Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylder dysfforig cyn mislif (PMDD)

Mae'n esbonio beth yw PMDD, gan gynnwys achosion posibl, symptomau a sut i gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys awgrymiadau hunanofal ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Beth yw'r triniaethau?

Mae nifer o wahanol driniaethau ar gyfer PMDD sy'n gweithio i rai pobl. Dylech chi a'ch meddyg benderfynu ar eich triniaeth gyda'ch gilydd. Dylai'r penderfyniad fod yn seiliedig ar ba mor wael yw eich symptomau PMDD, eich dewisiadau personol, a ph'un a oes gennych chi unrhyw fwriad o geisio beichiogi.

Mae'r dudalen hon yn cwmpasu:

Os ydych chi'n berson traws neu anneuaidd, efallai y bydd eich opsiynau o ran triniaeth yn wahanol os ydych chi'n cymryd neu'n ystyried cymryd triniaethau hormonaidd. Gallwch chi siarad â'ch meddyg teulu neu arbenigwr i weld pa driniaeth fyddai'n gweithio orau i chi. Os nad ydych chi'n siŵr ble i ddechrau, ewch i'n tudalennau ar sefydliadau arbenigol sy'n cefnogi iechyd meddwl LGBTQIA+.

Cymerodd ddwy flynedd i mi sylweddoli bod fy symptomau yn rhai cylchol. Fy ffrind gorau wnaeth y cysylltiad. Yna, cymerodd dair blynedd arall i mi gael triniaeth sy'n gweithio. Wrth edrych yn ôl, mae'n ymddangos fel taith hir, ac rwy'n falch mai dyma'r diwedd am y tro.

Gwneud newidiadau ffordd o fyw iach

Pan fyddwch chi'n siarad â'ch meddyg am y tro cyntaf, efallai y bydd yn awgrymu newidiadau i'ch ffordd o fyw a allai wella eich iechyd corfforol a'ch iechyd meddwl. Gall hyn leihau eich symptomau PMDD i lefel lle mae'n hawdd eu trin heb fod angen rhagor o driniaeth. Neu gall fod yn rhywbeth i chi roi cynnig arno ochr yn ochr â thriniaeth arall.

Ymhlith yr awgrymiadau posibl y gall eich meddyg teulu eu rhoi mae:

  • gwneud mwy o ymarfer corff rheolaidd
  • gwneud newidiadau i'ch deiet
  • cael cwsg rheolaidd
  • ceisio lleihau eich lefelau straen
  • cyfyngu ar faint o alcohol rydych chi'n ei yfed
  • os ydych chi'n smygu, ceisio smygu llai neu roi'r gorau iddi'n llwyr
  • lleihau faint o gaffein sydd yn eich deiet.


Bydd hyn yn wahanol i bawb, oherwydd bydd y newidiadau y byddwch chi'n teimlo y gallwch chi eu gwneud yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol a'ch profiadau.

SSRIau

Math o wrthiselyddion yw SSRIau (atalydd aildderbyn serotonin dethol). Yn aml, dyma'r driniaeth gyntaf a argymhellir ar gyfer PMDD a dyma'r unig fath o wrthiselyddion y dangoswyd eu bod yn gweithio ar gyfer PMDD.

Mae rhai astudiaethau wedi awgrymu y gall SSRIau weithio'n wahanol ar gyfer symptomau PMDD o gymharu â'r ffordd maen nhw'n gweithio ar gyfer problemau iechyd meddwl fel iselder. Efallai y bydd eich meddyg yn argymell eich bod chi'n cymryd SSIRau bob dydd drwy'r mis neu dim ond yn ystod eich cyfnod lwteal. Fel arfer, argymhellir na ddylech chi ddechrau na rhoi'r gorau i gymryd SSRIau yn sydyn, ond mae astudiaethau wedi dangos y gall cymryd SSRIau yn ystod y cyfnod lwteal fod yn effeithiol ac nad yw'r symptomau rhoi'r gorau iddi mor ddwys.

Os bydd eich meddyg yn rhagnodi SSRIau i chi, dylai eu hadolygu gyda chi ar ôl dau fis er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio i chi. Os nad ydyn nhw'n gweithio, efallai y bydd eich meddyg yn awgrymu triniaeth wahanol neu addasiad i'r gwrthiselyddion. Ceir gwybodaeth am SSRIau ar ein tudalennau ar wrth-iselyddion.

Cyn i chi benderfynu cymryd unrhyw feddyginiaeth, gwnewch yn siŵr bod gennych chi'r holl ffeithiau sydd eu hangen arnoch i wneud penderfyniad hyddysg. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar bethau i'w hystyried cyn cymryd meddyginiaeth a'ch hawl i wrthod meddyginiaeth.

Carla

Aeth fy mislif yn annioddefol pan fu farw fy nhad

Er ei bod yn debygol y byddaf bob amser yn ei chael hi'n anodd cyn fy mislif, mae wedi mynd yn haws. Rwy'n gallu ymdopi yn ystod yr wythnosau cyn fy mislif nawr.

Dulliau atal cenhedlu cyfunol drwy'r geg

Gall dulliau atal cenhedlu drwy'r geg (neu ‘y bilsen’ yn fwy cyffredin) leihau symptomau PMDD drwy reoli neu atal eich mislif, ond mae'r dystiolaeth ar gyfer cymryd y bilsen fel triniaeth ar gyfer PMDD yn gymysg. Mae rhai pobl yn gweld ei bod yn eu helpu i leihau eu symptomau, ond mae eraill o'r farn ei bod yn gwneud eu symptomau'n waeth. Gall y bilsen hefyd achosi sgil-effeithiau ac nid yw'n briodol os byddwch chi'n ceisio beichiogi.

Ceir sawl math gwahanol o ddulliau atal cenhedlu drwy'r geg gyda chymysgedd gwahanol o hormonau. Gall olygu na fydd rhai cyfuniadau penodol o hormonau yn gweithio'n dda i chi. Gan fod PMDD yn digwydd yn ystod eich ofwliad, efallai y bydd pilsen sy'n atal ofwliad yn fwy llwyddiannus i reoli eich symptomau PMDD.

Os byddwch chi a'ch meddyg o'r farn y gall y feddyginiaeth hon helpu, mae'n debygol y byddwch yn ei chael am dri mis i ddechrau i weld a yw'r driniaeth yn gywir i chi. Ceir rhagor o wybodaeth am ddulliau atal cenhedlu drwy'r geg ar wefan y GIG.

Therapi siarad a chwnsela

Er mwyn helpu'r symptomau seicolegol a gewch, efallai y byddwch am ystyried gweld therapydd i gael triniaeth siarad. Dangoswyd bod therapi gwybyddol ymddygiadol yn effeithiol i reoli symptomau rhai pobl sydd â PMDD.

Efallai y bydd eich meddyg yn eich atgyfeirio at y rhaglen Gwella Mynediad i Therapïau Seicolegol (IAPT), sef rhaglen gan y GIG sy'n cynnig therapi siarad ar gyfer amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl, fel gorbryder ac iselder. Fodd bynnag, nid yw IAPT ar gael ym mhob ardal a gall y rhestrau aros fod yn hir. Gallwch chi weld a oes gwasanaethau ar gael yn agos atoch drwy wefan IAPT. Mewn rhai achosion, efallai y gallech chi atgyfeirio'ch hun i weld therapydd.

Ceir rhagor o wybodaeth am wahanol fathau o therapi ar ein tudalennau ar therapi siarad a chwnsela, yn cynnwys sut i ddod o hyd i therapydd.

Poenladdwyr neu gyffuriau gwrthlidiol

Efallai y bydd eich meddyg yn awgrymu y dylech chi gymryd poenladdwyr neu gyffuriau gwrthlidiol (er enghraifft ibuprofen) i'ch helpu i reoli symptomau corfforol PMDD fel pen tost, poenau yn y cymalau a'r cyhyrau.

Er y gallwch gael y rhain heb bresgripsiwn gan eich meddyg, mae'n syniad da i chi drafod y peth â'ch meddyg neu fferyllydd i ddechrau i sicrhau eu bod yn addas i chi.

Pigiadau analog GnRH

Gall analogau hormonau rhyddhau gonadotroffin (GnRH) fod yn ddefnyddiol i rai pobl, am eu bod yn lleihau symptomau PMDD drwy ysgogi menopos dros dro. Maen nhw'n dod ar ffurf pigiadau fel arfer.

Dim ond os na fydd unrhyw driniaethau eraill wedi bod yn ddigon effeithiol y dylid ystyried y driniaeth hon. Gall achosi sgil effeithiau fel colli dwysedd esgyrn, sy'n golygu y byddwch chi'n wynebu mwy o risg o ddatblygu osteoporosis (cyflwr lle bydd eich esgyrn yn mynd yn wan ac yn torri'n haws).

Oherwydd hyn, yn aml bydd triniaeth wedi'i chyfyngu i chwe mis, a dylid ei chyfuno â therapi adfer hormonau (HRT), sy'n lleddfu symptomau'r menopos ac yn lleihau faint o ddwysedd esgyrn a gollir. Os bydd analogau GnRH yn cael eu rhagnodi i chi fel triniaeth hirdymor, dylai eich meddyg roi archwiliad blynyddol i chi i fesur dwysedd mwynol eich esgyrn.

Cymerodd bron i dri mis i'm symptomau setlo [ar ôl dechrau triniaeth hormonau] ond nawr rwy'n gallu mynd i'r gwaith bob dydd a dim ond 1-2 ddiwrnod gwael y bydda i'n eu cael, sy'n haws o lawer.

Llawdriniaeth

Mewn achosion difrifol iawn, efallai y bydd eich meddyg yn siarad â chi am y posibilrwydd o gael hysterectomi llwyr (llawdriniaeth i dynnu eich croth) gyda salpingo-oofforectomi dwyochrog (llawdriniaeth i dynnu eich ofarïau a'ch tiwbiau ffalopaidd). Nod y llawdriniaeth hon yw cael gwared ar eich symptomau PMDD drwy atal cylchred eich mislif yn barhaol.

Efallai y bydd rhai pobl yn cael cynnig oofforectomi dwyochrog yn unig (i dynnu'r ofarïau a'r tiwbiau ffalopaidd). Fodd bynnag, gall hyn olygu gorfod cymryd progesteron (hormon sy'n cael ei gynhyrchu yn ystod ail hanner cylchred y mislif) wedyn fel rhan o'ch therapi adfer hormonau (HRT), a all olygu eich bod chi'n parhau i gael symptomau sy'n debyg i PMS. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am HRT ar wefan You and Your Hormones.

Mae risg o gymhlethdodau yn gysylltiedig â phob llawdriniaeth – ac ni ellir gwrthdroi'r llawdriniaeth hon – felly dim ond pan fydd pob triniaeth arall wedi methu y byddech chi a'ch meddyg yn ystyried hyn. Ni fyddai'r llawdriniaeth yn briodol pe byddech chi am feichiogi.

Fitaminau ac atchwanegion

Mae rhywfaint o dystiolaeth gyfyngedig y gall rhai atchwanegion leihau symptomau cyn mislif. Dyma rai enghreifftiau:

  • Calsiwm carbonad – mae rhywfaint o waith ymchwil yn dangos y gall hyn helpu i leihau'r symptomau corfforol a seicolegol.
  • Fitamin B6 – gall hyn helpu i leddfu symptomau, ond os byddwch chi'n cymryd gormod, gall arwain at gyflwr o'r enw niwropathi amgantol lle rydych chi'n colli'r teimlad yn eich breichiau a'ch coesau.
  • Angus castus (perlysieuyn a elwir yn ‘chasteberry’ yn Saesneg) - mae rhywfaint o waith ymchwil wedi dangos y gall hyn helpu i leihau symptomau anniddigrwydd, dicter, pen tost a phoen yn y bronnau. Nid argymhellir ei ddefnyddio os ydych chi'n ceisio beichiogi neu os ydych chi'n bronfwydo.

 

Fodd bynnag, ni chaiff y rhain eu hargymell yn swyddogol fel triniaethau gan nad oes digon o dystiolaeth gref y gallant drin PMDD yn benodol. Os ydych chi'n ystyried cymryd atchwanegyn, mae'n bwysig i chi siarad â'ch meddyg neu eich fferyllydd lleol yn gyntaf, oherwydd y gallai eu cymryd ynghyd â meddyginiaethau eraill neu gymryd y dogn anghywir fod yn beryglus.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Awst 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig