Sue O’Leary yw Cyfarwyddwr newydd Mind Cymru
Sue O’Leary yw Cyfarwyddwr newydd Mind Cymru, gan gymryd drosodd gan Sara Moseley.
Mae Sue wedi bod gyda Mind Cymru am y pum mlynedd diwethaf, fel Pennaeth Gweithrediadau, yn gweithio gyda’n rhwydwaith o Mind lleol a’n partneriaid i gynhyrchu, ar y cyd, fodelau darparu gwasanaeth gan gynnwys gwasanaethau i bobl hŷn a rhagnodi cymdeithasol. Hefyd, yn ei swydd newydd, bydd Sue'n cadeirio Cynghrair Iechyd Meddwl Cymru, yn ogystal â’r ymgyrch gwrth stigma, Amser i Newid Cymru.
Meddai: “Rwyf wrth fy modd yn cael y cyfle i arwain Mind Cymru. Rydyn ni ar flaen y gad yn darparu ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru ac rwy'n edrych ymlaen yn enfawr at goncro'r heriau sy'n ein hwynebu wrth i ni daclo chwalfa'r pandemig ar iechyd meddwl."
Wrth sôn am ei swydd newydd, meddai Sue “Rwyf eisiau i Mind Cymru ganolbwyntio ar ymgyrchu dros a darparu cefnogaeth gynnar, hynny yw, gwneud yn siŵr fod pobl sy’n cael problemau gyda’u hiechyd meddwl yn cael y gefnogaeth y maen nhw ei angen cyn i bethau fynd yn waeth. Bydd hyn yn golygu y byddwn yn taclo’n uniongyrchol yr anghydraddoldebau sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod y pandemig ac yn cynnal y sgyrsiau anodd ynghylch beth sydd raid newid er mwyn i’r gefnogaeth fod ar gael i bawb.
“Mae'n golygu taclo'r stigma ynghylch iechyd meddwl sy’n wynebu cymaint, er gwaethaf ymdrechion ffantastig Amser i Newid Cymru, ac sy’n eu rhwystro rhag gofyn am gefnogaeth.
“Fe wyddom ni fod y system iechyd meddwl o dan bwysau cyn y pandemig gyda mwy o bobl yn gofyn am gefnogaeth. Rwy eisiau gweithio gyda'm cydweithwyr i gael system gymorth iechyd meddwl mwy cyfun yng Nghymru, ble gall partneriaid yn y trydydd sector weithio'n fwy cydlynol gyda chydweithwyr yn y gwasanaethau iechyd."