Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Diolch i Mind, rydw i nawr yn teimlo y gallaf ymdopi ag unrhyw beth

Dydd Mercher, 01 Mai 2024 Kayleigh

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni, mae Kayleigh, sydd ag anhwylder personoliaeth ffiniol, yn datgelu sut gwnaethon ni helpu hi, a pham bod cyflwr y system iechyd meddwl yn ei gwneud hi mor flin.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Fel person ifanc yn ceisio dysgu am y system iechyd meddwl, roedd yn ddryslyd iawn. Dydy iechyd meddwl ddim yn cael ei ddysgu mewn ysgolion. Dylai athrawon fod yn siarad am iechyd meddwl â phlant ifanc a phobl ifanc yn eu harddegau yn yr ysgol, fel nad ydyn nhw wedi drysu.

"Byddwn i’n dweud siaradwch â phawb – ffrindiau, teulu, athro cefnogol. Dywedwch ‘Drychwch, dyma sy’n digwydd a dwi angen help’. Mae’n bwysig estyn allan bob amser."

Drwy hyn, bydden nhw’n gallu cael gafael ar fecanweithiau ymdopi a deall iechyd meddwl cyn iddyn nhw dyfu’n oedolion. Wrth wneud hyn, dydy’r sefyllfa ddim yn mynd allan o reolaeth, sef yr hyn a ddigwyddodd i mi. Dwi’n cofio teimlo mor ddryslyd pan oeddwn i yn fy arddegau. Mae gen i anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD). Cefais ddiagnosis o’r diwedd pan oeddwn yn 19 oed, ac roedd y gymysgedd o hynny, y glasoed a hormonau yn ffrwydrol.

I unrhyw un sy’n cael trafferth ar hyn o bryd, byddwn i’n dweud siaradwch â phawb – ffrindiau, teulu, athro cefnogol. Dywedwch ‘Drychwch, dyma sy’n digwydd a dwi angen help.’ Mae’n bwysig estyn allan bob amser.

Heb Mind, dwi’n meddwl y byddwn i wedi marw. Roedd y ffordd cefais fy nhrin gan dîm argyfwng lleol y GIG mor siomedig. Roeddwn i’n manig ac yn seicotig, a phan fyddai felly byddaf yn gweld ac yn clywed pethau sy’n gallu bod yn frawychus.

“Fe wnes i siarad â rhywun yn Mind Abertawe, ac roedd e’n hollol anhygoel. Roeddwn i’n teimlo ei fod yn fy neall i gan ei fod wedi mynd drwyddo ei hun.”

Yna, es i mewn a siaradais i â rhywun yn Mind Abertawe, ac roedd e’n hollol anhygoel. Dywedodd, ‘Edrych ar fy nghreithiau. Dwi wedi bod yno, dwi wedi gwneud hynny’. Roeddwn i’n teimlo ei fod yn fy neall i gan ei fod wedi mynd drwyddo ei hun.

 

Cefais gyswllt ar gyfer cwnselydd preifat sy’n arbenigo mewn BPD. Er bod arian yn brin i mi, roeddwn i’n gallu cael 8 sesiwn wedi’u hariannu gydag ef oherwydd lle rydw i’n byw. Dwi newydd ddechrau cael therapi gyda’r GIG ar ôl bod ar y rhestr aros ers 2020. Nawr rwy’n teimlo y gallaf ymdopi ag unrhyw beth. Dwi’n gallu deall fy emosiynau’n well a sut i’w rheoli mewn ffordd iach. Mae wedi bod yn help enfawr.

Mae’n fy ngwneud yn flin bod cymaint o bobl yn aros am wasanaethau iechyd meddwl. Mae mor anodd cael help. Y cyfan a gafodd ei gynnig i mi pan oeddwn i angen gofal brys oedd, ‘O, gallwn eich rhoi ar y rhestr ar gyfer hyn’. Roedd angen i mi fynd i’r ysbyty a chael gofal.

“Rydyn ni eisiau i bobl gael dweud eu dweud am y cymorth maen nhw’n ei gael. Mae pobl yn colli eu bywydau am nad ydyn nhw’n cael yr help sydd arnyn nhw eu hangen.”

Mae llawer o bethau yr hoffwn eu dweud wrth y Prif Weinidog... yn gyntaf oll, mae yna argyfwng iechyd meddwl. Mae angen i chi gymryd cam yn ôl a sylweddoli beth rydych chi’n ei wneud pan fyddwch chi’n siarad am y “diwylliant nodyn salwch” ac awgrymu bod pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yn “rhoi gormod o sylw i heriau a phryderon bywyd bob dydd.”

Mae angen iddo roi’r gorau i roi cwestiynau ticio blychau i ni. Rydyn ni eisiau i chi fod yn real gyda ni. Rydyn ni eisiau i bobl gael dweud eu dweud am y cymorth maen nhw’n ei gael. Mae angen i bethau newid. Mae pobl yn colli eu bywydau am nad ydyn nhw’n cael yr help sydd arnyn nhw eu hangen.

Gwrandewch arnom ni. Gwrandewch ar yr hyn rydyn ni’n ei ddweud. Gwrandewch ar beth mae Mind ac elusennau iechyd meddwl eraill yn ei ddweud. Mae angen i’r Llywodraeth wrando arnom ni, dydyn nhw ddim yn gwneud hynny ar hyn o bryd.

Related Topics

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig