Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Ymdopi â'r hyn rydych chi'n ei brofi yn y gwasanaeth ambiwlans

Mae'r wybodaeth hon i unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaeth ambiwlans, p'un a ydych chi'n rheoli tîm, yn helpu pobl drwy ymateb i alwadau, yn gweithio gartref neu mewn swyddfa, neu'n barafeddyg.

20 munud i'w ddarllen

Ar y dudalen hon:

Fel aelod o'r gwasanaeth ambiwlans, mae gennych chi lawer i ddelio ag ef. A gall y pethau rydych chi'n eu profi o ddydd i ddydd gael effaith enfawr ar eich iechyd meddwl.

Mae'n bosibl bod y pandemig wedi gwneud eich gwaith yn anoddach fyth. Ac er bod sawl rhan o gymdeithas wedi mynd yn ôl i sut roedd pethau o'r blaen, efallai eich bod chi'n dal i ddelio â theimladau a phrofiadau a oedd gennych yn ystod y coronafeirws (COVID-19).

Gallai'r wybodaeth hon eich helpu i wneud synnwyr o'r pethau rydych chi'n eu gweld a'u profi yn y gwasanaeth ambiwlans.  Ni ddylech chi ei defnyddio yn lle triniaeth a chymorth iechyd meddwl. Ond gall awgrymu dulliau i'ch helpu i ddeall sut rydych chi'n teimlo, a rhoi cyngor ar sut i ymdopi â'r teimladau hyn.

Cydnabod sut rydych chi'n teimlo

Rydyn ni'n profi llawer o wahanol deimladau bob dydd. Gall teimladau helpu i ddangos sut i ymateb i'r sefyllfaoedd sy'n ein hwynebu. Ond yn aml, dydyn ni ddim yn gallu rhoi enw i bob teimlad rydyn ni'n ei gael, pan fyddwn ni'n ei gael.

Oherwydd y gwaith rydych chi'n ei wneud, efallai y byddwch chi wedi bod yn delio â llawer o bethau anodd, ac na fyddwch chi wedi cael amser i feddwl amdanyn nhw'n iawn. Gallai hyn fod yn arbennig o wir am bethau a ddigwyddodd yn ystod y coronafeirws. Efallai eich bod chi'n cael teimladau nawr, o ganlyniad i rywbeth a ddigwyddodd beth amser yn ôl.

Gallai nodi rhai o'r teimladau rydych chi'n eu cael nawr eich helpu chi i ddeall beth allai fod wedi'u hachosi. Ac unwaith y byddwch chi'n gwybod beth wnaeth eu hachosi, efallai y byddwch chi'n teimlo'n fwy parod i ddelio â'r teimladau hyn.

Sut galla i ddechrau cydnabod sut rwy'n teimlo?

Gallai cydnabod sut rydych chi'n teimlo eich helpu i ddeall pam y gwnaethoch chi ymateb yn y fath fodd i rai sefyllfaoedd penodol yn y gorffennol. Er enghraifft, efallai eich bod chi wedi ei chael hi'n anodd cysgu ryw noson, ond na wnaethoch chi gysylltu hynny â'r galwadau anodd y gwnaethoch chi ymateb iddyn nhw y diwrnod hwnnw. Efallai eich bod chi wedi cweryla â rhywun sy'n bwysig i chi, heb wybod yn union pam.

Gallai rhoi eich teimladau mewn geiriau eich helpu chi i ddeall yr emosiynau rydych chi'n eu cael. Gallwch chi wneud hyn mewn sawl ffordd, a bydd pawb yn wahanol. Dyma rai awgrymiadau:

  • Ei ysgrifennu. Mae rhai pobl yn ei chael hi'n ddefnyddiol ysgrifennu am y pethau y maen nhw'n eu teimlo, neu gadw dyddiadur. Os nad ydych chi am ysgrifennu amdanyn nhw, gallech chi roi cynnig ar ffyrdd eraill creadigol o fynegi eich teimladau, fel tynnu llun neu baentio.
  • Ei ddweud yn uchel. Gall siarad am yr hyn y maen nhw'n ei wynebu, neu'r hyn sydd wedi digwydd yn ystod eu diwrnod, helpu rhai pobl i gydnabod sut maen nhw'n teimlo am yr hyn sydd wedi digwydd. Does dim rhaid i chi wneud hyn gyda pherson arall. Gallech chi roi cynnig arni gartref ar eich pen eich hun.
  • Ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar. Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn dechneg sy'n gofyn i chi wneud ymdrech arbennig i sylwi ar yr hyn sy'n digwydd yn y fan a'r lle (yn eich meddwl, eich corff a'ch amgylchedd), heb farnu unrhyw beth. Gall ymwybyddiaeth ofalgar eich helpu chi i sylwi ar y teimladau negyddol a'r teimladau cadarnhaol rydych chi'n eu cael.

“Rydych chi'n ceisio cadw popeth rydych chi'n ei wneud mewn adrannau ar wahân – rydych chi'n ymateb i alwadau cas ac yn ceisio anghofio amdanynt. Ond rydych chi'n delio â'ch pryderon personol ar ben hynny, eich iechyd meddwl chi eich hun – mae'n gwneud y gwaith yn anodd iawn.” – David, parafeddyg

Isod rydyn ni wedi nodi rhai o'r pethau y mae aelodau'r gwasanaeth ambiwlans wedi dweud wrthyn ni eu bod wedi bod yn eu teimlo drwy gydol y pandemig. Efallai eich bod chi'n profi rhai ohonyn nhw, ac efallai hefyd eich bod chi'n profi teimladau nad ydyn nhw wedi'u rhestru yma.

Straen

Pan fyddwn ni'n dweud pethau fel "mae hwn yn achosi straen" neu "dwi'n teimlo straen", mae'n bosibl ein bod ni'n golygu'r canlynol:

  • Sefyllfaoedd neu ddigwyddiadau sy'n rhoi pwysau arnon ni. Adegau pan fydd gennym ni lawer i'w wneud ac i feddwl amdano, neu pan na fydd gennym ni lawer o reolaeth dros beth sy'n digwydd. Er enghraifft, mynd at lawer o gleifion sy'n sâl iawn ac y mae angen gofal brys arnyn nhw.
  • Ein hymateb i gael ein rhoi o dan bwysau. Y teimladau y byddwn ni'n eu cael pan fyddwn ni'n wynebu gofynion y mae'n anodd i ni ymdopi â nhw. Er enghraifft, poeni sut fyddwch chi'n llwyddo i gyrraedd cleifion yn brydlon pan fyddwch chi mor brysur.

Os ydych chi'n profi straen, efallai y byddwch chi'n teimlo:

  • yn bigog, yn ymosodol, yn ddiamynedd neu wedi cynhyrfu
  • wedi'ch llethu
  • yn bryderus, yn nerfus neu'n ofnus
  • fel petai eich meddwl ar ruthr ac na allwch chi ei ddiffodd
  • na allwch chi fwynhau eich hun
  • yn isel
  • nad oes gennych chi unrhyw ddiddordeb mewn bywyd
  • fel petaech chi wedi colli eich synnwyr digrifwch
  • ymdeimlad o ddychryn
  • yn poeni am eich iechyd
  • wedi'ch esgeuluso neu'n unig.

Gorbryder

Gorbryder yw'r hyn rydyn ni'n ei deimlo pan fyddwn ni'n poeni, ar bigau'r drain neu'n ofnus, yn benodol am bethau sydd ar fin digwydd, neu bethau rydyn ni'n meddwl a allai ddigwydd yn y dyfodol.

Gall gorbryder effeithio ar y canlynol:

  • Ein cyrff – teimlo'n sâl, yn aflonydd, neu fel petai eich calon ar ruthr.
  • Ein meddyliau – teimlo ar bigau'r drain neu'n nerfus, neu fel petai'r gwaethaf ar fin digwydd.
  • Ein bywydau pob dydd – gallai hi deimlo'n fwy anodd i chi fwynhau eich amser rhydd, a gall effeithio ar bethau fel eich perthnasoedd a'ch gwaith.

Anaf moesol

Mae anaf moesol yn disgrifio set o deimladau y gallech chi eu cael os bu'n rhaid i chi wneud pethau, neu weld pethau, sy'n mynd yn erbyn eich gwerthoedd a'ch credoau.

Yn ystod y pandemig, gallech chi fod wedi cael eich gorfodi i wneud penderfyniadau anodd am helpu cleifion. Er enghraifft, gallech chi fod wedi gorfod gofalu am un claf, gan wybod bod yna gleifion eraill yr oedd angen eich help arnyn nhw hefyd. Gallai hyn fod wedi achosi gwrthdaro i chi, neu wneud i chi deimlo y gallech chi fod wedi gwneud mwy.

Os byddwch chi'n profi anaf moesol, efallai y byddwch chi'n teimlo:

  • Yn euog
  • Wedi'ch cywilyddio
  • Yn ddig
  • Wedi ffieiddio
  • Gwrthdaro

“Yn aml, byddwn i'n eistedd yn yr unfan, ddim yn gwneud dim byd mewn gwirionedd ond meddwl am y gwaith, a meddwl a oedd yna unrhyw beth arall y gallwn i fod wedi'i wneud.” – Dan, gwasanaeth ambiwlans​

Syrffed ar ddangos trugaredd

Pan fyddwch chi'n gofalu am bobl mewn amgylchiadau gofidus neu anodd yn gyson, gall eich blino'n lân yn gorfforol ac yn feddyliol. Gallwch chi ddod i deimlo nad ydych chi'n poeni am bobl cymaint ag o'r blaen. Caiff y teimlad hwn ei alw'n syrffed ar ddangos trugaredd.

Gallai syrffed ar ddangos trugaredd wneud i chi deimlo:

  • yn ddig neu'n bigog
  • fel petaech chi'n mwynhau eich swydd yn llai
  • yn llai hyderus am wneud penderfyniadau yn y gwaith
  • llai o gymhelliant i wneud eich gwaith.

Trawma

Weithiau, caiff y broses o fynd drwy ddigwyddiadau llawn straen, digwyddiadau dychrynllyd neu ddigwyddiadau gofidus ei galw'n drawma. Mae pawb yn ymateb yn wahanol i drawma. Efallai y byddwch chi'n sylwi ar yr effeithiau'n gyflym. Neu efallai na fyddwch chi'n sylwi arnyn nhw am gyfnod hir wedyn.

Gallai digwyddiad trawmatig wneud i chi deimlo:

  • yn ofnus
  • o dan fygythiad
  • yn llawn cywilydd
  • wedi'ch gwrthod
  • wedi'ch esgeuluso
  • yn annilys
  • yn anniogel
  • heb gefnogaeth
  • wedi'ch maglu
  • wedi'ch cywilyddio
  • yn ddi-rym.

 

Problem iechyd meddwl y gallwch chi ei datblygu ar ôl wynebu digwyddiadau trawmatig yw anhwylder straen wedi trawma (PTSD). Caiff staff gwasanaethau brys a gwirfoddolwyr eu hamlygu i ddigwyddiadau gofidus a thrawmatig, yn ogystal â chael llwyth gwaith heriol. O ganlyniad, maen nhw'n wynebu mwy o risg o ddatblygu anhwylder straen wedi trawma na'r boblogaeth gyffredinol.

Mae gennym ni fwy o wybodaeth am anhwylder straen wedi trawma, yn cynnwys yr achosion, rhai o'r symptomau y gallech eu cael, a'r cymorth sydd ar gael i chi.

“Mae'n anodd iawn rhagweld beth fydd ar y llinell pan fyddwch chi'n clywed y bîp, ac yn ystod bloc o dri diwrnod, roeddwn i'n ddigon anffodus i gael cyfres ddiddiwedd o alwadau trawmatig.” – Daniel, swyddog galwadau meddygol brys

Lludded a blinder meddyliol

Mae lludded a blinder meddyliol yn fwy na theimladau o fod wedi blino. Gall blinder meddyliol ddigwydd os byddwch chi o dan bwysau cyson o ganlyniad i'ch gwaith. Gall wneud i chi deimlo:

  • wedi blino'n lân, heb unrhyw egni o gwbl
  • fel petaech chi'n mwynhau eich gwaith llai, neu nad oes gennych chi unrhyw gymhelliant i'w wneud mwyach
  • fel nad ydych chi'n gwneud eich gwaith cystal ag o'r blaen.
A blue light on top of a vehicle

Blinder meddyliol fel parafeddyg

“Rydych chi'n claddu eich teimladau'n ddwfn, ac weithiau mae'n rhaid i chi wneud hynny er mwyn delio â'r gwaith. Rydych chi'n bwrw ati beth bynnag, ac mae'n cyrraedd pwynt critigol lle mae eich ymennydd a'ch corff yn dweud "dim rhagor". Mae'n rhaid i rywbeth ildio, a'r person sy'n gwneud hynny bob tro, nid y gwaith.”

Euogrwydd

Roedd llawer o bobl yn y gwasanaeth ambiwlans dan bwysau ychwanegol yn ystod y pandemig, ac mae llawer ohonyn nhw yn parhau i fod dan bwysau nawr. Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd ac yn teimlo bod angen seibiant arnoch, mae'n bwysig i chi roi gwybod.

Ond efallai eich bod chi'n teimlo'n euog yn gofyn am gymorth ychwanegol, yn enwedig o wybod bod cynifer o'ch cydweithwyr yn ei chael hi'n anodd hefyd. Efallai eich bod chi'n poeni hefyd am siomi'r cyhoedd. Ceisiwch gofio bod eich llesiant chi yr un mor bwysig â'r bobl rydych chi'n eu helpu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am ble i gael cymorth.

Dicter

Efallai eich bod chi wedi bod yn teimlo'n fwy dig yn ystod y coronafeirws. Er enghraifft, efallai eich bod chi wedi teimlo'n ddig â phobl a dorrodd reolau'r cyfyngiadau symud, gan eich bod chi wedi gweithio mor galed. Efallai eich bod chi wedi teimlo'n ddig ag anwyliaid neu'r cyhoedd os oedden nhw'n gwadu bod y coronafeirws yn bodoli.

Gallai hyn fod wedi teimlo'n fwy anodd byth pan fu'n rhaid i chi drin cleifion nad oedden nhw'n dilyn y rheolau. Gallai fod wedi bwrw eich cymhelliant, neu wneud i chi deimlo fel petaech chi ddim yn mwynhau eich gwaith gymaint.

Datgysylltu

Mae rhai pobl yn ei chael hi'n anodd disgrifio sut maen nhw'n teimlo, yn enwedig os byddan nhw wedi bod drwy brofiad trawmatig. Caiff hyn ei alw weithiau'n ddatgysylltiad.

Os byddwch chi'n datgysylltu, efallai y byddwch chi'n teimlo eich bod chi wedi datgysylltu wrthoch chi'ch hun a'r byd o'ch cwmpas. Er enghraifft, efallai y byddwch chi'n teimlo nad ydych chi'n rhan o'ch corff neu'n teimlo fel petai'r byd o'ch cwmpas yn afreal. Mae datgysylltu yn un ffordd i'r meddwl ymdopi â gormod o straen, fel yn ystod digwyddiad trawmatig.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am ddatgysylltiad, gan gynnwys cyngor ar sut i ofalu amdanoch chi'ch hun pan fyddwch chi'n datgysylltu.

Deall pam rydych chi o bosibl yn teimlo fel hyn

Unwaith y byddwch chi'n deall beth rydych chi'n ei deimlo, gallwch chi ddechrau meddwl beth allai fod wedi achosi rhai o'r teimladau hyn. Efallai y bydd hyn yn gwneud i chi deimlo'n fwy parod i ddelio â nhw.

Gallai rhai o'r pethau isod fod yn cyfrannu at sut rydych chi'n teimlo. Efallai y byddwch chi hefyd wedi cael profiadau nad ydyn nhw wedi'u cynnwys yma.

Delio â digwyddiadau trawmatig

  • Gallai'r ffaith eich bod chi yn y gwasanaeth ambiwlans olygu eich bod chi'n delio â digwyddiadau trawmatig fel rhan o'ch rôl. Mae trawma yn effeithio ar bobl yn wahanol, ond mae rhai effeithiau cyffredin trawma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl y gallech chi eu profi.
  • Gall clywed straeon gan gydweithwyr hefyd deimlo'n drawmatig, hyd yn oed os nad oeddech chi yno'n bersonol.
  • Gall ymdopi â phobl a all fod yn ymosodol yn gorfforol neu'n eiriol fod yn drawmatig.
  • Yn ystod y pandemig, efallai eich bod chi wedi gofalu am fwy o gleifion a oedd yn fwy sâl. Efallai bod hyn wedi gwneud i chi deimlo nad oedd unrhyw seibiant, nac amser i ddod dros y profiad. Efallai eich bod chi'n dal i fod wedi blino'n lân nawr.
  • Os ydych chi'n ateb galwadau neu'n swyddog galwadau meddygol brys, efallai eich bod chi wedi derbyn mwy o alwadau anodd yn ystod y pandemig.
  • Efallai eich bod chi wedi gorfod gwneud newidiadau anodd i'ch ffordd o weithio oherwydd y coronafeirws. Er enghraifft, methu â mynd ag anwyliaid gyda chi yn yr ambiwlans wrth gludo claf i'r ysbyty.
  • Efallai eich bod chi hefyd wedi ymateb i fwy o hunanladdiadau. Darllenwch ein gwybodaeth am beth i'w wneud os ydych chi wedi cael profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad.

Os ydych chi’n teimlo eich bod yn methu â chadw eich hun yn ddiogel, mae’n argyfwng iechyd meddwl.

Gofynnwch am gyngor brys

Patrymau gweithio

  • Gall gwaith shifft, oriau gwaith hir a gweithio ar eich pen eich hun effeithio ar eich iechyd meddwl. Gallant effeithio ar eich patrymau cysgu neu ei gwneud yn anoddach i chi greu trefn reolaidd.
  • Oherwydd y pandemig, efallai bod yr amgylchedd yn y gwaith wedi newid. Er enghraifft, efallai nad ydych chi wedi gallu ymgynnull mewn grwpiau yn yr ystafelloedd egwyl, neu efallai bod mesurau hylendid newydd ar waith. Gallai hyn fod wedi effeithio ar yr agosatrwydd neu'r cyfeillgarwch rhyngoch chi a'ch cydweithwyr. Efallai bod rheolau ychwanegol ar waith nawr.
  • Yn ystod y pandemig, efallai bod y math o alwadau roeddech chi'n eu hateb, neu'r achosion roeddech chi'n ymateb iddyn nhw, wedi newid. Efallai eich bod wedi cefnogi mwy o gleifion sy'n cael argyfwng iechyd meddwl, neu gleifion a oedd yn ffonio 999 yn lle eu meddyg teulu. Efallai bod eich llwyth gwaith wedi cynyddu.
  • Efallai eich bod chi'n wynebu amseroedd trosglwyddo cleifion arbennig o hir mewn ysbytai. Mae'r galw am wasanaethau ambiwlans yn uchel iawn, a allai olygu eich bod chi'n teithio ymhellach i gwmpasu ardaloedd mwy, ac nad ydych chi'n gorffen ar amser yn aml. Gall hyn fod yn flinedig iawn a gall wneud i chi deimlo eich bod chi dan fwy o straen.

“Yn y gwaith, rydyn ni'n gwneud penderfyniadau sy'n newid bywydau mewn sefyllfaoedd mwy anodd nag erioed o'r blaen. Dyma'r penderfyniadau sy'n ein dilyn pan fyddwn ni'n mynd adref.” – Ben, swyddog galwadau brys

Profedigaeth

Gall colli rhywun sy'n bwysig i ni fod yn drychinebus yn emosiynol, a gall profedigaeth gael effaith enfawr ar ein hiechyd meddwl.

Yn ystod y pandemig efallai eich bod wedi colli anwyliaid i'r coronafeirws neu i salwch arall. Efallai na wnaethoch chi lwyddo i fod yno iddyn nhw fel y byddech chi wedi bod eisiau. Efallai eich bod chi hefyd wedi methu mynd i angladdau, neu wedi methu â chynnal angladd fel y byddech chi wedi'i ddychmygu.

Mae gennym ni ​ragor o wybodaeth am brofedigaeth, yn cynnwys ble i gael cymorth.

Newidiadau i berthnasoedd

  • Efallai bod y ffaith eich bod chi o dan straen yn y gwaith, neu eich bod chi'n delio â galwadau anodd, wedi cael effaith ar eich perthnasoedd gartref. Efallai y byddwch chi'n sylwi bod angen cymorth arnoch chi, neu eich bod chi am i bobl adael llonydd i chi. Efallai bod eich gweld chi o dan gymaint o bwysau yn effeithio ar y bobl rydych chi'n byw gyda nhw, neu'r bobl sy'n agos atoch chi. Mae gennym ni ragor o wybodaeth am gefnogi rhywun sydd yn y gwasanaeth ambiwlans – efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi ei rhannu â ffrindiau neu aelodau o'r teulu.
  • Efallai y bydd yn anodd i chi siarad am yr hyn sy'n digwydd yn y gwaith gyda'ch ffrindiau, eich teulu, neu'r bobl sy'n byw gyda chi. Efallai y byddwch chi am eu hamddiffyn, neu efallai nad ydych chi'n meddwl y byddant yn deall. Gall hyn fod yn anodd, yn enwedig os byddwch chi'n teimlo eich bod chi'n methu rhannu eich meddyliau neu eich teimladau.
  • Yn ystod y pandemig, efallai eich bod am gael mwy o gymorth neu fathau gwahanol o gymorth gan eich anwyliaid. Er bod pethau'n mynd yn ôl i sut roedden nhw o'r blaen, efallai eich bod chi'n dal i deimlo effeithiau parhaus y newidiadau hyn mewn perthnasoedd.
  • Dyw pawb ddim yn cael yr un profiadau o'r coronafeirws na'r un ymatebion iddo, ac efallai eich bod chi wedi colli ffrindiau, neu fod perthnasoedd wedi newid, oherwydd eich profiadau gwahanol. Efallai y bydd yn teimlo'n rhyfedd os na fydd y perthnasoedd hyn wedi mynd yn ôl i sut roedden nhw o'r blaen.

Colli allan ar bethau oherwydd y coronafeirws

Efallai y byddwch chi wedi teimlo eich bod chi wedi colli allan ar rannau boddhaus neu bleserus eich swydd yn ystod y pandemig. Neu fel nad oeddech chi'n cael y profiad roeddech chi'n ei ddisgwyl yn y gwasanaeth ambiwlans. Efallai eich bod chi'n dal i deimlo fel hyn, ac efallai eich bod chi'n teimlo fel petaech chi wedi colli'r cariad a oedd gennych chi tuag at y swydd.

Gobeithion ac ofnau

I lawer ohonon ni, roedd y pandemig yn golygu bod pethau roedden ni'n gobeithio y bydden nhw'n digwydd, neu'n edrych ymlaen atyn nhw, yn sydyn yn teimlo'n llai tebygol. Ac efallai y daeth y pethau roedden ni'n eu hofni i deimlo'n agosach at ddod yn wir. Er enghraifft:

  • Efallai eich bod chi wedi bod yn poeni am lefelau staffio cyn y pandemig, ac efallai eich bod chi wedi colli staff yn ystod y cyfnod hwnnw. Efallai eich bod chi'n poeni am golli mwy fyth o staff nawr.
  • Efallai eich bod chi wedi bod yn edrych ymlaen at bethau, fel priodasau neu wyliau tramor. Gallai'r rhain fod wedi cael eu canslo neu eu gohirio. Mae'r pandemig wedi gwneud i bethau deimlo'n fwy ansicr i lawer o bobl, ac efallai eich bod chi'n dal i boeni am ail-wneud y cynlluniau hyn nawr.
  • Os ydych chi'n profi gorbryder iechyd, gallai'r pandemig fod wedi teimlo'n arbennig o anodd i chi ddelio ag ef. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am orbryder iechyd ar wefan Anxiety UK.

Adnoddau a strategaethau ymdopi

Os yw eich gwaith yn ymwneud â helpu eraill, gall deimlo'n anodd cymryd amser i ofalu amdanoch chi'ch hun. Ond mae'n bwysig gofalu am eich llesiant personol. Dyma rai strategaethau ar gyfer ymdopi â rhai o'r pethau y gallech chi fod yn eu teimlo.

Dod o hyd i gymhelliant eto

Does dim rhaid i chi deimlo'n uchel eich cymhelliant drwy'r amser, ac mae llawer ohonon ni'n cael diwrnodau lle mae ein cymhelliant yn is yn y gwaith a gartref. Ond os ydych chi'n teimlo eich bod chi wedi colli rhywfaint o'r cariad a'r mwynhad a oedd gennych chi o'r blaen tuag at eich swydd, efallai y bydd yr awgrymiadau hyn yn ddefnyddiol.

  • Gosodwch nodau y gallwch chi eu cyflawni i chi'ch hun. Ceisiwch ganolbwyntio ar gwblhau nod bach y gallwch chi ei gyflawni bob dydd. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi rannu pob nod yn nodau llai. Os ydych chi'n teimlo bod llawer o dargedau yn gysylltiedig â'ch gwaith yn barod, ceisiwch feddwl am rywbeth nad yw'n ymwneud â'r gwaith.
  • Gwobrwywch eich hun. Ar ôl i chi gwblhau'r nod, gwobrwywch eich hun. Does dim rhaid iddo fod yn rhywbeth mawr. Gallech chi geisio cymryd 15 munud o'ch diwrnod i wneud rhywbeth rydych chi'n ei fwynhau. Er enghraifft, dod o hyd i amser i ddarllen ychydig dudalennau o lyfr, neu fynd â'r ci am dro.
  • Rhowch gynnig ar wneud ymarfer corff. Mae bod yn weithgar yn helpu rhai pobl i ganolbwyntio ac i gymell eu hunain. Gall ymarfer corff wneud i chi deimlo'n fwy egnïol ac ymatebol, yn enwedig os ydych chi'n gwneud gwaith corfforol. Gall deimlo'n anodd mynd ati i wneud ymarfer corff os nad oes gennych chi lawer o gymhelliant, ond gallech chi roi cynnig ar ddechrau drwy wneud pethau bach, gan gynyddu'r ymdrech yn raddol. Darllenwch fwy o awgrymiadau ar sut i ddechrau bod yn actif.
  • Rhowch gynnig ar rywbeth newydd. Gall cyflwyno diddordebau a gweithgareddau newydd yn eich bywyd helpu i ysgogi'r ymennydd, a gall helpu i roi mwy o ffocws i chi. Gallech chi roi cynnig ar wneud ryseitiau newydd i swper, newid eich ymdrechion ymarfer corff, neu ddod o hyd i hobi newydd.

Ymdopi â newid

  • Ystyriwch sut rydych chi'n teimlo. Os ydych chi'n teimlo y gallwch, neilltuwch rywfaint o amser i feddwl sut rydych chi'n teimlo am eich gwaith, eich bywyd cartref, a'ch lles yn gyffredinol. Ceisiwch feddwl sut rydych chi'n teimlo nawr o gymharu â chanol y pandemig, i weld a oes unrhyw wahaniaeth.
  • Canolbwyntiwch ar y pethau y gallwch chi eu rheoli. Mae'n hawdd cael eich llethu gan ansicrwydd, gan beidio â gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol. Efallai bod eich rôl yn y gwasanaeth ambiwlans hefyd yn golygu nad ydych chi'n gwybod pa fath o achosion y byddwch chi'n mynd atynt, na pha fath o alwadau y byddwch chi'n eu hateb bob dydd. Ceisiwch ganolbwyntio ar y pethau y gallwch chi eu rheoli.
  • Sicrhewch fod trefn ddyddiol gennych chi. Gall trefn a strwythur helpu i leihau teimladau o ansicrwydd. Meddyliwch am y pethau cyffredin y gallwch chi eu rheoli. Oes unrhyw beth y gallech chi ei wneud bob dydd, neu bob wythnos, er mwyn gwneud i fywyd deimlo ychydig yn fwy cyson? Os ydych chi'n gweithio patrymau shifft afreolaidd, oes yna bethau y gallech chi eu gwneud yn ystod eich diwrnodau shifft, ac yn ystod y diwrnodau pan nad ydych chi'n gweithio, er mwyn helpu i wahanu'r ddau? Ceisiwch beidio â theimlo bod angen trefn gaeth arnoch chi. Gall cynnwys pethau newydd helpu i'ch cymell a rhoi pethau i chi edrych ymlaen atyn nhw.

“Y peth pwysicaf yw gofalu amdanoch chi'ch hun yn ogystal ag eraill, a sicrhau bod rhywun y gallwch chi drafod eich teimladau ag ef os byddwch chi'n teimlo bod angen i chi wneud hynny.” – Amanda, swyddog cymorth cymheiriaid yn y gwasanaeth ambiwlans

Delio â straen

  • Dywedwch wrth eich rheolwr os ydych chi'n teimlo bod gormod o bwysau arnoch chi. Gallai fod yn anodd trafod eich llwyth gwaith â'ch rheolwr. Efallai eich bod chi'n teimlo na ddylech chi gwyno os yw pawb arall yn ei chael hi'n anodd hefyd, neu fod disgwyl i chi ymdopi. Ond gall anwybyddu arwyddion blinder meddyliol a straen eich blino'n lân yn emosiynol ac yn feddyliol. Siaradwch â'ch rheolwr er mwyn gweld a all eich llwyth gwaith gael ei addasu.
  • Os yw eich rheolwr yn cyfrannu at y straen rydych chi'n ei deimlo, meddyliwch pwy arall y gallech chi siarad â nhw yn y gwaith. Gallech chi fynd at reolwr arall rydych chi'n ymddiried ynddo, cydweithiwr neu rwydwaith staff.
  • Siaradwch â rhywun nad ydych chi'n gweithio gydag ef. Efallai y byddai hi'n well gennych chi drafod eich teimladau â rhywun nad yw yn y gwaith, fel ffrind neu aelod o'r teulu. Gallai deimlo'n anodd siarad ag anwyliaid am y pethau rydych chi'n delio â nhw yn y gwaith, ac efallai y byddwch chi'n teimlo eich bod am eu hamddiffyn rhag rhai pethau. Ond cofiwch, gallwch chi ddewis faint y byddwch chi'n ei ddweud wrthyn nhw. Darllenwch ein hawgrymiadau ar ddechrau sgwrs am iechyd meddwl â'ch ffrindiau a'ch teulu.
  • Cymerwch amser i chi'ch hun. Ceisiwch gynnwys rhywfaint o amser dim ond i chi yn eich diwrnod. Hyd yn oed fynd am dro am 5 munud, neu ddarllen llyfr am 15 munud. Ceisiwch roi blaenoriaeth i hyn, ond peidiwch â bod yn rhy galed arnoch chi'ch hun os na allwch chi ddod o hyd i'r amser weithiau.
  • Rhowch gynnig ar ymwybyddiaeth ofalgar. Gall ymwybyddiaeth ofalgar eich helpu i ganolbwyntio ar y presennol. Gall hefyd eich helpu i glirio eich pen, a gwneud i chi deimlo'n dawelach eich meddwl, a allai helpu wrth ddelio â sefyllfaoedd llawn straen.
  • Treuliwch rywfaint o amser ym myd natur. Gall treulio amser ym myd natur helpu â rhai problemau iechyd meddwl, fel gorbryder ac iselder. Gall hefyd helpu i leihau teimladau o straen. Darllenwch ein syniadau ar gyfer sut i dreulio amser yn mwynhau byd natur.

Darllenwch ragor o wybodaeth am sicrhau meddwl iach yn y gwaith, gan gynnwys awgrymiadau ar sut i ymdopi â straen

“Weithiau, pan fydd gormod yn fy mhen, dyw cerddoriaeth ddim yn gweithio. Dwi'n gorfod gorwedd ar fy ngwely a gofyn i Alexa chwarae cerddoriaeth myfyrio. Gall dim ond canolbwyntio ar eich anadlu â'ch llygaid ar gau wir helpu.” – Ben, swyddog galwadau brys

Teimlo'n fwy cadarnhaol 

Mae'n anghyffredin iawn i unigolion deimlo'n gadarnhaol drwy'r amser, a bydd y rhan fwyaf ohonon ni'n cael cyfnodau o deimlo'n well neu'n waeth. Ond efallai bod gweithio yn ystod y pandemig wedi gwneud i chi deimlo'n waeth amdanoch chi'ch hun, am eich gwaith, neu am gymdeithas yn gyffredinol.

Ceisiwch fod yn garedig i chi eich hun. Sylwch pryd y byddwch chi'n meddwl pethau negyddol amdanoch chi'ch hun. Os oedd eich shifft yn anodd, ydych chi'n dweud wrthych chi'ch hun y dylech chi fod wedi gwneud yn well, neu mai eich bai chi oedd hi pan aeth pethau o chwith? Ceisiwch herio'r meddyliau negyddol hyn. Ceisiwch feddwl am y pethau y gwnaethoch chi'n dda yn lle hynny.

Gallech chi hefyd gymryd seibiant o'r newyddion a'r cyfryngau cymdeithasol. Yn ystod y pandemig yn enwedig, efallai eich bod chi'n teimlo nad oeddech chi'n clywed dim byd ond newyddion drwg. Er nad yw'r coronafeirws yn y newyddion gymaint erbyn hyn, gall gwylio llawer o newyddion neu fod ar y cyfryngau cymdeithasol yn aml deimlo'n llethol o hyd. Does dim angen i chi gael gwared arnyn nhw'n llwyr, ond gallech chi gyfyngu faint o amser y byddwch chi'n ei dreulio yn eu darllen bob dydd.

Gallech chi hefyd geisio meddwl am rai pethau cadarnhaol sy'n digwydd yn eich bywyd, neu bethau rydych chi'n teimlo'n ddiolchgar amdanyn nhw. Gallai hyn fod yn stori newyddion dda y gwnaethoch chi ei chlywed, yn sgwrs gadarnhaol a gawsoch â chydweithiwr, neu'n adeg y gwnaethoch chi chwerthin yn ddiweddar. Gallech chi ysgrifennu eich pethau cadarnhaol, a'u hailddarllen pan fyddwch chi'n teimlo'n isel.

A male and a female Ambulance team member check a bright yellow box of equipment on the back of a bicycle

Cymorth gan gymheiriaid yn y gwasanaeth ambiwlans

“Os ydw i'n teimlo wedi fy llethu, dwi'n cymryd cam yn ôl. Mae'n fy helpu i ffocysu eto ac i fagu nerth newydd. Dwi'n ceisio peidio â bod yn rhy galed arnaf fi fy hun os bydda i'n cael diwrnod gwael, neu os bydda i'n teimlo na wnes i ymdopi cystal ag y dylwn i fod wedi ei wneud.”

 

Meddwl am y dyfodol

Dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol. Yn y gwaith, efallai bod rhai pethau yn dychwelyd i'r ffordd roedden nhw cyn y pandemig. Ac efallai bod rhai pethau, fel mesurau hylendid a llwyth achosion, sy'n teimlo'n wahanol o hyd.

Gallai cael strategaethau ar gyfer ymdopi â phethau wrth i ni symud allan o'r pandemig helpu ag unrhyw deimladau o ansicrwydd neu bryder y gallai fod gennych chi.

  • Rhowch amser i chi'ch hun addasu. Mae pawb yn ymateb mewn ffordd bersonol i'r newidiadau y mae'r coronafeirws wedi'u hachosi. Mae'n bwysig cymryd pethau ar eich cyflymder eich hun. Ceisiwch beidio â rhoi pwysau arnoch chi'ch hun i lenwi eich dyddiadur, neu geisio gwneud llawer o bethau gan fod y cyfyngiadau wedi'u llacio.
  • Rheolwch y pethau y gallwch chi eu rheoli. Ceisiwch ganolbwyntio ar y pethau y gallwch chi eu newid, yn hytrach na'r pethau na allwch chi eu rheoli.
  • Rhannwch eich pryderon â rhywun yn y gwaith. Os ydych chi'n poeni am sut mae'r gwaith wedi newid ers i ni symud allan o'r pandemig, ceisiwch siarad â'ch rheolwr neu rywun arall rydych chi'n ymddiried ynddo yn y gwaith. Gyda'ch gilydd, efallai y byddwch chi'n gallu meddwl am ffyrdd o wneud eich gwaith ychydig yn haws.
  • Atgoffwch eich hun ei bod hi'n iawn i chi deimlo'n bryderus am y dyfodol. Dydyn ni ddim yn gwybod beth a ddaw yn y dyfodol, felly mae'n iawn i chi deimlo'n ansicr yn ei gylch. Mae'n ymateb naturiol. Gallai fod yn ddefnyddiol i chi ddarllen ein hawgrymiadau ar gyfer gofalu amdanoch chi'ch hun pan fyddwch chi'n bryderus.

“Mae siarad gyda fy nghymheiriaid hefyd wedi bod yn help mawr iawn. Mae'n fy helpu i sylweddoli bod yr hyn rwy'n ei brofi yn normal, a bod llawer o bobl yn profi pethau tebyg o bryd i'w gilydd.” – Dan, gwasanaeth ambiwlans 

Dyddiadau pwysig

Efallai eich bod chi wedi profi llawer o newidiadau mawr i'ch bywyd yn ystod y pandemig. Efallai eich bod chi wedi colli anwyliaid, neu wedi colli allan ar ddigwyddiadau pwysig. A phan fydd y dyddiadau pwysig hyn yn codi eto, efallai y byddwch chi'n profi teimladau anodd.

Gall fod yn ddefnyddiol cymryd amser i feddwl am y digwyddiadau sydd wedi cael effaith fawr ar eich bywyd. Os ydych chi am wneud hynny, gallech chi gynllunio rhywbeth i nodi'r dyddiad hwnnw. Gallech chi gyfarfod â phobl eraill y bu effaith arnyn nhw hefyd. Neu, efallai y byddai hi'n well gennych chi dreulio amser yn meddwl ar eich pen eich hun. Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i chi:

Ble i gael cymorth

Gall gofyn am help ar gyfer problem iechyd meddwl fod yn gam pwysig iawn tuag at fod yn iach a chadw'n iach, ond gall fod yn anodd gwybod sut i ddechrau neu ble i droi. Mae llawer o adnoddau, gwasanaethau a sefydliadau sy'n cynnig cymorth iechyd meddwl i bobl yn y gwasanaeth ambiwlans.

Stigma yn y gwasanaeth ambiwlans

Rydyn ni'n gwybod y gall fod yn anodd gofyn am help yn y gwaith, yn enwedig gan eich bod yn treulio cymaint o amser yn helpu eraill. Gall deimlo bod stigma yn y gwasanaeth ambiwlans, lle rydych chi'n teimlo bod yn rhaid i chi fod yn ddewr ac na ddylech chi gyfaddef eich bod yn ei chael hi'n anodd. Mae rhai pobl wedi dweud wrthym ni eu bod nhw'n teimlo eu bod nhw wedi ‘methu’ pan fyddan nhw'n cyfaddef faint mae eu gwaith wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl.

Mae bob amser yn iawn gofyn am help. Gallai gofyn am help eich helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch chi er mwyn gwneud i chi deimlo'n well. Ac os nad ydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn siarad â rhywun yn y gwaith, mae yna sefydliadau eraill a allai helpu.

Os ydych chi'n rheolwr llinell, meddyliwch sut allech chi annog aelodau eich tîm i ddod atoch chi os oes angen siarad arnyn nhw. Gallai fod yn ddefnyddiol i chi ddarllen ein hadnoddau ar ofalu am eich staff. Mae'n cynnwys gwybodaeth am sut i helpu aelodau eich tîm, a sut i greu gweithle sy'n annog meddwl iach.

 

Pryd mae'n iawn i gael cymorth?

Does dim amser penodol ar gyfer pryd y dylech gael cymorth iechyd meddwl. Mae'n iawn gofyn am help bob amser, hyd yn oed os nad ydych chi'n siŵr a oes gennych broblem iechyd meddwl benodol.

Gallech ddewis gofyn am help oherwydd:

  • Eich bod chi'n ei chael hi'n anodd ymdopi â'ch meddyliau a'ch teimladau
  • Bod eich meddyliau a'ch teimladau yn cael effaith ar eich bywyd o ddydd i ddydd
  • Eich bod chi am wybod beth sydd ar gael

Darllenwch ein gwybodaeth am sut i ofyn am help ar gyfer problem iechyd meddwl.

Herio stigma yn y gwasanaeth ambiwlans

“Yn y gwasanaeth ambiwlans, rydyn ni'n hoffi'r teimlad y gallwn ni ymdopi â phopeth, ac weithiau bydd cyfaddef bod rhywbeth o'i le yn codi cywilydd arnoch chi. Ond pobl ydyn ni, nid robotiaid.”

Cymorth gan eich gweithle

Gofynnwch i'ch goruchwyliwr, rheolwr llinell neu gydweithwyr a allwch chi gael gafael ar gymorth arbenigol. Gallai rhai o'r pethau canlynol fod yn ddefnyddiol:

  • Rheoli Risg Trawma (TRiM). Mewn rhai ardaloedd, mae gwasanaethau TRiM yn wynebu ôl-groniadau oherwydd y pandemig a gall fod yn fwy anodd nag arfer i gael gafael arnyn nhw. Efallai y gallech chi droi at rhai o'r pethau eraill yn y rhestr hon yn lle hynny.
  • Ôl-drafodaeth am Straen ar ôl Digwyddiad Critigol (CISD)
  • Llinell gymorth y Rhaglen Cymorth i Weithwyr (EAP)
  • Gwasanaethau cwnsela
  • Grwpiau cymorth gan gymheiriaid, gan gynnwys grwpiau cymorth ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Cymorth gan wasanaethau iechyd galwedigaethol
  • Mae gan lawer o ymddiriedolaethau'r GIG gaplaniaid y gallwch chi siarad â nhw, p'un a ydych chi'n grefyddol ai peidio
  • Hybiau iechyd meddwl a llesiant staff y GIG.

Os ydych chi'n barafeddyg dan hyfforddiant, efallai y bydd cymorth ychwanegol ar gael i chi drwy ddarparwr eich cwrs. Mae ein hwb iechyd meddwl i fyfyrwyr yn cynnwys mwy o awgrymiadau ac adnoddau i unrhyw un sy'n astudio.

Cymorth gan sefydliadau

  • Gwefan sy'n rhestru amrywiaeth o wasanaethau help, gwefannau a chyhoeddiadau am iechyd meddwl ymatebwyr brys yw Blue Light Together. Mae hefyd yn cynnwys straeon go iawn gan bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth ambiwlans.
  • Mae'r Elusen i Staff Ambiwlans yn cynnig cymorth i'r gymuned ambiwlans, gan gynnwys cymorth profedigaeth, adsefydlu corfforol, cymorth ariannol a help arbenigol ar gyfer trawma neu anhwylder straen wedi trawma (PTSD).
  • Mae'r pecyn Gwybodaeth Coronafeirws hwn yn adnodd y gallwch chi ei lawrlwytho am ddim sy'n cynnwys adnoddau i'ch helpu i gefnogi eich iechyd a'ch llesiant wrth weithio â chleifion â'r coronafeirws.
  • Mae Head First yn cynnig adnodd iechyd meddwl da ar-lein am ddim i bobl yn y gwasanaeth ambiwlans. Cafodd ei greu gan y GIG.
  • Mae First Hand yn adnodd ar-lein sydd am ddim i unrhyw un y mae bod yn dyst i hunanladdiad wedi effeithio arnyn nhw, pan nad oedden nhw'n adnabod y person a fu farw. Cafodd ei greu gan yr elusen Grassroots Suicide Prevention.
  • Mae ein hadnodd ar sut i sicrhau iechyd meddwl da yn y gwaith yn cynnwys gwybodaeth am gynnal iechyd meddwl da yn y gwaith, gydag awgrymiadau o ran beth y gallwch chi ei wneud os bydd eich iechyd meddwl yn wael.
  • Mae gwybodaeth ar gael am wahanol linellau cymorth a gwasanaethau gwrando os ydych chi'n wynebu argyfwng a bod angen i chi siarad â rhywun.

Samaritans

116 123 (freephone)
[email protected]
Freepost SAMARITANS LETTERS
samaritans.org

Samaritans are open 24/7 for anyone who needs to talk. You can visit some Samaritans branches in person. Samaritans also have a Welsh Language Line on 0808 164 0123 (7pm–11pm every day).

Cymorth iechyd meddwl proffesiynol

Pan fyddwch chi'n ei chael hi'n anodd ymdopi ac nad yw hunanofal yn ddigon, gall cymorth gan weithiwr proffesiynol wneud gwahaniaeth. Gallai hyn gynnwys:

Mind's services

  • Mind's helplines provide information and support by phone and email.
  • Local Minds offer face-to-face services across England and Wales. These services include talking therapies, peer support and advocacy.
  • Side by Side is our supportive online community for anyone experiencing a mental health problem.

“Fwy na thebyg bod siarad â'm cydweithiwr wedi achub fy mywyd. Cael y cyfle i drafod fy nheimladau â rhywun oedd dechrau proses a arweiniodd at gael diagnosis cywir a thriniaeth ar gyfer y broblem iechyd meddwl a oedd yn effeithio arna i.” – Neil, gwasanaeth ambiwlans

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon fis Mai 2022. Byddwn yn ei diwygio yn 2025.

References are available on request. If you would like to reproduce any of this information, see our page on permissions and licensing.

arrow_upwardYn ôl i'r brig