Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Trawma

Mae'r adran hon yn egluro beth yw trawma a sut mae'n effeithio ar eich iechyd meddwl, a hefyd sut y gallwch eich helpu'ch hun, pa driniaethau sydd ar gael a sut i oresgyn rhwystrau er mwyn cael y cymorth priodol. Mae hefyd yn cynnwys cyngor i bobl sydd am helpu rhywun sydd wedi profi trawma.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Mae trawma yn gallu achosi teimladau cryf a phrofiadau anodd. Er bod angen amser a chymorth weithiau i allu ymdopi, mae pethau y gallwch geisio eu gwneud a allai'ch helpu i ddelio â beth sy'n digwydd ar y pryd.

Bydd gwahanol bethau'n gweithio ar wahanol adegau i wahanol bobl, felly ceisiwch beidio â bod yn galed arnoch chi'ch hun os na fydd rhai pethau'n helpu. Efallai y byddwch chi'n meddwl am eiriau o gyngor i chi'ch hun dros amser hefyd.

Os byddwch chi'n meddwl am hunanladdiad

Mae ein tudalen ar deimladau hunanladdol yn cynnwys cynghorion ymarferol ar beth allwch ei wneud ar y pryd i'ch helpu i ymdopi. Os ydych yn teimlo na allwch aros yn ddiogel ar y pryd, gofynnwch am help ar unwaith:

Fydda i byth yn teimlo'n ddiogel, felly mae creu noddfa neu ddod o hyd i le hamddenol i fynd iddo ar fy mhen fy hun (fel mainc fach mewn parc) yn gallu fy helpu i deimlo'n ddiogel.

Beth allech chi ei wneud i ddod drwyddo:

  • dweud wrthych eich hun eich bod yn ddiogel
  • cyffwrdd neu ddal gwrthrych sy'n eich atgoffa o'r presennol
  • disgrifio'r pethau o'ch cwmpas yn uchel
  • cyfrif gwrthrychau o fath neu liw penodol.

Mae rhagor o gynghorion ar ein tudalen ar hunanofal ar gyfer PTSD.

 

Beth allech chi ei wneud i ddod drwyddo:

  • anadlu i mewn ac allan yn araf wrth gyfrif i bump
  • stampio'r llawr lle rydych chi'n sefyll
  • sugno gwm neu bethau melys â blas mint
  • cyffwrdd neu afael mewn rhywbeth meddal.

Mae rhagor o gynghorion ar ein tudalen ar byliau o banig.

 

Beth allech chi ei wneud i ddod drwyddo:

  • cnoi darn o sinsir neu tshili
  • curo'ch dwylo a sylwi ar y teimlad llosg
  • yfed gwydraid o ddŵr sy'n oer fel rhew.

Mae rhagor o gynghorion ar ein tudalen ar hunanofal am anhwylderau datgysylltiad.

Mae arogleuon penodol yn fy sbarduno, fel aroglau alcohol, neu liw penodol. Felly er mwyn sefydlogi fy synhwyrau, byddaf bob tro yn defnyddio pethau nad ydyn nhw'n sbarduno pyliau.

Beth allech chi ei wneud i ddod drwyddo:

  • gwneud diod boeth i chi'ch hun a'i hyfed yn araf, gan sylwi ar y blas a'r aroglau, siâp y gwpan a'i phwysau yn eich llaw
  • anadlu'n ddwfn ddeg gwaith gan gyfrif pob anadliad yn uchel
  • ysgrifennu popeth y gallwch feddwl amdano am y lle rydych chi ar y pryd, fel yr amser, dyddiad, lliw'r waliau a'r dodrefn yn yr ystafell
  • cael bath neu gawod gynnes – gall hyn helpu i newid eich hwyliau drwy greu awyrgylch tawel a theimlad corfforol i fynd â'ch meddwl oddi ar bethau sy'n eich poeni.

Mae rhagor o gynghorion ar ein tudalen ar hunanofal am orbryder.

Beth allech chi ei wneud i ddod drwyddo:

  • rhoi blanced amdanoch a gwylio'ch hoff raglen deledu
  • ysgrifennu'ch holl deimladau negyddol ar ddalen o bapur a'i rhwygo'n ddarnau
  • gwrando ar gân neu ddarn o gerddoriaeth sy'n codi'ch calon
  • ysgrifennu llythyr cysurlon at y rhan ohonoch chi sy'n teimlo'n drist neu'n unig
  • rhoi mwythau i anifail anwes neu degan meddal.

Mae rhagor o gynghorion ar ein tudalen ar hunanofal am iselder.

Mae'n help os byddaf i'n gwneud nodyn o'r pethau sy'n digwydd bob dydd mewn llyfr nodiadau, hyd yn oed os ydw i wedi cael diwrnod gwael.

Beth allech chi ei wneud i ddod drwyddo:

  • rhwbio rhew dros y man lle rydych am eich brifo'ch hun
  • glynu tâp gludiog neu blaster wrth eich croen a'i bilio'n rhydd
  • cael bath oer.

Mae rhagor o gynghorion ar ein tudalen ar eich helpu'ch hun i ymdopi â hunan-niweidio.

Bydd miwsig yn fy helpu bob tro. Gorwedd â'r clustffonau am fy mhen a chau'r byd allan yw'r ffordd orau i mi stopio pyliau o banig/meddwl gormod.

Mae rhagor o gynghorion ac awgrymiadau ar wefannau Cwm Taf.

Mae gwefan One in Four yn cynnig cynghorion ar hunanofal sydd wedi'u bwriadu'n benodol ar gyfer pobl sydd wedi'u treisio neu eu cam-drin yn rhywiol, a gallant fod o gymorth hefyd i ymdopi â mathau eraill o drawma.

Siarad am byliau o banig

Gwyliwch y fideo hwn i weld Lewis, Polly, Faisal, Shelley a Brian yn siarad am y profiad o gael pwl o banig a beth sydd wedi'u helpu i ymdopi â hyn.

Mae cadw dyddlyfr yn fy helpu i brosesu pethau pan fydd fy nwylo'n gadael i mi wneud hynny. Gallwch ddewis wedyn beth i'w wneud ag ef, ei rwygo'n ddarnau, ei losgi mewn ffordd ddiogel. Beth bynnag sy'n teimlo'n iawn ar y pryd.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Ionawr 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2022.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig