Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 

Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl rhwng 13 a 19 Mai 2024. 

Ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2024, rydyn ni’n lansio’r ymgyrch #MeddwlAmBobMeddwl. Rydyn ni’n galw arnoch i godi ymwybyddiaeth ac arian hanfodol ar gyfer dyfodol pan fydd pawb yn gallu cael gofal iechyd meddwl o safon pan fydd ei angen arnynt.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Meddwl am bob meddwl 

Bob blwyddyn, bydd 1 o bob 4 ohonom yn cael problem iechyd meddwl.

Ond mae gormod ohonom sydd ddim yn cael yr help sydd ei angen arnom.

Mae dros 2 filiwn o bobl yn aros am wasanaethau iechyd meddwl y GIG, ac ers 2017 mae nifer y bobl ifanc sy’n cael trafferth â’u hiechyd meddwl wedi dyblu bron.

Mae pobl yn dweud wrthym eu bod yn teimlo wedi’u llethu ac yn anobeithiol. Mae angen cymorth arnyn nhw nawr. Gyda’ch help chi, gallwn greu dyfodol gwell, lle mae iechyd meddwl yn cael ei drin yn iawn.

Heb Mind, byddai fy iechyd meddwl wedi gwaethygu. Mind a chael fy mab wnaeth fy achub. Pe na bai’r ddau beth yna yn fy mywyd, fyddwn i ddim yma heddiw.

Ymunwch â’r frwydr dros iechyd meddwl

Ar ein pen ein hunain, allwn ni ddim cyrraedd pawb. Dyna pam ein bod yn galw ar bob plaid wleidyddol yn y flwyddyn etholiadol hon i ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar gymorth pan fydd ei angen arnynt.

A dim ond gyda’ch rhoddion hanfodol y gallwn barhau i ddarparu ein gwasanaethau cymorth. Helpwch i gefnogi’r ymgyrch drwy rannu ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Cefnogwch Mind

Drwy roi, gallwch ein helpu i sbarduno newid a bod yno i’r miliynau sydd ein hangen drwy ateb mwy o alwadau i’n llinellau cymorth, cynnig cymorth drwy ein gwefan ac mewn canghennau Mind lleol ar hyd a lled y wlad.

Cyfrannwch nawr

Ymgyrchwch gyda ni

Rydyn ni’n galw ar bob plaid wleidyddol i sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar gymorth pan fydd ei angen arnynt. Helpwch ni i roi iechyd meddwl wrth galon etholiad cyffredinol 2024.

Bod yn ymgyrchydd

Codi ymwybyddiaeth

Helpwch unrhyw un sydd â phroblem iechyd meddwl i gymryd y cam cyntaf tuag at gael help. Ymunwch â’r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #MeddwlAmBobMeddwl.

Lawrlwythwch asedau

Cyn i mi ffonio Mind, doedd gen i ddim syniad pa gymorth roeddwn i’n mynd i’w gael, ond ar ôl i mi ffonio, roeddwn i’n gwbl dawel fy meddwl. Sgwrs o rhwng 5 a 10 neu 15 munud yn unig oedd hi, ond roedd hyn yn golygu popeth i mi. Fe wnaeth hyn leihau ychydig ar fy ngorbryder.

Asedau i'w llwytho lawr 

Llwythwch ein deunyddiau Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl i lawr, a cofiwch ein tagio ar gyfryngau cymdeithasol a defnyddio #MeddwlAmBobMeddwl ,

Cael gwybodaeth a chefnogaeth

Gwybodaeth

Boed yn ymwneud â deall problemau iechyd meddwl, sut i gefnogi rhywun arall neu awgrymiadau ar gyfer bywyd bob dydd, gall ein gwybodaeth eich helpu.

Cymuned Side by Side

Two people interlocking little fingers

Mae Side by Side yn gymuned gefnogol ar-lein lle gallwch deimlo’n gartrefol wrth siarad am eich iechyd meddwl a chysylltu ag eraill sy’n deall yr hyn rydych chi’n mynd drwyddo.

Cymorth yn lleol

Person with headphones at a bus stop

Elusennau annibynnol yw Mind lleol sy’n gweithio ledled Cymru a Lloegr. Maent yn darparu gwasanaethau sydd wedi’u teilwra i’w cymuned leol.

Mae Mind yn golygu llawer i mi. Mae cefnogi yn bwysig iddyn nhw. Maen nhw fel ffrindiau nawr. Maen nhw wedi bod yno pan nad oedd neb arall yno.

arrow_upwardYn ôl i'r brig