Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Gladiators yn barod?

Dydd Gwener, 08 Mawrth 2024 Matt Jones

Fe wnaeth Matt, o Gaerdydd, droi hyder isel a heriau iechyd meddwl yn brofiad anhygoel, llawn swyn a sbri pan gymerodd ran yn Gladiators eleni.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Fi oedd wastad yr olaf i gael fy newis yn yr ysgol. Roeddwn yn brin iawn o hyder ac roeddwn i’n poeni nad oedd fy nghorff yn gallu gwneud chwaraeon na bod yn heini.

Roedd gwylio pobl ‘go iawn’ yn herio'r Gladiators ar nos Sadwrn yn ôl yn y 1990au yn gwneud i mi feddwl efallai y gallwn newid. Roeddwn i’n gwneud press-ups a sit-ups yn fy ystafell wely, cyn dechrau nofio a mynd i’r gampfa yn fy nghanolfan hamdden leol.

Er nad oeddwn i’n gryf iawn mewn gwirionedd, roedd teimlo’n gryf yn fy helpu i fod yn fwy hyderus a hapus am fy nghorff pan yn ifanc, ac roedd hynny’n fy helpu i gael perthynas well â fy nheulu, ffrindiau ac, yn achlysurol iawn, merched!

Fe wnes i barhau i godi pwysau fel oedolyn. Dim byd rhy eithafol, ond mae bob amser wedi fy helpu, nid yn unig gyda fy hyder ond hefyd o ran teimlo’n iach ac yn bositif. 

Yna, daeth y plant ac roedd llai o amser sbâr gen i, ond doeddwn i ddim eisiau stopio hyfforddi felly prynais offer codi pwysau er mwyn cadw’n heini yn y garej.

 

Ar y ffordd i nunlle

Rwy’n gweithio ym maes Peirianneg Sifil - dylunio ac adeiladu prosiectau trafnidiaeth mawr fel ffyrdd a phontydd. Treuliais 7 mlynedd yn cynllunio prosiect gwerth £1.5 biliwn, gan arwain tîm o gannoedd yn ystod ymchwiliad cyhoeddus blwyddyn o hyd. Yn y pendraw, fe gawsom y caniatâd i adeiladu. Fe wnes i fy swydd. Ond yna penderfynodd y Llywodraeth beidio â bwrw ymlaen. Dydw i erioed wedi cyfaddef hynny, ond os ydw i’n onest, fe wnaeth hyn wneud i fi deimlo’n isel.

Yna daeth Covid.

Fel llawer o bobl, newidiodd y cyfyngiadau fy mywyd yn llwyr. Yn hytrach na gwisgo siwt smart, gweithio mewn swyddfa neu fynd allan i gwrdd â llawer o bobl, roedd fy ngweithgarwch cymdeithasol wedi gostwng i ddim ond y bobl ar y til yn Lidl (oedd yn hyfryd iawn, chwarae teg!). Collais fy hyder unwaith eto, gan ddod yn agos at fod fel y plentyn gwirion hwnnw nad oedd yn gallu gwneud un press-up.


Argyfwng canol oes, neu heriau canol oes?

Wrth i mi nesáu at fy mhen-blwydd yn 40 oed, yn debyg i'r ffordd y sylweddolais, fel plentyn, nad oedd fy iechyd meddwl yn dda, gwawriodd arnaf mai ffitrwydd oedd yr ateb, a chadw’n heini oedd y ffordd o fy nhynnu allan o’r twll yma eto.

Rwy’n gosod heriau i mi fy hun er mwyn cael y wefr sy’n mynd law yn llaw ag ymarfer corff. Fe wnes i gofrestru am y tro cyntaf ar gyfer taith feicio i Paris, er nad oedd gen i feic. Yna, fe wnes i gofrestru ar gyfer triathlon Ironman (nofio 2.4km, taith feicio 180km a marathon), er nad oeddwn i’n gallu nofio. Doeddwn i ddim yn arbennig o dda am y naill na’r llall, ond fe wnes i hynny ac roedd y teimlad ar y llinell derfyn yn anhygoel.

Nesaf, fe wnes i rywbeth roeddwn i wedi meddwl amdano erioed – gornest baffio coler wen. Cefais noson fythgofiadwy - MC, cerddoriaeth, goleuadau, y cwbl lot. Tebyg iawn i Rocky! Heb syndod, cefais fy mwrw i'r llawr, ar fwy nag un achlysur, ond codais bob tro, ac enillais yr ornest rywsut.

Efallai fy mod i’n gwthio pethau i’r eithaf, ond yn sicr roedd unrhyw fath o ymarfer corff bob amser yn helpu fy iechyd meddwl. Mae mynd am dro hyd yn oed pan fydd fy mhlant mewn gweithgaredd am awr bob amser yn gwneud i mi deimlo’n llawer gwell.

'Gladiators'

Yr haf diwethaf, clywais ar y cyfryngau cymdeithasol y byddai'r Gladiators yn dychwelyd i’n sgriniau teledu. Doeddwn i ddim yn disgwyl am eiliad cael cyfle i gystadlu, ond roedd rhaid i mi wneud cais.

 

Roedd yr heriau gwallgof roeddwn i wedi bod yn eu gwneud yn golygu fy mod i mewn cyflwr da ac fe wnes i lwyddo i ddal i fyny â’r ymgeiswyr gobeithiol eraill mewn diwrnod prawf. Mewn darn ar gamera, roeddwn i’n siarad o’r galon am fy nhaith ffitrwydd a sut roeddwn i’n gobeithio y gallwn i helpu fy nau fachgen ifanc, ac unrhyw un arall allan yno, i ddysgu’n gyflymach nag roeddwn i wedi’i wneud i fod yn hyderus a rhoi cynnig ar bethau newydd er mwyn cael y gorau o fywyd.

Yn rhyfeddol, cefais fy newis ac, yn fuan ar ôl hynny roeddwn yn yr arena o flaen 4,000 o bobl a chynulleidfa deledu o filiynau yn gwneud yr holl gemau roeddwn i wedi bod wrth fy modd yn eu gwylio fel bachgen: The Wall, Gauntlet, Powerball, Hang Tough a Duel. Doeddwn i ddim yn arbennig o dda, ond erbyn hyn, rydw i wedi dod i’r casgliad nad yw hynny’n bwysig.

Yr hyn sy’n bwysig yw bod yn gyfforddus gyda phwy ydych chi, rhoi o’ch gorau a chael hwyl. 

Wnes i ddim stopio gwenu trwy gydol y diwrnod ffilmio. Wel, efallai nad oeddwn yn gwenu pan gwympais i lawr y rhwyd gargo ar yr Eliminator olaf, ond fe godais ac ail geisio. Ac efallai nad oeddwn yn gwenu pan gwympais i lawr y Travellator, ond fe godais a mynd amdani eto. 

Roeddwn i mor falch ar ôl swingio dros y llinell derfyn a dangos i fy meibion ifanc, ac i fi fy hun, y gall hyd yn oed geek gystadlu yn erbyn y gorau, gyda digon o waith caled a phenderfyniad.

Beth nesaf?

Ar ôl holl gyffro fy heriau canol oes, rydw i wedi rhoi’r gorau i hyfforddi ar fy mhen fy hun yn fy ngarej ac ymuno â champfa gymunedol leol. Yn ogystal â’r ffitrwydd corfforol, mae gweld wynebau cyfeillgar a chael sgwrs fach hefyd yn helpu i leddfu teimladau o unigrwydd wrth weithio gartref, felly mae hyn yn teimlo’n dda i mi.

Rhowch gynnig ar bethau a gweld beth sy’n gweithio i chi.

Yn bendant, does dim rhaid i chi fod yn rhedeg at gawr o Gladiator i deimlo’n dda! Mae cerdded neu nofio, yn llythrennol, yn gallu gwneud gwyrthiau. Mae pobl yn aml yn cael eu dychryn gan y gampfa neu ymuno â chlwb ond mae ffitrwydd a chwaraeon ar gyfer pawb o bob oed, siâp, maint a gallu, nid dim ond y sbesimenau perffaith! Rwy’n addo bod rhywbeth allan yno y byddwch wrth eich bodd yn ei wneud, a bydd pobl yn eich croesawu’n gynnes i ymuno â nhw.

Rydw i’n ddiolchgar iawn am sut mae ymarfer corff wedi fy achub rhag iechyd meddwl gwael a gorbryder drwy gydol fy mywyd, ac wedi fy helpu i deimlo’n bositif ac yn hapus. Os gall wneud hynny i geek fel fi, rwy’n siŵr y gall eich helpu chi hefyd.

Related Topics

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig