Seicosis ôl-enedigol a fi

Clear all

Filter

Filter by categories

Clear Blogs
Clear News topics
Clear Location

Posted on 29/03/2017 by Charlotte Harding |

Mae gan Charlotte anhwylder deubegynol a phan mam newydd am y tro cyntaf, profiadol seicosis postpartum, gan gynnwys rhithweledigaethau ystod y cyfnod esgor. Yma, mae hi hefyd yn siarad am sut y profiad hwn yn peri pryder difrifol ar ôl genedigaeth ei hail blentyn.

Cefais ddiagnosis o anhwylder deubegynol pan oeddwn yn 20 oed a phan oeddwn yn 25 oed, es i'n feichiog gyda fy mhlentyn cyntaf. Cyn gynted ag y sylwodd y fydwraig yn fy apwyntiad cyntaf bod gen i anhwylder deubegynol cefais fy atgyfeirio at dîm iechyd meddwl amenedigol Caerdydd.

Dywedodd y fydwraig fod mwy o risg y byddwn yn cael pwl o anhwylder deubegynol ar ôl geni'r babi a dywedodd mewn ffordd ddi-hid am y risg o gael seicosis ôl-enedigol. Fodd bynnag, doedd gen i ddim syniad beth oedd hynny nes i mi ddioddef ohono.

Ar ôl 33 o oriau yn esgor ar fy mhlentyn cyntaf, sylwais ar newid. Dechreuais weld rhithiau – roeddwn yn gweld dynion mewn cotiau gwyn, yn debyg i'r rhai y mae meddygon yn eu gwisgo, yn cerdded i mewn ac allan o'r ystafell esgor a dywedais wrth fy ngŵr a'r fydwraig i ofyn iddyn nhw adael yr ystafell. Dywedon nhw wrtha i nad oedd neb yno ac mai wedi blino gormod oeddwn i siŵr o fod, a bod y nwy ac aer yn gwneud i mi ymddwyn mewn ffordd ryfedd.

Roedd y cyfnod esgor yn hir a thrawmatig. Chefais i ddim cwsg am wythnos a chefais waedlif ôl-enedigol. Anfonwyd fy ngŵr adref dair awr ar ôl i'r babi gael ei eni a chefais fy symud i'r ward mamolaeth.

Roeddwn ar fy mhen fy hun ac yn ofnus, doeddwn i ddim wir wedi dal babi o'r blaen, heb sôn am newid cewyn! Roedd fy mhen yn troi a'r cyfan a glywn oedd pobl yn sibrwd yn y ciwbiclau o'm hamgylch.

Roedd angen i mi adael y lle ac roeddwn yn teimlo fel rhedeg i ffwrdd. Roedd fy mabi yn crïo ac er fy mod yn ei garu, roedd angen i mi adael yr ysbyty.

Eisteddais ar y wal y tu allan i'r ysbyty, ac roedd fel petawn yn edrych ar fywyd rhywun arall. Roeddwn yn teimlo fel cymeriad mewn ffilm.... doedd hyn ddim yn real a doeddwn i ddim yn teimlo'n real.  Roeddwn yn credu fy mod wedi marw.

Y bore wedyn, roeddwn yn disgwyl cael fy rhyddhau. Daeth fy seiciatrydd amenedigol i weld fi ac i weld a oeddwn yn iawn. Dywedais gelwydd, a dywedais fy mod yn iawn, roeddwn am fynd adre a chysgu.

Roedd ofn arna i y bydden nhw'n mynd â'r babi oddi arna i pe bawn yn dweud wrth rywun am y teimladau rhyfedd roeddwn yn eu cael.

Wrth i'r wythnosau fynd heibio, gwaethygodd fy iechyd meddwl. Aeth fy ngŵr â fi at y meddyg a ddywedodd wrtha i fy mod yn dioddef o iselder ôl-enedigol.

Wedes i ddim wrth unrhyw un fy mod yn clywed lleisiau a synau nac ychwaith fy mod yn meddwl bod pawb yn sibrwd amdana i ac yn dweud fy mod yn fam wael. Roedd y paranoia yn ddwys a dechreuais fynd yn rhithiol yn gyflym ac argyhoeddais fy hun fod fy ngŵr yn rhoi cyffuriau i mi. Roeddwn yn gweld ac yn clywed pethau bob dydd.

P'un a oedd yn rhywbeth bach fel llygoden yn rhedeg ar hyd y llawr neu rywbeth mawr fel fy ngŵr yn neidio drwy ffenestr gaeedig. Roedd y rhithweledigaethau mor real, gallwn weld y gwydr yn torri'n deilchion drosof i.

Ar y diwrnod y cefais ddiagnosis o seicosis ôl-enedigol, cafodd y tîm argyfwng ei alw i ddod i'm cartref. Roeddwn yn siarad â'r radio a gwelodd fy ngŵr i'n gwneud hynny. Ceisiais egluro bod y fenyw ar y radio'n siarad â fi, ei bod yn dweud wrtha i am sicrhau bod pawb yn gadael fy nghartref, er mwyn fy niogelu i a'm babi.

Erbyn i mi gael y diagnosis o seicosis ôl-enedigol roedd uned mamau a babanod Caerdydd ar fin cau. Roedd yr ysbyty seiciatrig lleol i oedolion yn opsiwn ar gyfer triniaeth, ond doeddwn i ddim yn gallu mynd â'm babi felly ni fyddai hyn wedi gweithio i mi. Penderfynwyd mai cael triniaeth gartref fyddai orau i mi a blwyddyn ar ôl dechrau'r driniaeth hon, gwnes i wella o'm seicosis ôl-enedigol.

Tra roeddwn yn gwella, ceisiais gymysgu â mamau eraill, ond roedd yn amhosibl. Doeddwn i ddim yn gallu bwydo fy mabi ar y fron fel mamau eraill, doeddwn i ddim yn gwneud fy mwyd fy hun ac yn ei gymysgu fel mamau eraill...roedd y feddyginiaeth yn gwneud i mi deimlo mor wael fel mai prin y gallaf gofio blwyddyn gyntaf fy mab.

Anaml y ceir achosion o seicosis ôl-enedigolMae'n effeithio ar tua un o bob 1,000 o bobl ond mae'n real iawn a gall ddigwydd i unrhyw un. Rwyf wedi goroesi y salwch, ond yn anffodus nid yw'n gwneud cymaint.

Roedd fy ail feichiogrwydd yn rhyfedd. Camesgorais ychydig cyn i mi fynd yn feichiog gyda fy mabi enfys felly roeddwn ar bigau'r drain yn ystod y beichiogrwydd.

Roeddwn yn poeni, ac yn ogystal ag ofni y byddwn yn colli babi arall, roeddwn hefyd yn poeni am fy iechyd meddwl. Meddyliais am y seicosis ôl-enedigol roeddwn newydd wella ohono a'r misoedd o driniaeth a gefais. Roeddwn yn dechrau teimlo'n dda eto; roeddwn yn dechrau bondio gyda fy mhlentyn cyntaf.

Wrth i'r misoedd fynd heibio, anwybyddais y bwmp oedd yn tyfu'n gyflym, canolbwyntiais ar fy nghyntaf enedig a rhoddais gymaint o gariad a sylw â phosibl iddo. Doeddwn i ddim am gysylltu â'r bwmp, roeddwn wedi gwneud hynny y tro cyntaf ac edrychwch beth ddigwyddodd bryd hynny. Doeddwn i ddim yn mynd i dderbyn bod y bwmp yn fabi nes iddo gael ei eni.

Ar ôl geni fy ail blentyn, roeddwn yn teimlo'n eithaf da o ystyried popeth. Roedd yr enedigaeth yn gyflym a syml, a theimlais fond ar unwaith a doeddwn i ddim yn profi unrhyw seicosis. Fodd bynnag, roeddwn ar fin dioddef o bryder ôl-enedigol.

Doedd y pryder ôl-enedigol ddim mor ddwys â'r seicosis ôl-enedigol, ond roeddwn yn teimlo ei fod yn anoddach ei drin. Mae pryder ôl-enedigol yn niweidiol iawn, gall droi rhywun sy'n hapus a rhadlon yn berson nerfus iawn. Gall wneud y tasgau symlaf bron yn amhosibl i'w cyflawni, ond i'ch anwyliaid, rydych yn edrych yn iawn ac yn ymddangos fel petaech yn gallu gwneud pethau, felly mae'n rhaid bod popeth yn iawn

Roedd y pryder yn ddwys. Roeddwn wedi dioddef o bryder cymdeithasol am gyfnod pan oeddwn yn fy arddegau, felly roeddwn yn teimlo fy mod yn ôl i'r dechrau'n deg. Doeddwn i ddim yn gallu camu y tu allan i'r drws ffrynt ar fy mhen fy hun rhag ofn y byddwn yn cael pwl o banig ac yn marw, a doeddwn i ddim yn gallu bod ar fy mhen fy hun rhag ofn y byddwn yn llewygu ac yna byddai fy mhlant ar eu pen eu hunain yn y cartref.

Roedd y pryder wedi gafael yn dynn ynof o'r diwrnod y cyrhaeddais adref o'r ysbyty gyda fy ail blentyn. O fewn pythefnos i roi genedigaeth roeddwn yn pwyso llai nag yr oeddwn cyn i mi fynd yn feichiog.

Collais bwysau mor gyflym am fod y pryder eithafol mor wael fel bod y meddygon yn poeni amdana i a chefais bob math o brofion, ond dim ond ychwanegu at fy mhryder y gwnaeth hyn.

Doedd y pryder ôl-enedigol ddim mor ddwys â'r seicosis ôl-enedigol, ond roeddwn yn teimlo ei fod yn anoddach ei drin. Cymerodd 15 mis i mi ddechrau teimlo'n fwy sefydlog a hyd yn oed nawr dwi'n cael pyliau o bryder a phanig, rhywbeth na fydd byth yn diflannu sai'n credu.


I gael rhagor o wybodaeth am ymdopi â'r materion Charlotte wedi ddisgrifir yma, gweler ein gwybodaeth ar  iechyd meddwl amenedigol 


 

Categories: Anxiety | Bipolar | Hearing voices | Paranoia | Postnatal depression (PND)

Group

Charlotte Harding

Charlotte yn fam i ddau, ac ymgyrchydd iechyd meddwl a siaradwr.

comments powered by Disqus

Mental Health A-Z

Information and advice on a huge range of mental health topics

> Read our A-Z

Training

Helping you to better understand and support people with mental health problems

> Find out more

Special offers

Check out our promotional offers on print and digital booklets, for a limited time only

> Visit our shop today