Wrth i gyfraddau hunanladdiad ymysg dynion yng Nghymru barhau i gynyddu, mae Mind Cymru'n annog dynion i ofyn am gymorth y Mis Iechyd Dynion hwn
Mae Mind Cymru yn annog dynion ledled Cymru a allai fod â phroblemau hiechyd meddwl i estyn allan a chael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, wrth i ffigyrau ddangos bod cyfraddau hunanladdiad ymysg dynion yn parhau i godi yng Nghymru.
Mewn ymateb i hyn, ac yn ystod Mis Iechyd Dynion fis Tachwedd eleni, mae'r elusen iechyd meddwl yn atgoffa pob dyn sydd â phroblemau iechyd meddwl fod help ar gael.
Ddegawd yn ôl, yn 2014, roedd nifer yr hunanladdiadau ymysg dynion yng Nghymru ar eu hisaf ers bron i 30 mlynedd - ond erbyn 2023 roedden nhw wedi cyrraedd yr ail gyfradd uchaf erioed, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae nifer y dynion a gofrestrwyd fel rhai a fu farw drwy hunanladdiad hefyd wedi bod yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda chynnydd o 16% rhwng 2022 a 2023 yn unig.
Cyrhaeddodd Dwein Davies, o Lanelli, sefyllfa lle’r oedd yn teimlo fel lladd ei hun ar ôl i'w briodas chwalu a chollodd gysylltiad â'i bedwar o blant.
Meddai Dwein, a gollodd ei fusnes trin ceir tua'r un pryd: "Fe wnes i fyw mewn sied yn y goedwig. Roeddwn i'n dioddef o orbryder ac iselder, a chymerais bolisi yswiriant bywyd allan oedd ddim yn rhoi unrhyw daliad am hawliadau o fewn 12 mis. Roeddwn i'n bwriadu lladd fy hun pan ddeuai’r cyfnod hwnnw i ben, gan fy mod i eisiau sicrwydd ariannol i fy mhlant.
"Ond ar ôl gwella fy iechyd meddwl fy hun, trwy ddysgu a deall yn well sut y datblygodd y problemau, rwy'n gweld dau gwnselydd ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau Mind lleol. Ac rydw i hefyd yn ôl yng nghartref y teulu gyda gwarchodaeth lawn ar fy mhedwar plentyn hefyd."
Yn 2023, roedd hunanladdiad yn fwyaf cyffredin ymhlith dynion 30-34 oed, a chyrhaeddodd marwolaethau trwy hunanladdiad y nifer uchaf yn y grŵp oedran hwn ers bron i 30 mlynedd. Mae dynion hefyd dair gwaith yn fwy tebygol o farw trwy hunanladdiad na menywod, yn ôl y Samariaid.
Meddai Sue O Leary, Cyfarwyddwr Gweithredol ym Mind Cymru: “Mae'n Fis Iechyd Dynion, ac mae Mind Cymru yn annog dynion a allai fod yn cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl i estyn allan a chael cymorth. Fel y dengys stori Dwein, mae'n ffaith drist bod gormod o broblemau iechyd meddwl yn parhau i fod yn gudd, ac rydyn ni’n gwybod bod hyn yn arbennig o wir ymhlith dynion.
“Dydi hi ddim bob amser yn hawdd i ddynion siarad am eu teimladau gydag eraill, ac mae hyn yn rhywbeth i bob un ohonom ei ystyried, nid yn unig yn ystod Mis Iechyd Dynion, ond ar hyd y flwyddyn."
Ar ôl cymryd rhan mewn rhaglenni cymorth llesiant a gynigir gan Mind Llanelli, mae Dwein bellach wedi dod yn wirfoddolwr i'r elusen, ac mae hefyd yn aelod o'i grŵp nofio dŵr oer Frozennutz sydd, meddai, wedi 'achub ei fywyd'. Mae hefyd yn bwriadu dechrau ei grŵp cymorth cymunedol ei hun a lansio ei bodlediad ei hun yn benodol ar gyfer iechyd meddwl dynion hefyd.
Mae Mind Lleol mewn mannau eraill yng Nghymru hefyd yn cynnal rhaglenni sy'n cefnogi dynion yn benodol, gyda grwpiau sy’n benodol ar gyfer dynion yn Hwlffordd ac yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Meddai Sue: "Y newyddion da yw bod grwpiau cymunedol fel Frozennutz yn Mind Llanelli yn darparu lle i ddynion ddod at ei gilydd a siarad am eu hiechyd meddwl, ond mae'r ffigurau diweddaraf hyn gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn dangos bod gennym ffordd bell i fynd o hyd i helpu dynion yng Nghymru i deimlo eu bod yn cael llais a chefnogaeth wirioneddol hefyd."
"Allwn ni ddim pwysleisio digon pa mor bwysig yw gofyn am gymorth os ydych chi'n meddwl y gallech chi, neu rywun arall rydych chi'n ei adnabod, fod â phroblemau iechyd meddwl."
Mae Mind Cymru yn darparu man diogel i unrhyw un siarad am eu hiechyd meddwl gyda chynghorwyr sydd wedi'u hyfforddi i wrando, a helpu i ddod o hyd i gymorth arbenigol os oes angen, drwy ei Linell Gymorth bwrpasol ar 0300 102 1234 (ar gael rhwng 9am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener).
Gallwch hefyd ddod o hyd i fanylion ar gyfer eich Mind lleol agosaf: www.Mind.org.uk/Local