Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Straen

Yn esbonio beth yw straen, beth allai ei achosi a sut y gall effeithio arnoch chi. Yn cynnwys gwybodaeth am sut y gallwch chi helpu eich hun a sut i gael cymorth.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Beth sy'n peri straen?

Gall sawl peth beri straen. Efallai y bydd un sefyllfa neu ddigwyddiad mawr yn eich bywyd yn gwneud i chi deimlo dan straen. Neu efallai y bydd yn gyfuniad o sawl peth bach.

Gallai hyn ei gwneud hi'n anoddach i chi nodi beth sy'n gwneud i chi deimlo dan straen, neu ei esbonio i bobl eraill.

Efallai y byddwch chi'n teimlo dan straen os byddwch chi:

  • Yn teimlo dan bwysau mawr
  • Yn wynebu newidiadau mawr yn eich bywyd
  • Yn poeni am rywbeth
  • Wedi colli rheolaeth yn rhannol neu'n llwyr dros ganlyniad sefyllfa
  • Wedi'ch llethu gan eich cyfrifoldebau
  • Yn brin o waith, gweithgareddau neu newid yn eich bywyd
  • Yn wynebu gwahaniaethu neu gasineb, neu'n cael eich cam-drin
  • Yn wynebu cyfnod ansicr

Roedd digwyddiadau mewn bywyd sy'n peri straen, a allai ymddangos yn llai arwyddocaol ar wahân, gyda'i gilydd yn cael effaith wirioneddol ar fy iechyd meddwl.

Pam mae rhai pethau'n gwneud i mi deimlo dan straen?

Gall i ba raddau rydych chi'n teimlo dan straen mewn sefyllfaoedd gwahanol ddibynnu ar ffactorau fel:

  • Pa mor gyfforddus rydych chi'n ei deimlo mewn mathau penodol o sefyllfa
  • Beth arall rydych chi'n ei wynebu neu'n delio ag ef ar yr un pryd
  • Eich profiadau blaenorol, a sut mae'r rhain yn effeithio ar y ffordd rydych chi'n ei deimlo amdanoch chi eich hun
  • Yr adnoddau sydd ar gael i chi, fel amser ac arian
  • Faint o gymorth rydych chi'n ei gael gan bobl eraill

Gallai rhai sefyllfaoedd nad ydyn nhw'n eich poeni chi o gwbl achosi straen mawr i rywun arall. Y rheswm dros hyn yw bod profiadau gwahanol yn dylanwadu ar bob un ohonom ni. Mae gennym ni hefyd lefelau gwahanol o gymorth a ffyrdd o ymdopi.

Hefyd, gallai rhai digwyddiadau beri straen i chi weithiau, ond nid bob tro.

Er enghraifft, os byddwch chi'n mynd i siopa am fwyd gyda digon o amser ac arian, efallai na fyddwch chi'n teimlo dan straen. Ond efallai y byddwch chi'n teimlo dan straen os bydd gennych chi sawl peth arall i'w wneud, os bydd gennych chi gyllideb dynn, neu os bydd angen i chi brynu bwyd ar gyfer digwyddiad mawr.

Rwy'n mynd i deimlo dan straen os ydw i'n colli cyd-destun – gormod o waith, meddwl yn rhy bell i'r dyfodol.

Pa fath o sefyllfaoedd sy'n gallu peri straen?

Gall llawer o bethau beri straen mewn agweddau gwahanol ar ein bywyd. Gall y rhain gynnwys:

Personol

  • Salwch neu anaf
  • Beichiogrwydd neu ddod yn rhiant
  • Anffrwythlondeb neu broblemau cael plant
  • Profedigaeth
  • Cael eich cam-drin
  • Profiad o drosedd ac ymwneud â'r system gyfiawnder, fel cael eich arestio, mynd i'r llys neu fod yn dyst
  • Trefnu digwyddiad cymhleth, fel gwyliau
  • Tasgau bob dydd, fel gwaith tŷ neu fynd ar drafnidiaeth

Ffrindiau a theulu

  • Priodi neu ffurfio partneriaeth sifil
  • Perthynas yn chwalu neu ysgariad
  • Cydberthnasau anodd â rhieni, brodyr a chwiorydd, ffrindiau neu blant
  • Bod yn ofalwr

Gwneud swydd anodd fel rheolwr prosiectau a delio â phriodas yn chwalu ac ysgariad wedi hynny a arweiniodd at fy ngwaeledd emosiynol.

Cyflogaeth ac astudio

  • Colli eich swydd
  • Diweithdra hirdymor
  • Ymddeol
  • Arholiadau a therfynau amser
  • Sefyllfaoedd neu gydweithwyr anodd yn y gwaith
  • Dechrau swydd newydd

Stressed about exams? We have info for young people to help you cope with exam stress at school or college

Tai

  • Problemau tai, fel amodau byw gwael, diffyg sicrwydd neu ddigartrefedd
  • Symud tŷ
  • Problemau gyda chymdogion

Arian

  • Pryderon am arian neu fudd-daliadau
  • Byw mewn tlodi
  • Rheoli dyled

Ffactorau cymdeithasol

  • Diffyg mynediad at wasanaethau fel gofal meddygol, mannau gwyrdd neu drafnidiaeth
  • Byw drwy ddigwyddiad cymunedol, cenedlaethol neu fyd-eang sy'n peri straen, fel pandemig y coronafeirws
  • Wynebu stigma neu wahaniaethu, gan gynnwys hiliaeth, homoffobia, deuffobia neu drawsffobia

A all digwyddiadau hapus beri straen?

Mae rhai o'r sefyllfaoedd hyn yn aml yn cael eu hystyried yn ddigwyddiadau hapus. Er enghraifft, efallai y byddai disgwyl i chi deimlo'n hapus neu'n gyffrous am briodi neu gael babi.

Ond gall y digwyddiadau hyn olygu newidiadau mawr, a gallech chi wynebu gofynion newydd neu anarferol. Felly maen nhw'n gallu peri straen mawr. Gall fod yn anodd ymdopi â hyn, yn enwedig os ydych chi hefyd yn teimlo dan bwysau i fod yn gadarnhaol.

Dwi erioed wedi teimlo dan gymaint o straen na'r hyn roeddwn i'n ei deimlo chwe mis cyn fy mhriodas ... roedd pawb yn gofyn i mi drwy'r amser a oeddwn i'n hapus ac yn disgwyl fy ngweld yn gyffrous drwy'r amser, ond doeddwn i ddim yn teimlo'n hapus nac yn gyffrous. Yn y pen draw, es i'n sâl iawn.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Mawrth 2022. Byddwn ni'n ei diwygio yn 2025.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig