Get help now Make a donation

Mind yn canfod bod gweithwyr yn aros yn dawel am iechyd meddwl gwael

Wednesday, 16 May 2018 Mind

Mae arolwg arwyddocaol newydd o bron i 44,000 o weithwyr a gynhaliwyd gan yr elusen iechyd meddwl Mind wedi canfod bod bron hanner y gweithlu (48 y cant) wedi profi iechyd meddwl gwael, fel straen, iselder ysbryd a gorbryder tra yn eu gweithle presennol. O’r rheini, dim ond hanner oedd wedi dewis hysbysu eu rheolwyr am eu hanawsterau (10,554). Mae’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi yn rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl (14-20 Mai) sy’n pwysleisio sut mae straen yn effeithio ar ein bywydau.

Casglwyd y data gan 74 o fudiadau a gymerodd ran yn Indecs Llesiant yn y Gweithle diweddaraf Mind, sy’n feincnod o arfer a pholisi da ac yn dathlu’r gwaith y mae cyflogwyr yn ei gyflawni er mwyn hyrwyddo a chefnogi iechyd meddwl cadarnhaol.

Mae’r canlyniadau hefyd yn dangos:
• Bod mwy nag wyth ym mhob deg (84%) yn barod i barhau i fynd i’r gwaith tra’n dioddef o iechyd meddwl gwael tra bod ychydig dros hanner (58%) yn barod i barhau i fynd i’r gwaith tra’n dioddef iechyd corfforol gwael
• Mai dim ond dau ym mhob pump (42%) o weithwyr a gymerodd rhan yn yr holiadur sy’n teimlo y byddai eu rheolwr yn adnabod arwyddion iechyd meddwl gwael 
• Bod un ym mhob pump (21%) o weithwyr a gymerodd rhan yn yr holiadur yn teimlo bod eu llwyth gwaith presennol yn ormod iddynt
Mae cyflogwyr sy’n cymryd rhan yn Indecs Llesiant yn y Gweithle Mind eisiau creu diwylliant lle mae staff yn gallu siarad yn agored am eu hiechyd meddwl. Yn gadarnhaol, mae dau ym mhob tri (61%) o’r cyflogwyr sy’n cymryd rhan yn yr Indecs yn bwriadu cynyddu gwariant ar weithgareddau llesiant yn y gweithle er mwyn creu diwylliant mwy cadarnhaol ac agored.

Dywedodd Emma Mamo, Pennaeth Llesiant yn y Gweithle Mind:

“Wrth i ni nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae’n bryder darganfod bod hanner y gweithlu’n teimlo nad ydynt yn gallu siarad yn agored. Mae gormod o bobl sy’n dioddef o iechyd meddwl gwael, fel straen, gorbryder, ac iselder, yn dal i deimlo eu bod yn gorfod aros yn dawel. I rai, mae’r rhesymau’n cynnwys: teimlo’n anghyfforddus wrth siarad am eu problem iechyd meddwl, poeni y bydd eu cyflogwr yn meddwl nad ydynt yn gallu gwneud eu gwaith ac heb fod eisiau cael eu trin yn wahanol.

“Rydyn ni’n gwybod bod newid diwylliant y gweithle yn cymryd amser i dreiddio trwy sefydliad. Yn gadarnhaol, mae cyflogwyr blaengar, fel y rheini sy’n cymryd rhan yn Indecs Llesiant yn y Gweithle Mind, yn cymryd camau yn y cyfeiriad cywir ac mae eu hadroddiadau penodol yn nodi lle maent yn gweithredu’n llwyddiannus a lle y gallent wneud gwelliannau.

“Mae sefydliadau sy’n rhan o’r Indecs yn sylweddoli bod llesiant yn y gweithle ddim yn unig yn beth cadarnhaol, ond hefyd yn gwneud synnwyr o ran busnes. Mae’r rheini sy’n cymryd rhan wedi dangos ymrwymiad i wneud iechyd meddwl yn flaenoriaeth. Mae’n wych bod cymaint o sefydliadau’n gofyn cwestiynau anodd i’w hunain ynghylch sut y maent yn cefnogi eu gweithlu a’r hyn y gallent ei wneud i gynnig profiad gwell. Rhaid i ni weld mwy o weithleoedd yn hybu sgyrsiau agored ynghylch iechyd meddwl ac yn hybu amgylchedd mwy cefnogol ac agored.

“Rydyn ni’n annog cyflogwyr eraill i ddilyn esiampl y sefydliadau hyn gan ddod yn rhan o Indecs Llesiant yn y Gweithle Mind, sy’n feincnod i’w helpu i adnabod lle maen nhw’n gwneud yn dda pan mae’n dod i hybu iechyd meddwl da yn y gweithle, yn ogystal ag amlygu lle y gallent wneud gwelliannau.”

Mae’r sefydliadau sy’n cymryd rhan yn yr Indecs yn derbyn dadansoddiad trylwyr o’u canlyniadau, asesiad o’u hymrwymiad tuag at gefnogi iechyd meddwl eu staff ac argymhellion ynghylch ble y gallent wella. Mae pob cyflogwr yn derbyn Gwobr Aur, Arian, Efydd neu Ymrwymo i Weithredu i adlewyrchu eu perfformiad.


Asiantaeth yr Amgylchedd (Lloegr) sydd ar frig Indecs Llesiant yn y Gweithle eleni, am yr ail flwyddyn yn olynol. Y corff cyhoeddus non-departamental, wedi’i ariannu gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), sydd wedi cyrraedd y sgôr uchaf yn y categori aur. 
Mae wyth sefydliad arall hefyd wedi derbyn y Wobr Aur, sy’n cydnabod eu cyflawniad o ran hybu iechyd meddwl da yn y gweithle. Dyma nhw:

• CancerCare
• Companies House
• Dr Challoner’s Grammar School
• Historic England
• Intertrust Guernsey
• Jacobs Engineering Group
• LSI Architects LLP 
• RBC Wealth Management Limited

Gall cyflogwyr gofrestru eu diddordeb trwy gymryd rhan yn Indecs Llesiant yn y Gweithle y flwyddyn nesaf, gan fynd i: mind.org.uk/index.

 

Ways to get involved

arrow_upwardBack to Top