Mae Mind Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud iechyd meddwl a lles yn rhan statudol o’r cwricwlwm cenedlaethol i bob dysgwr, wrth i arolwg ganfod bod gan un o bob saith person ifanc iechyd meddwl gwael
Daw’r data o arolwg o fwy na 3,000 o bobl ifanc rhwng 11 ac 19 oed a gynhaliwyd gan yr elusen iechyd meddwl, Mind Cymru
Mae un o bob saith person ifanc yn disgrifio’u hiechyd meddwl fel un ai wael neu wael iawn, yn ôl ymchwil newydd o bwys gan Mind Cymru sy’n dangos mor eang yw’r pwysau a wynebir gan bobl ifanc.
Mae’r elusen yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud iechyd meddwl a lles yn rhan statudol o’r cwricwlwm cenedlaethol i bob dysgwr.
O ran gallu cael cymorth yn yr ysgol, roedd yna broblemau o ran gwybod i ble i fynd, ac yna o ran cael y math iawn o help. Canfu arolwg Mind hefyd:
• Mae pedwar o bob pum person ifanc (80 y cant) yn cytuno neu’n cytuno’n gryf fod eu hysgol yn meddwl ei bod yn bwysig cael iechyd meddwl a lles da i bawb yng nghymuned yr ysgol, ond mae dros hanner y bobl ifanc (56 y cant) yn dweud nad ydyn nhw’n dysgu am iechyd a lles yn yr ysgol;
• Dywedodd bron hanner (48 y cant) yr holl bobl ifanc na fydden nhw’n gwybod i ble i fynd i gael cymorth yn yr ysgol a dywedodd dros hanner (56 y cant) na fydden nhw’n teimlo’n hyderus i fynd at athrawon neu aelodau eraill o staff yr ysgol pe bai angen help arnynt;
• Roedd tua 1 mewn 5 o bobl ifanc (22 y cant) wedi manteisio ar gymorth yn ymwneud â’u hiechyd meddwl yn yr ysgol. O’r rhain, dywedodd bron hanner (44 y cant) nad oedd y cymorth wedi bod o fudd iddyn nhw a dywedodd 1 mewn 3 (34 y cant) na chawsant lais yn y penderfyniadau a wnaed ynglŷn â'r cymorth hwnnw.
O ran cael help y tu allan i glwydi’r ysgol, dim ond un mewn tri disgybl (34 y cant) a oedd wedi cael problemau iechyd meddwl oedd wedi defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl. Mae hyn yn golygu bod bwlch enfawr rhwng nifer y bobl ifanc y mae angen help arnynt a’r rhai sydd mewn gwirionedd yn mynd at y Gwasanaethau Iechyd i gael cymorth.
Dywedodd Simon Jones, Pennaeth Polisi a Dylanwadu Mind Cymru:
“Fe siaradon ni â miloedd o bobl ifanc i geisio deall yn well eu hagweddau tuag at iechyd meddwl a’r cymorth yr oeddent wedi’i gael yn yr ysgol a’r tu allan. Roedd rhai canfyddiadau gwirioneddol gadarnhaol, gyda'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn dweud eu bod o’r farn, ar y cyfan, fod eu hysgolion yn credu bod iechyd meddwl da yn bwysig a’u bod yn hyrwyddo lles. Ond clywsom hefyd gan lawer o bobl ifanc oedd â phroblemau gyda’u hiechyd meddwl – llawer ohonynt ddim yn ceisio cymorth a'r rhai a oedd yn gwneud hynny ddim wastad yn cael yr hyn yr oedd ei angen arnynt.
“Mae datblygu cwricwlwm newydd yng Nghymru yn gyfle cadarnhaol i ysgogi mwy o wybodaeth ac ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc, rhywbeth y maen nhw a’u hathrawon yn awyddus i’w gefnogi. Mae cydnabod iechyd meddwl a lles o fewn y Maes Dysgu a Phrofiad ehangach sy’n ymwneud ag iechyd a lles yn gam pwysig ymlaen. Fodd bynnag, gan fod iechyd meddwl yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, mae’r ffocws yn gryf iawn ar sut y gallwn weithredu mewn modd mwy ataliol. Mae strategaeth iechyd y llywodraeth, ‘Cymru Iachach’, yn cydnabod bod angen edrych y tu hwnt i’r gwasanaethau iechyd er mwyn gwella iechyd y genedl. Felly, byddem yn disgwyl gweld iechyd meddwl a lles yn cael eu gosod fel rhwymedigaeth statudol benodol yn y ddeddfwriaeth i sefydlu'r cwricwlwm newydd yng Nghymru. Rydym yn credu y byddai hyn nid yn unig yn helpu pobl ifanc i ddeall eu hiechyd meddwl yn well, a sut i gael gafael ar gymorth, ond hefyd yn darparu cymorth ychwanegol i weithwyr iechyd proffesiynol i ymdrin ag anghenion eu disgyblion, yn cynnwys sicrhau bod hyfforddiant a datblygiad proffesiynol yn parhau fel bod staff yn gallu ymdrin â'r materion hyn.
“Mae’n bryd cael ffordd newydd o gefnogi pobl ifanc a’u harfogi i ofalu am eu hiechyd meddwl. Mae hyn yn effeithio ar gynifer o bobl ifanc, ac rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o broblemau iechyd meddwl yn dechrau mewn plentyndod - felly mae hon yn prysur ddatblygu’n un o’r sialensiau mwyaf sy’n wynebu ein cymdeithas. Mae angen inni wrando ar yr hyn y mae pobl ifanc yn ei ddweud wrthym a chael ein harwain ganddyn nhw wrth ddylunio gwasanaethau a chymorth.”
Ychwanegodd Grace Conolly, 16, disgybl Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern:
“Mae cefnogaeth iechyd meddwl yn yr ysgol bendant yn bwysig ac mae’r opsiynau ar gael yma yn enfawr. Mae ein hathrawon wastad ar gael ac rydych hefyd yn gallu siarad gyda’ch ffrindiau. Hefyd mae gennym yr Hafan sydd gyda staff cymwys i helpu disgyblion a’u cefnogi i ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth. Mae’n le i fynd os nid ydych yn teimlo 100% neu os dydych ddim eisiau siarad gydag athro.
“Mae’r opsiynau hyn yn ddefnyddiol iawn pan rydych mewn sefyllfa anodd.”
Dangosodd arolwg ar wahân gan Mind o fwy na 280 o staff ysgolion fod bron i dri o bob pedwar (71 y cant) yn teimlo’n hyderus fod y disgyblion yr oedd angen cymorth arnynt yn cael cymorth digonol. Fodd bynnag, teimlai tua un o bob dau (52 y cant) nad oedd ganddynt ddigon o wybodaeth i gefnogi disgyblion sydd ag iechyd meddwl gwael. Y tu allan i’r ysgol, roedd staff yn ymwybodol o gymorth arall ond roedd llai na hanner (26 y cant) yn hyderus y byddent yn gallu helpu disgyblion i gael gafael ar y cymorth.
Dywedodd Alan Williams, Dirprwy Prif Athro Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern:
“Rydym yn byw mewn cymdeithas ble mae pobl ifanc yn teimlo gwasgedd cynyddol i gydymffurfio a chyrraedd safonau penodol ac mae’r gwasgedd hyn yn dod o nifer o gyfeiriadau. Yma yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern rydym yn credu’n gryf bod addysg yn chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu dycnwch pobl ifanc er mwyn eu helpu i gynnal iechyd meddwl da. Dros y ddwy flynedd diwethaf rydym wedi peilota’r cwricwlwm Iechyd a Lles newydd ac mae nifer o’n disgyblion wedi elwa’n fawr. Wrth ddarparu gwersi wedi’u cynllunio’n ofalus, gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o bartneriaid a thrwy sicrhau bod llais y disgybl yn gryf rydym yn credu bod ein cwricwlwm yn darparu’r gefnogaeth sydd angen ar ein disgyblion.
“Trwy barhau i ffocysu ar y pum datganiad ‘yr hyn sy’n bwysig’ a’r pedwar diben craidd rydym yn benderfynol y byddwn yn parhau i ddatblygu cwricwlwm sy’n gweithio law yn law gyda’r gefnogaeth benodol yr ydym yn darparu.”
Lynne Neagle AC, Cadeirydd, Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
“Rwy’n croesawu gwaith MIND ac eraill yn y maes hanfodol hwn i wella iechyd a lles meddyliol ein plant a’n pobl ifanc. Mae eu casgliadau’n adleisio adroddiad ‘Cadernid Meddwl ‘ a gyhoeddodd ein Pwyllgor yn 2018. Mae’r adroddiad hwn yn sôn am bwysigrwydd ymdrin ag iechyd emosiynol ac iechyd meddwl fel ysgol gyfan, a’r cyfle prin y mae’r broses o ddiwygio’r cwricwlwm yn ei gynnig i gynnwys lles ein plant fel rhan annatod o’u haddysg. Mae’r wybodaeth fod gan un o bob saith o bobl ifanc broblemau iechyd meddwl yn symbyliad arall i ni alw ar ein rhanddeiliaid a’n llywodraeth i weithio gyda’i gilydd i wireddu ein gweledigaeth i ymdrin ag iechyd emosiynol a meddyliol fel system gyfan. Mae angen i hyn ddigwydd o fewn giatiau’r ysgol a’r tu hwnt. Fel Pwyllgor, rydym wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â’n hargymhellion, a byddwn yn cyhoeddi casgliadau ein gwaith craff diweddaraf cyn bo hir.”
Cafodd yr arolygon eu cynnal fel rhan o brosiect peilot mewn 17 ysgol uwchradd yng Nghymru a Lloegr. Wedi’i ariannu gan Ymddiriedolaeth BRIT a WH Smith, mae Mind wedi bod yn gweithio gydag ysgolion uwchradd ers mis Medi i dreialu dull gwahanol o wella iechyd meddwl holl gymuned ysgol, yn cynnwys disgyblion, holl staff yr ysgol a rhieni.
Mae gwybodaeth i bobl ifanc am iechyd meddwl ar gael yn rhad ac am ddim ar wefan Mind ar mind.org.uk. Mae Mind yn gwahodd pobl ifanc o Gymru a Lloegri i rannu’u barn a helpu i ddeall yn well y rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu o ran cael gafael ar gymorth, a beth fyddai rhai o’r atebion posibl. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan fynd i mind.org.uk/cypsurvey
-Diwedd-
Mental health services Public Mental Health