Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Hunan-niweidio

Yn egluro hunan-niweidio, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael triniaeth a chefnogaeth. Yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer helpu eich hun, a chanllawiau ar gyfer ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Pa gefnogaeth a thriniaeth sydd ar gael?

Weithiau mae angen cefnogaeth o’r tu allan i’ch helpu i wneud newidiadau cadarnhaol. Efallai y bydd angen i chi drio ychydig o bethau gwahanol i weld beth sy’n gweithio i chi, a chyfuno technegau hunan-gymorth â chefnogaeth broffesiynol:

 

Eich hawl i help a chefnogaeth

Mae angen bod yn ddewr i ofyn am gefnogaeth. Mae’n ddealladwy y byddwch yn pryderu na fydd pobl yn eich deall neu y byddwch yn teimlo pwysau i wneud newidiadau yn gyflymach nag yr ydych eisiau eu gwneud. Er hyn, mae gennych hawl i gael cefnogaeth sy’n eich grymuso ac yn parchu eich barn.

Dylai unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol – er enghraifft eich meddyg teulu neu seiciatrydd – drafod eich holl opsiynau gyda chi, a dylai pobl ystyried eich barn a beth y byddai’n well gennych chi ei weld yn digwydd wrth wneud penderfyniadau yn ymwneud â’ch triniaeth.

Os ydych yn cael triniaeth gan y GIG, dylai fod yn unol â chanllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE).

Mae’r canllawiau hyn yn dweud:

  • Dylai unrhyw weithiwr iechyd proffesiynol eich trin mewn ffordd sensitif nad yw’n dangos rhagfarn.
  • Yn ddelfrydol, dylai gweithwyr iechyd proffesiynol gael eu hyfforddi i gyfathrebu mewn ffordd sensitif â phobl sy’n hunan-niweidio, a bod yn ymwybodol o stigma posibl.
  • Dylai unrhyw driniaeth a roddir i chi fod wedi’i theilwra ar gyfer eich anghenion unigol.

Eich meddyg teulu

Yn aml iawn, gweld eich meddyg teulu yw’r cam cyntaf yn y broses o ofyn am help a thrafod eich hunan-niweidio yn gyfrinachol.

Gallai eich meddyg teulu:

  • eich asesu a sôn wrthych am y driniaeth sydd ar gael
  • rhoi meddyginiaeth i chi ar bresgripsiwn ar gyfer gorbryder neu iselder, neu i’ch helpu i gysgu
  • eich cyfeirio at eich tîm iechyd meddwl cymunedol, a all gynnwys seiciatryddion, seicolegwyr, gweithwyr cymdeithasol, therapydd galwedigaethol a nyrs seiciatrig gymunedol.

Os ydynt yn pryderu bod eich hunan-niweidio yn fygythiad i’ch bywyd, neu bod arnoch angen triniaeth feddygol ar gyfer eich anafiadau, efallai y byddant yn awgrymu eich bod yn treulio cyfnod mewn ysbyty.

Mynd i weld y meddyg teulu ydy’r peth gorau dw i wedi ei wneud erioed. Wnaeth pethau ddim gwella ar unwaith, ond dyna sut y dechreuais i wella.

Triniaethau siarad

Mae triniaethau siarad yn golygu eich bod yn siarad gyda therapydd proffesiynol sydd wedi’i hyfforddi i wrando gydag empathi a derbyn y ffordd rydych yn teimlo.

Edrychwch ar ein tudalennau am therapi siarad a chwnsela i gael mwy o wybodaeth.

Grwpiau cefnogi

Cyfarfodydd rheolaidd gyda phobl eraill sydd â phrofiadau tebyg i chi yw grwpiau cefnogi.

  • Gall grwpiau cefnogi gael eu harwain gan gymheiriaid neu gallant gael eu hwyluso.
  • Gallant ganolbwyntio ar faterion penodol neu fod yn fwy cyffredinol.

Edrychwch ar ein tudalennau am gefnogaeth gan gymheiriaid i gael mwy o wybodaeth. Gallwch weld a oes grwpiau lleol yn eich ardal chi drwy Linell Wybodaeth Mind neu Self-injury Support.

Cefnogaeth ar-lein

Mae cefnogaeth ar-lein yn opsiwn os nad ydych yn teimlo eich bod yn barod i weld rhywun wyneb yn wyneb.

  • Cynigir cefnogaeth drwy ebost, testun, gwybodaeth neu fforwm gan wasanaethau hunan-niweidio – er enghraifft National Self Harm Network, Self-injury Support, LifeSIGNS, The Mix a Sane.
  • Gall y cynnwys sydd ar rai safleoedd hunan-niweidio sbarduno rhai pobl i hunan-niweidio. Gwnewch yn siŵr bod y safleoedd rydych yn mynd arnynt yn cael eu cymedroli’n dda a’ch bod yn gwybod sut i amddiffyn eich hun a phobl eraill tra byddwch ar-lein. Edrychwch ar ein tudalennau am iechyd meddwl ar-lein i weld canllawiau defnyddiol am gadw’n ddiogel ar-lein.

Triniaeth ar gyfer creithiau

Mae rhai pobl yn teimlo bod creithiau yn dilyn hunan-niweidio yn rhan bwysig o’u siwrnai, tra byddai’n well gan eraill beidio â chael creithiau. Mae triniaethau ar gael ar gyfer gorchuddio a lleihau creithiau. I gael mwy o wybodaeth edrychwch ar y tudalennau LifeSIGNS ar leihau creithiau a chuddliw croen.

Pethau i’w hystyried wrth ofyn am help

Cofiwch fod pwy bynnag sy’n eich cefnogi yno i’ch helpu ac i wrando arnoch. Weithiau gall therapydd neu ymarferydd ofyn i chi ymrwymo i beidio â hunan-niweidio yn ystod triniaeth. Mae’n bwysig nad ydych yn teimlo bod pwysau arnoch i wneud penderfyniadau yn ymwneud â hyn, a bod unrhyw beth rydych yn ei benderfynu yn realistig i chi ar y pryd.

Gall fod yn demtasiwn i geisio cuddio’r graddau rydych yn hunan-niweidio, neu i ddweud celwydd amdano. Mae hyn yn ddealladwy, ond os gallwch rannu eich profiad gall wneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd rydych yn teimlo. Gall helpu i leihau teimladau o gywilydd, a’ch helpu i deimlo’n llai ynysig, a bydd yn cynyddu’r siawns y byddwch yn cael y gefnogaeth rydych ei hangen. Mae estyn allan yn gam dewr iawn, ac efallai y bydd angen mwy nag un sgwrs i ddweud popeth y byddech yn hoffi ei ddweud.

Hyd yn oed pan dw i wedi gorfod mynd i’r adran damweiniau ac achosion brys, dw i wedi dweud celwydd a chymryd arnaf mai damweiniau oedd fy anafiadau. O edrych yn ôl roedd hynny’n beth gwirion i’w wneud, achos mi fyddwn i wedi gallu cael cefnogaeth emosiynol, ond mae gen i gymaint o gywilydd.

Os nad yw’r person sy’n eich cefnogi wedi cael ei hyfforddi, neu os nad yw’n brofiadol ym maes hunan-niweidio, efallai y byddai’n werth gofyn iddo ef neu hi edrych am fwy o wybodaeth – drwy ddarllen y tudalennau hyn, er enghraifft, neu drwy gysylltu â sefydliad ar gyfer pobl sy’n hunan-niweidio (mae gan Self-injury Support, LifeSIGNS a Harmless adnoddau gwybodaeth defnyddiol).

Gall hefyd helpu os ydych yn ysgrifennu popeth y byddech yn hoffi ei ddweud wrth y person ymlaen llaw. Bydd hyn yn eich helpu os ydych yn teimlo’n bryderus ynglŷn â mynegi eich teimladau neu os ydych yn poeni y byddai gan rywun ragfarn yn eich erbyn.

Dw i wedi sylwi yn ystod y blynyddoedd diwethaf bod gan nyrsys a doctoriaid yn yr adran damweiniau ac achosion brys fwy o ddealltwriaeth o hunan-niweidio, ac mae hynny’n wych.

Os ydych chi’n bryderus am eich triniaeth neu ofal, neu os ydych chi’n cael trafferth i gael y gefnogaeth rydych ei hangen, efallai y byddai’n werth i chi gael eiriolwr i’ch cefnogi. Gallai’r eiriolwr fod yn ffrind, aelod o’r teulu neu weithiwr proffesiynol. Gallwch hefyd gysylltu â’r Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS) i gael gwybodaeth ynglŷn â gwneud cwyn am wasanaethau’r GIG os oes angen.

Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf ym Mai 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig