Get help now Make a donation

Cyhoeddi cyllid ar gyfer cefnogaeth iechyd meddwl Cymraeg

Monday, 15 June 2020 Mind

Bydd miloedd o bobl o bob rhan o Gymru’n gallu cael mwy o help gyda’u hiechyd meddwl, diolch i arian newydd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i ymateb i effeithiau Covid-19, cyhoeddodd Mind Cymru.

Bydd yr arian, gwerth £500,000, yn galluogi Mind Cymru i gynnig cefnogaeth dros y ffôn ym mhob rhan o’r wlad, mewn partneriaeth gyda 17 o ganghennau lleol o Mind.

Mae’r rhaglen, sy’n cael ei galw’n Monitro Gweithredol, yn ffordd o gael help i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol, gan gynnwys pryder, iselder, diffyg hunan barch a stres. Bydd unigolion yn gallu eu cyfeirio eu hunain, yn hytrach na thrwy eu meddygon teulu, ac ni fydd yn rhaid aros am fwy nag wythnos i gael asesiad. I gael apwyntiad, gyd sydd angen wneud yw mynd i wefan Mind: www.mind.org.uk/AMCymru

Meddai Sara Mosely, Cyfarwyddwr Mind Cymru:

“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi cael yr arian hwn i helpu pobl gyda’u hiechyd meddwl mewn cymunedau ledled Cymru.

“Mae hyn yn gyfnod mor anodd i bobl ac fe wyddom ni fod y cyfnod clo yn effeithio’n wirioneddol ar les meddyliol pobl. Mae'n rhaid cael cefnogaeth brydlon rhag ofn i broblemau iechyd meddwl cymedrol fynd yn waeth.

“Rydyn ni wedi bod yn rhedeg Monitro Gweithredol mewn rhai mannau yng Nghymru ac rydyn ni'n gwybod ei fod yn gweithio. Mae cannoedd o bobl eisoes yn dweud bod yna welliant enfawr yn eu lles meddyliol. Bydd yr arian newydd yn ein galluogi i’w gynnig ym mhob un o Fyrddau Iechyd Cymru.”  

Bydd ymarferwyr Monitro Gweithredol yn cynnal asesiadau cychwynnol gyda phobl i wneud yn siŵr fod y gwasanaeth yn addas cyn eu cyfeirio at un o saith llwybr
- Pryder
- Rheoli Tymer
- Iselder
- Teimlo’n Unig
- Galar a Cholled
- Hunan-barch
- Stres

Bydd y rhai ar y rhaglen yn cael pum sesiwn ar y ffôn gyda’r ymarferydd Monitro Gweithredol dros gyfnod o chwe wythnos ac yn llenwi gweithlyfrau hunan gyfeirio.

Mae Zoe, o Aberhonddu, yn dioddef o bryder a defnyddiodd Monitro Gweithredol yn 2018. Meddai:

“Roedd Monitro Gweithredol yn hynod, hynod bositif i mi. Fe gefais nifer o offer i'm helpi i reoli fy mhryder ac ryw'n dal i ddefnyddio rhai ohonyn nhw.

“Rwyf wedi cael help gan lawer o wahanol wasanaethau dros y blynyddoedd, gan gynnwys cwnsela, ond, yn bendant, dyma'r un sydd wedi bod fwyaf buddiol i mi. Mae wedi fy nysgu i beidio â bod yn rhy galed arnaf i fy hunan, rhywbeth roeddwn yn poeni llawer iawn arnaf i. Fe fyddwn i’n argymell Monitro Gweithredol i unrhyw un sy’n teimlo fod arnyn nhw angen help."

Ychwanegodd Ruth Marks, Prif Syddog Gweithredol CGGC:

“‘Rydym yn gwybod bod argyfwng Covid-19 wedi cael effaith enfawr ar iechyd meddwl llawer o bobl ond oherwydd yr argyfwng, nid yw’n bosib darparu gwasanaethau traddodiadol. Felly mae'n hanfodol bod pobl sydd angen cymorth yn gallu cael gafael ar gymorth yn ddiogel o'u cartrefi.

“Rydym yn falch iawn y bydd cyllid o’r Gronfa Argyfwng Gwasanaethau Gwirfoddol nawr yn helpu Mind Cymru i ddarparu’r rhaglen Monitro Weithredol ar raddfa fwy ledled Cymru.”

 

Ways to get involved

arrow_upwardBack to Top