Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Teimladau hunanladdol

Yn egluro beth yw teimladau hunanladdol, a beth allwch chi ei wneud os ydych chi’n teimlo fel lladd eich hun. Mae hefyd yn trafod achosion, triniaethau ac opsiynau cymorth ar gyfer teimladau hunanladdol.

 

Os ydych chi’n teimlo eich bod yn methu â chadw eich hun yn ddiogel, mae’n argyfwng iechyd meddwl.

Gofynnwch am gyngor brys

Efallai y byddwch yn teimlo mor ddigalon, blin ac mewn poen fel eich bod yn credu na fydd y teimladau hyn byth yn mynd. Ond mae’n bwysig cofio na fedran nhw bara am byth, ac na fyddan nhw’n para am byth. Fel pob teimlad, bydd y rhain hefyd yn mynd.

Mae camau y gallwch eu cymryd nawr i atal eich hun rhag gweithredu ar eich meddyliau hunanladdol. Mae pawb yn wahanol, felly mae’n fater o ddarganfod beth sy’n gweithio orau i chi.

Dyma rai awgrymiadau ymarferol sydd wedi helpu pobl eraill pan oedden nhw’n cael teimladau hunanladdol.

Dod drwy’r pum munud nesaf

Gall cymryd pethau un munud ar y tro eich helpu i wneud pethau ychydig yn haws i’w goddef. Gwobrwywch eich hun bob tro mae pum munud wedi mynd heibio.

Defnyddiwch ein hofferyn 'Mae arna i angen help ar frys' i gael syniadau ymarferol i’ch helpu i ddod drwy’r pum munud nesaf.

Symud unrhyw beth y gallech ei ddefnyddio i achosi niwed i chi eich hun

Symudwch unrhyw eitemau neu bethau y gallech eu defnyddio i niweidio eich hun, neu gofynnwch i rywun arall symud y rhain i chi. Neu os ydych mewn lleoliad sydd ddim yn ddiogel, symudwch i rywle mwy diogel.

Dilyn eich cynllun diogelwch neu gynllun argyfwng

Os oes gennych gynllun diogelwch neu gynllun argyfwng, dilynwch y cynllun.

Mae’r cynlluniau hyn yn ffordd dda o gadw syniadau ar gyfer helpu eich hun pan na fyddwch yn teimlo’n dda.

Dweud wrth rywun sut rydych yn teimlo

Boed yn ffrind, aelod o’r teulu neu hyd yn oed anifail anwes, gall dweud wrth rywun arall sut rydych yn teimlo eich helpu i deimlo’n llai unig a theimlo bod gennych fwy o reolaeth dros y sefyllfa.

Pan oedd pethau’n ddrwg iawn, ac roedd y temtasiwn i niweidio fy hun yn ddrwg iawn, byddwn yn cael fy nheulu i guddio pethau peryglus rhag mod i’n eu gweld nhw ac yn mynd i’r gwely.

 

Trio technegau ymdopi â hunan-niweidio

Os ydych yn meddwl am niweidio eich hun, gallech geisio defnyddio technegau ymdopi â hunan-niweidio.

Er enghraifft, gallech:

  • ddal blocyn o rew yn eich llaw nes bydd yn toddi a chanolbwyntio ar ba mor oer mae’n teimlo
  • rhwygo rhywbeth yn gannoedd o ddarnau bach
  • cymryd bath neu gawod oer iawn.

Edrychwch ar ein tudalen awgrymiadau er mwyn ymdopi â hunan-niweidio i gael mwy o syniadau.

Canolbwyntio ar eich synhwyrau

Gall cymryd amser i feddwl beth rydych yn gallu ei arogli, blasu, cyffwrdd, clywed a gweld eich helpu i feddwl am y rheswm dros eich meddyliau.

Anadlu’n arafach

Cymrwch anadl ddofn, hir. Gall anadlu allan am fwy o amser nag yr ydych yn anadlu i mewn eich helpu i deimlo’n llai cynhyrfus.

Gofalu am eich anghenion

Os gallwch, trïwch wneud y canlynol:

  • mynd i nôl diod o ddŵr
  • bwyta rhywbeth os ydych yn teimlo’n llwglyd
  • eistedd mewn lle cyfforddus
  • ysgrifennu sut rydych yn teimlo.

Ceisiwch osgoi yfed alcohol neu gymryd cyffuriau hamdden, gan fod hyn yn gallu gwneud i chi deimlo’n waeth. 

Mynd allan

Os ydych yn teimlo bod eich corff yn ddideimlad, ewch allan a theimlwch y glaw, yr haul neu’r gwynt yn erbyn eich croen. Gall hyn eich helpu i deimlo mwy o gysylltiad â’ch corff.

Cysylltu â llinell gymorth neu wasanaeth gwrando

Os nad ydych yn gallu siarad gyda rhywun rydych yn ei adnabod, ffoniwch linell gymorth neu wasanaeth gwrando.

Er enghraifft, gallech ffonio’r Samariaid ar 116 123 os ydych eisiau siarad â rhywun ynglŷn â sut rydych yn teimlo unrhyw bryd. 

Neu os byddai’n well gennych beidio â siarad dros y ffôn, gallech drio gwasanaeth testun, er enghraifft gwasanaeth testun argyfwng Shout  – tecstiwch SHOUT i 85258.

Defnyddio gwasanaeth cefnogaeth gan gymheiriaid ar-lein

Gallech drio defnyddio gwasanaeth cefnogaeth gan gymheiriaid ar-lein i siarad ynglŷn â sut rydych yn teimlo. Er enghraifft, gallech drio Elefriends, cymuned ar-lein gefnogol Mind.

Weithiau mae’n fater o oroesi a chanolbwyntio ar rywbeth sy’n real nes bydd y teimladau’n haws i ddelio gyda nhw.

Taro bargen â chi eich hun i beidio â gweithredu heddiw

Gwnewch gynlluniau i gael cymorth os nad ydych yn cael cymorth yn barod. Edrychwch ar ein tudalen am driniaeth a chefnogaeth i gael gwybodaeth ynglŷn â gwahanol ffyrdd o gael help.

Darganfod eich rhesymau i fyw

Efallai y byddwch yn teimlo y byddai’r byd yn well lle heboch chi neu nad oes pwrpas byw, ond dydy hyn byth yn wir. Gallech drio’r canlynol:

  • Ysgrifennwch beth rydych yn edrych ymlaen ato. Gallai hyn fod yn fwyta eich hoff bryd bwyd, gweld rhywun sy’n annwyl i chi neu weld y bennod nesaf o raglen deledu.
  • Gwnewch gynlluniau i wneud rhywbeth rydych yn ei fwynhau yfory neu yn y dyfodol agos. Does dim rhaid i gynlluniau fod yn rhai mawr na chostus.
  • Meddyliwch am y bobl rydych yn eu caru. Dim bwys pa mor wael rydych yn teimlo, mae’n bwysig cofio y byddai’r bobl hyn yn eich colli chi.

Bod yn garedig â chi eich hun

Siaradwch â chi eich hun fel pe baech yn siarad â ffrind da. A thrïwch wneud rhywbeth neis i chi eich hun.

Gallai hyn fod yn rhywbeth fel cael bath, lapio eich hun mewn blanced a gwylio eich hoff ffilm.

Efallai fod y syniadau hyn yn swnio’n wirion, ond mae’n hawdd anghofio gwneud rhywbeth neis i chi eich hun.

Dweud wrthych eich hun y gallwch ddod drwy hyn

Weithiau, gallwn ganolbwyntio ar y pethau negyddol rydym yn eu dweud wrthym ein hunain a cholli gobaith.

Gall ailadrodd wrthych chi eich hun y gallwch ddod drwy’r teimladau hyn eich helpu i adennill gobaith a chanolbwyntio ar ddod drwy’r teimladau.

Yn hytrach na chanolbwyntio ar yr holl feddyliau negyddol anobeithiol ynglŷn â bod yn faich i bobl eraill ac yn dda i ddim, canolbwyntiwch ar drio credu na fydd hyn yn para am byth a meddwl am ffordd o ddod drwy hyn yn ddiogel.

 

Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf yn Ebrill 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig