Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Hunan-niweidio

Yn egluro hunan-niweidio, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael triniaeth a chefnogaeth. Yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer helpu eich hun, a chanllawiau ar gyfer ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Pam y mae pobl yn niweidio eu hunain?

Does yna ddim rheolau pendant ynglŷn â pham y mae pobl yn hunan-niweidio. Mae’n gallu bod yn wahanol iawn i bawb.

I rai pobl, mae hunan-niweidio yn gysylltiedig â phrofiadau penodol ac mae’n ffordd o ddelio gyda rhywbeth sy’n digwydd ar hyn o bryd neu rywbeth sydd wedi digwydd yn y gorffennol. I eraill, nid yw’r rhesymau mor glir, ac mae’n anoddach ei gael i wneud synnwyr.

Weithiau mae’n bosibl na fyddwch yn gwybod pam rydych yn brifo eich hun. Os nad ydych yn deall beth sy’n gwneud i chi hunan-niweidio, dydych chi ddim ar eich pen eich hun a gallwch yn dal gael help.

Dechreuais hunan-niweidio pan oeddwn yn 15 neu 16 oed. Alla i ddim cofio pam gwnes i benderfynu dechrau, ond dyna beth wnes i.

Gall unrhyw brofiad anodd achosi i rywun hunan-niweidio. Mae’r rhesymau cyffredin yn cynnwys:

Profodd hunan-niweidio i mi mod i’n real, mod i’n fyw. Ar adegau roedd hefyd yn tawelu’r anhrefn yn fy mhen, gan stopio’r ôl-fflachiadau ailadroddus a’r atgofion corfforol am ychydig.

Mae rhai pobl yn hunan-niweidio rhannau penodol o’u cyrff sy’n gysylltiedig â thrawma cynharach. I gael mwy o wybodaeth, edrychwch ar ein gwybodaeth am drawma.

Mae rhai pobl yn canfod bod gweithredoedd penodol, er enghraifft yfed alcohol neu gymryd cyffuriau, yn cynyddu’r tebygolrwydd o hunan-niweidio, neu bod hunan-niweidio yn fwy tebygol o ddigwydd ar adegau penodol (er enghraifft yn y nos).

Weithiau mae pobl yn siarad am hunan-niweidio fel ymgais i gael sylw. Os yw pobl yn gwneud sylwadau fel hyn, gall wneud i chi deimlo eich bod yn cael eich barnu a’ch bod ar eich pen eich hun. Mewn gwirionedd, mae llawer o bobl yn cadw eu hunan-niweidio yn breifat, a gall cael eich ymddygiad wedi’i gamddeall fel hyn fod yn brofiad poenus.

Fodd bynnag, os ydych yn hunan-niweidio fel ffordd o dynnu sylw atoch eich hun, cofiwch nad oes dim byd o’i le â bod eisiau i rywun sylwi arnoch, cydnabod eich gofid a’ch cymryd o ddifri. Rydych hefyd yn haeddu ymateb llawn cydymdeimlad gan y bobl sydd o’ch cwmpas, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol meddygol.

Rydw i wedi dysgu, gan nad oedd fy anghenion emosiynol yn cael eu diwallu, mod i’n arfer hunan-niweidio gan nad o’n i’n gwybod sut i fynegi fy hun neu ddweud beth ro’n i ei angen neu ei eisiau. Roedd elfen o gael sylw hefyd. Ro’n i wirioneddol eisiau i rywun sylwi arna i a fy helpu i.

 

Pwy sy’n hunan-niweidio?

Mae pobl o bob oed a chefndir yn hunan-niweidio. Does dim person nodweddiadol sy’n brifo ei hun.

Er bod hunan-niweidio yn gallu effeithio ar unrhyw un, mae profiadau anodd sy’n gallu arwain at hunan-niweidio yn fwy cyffredin ymhlith rhai pobl na’i gilydd. Er enghraifft, mae straen arholiadau, bwlio yn yr ystafell ddosbarth a phwysau cyfoedion yn rhywbeth sy’n effeithio ar bobl ifanc. Mae profi stigma a gwahaniaethu ar sail eich cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth o ran rhywedd yn fwy cyffredin i aelodau o’r gymuned LGBTQIA+. Gall poeni am arian achosi mwy o straen i’r rhai sydd ar incwm is. Gall pwysau penodol fel hyn arwain at fwy o densiwn, sydd yn ei dro’n gwneud hunan-niweidio’n fwy tebygol.

Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf ym Mai 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig