Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Straen

Yn esbonio beth yw straen, beth allai ei achosi a sut y gall effeithio arnoch chi. Yn cynnwys gwybodaeth am sut y gallwch chi helpu eich hun a sut i gael cymorth.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Rheoli straen a meithrin gwydnwch

Gall bod yn barod am gyfnodau o straen ei gwneud hi'n haws ymdopi â nhw. A gall gwybod sut i reoli ein lles ein helpu i adfer ar ôl digwyddiad sy'n peri straen. Mae'n well gan rai ohonom ni gyfeirio at ein gallu i reoli straen fel gwydnwch.

Mae pethau y gallwn ni roi cynnig arnyn nhw i feithrin ein gwydnwch rhag straen. Ond mae ffactorau hefyd a allai ei gwneud hi'n anoddach bod yn wydn, fel wynebu gwahaniaethu neu ddiffyg cymorth.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

Rhwystrau i wydnwch

Gall y termau 'gwydnwch' a 'rheoli straen' olygu pethau gwahanol i bobl wahanol. Efallai ein bod ni'n eu deall yn wahanol am fod ein profiadau'n llywio'r ffordd rydyn ni'n teimlo straen, a pha mor hawdd rydyn ni'n gallu ymateb iddo.

Efallai y bydd rhai pobl yn meddwl bod ein hymateb i straen yn rhywbeth sy'n hawdd ei reoli. Ond nid felly y mae. Mae rhai o'r pethau sy'n peri straen y tu hwnt i'n rheolaeth. Ac nid yw rhai o'r ffyrdd o reoli straen a meithrin gwydnwch bob amser ar gael i ni.

Mae hyn yn golygu bod delio â straen yn rhywbeth personol iawn – gall fod yn anoddach i rai ohonon ni nag i eraill. Mae rhai o'r profiadau a all ei gwneud hi'n anoddach gynnwys:

  • Cyflwr iechyd corfforol hirdymor
  • Problem iechyd meddwl
  • Gwahaniaethu a chasineb, gan gynnwys hiliaeth, homoffobia, deuffobia neu drawsffobia
  • Byw yn bell oddi wrth deulu neu ffrindiau, neu gydberthnasau anodd â nhw
  • Unigrwydd
  • Tlodi neu bryderon am arian, gan gynnwys problemau dyled neu fudd-daliadau
  • Byw mewn ardal â diffyg mynediad at wasanaethau gofal iechyd, trafnidiaeth gyhoeddus a mannau gwyrdd
  • Bod yn rhiant unigol
  • Bod yn ofalwr
  • Tai o ansawdd gwael
  • Diffyg diogelwch, fel byw mewn ardaloedd â diffyg gwasanaethau plismona

Mae ymchwil yn dangos ei bod hi'n haws meithrin gwydnwch heb y rhwystrau hyn. Ond mae llawer o'r pethau hyn yn anodd neu'n amhosibl eu newid.

Cofiwch: os byddwch chi'n wynebu'r rhwystrau hyn, nid eich bai chi yw hynny. Ac nid eich cyfrifoldeb chi yw dileu'r rhwystrau hyn eich hun.

Rwy'n credu mai achos sylfaenol fy ngorbryder a'm straen oedd hiliaeth. Cafodd hyn ei waethygu ymhellach gan microymosodiadau yn yr ysgol a'r brifysgol.

Cyngor ar reoli straen

Dyma rai awgrymiadau y gallech chi roi cynnig arnyn nhw i'ch helpu i reoli straen a meithrin eich gwydnwch. Ni fydd rhoi cynnig ar y syniadau hyn yn dileu'r holl straen yn eich bywyd.  Ond gallai gwneud hynny eich helpu chi i ymdopi â sefyllfaoedd sy'n peri straen.

Gofalu am eich lles

Gall gofalu am eich lles eich helpu i reoli straen. Bydd pethau gwahanol yn gweithio i bobl wahanol, ond dyma rai syniadau y gallech chi roi cynnig arnyn nhw:

  • Byddwch yn garedig i chi'ch hun. Gall dysgu bod yn fwy caredig i chi'ch hun eich helpu chi i deimlo'n wahanol mewn sefyllfaoedd gwahanol. Ceisiwch gymryd seibiannau yn ystod y dydd i wneud pethau sy'n rhoi pleser i chi. A rhowch wobr i chi eich hun am eich cyflawniadau, hyd yn oed os byddan nhw'n ymddangos yn fach.
  • Ceisiwch neilltuo amser i ymlacio. Gallai hyn deimlo'n anodd os yw'n amhosibl atal sefyllfa sy'n peri straen i chi. Ond bydd cymryd seibiant byr yn eich helpu chi i deimlo'n well. Gallwch gael awgrymiadau a syniadau ar gyfer ymarferion ar ein tudalennau ar ymlacio.
  • Ceisiwch ddatblygu eich diddordebau a'ch hobïau. Gallai treulio amser yn gwneud pethau sy'n rhoi pleser i chi helpu i symud eich meddwl oddi ar sefyllfa sy'n peri straen. Os yw straen yn gwneud i chi deimlo'n unig, gall hobïau cyffredin hefyd fod yn ffordd dda o gwrdd â phobl newydd.
  • Treuliwch amser ym myd natur. Gall hyn helpu i leihau straen a gwella lles. Gallech chi fynd am dro mewn man gwyrdd, gofalu am blanhigion dan do, neu dreulio amser gydag anifeiliaid. Mae ein tudalennau ar fyd natur ac iechyd meddwl yn cynnig rhagor o wybodaeth.
  • Gofalu am eich iechyd corfforol. Gall cael digon o gwsg, cadw'n egnïol yn gorfforol a bwyta deiet cytbwys ei gwneud hi'n haws rheoli straen. Gall straen ei gwneud hi'n anodd gofalu am y pethau hyn weithiau. Ond gall y newidiadau lleiaf wneud gwahaniaeth mawr.

Gallwch gael rhagor o gyngor ar gefnogi eich hun ar ein tudalennau ar les.

Os ydych chi'n teimlo dan straen, byddwn i'n eich cynghori i fod yn garedig i chi'ch hun. Chi yw man cychwyn popeth.

Ehangu eich rhwydwaith cymorth

Mae ymchwil yn dangos bod cael rhwydwaith cymorth da yn gallu helpu i feithrin gwydnwch a'i gwneud hi'n haws rheoli straen. Gall cymorth gan bobl rydych chi'n ymddiried ynddyn nhw ei gwneud hi'n haws rheoli sefyllfaoedd sy'n peri straen.

Gallai'r cymorth hwn gynnwys:

  • Ffrindiau a theulu. Weithiau gall rhannu eich teimladau â'r bobl sy'n agos atoch chi wneud gwahaniaeth mawr. Efallai y byddan nhw'n gallu helpu gyda rhai o'r pethau sy'n peri straen i chi.
  • Cymorth yn y gwaith. Er enghraifft, gan eich rheolwr, yr adran adnoddau dynol, cynrychiolwyr undeb neu gynllun cymorth i gyflogeion. Mae eich lles yn bwysig a dylai cyflogwyr cyfrifol ei gymryd o ddifrif. Os ydych chi'n poeni efallai na fydd eich gweithle yn eich cefnogi chi, mae ein tudalen ar waith a straen yn cynnig rhai cynghorion a all helpu. Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wybodaeth am straen sy'n gysylltiedig â gwaith a all helpu hefyd.
  • Cymorth yn y brifysgol neu'r coleg. Er enghraifft, gan eich tiwtoriaid, undeb y myfyrwyr neu'r gwasanaethau myfyrwyr. Gallwch gael rhagor o awgrymiadau ar sut i gael cymorth fel myfyriwr ar ein tudalennau ar fywyd fel myfyriwr.
  • Cymorth gan gymheiriaid. Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd ymdopi, gall siarad â phobl sydd â theimladau neu brofiadau tebyg helpu. Gallai hyn fod wyneb yn wyneb mewn grŵp cymorth gan gymheiriaid, neu drwy gymuned ar-lein fel Ochr-yn-Ochr Mind. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar gymorth gan gymheiriaid.

Mae'r ymennydd fel injan; os byddwch chi'n ei rhedeg drwy'r dydd heb edrych ar yr olew a'r dŵr, bydd yn torri.

Nodi'r pethau sy'n sbarduno straen

Gall gweithio allan beth sy'n sbarduno straen eich helpu i baratoi ar ei gyfer. Hyd yn oed os na allwch chi osgoi'r sefyllfaoedd hyn, gall bod yn barod amdanyn nhw helpu. Gallai gwybod beth y gallwch chi ac na allwch chi ei newid eich helpu i weithio allan y ffordd orau o ddelio â straen.

Treuliwch amser yn meddwl am sefyllfaoedd a allai beri straen i chi. Gallech chi wneud hyn ar eich pen eich hun, neu gyda rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo. Gallech chi ystyried:

  • Sefyllfaoedd sy'n codi'n aml ac rydych chi'n poeni amdanyn nhw, fel talu bil neu fynd i apwyntiad.
  • Digwyddiadau penodol sydd ar eich meddwl yn aml, fel symud tŷ neu sefyll arholiad.
  • Digwyddiadau parhaus sy'n peri straen, fel bod yn ofalwr neu wynebu gwahaniaethu.
  • Rhywbeth rydych chi'n poeni y bydd yn digwydd eto, fel mynd yn ôl i rywle lle cawsoch chi brofiad gwael.

Weithiau, gall myfyrio ar y pethau hyn achosi gofid. Os yw cofio neu siarad am y profiadau hyn yn gwneud i chi deimlo'n waeth, gallwch roi'r gorau i wneud hynny.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n peri straen neu ofn y gall fod yn anodd siarad amdanyn nhw ar ein tudalennau ar drawma.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod eich teimladau chi. Bod yn onest am y ffordd rydych chi'n teimlo. Os nad ydych chi'n hapus gyda sefyllfa, mae'n iawn cerdded i ffwrdd. Mae hefyd yn iawn gofyn am help.

Stressed about exams? We have info for young people to help you cope with exam stress at school or college

Trefnu eich amser

Efallai y bydd rhai ohonon ni'n teimlo dan straen am fod gennyn ni lawer o bethau i'w rheoli yn ein bywydau. Gall newid y ffordd rydyn ni'n trefnu ein hamser ein helpu ni i deimlo bod gennym ni fwy o reolaeth dros bethau.

Os ydych chi'n credu y gallai hyn helpu, gallech chi wneud y canlynol:

  • Ceisio nodi pryd rydych chi'n teimlo fwyaf egnïol, er enghraifft yn y bore neu gyda'r nos. Os yw'n bosibl, gwnewch eich tasgau pwysicaf tua'r adeg honno o'r dydd, i'ch helpu i ganolbwyntio'n well.
  • Llunio rhestr o'r pethau sydd gennych chi i'w gwneud. Rhowch nhw yn nhrefn pwysigrwydd. Ceisiwch ganolbwyntio ar y peth pwysicaf gyntaf. Efallai y bydd hi'n ddefnyddiol creu amserlen, er mwyn cynllunio pryd i dreulio amser ar bob tasg.
  • Gosod targedau bach ymarferol. Pan fyddwn ni'n teimlo dan straen, mae'n hawdd gosod nodau mawr neu afrealistig i ni'n hunain. Gallai hyn gynnwys ceisio goresgyn sefyllfa sy'n gwneud i ni deimlo dan straen. Ond yn aml, gall hyn beri mwy o straen a rhwystredigaeth i ni, os byddwn ni'n methu â chyrraedd ein targedau. Gall gosod nodau llai, mwy ymarferol ein helpu i deimlo'n fwy bodlon a bod gennym ni fwy o reolaeth dros bethau.
  • Amrywio eich gweithgareddau. Ceisiwch gydbwyso tasgau diflas â rhai mwy diddorol. A chymysgwch dasgau sy'n peri straen i chi â'r rheini rydych chi'n ei chael hi'n haws eu gwneud neu y gallwch chi eu gwneud yn fwy pwyllog.
  • Ceisio peidio â gwneud gormod ar unwaith. Os byddwch chi'n ceisio gwneud gormod, efallai y byddwch chi'n ei chael hi'n anoddach gwneud unrhyw un dasg yn dda. Gallai hyn beri mwy o straen byth i chi.
  • Bod yn glir ag eraill am yr hyn y gallwch chi ei wneud. Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai na fydd hi bob amser yn bosibl dweud 'na', na dweud wrth bobl sut yn union rydych chi'n teimlo. Ond os gallwch chi, dywedwch wrth bobl os yw'r hyn maen nhw'n ei ofyn yn afresymol neu'n afrealistig.
  • Cymryd seibiannau a chymryd un cam ar y tro. Gallai fod yn anodd gwneud hyn pan fyddwch chi'n teimlo dan straen. Ond gall helpu i ddelio â phethau'n well ac ymdopi â sefyllfa sy'n peri straen.
  • Gofyn i rywun am help. Er enghraifft, gallech chi ofyn i ffrind neu aelod o'r teulu helpu gyda rhai o'ch tasgau bob dydd. Gall hyn roi mwy o amser i chi ei dreulio ar unrhyw dasgau sy'n peri straen i chi.

Mae angen i mi ymgymryd â digon o heriau i gynnal fy niddordeb yn y byd, ond dim gormod nes fy mod wedi blino'n lân.

Cymryd camau yn eich cymuned

Weithiau, efallai y bydd problemau yn ein cymuned, fel diffyg mynediad at wasanaethau, yn achosi neu'n gwaethygu ein straen. Gall mynd ati i ddatrys y problemau hyn ein helpu i deimlo'n well amdanon ni ein hunain, a chefnogi eraill.

Pan fyddwn ni'n teimlo dan straen mawr, efallai y bydd y pethau hyn yn teimlo'n amhosibl. Ac ar unrhyw adeg, gallan nhw beri straen neu deimlo'n flinderus ynddyn nhw eu hunain. Ond dyma rai pethau y gallech chi roi cynnig arnyn nhw os byddwch chi'n teimlo'n abl i wneud hynny:

  • Ymgyrchoedd Mind. Ewch i'n tudalen ymgyrchoedd i weld sut rydyn ni'n ymgyrchu dros newid, a sut i ddod yn ymgyrchydd.
  • Grwpiau cymunedol. Efallai fod yna ymgyrchoedd neu brosiectau gwirfoddoli i wella eich ardal a'ch cymuned leol. Mae gan Do IT wybodaeth am grwpiau gwirfoddol yn eich ardal chi. Neu ewch i myCommunity i gael gwybodaeth am sut i sefydlu grŵp cymunedol.
  • Cymerwch ran mewn penderfyniadau lleol. Efallai fod cyfarfodydd cynghorau lleol, plwyf neu dref rheolaidd yn eich ardal chi. Yn aml gallwch chi fynychu'r cyfarfodydd hyn er mwyn mynegi barn ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eich cymuned chi. Mae gwefan Llywodraeth y DU yn cynnwys adnodd i ddod o hyd i'ch cyngor lleol chi.
  • Ysgrifennwch at eich AS lleol. Gallwch chi gysylltu â'ch Aelod Seneddol lleol i ddweud wrtho am broblem yn eich ardal chi a gofyn iddo gymryd camau yn ei chylch. Mae gwefan Llywodraeth y DU yn cynnwys gwybodaeth am ble a sut i gysylltu ag AS.

Cymorth ar gyfer achosion straen

Efallai fod agweddau gwahanol ar eich bywyd sy'n peri straen i chi. Efallai fod y rhain yn ymddangos yn anodd eu newid ar eich pen eich hun, neu heb gymorth a chyngor ar beth i'w wneud nesaf.

Mae gennym ni lawer o wybodaeth i'ch helpu i ddod o hyd i gymorth ar gyfer agweddau gwahanol ar eich bywyd, gan gynnwys:

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Mawrth 2022. Byddwn ni'n ei diwygio yn 2025.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig