofrestru ar y we i roi eu henw, eu rhif ffôn a/neu eu cyfeiriad e-bost, a'u gwybodaeth ddemograffig.

 

Os yw’r bobl ifanc dan 18 oed, byddwn yn gofyn iddyn nhw gynnwys gwybodaeth eu rhiant neu eu gofalwr, fel ein bod ni’n gallu gofyn am ganiatâd gennych chithau hefyd. I wneud yn siŵr fod y broses hon mor glir â phosibl, fyddwn ni ddim yn cysylltu â’r person ifanc am y Rhwydwaith Lleisiau Ifanc nes byddwch chi wedi rhoi gwybod i ni bod hynny’n iawn.

Os yw'r bobl ifanc dros 18 oed, dyna’r cwbl y mae angen i ni ei wybod er mwyn caniatáu iddynt ymuno â’r Rhwydwaith, ond gallai’r wybodaeth isod fod yn ddiddorol i chi fel rhiant neu ofalwr.

Bydd. Cyn i unrhyw bobl ifanc gymryd rhan mewn cyfle, bydd y tîm yn siarad â nhw ynglŷn â beth i’w ddisgwyl, a byddant yn sicrhau bod unrhyw hyfforddiant angenrheidiol wedi cael ei roi. Byddwn hefyd yn siarad â phobl ifanc am eu profiadau eu hunain o iechyd meddwl cyn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd, er mwyn gallu sicrhau ein bod yn rhoi’r mesurau cywir ar waith ar gyfer eu hiechyd meddwl.

Naill ai cyn neu ar ôl y cyfle, byddwn bob amser yn cyfeirio pobl ifanc at wasanaeth cymorth os teimlwn fod angen rhoi gofal mwy uniongyrchol iddynt, neu os bydd y bobl ifanc yn gofyn am gymorth pellach. Os yw’r person ifanc dan 18 oed, byddwn bob amser yn rhoi gwybod i rieni neu ofalwyr am hyn cyn gwneud hynny.

Na, mae’n rhad ac am ddim.

Mae’n dibynnu beth yw’r cyfle, ond dywedir beth yw unrhyw daliadau pan fyddwn ni’n mynd allan i ofyn am wirfoddolwyr. Y rhodd mwyaf y byddwn yn ei roi i ddiolch i unigolyn fydd taleb hyd at £20.

Yn anffodus, dydyn ni ddim yn gallu cynnig profiad gwaith gyda’r sefydliad cenedlaethol, sydd wedi’i lleoli yn Llundain a Chaerdydd. Fodd bynnag, falle mai’n werth cysylltu â’ch Mind Lleol i weld os maen nhw’n gallu helpu. Gallech chi ddarganfod mwy am ein rhwydwaith Mind lleol a ffeindio’ch Mind lleol agosach yma.

 

Er does dim modd i ni gynnig profiad gwaith gyda’r sefydliad cenedlaethol, mi fydd nifer o gyfleoedd i bobl ifanc cymryd rhan ar gael yn fuan. Mi fydd y cyfleoedd yma yn cynnig siawns i gael profiad a datblygu sgiliau newydd, tra hefyd yn cyfrannu at lunio ein gwaith. Bydd cyfleoedd ar gael ar-lein, yn ogystal ag yn bersonol at ddigwyddiadau penodol. Os mae hyn o ddiddordeb i’r person ifanc yn eich bywyd chi, gallen nhw ddarganfod mwy a chofrestru yma.

Bydd. Rydyn ni eisiau i bawb allu manteisio ar bob cyfle, felly ar gyfer cyfleoedd sy’n cynnwys teithio, byddwn yn ad-dalu costau'r bobl ifanc ac unrhyw oedolyn cyfrifol sy’n dod gyda nhw os oes angen.

Mae hyn yn dibynnu ar y person ifanc. Pan fydd pobl ifanc yn derbyn cyfle i lywio ein gwaith, byddwn yn cael sgwrs gyda nhw am drefniadau teithio a hygyrchedd. Os byddwn yn cytuno y byddai’n well i riant neu ofalwr ddod gyda nhw, byddwn yn siarad â chi er mwyn sicrhau bod hyn yn iawn. Fel arall, gallant ddod ag oedolyn cyfrifol gyda nhw, fel ffrind neu frawd neu chwaer hŷn.

Yn anffodus, dydyn ni ddim yn gallu mynd gyda phobl ifanc i ddigwyddiadau, ond gallwn drefnu trafnidiaeth iddyn nhw, fel tacsi.

Ar hyn o bryd, nid oes gennym rwydwaith ar gyfer rhieni a gofalwyr. Fodd bynnag, os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni: [email protected].

Rydyn ni’n parchu ac yn gwerthfawrogi unrhyw gyfraniad gan berson ifanc yn y rhwydwaith, felly ni fyddwn byth yn rhannu hyn y tu hwnt i’r bobl neu’r timau angenrheidiol – mae hyn yn cynnwys rhieni a gofalwyr. Rydyn ni eisiau i bobl ifanc wybod bod eu cyfraniadau’n ddiogel gyda ni, a’u bod yn gallu bod yn agored am y ffordd maen nhw’n teimlo.

Os bydd gennym bryderon am gyfraniad person ifanc ar unrhyw adeg, byddwn yn gwneud ein gorau i'w hadnabod a byddwn yn dilyn ein polisi diogelu. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am hyn, mae croeso i chi gysylltu â ni:  [email protected].

Os byddwch yn newid eich meddwl ynghylch a ddylai'r person ifanc yn eich bywyd fod yn rhan o'r rhwydwaith, mae gennych yr hawl i newid eich meddwl, cyn belled â’i fod dan 18 oed. Rydym yn eich annog i siarad â’r unigolyn am y mater yn y lle cyntaf, ac mae croeso i chi anfon neges e-bost atom i siarad am hyn cyn gwneud unrhyw benderfyniad. Gallwch ddod o hyd i ni yma: [email protected].

Os hoffai eich pobl ifanc ailymuno â’r rhwydwaith unrhyw bryd, mae croeso iddyn nhw wneud hynny.

Gallwch ddarllen ein Polisi Preifatrwydd i gael gwybod sut byddwn yn defnyddio gwybodaeth pobl ifanc.

Other ways to get involved

arrow_upwardYn ôl i'r brig