Get help now Make a donation

Mind Cymru yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol iechyd meddwl gwael yng Nghymru

Wednesday, 13 November 2024 Mind

Mae Mind Cymru yn annog Llywodraeth Cymru i arwain ymdrech genedlaethol i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol iechyd meddwl gwael wrth i ymchwil ddangos bod nifer y presgripsiynau gwrth-iselder yng Nghymru wedi dyblu yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.

Mae adroddiad cyntaf erioed yr elusen – ‘Big Mental Health Report’ - a lansiwyd heddiw (13 Tachwedd 2024) yn dangos bod yr heriau parhaus y mae llawer ohonom yn eu hwynebu oherwydd yr argyfwng costau byw, ansicrwydd economaidd a materion eraill sy'n effeithio ar fywydau bob dydd pobl yn cyfrannu at system iechyd meddwl sy'n ei chael hi'n anodd bodloni’r galw.

Mae ei ganfyddiadau yn cynnwys tystiolaeth bod nifer y presgripsiynau gwrth-iselder a wnaed gan feddygon teulu wedi dyblu rhwng 2010/11 a 2022/23 (o 3.5 miliwn i 7 miliwn) a bod presgripsiynau ar gyfer meddyginiaethau ar gyfer seicosis wedi codi o 661,000 i 782,000.

Mae'r adroddiad yn dwyn ynghyd ddata sydd ar gael i'r cyhoedd o amrywiaeth o ffynonellau sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, yn ogystal â gwybodaeth ac ymchwil o bob rhan o'r DU, i greu darlun ehangach o iechyd meddwl yng Nghymru.

Mae ymchwil wedi'i chynnwys gan Sefydliad Bevan, sy’n nodi bod pryderon am gyllid yn effeithio ar iechyd meddwl 44% o bobl yng Nghymru, ochr yn ochr â'u gallu i weithio, a'r Sefydliad Polisi Arian ac Iechyd Meddwl, a nododd fod pobl a oedd yn wynebu problemau iechyd meddwl yn ennill £8,400 yn llai y flwyddyn na'r rhai heb broblemau o’r fath.

Dywed Mind Cymru na fydd y ffigurau hyn yn newid nes bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau brys i helpu cyrff cyhoeddus, ysgolion, cyflogwyr a sefydliadau eraill yng Nghymru i gydweithio i fynd i'r afael â materion sylfaenol y tu ôl i iechyd meddwl gwael, a sicrhau bod pobl sydd â phroblem iechyd meddwl yn cael cymorth priodol pan fydd ei angen arnynt.

Meddai Sue O'Leary, Cyfarwyddwr Mind Cymru: "Mae’n destun pryder fod costau byw wedi dod yn 'norm newydd' i lawer o bobl yng Nghymru ac mae pryderon ariannol sydd gennym ynglŷn â’r dyfodol yn dechrau cael effaith ar blant a phobl ifanc hefyd.

"Mae pobl o gymunedau sydd wedi’u trawsnewid yn poeni am fynediad at hyfforddiant a chyflogaeth, ac mae amodau tai gwael neu ansicr yn parhau i waethygu iechyd meddwl gwael."

“Rydym yn gwybod bod dirywiad graddol wedi bod mewn lles meddyliol ledled Cymru, a hynny cyn y pandemig, a'r hyn y mae'r adroddiad hwn yn ei ddangos i ni yw ein bod wedi cyrraedd pwynt lle mae gan bawb - o'r llywodraeth i gyrff cyhoeddus, ysgolion, cyflogwyr a mwy - ran i'w chwarae i wella canlyniadau iechyd meddwl i bawb."

Gan gyfuno data sydd ar gael i’r cyhoedd ar iechyd meddwl, stigma a gwahaniaethu â phrofiadau uniongyrchol pobl o broblemau iechyd meddwl, y Big Mental Health Report yw'r tro cyntaf i Mind Cymru baratoi trosolwg ar sail y wlad o gyflwr iechyd meddwl yng Nghymru, a bellach caiff ei gyhoeddi'n flynyddol.

Mae hefyd yn ymdrin ag ymchwil ansoddol a gynhaliwyd gan YouGov sy'n edrych ar brofiadau pobl â salwch meddwl difrifol a pharhaus sy'n derbyn cymorth iechyd meddwl gan weithwyr proffesiynol gan gynnwys meddygon teulu a sefydliadau'r sector gwirfoddol, ochr yn ochr â'u profiadau o stigma a gwahaniaethu.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y canlynol:

  • Dywedodd bron i ddwy ran o dair (60%) o bobl mewn un astudiaeth yn y DU fod yr argyfwng costau byw yn niweidio eu lles.

  • Yn 2023, gwnaed 75,816 o geisiadau am asesiad anghenion iechyd meddwl yng Nghymru, gyda 13,248 o'r rhain ar gyfer plant a phobl ifanc.

  • Mae nifer yr achosion o bryder ymysg plant a phobl ifanc a gyfeiriwyd at wasanaeth cwnsela mewn ysgolion yng Nghymru wedi cynyddu, gyda 12% wedi'u cyfeirio oherwydd pryder yn 2015/16 o'i gymharu â 46% yn 2015/16 2022/23.

Ychwanegodd Simon Jones, Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd Mind Cymru, heb fwy o dryloywder ynghylch casglu data gan gyrff iechyd cyhoeddus a sefydliadau eraill, ei bod yn dal yn anodd cael trosolwg cwbl gynhwysfawr o gyflwr iechyd meddwl yng Nghymru, fodd bynnag.

Dywedodd: "Er mwyn deall sut i fynd i'r afael â'r cynnydd yn lefel yr angen am gymorth ar gyfer iechyd meddwl, mae angen i ni ei ddeall yn gyntaf, ac mae hynny’n golygu cael ffynhonnell wybodaeth glir, gyson sy'n amlinellu'r hyn sy'n digwydd, a beth sydd angen ei newid.

"Mae'r Big Mental Health Report yn sicr yn fan cychwyn gwych ar gyfer hyn ac rydym yn falch iawn o allu rhoi trosolwg cenedlaethol o'r darlun iechyd meddwl yng Nghymru am y tro cyntaf.

"Fodd bynnag, mae llunio’r adroddiad wedi dangos i ni hefyd fod angen i ni fel gwlad weithio'n galetach mewn ffordd well i nodi’r rhai ohonom sy'n fwy tebygol o wynebu problemau iechyd meddwl yn y lle cyntaf.

"Mae nifer o wahanol ffactorau a allai achosi i rywun brofi iechyd meddwl gwael, neu weld dirywiad mewn problem iechyd meddwl sy'n bodoli eisoes, ac mae'r adroddiad hwn wedi dangos i ni mai mabwysiadu dull trawslywodraethol o fynd i'r afael â'r materion hyn yw'r gobaith mwyaf sydd gennym o greu gwlad sy’n iach yn feddyliol yn y dyfodol."

Ways to get involved

arrow_upwardBack to Top