Anhwylder dysfforig cyn mislif (PMDD)
Mae'n esbonio beth yw PMDD, gan gynnwys achosion posibl, symptomau a sut i gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys awgrymiadau hunanofal ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.
Sut mae diagnosis o PMDD yn cael ei roi?
I gael diagnosis o PMDD, y lle gorau i ddechrau yw drwy ymweld â'ch meddyg. Er mwyn ei helpu i ddeall eich symptomau, efallai y bydd eich meddyg yn gwneud y canlynol:
- Gofyn i chi gadw cofnod manwl o'ch symptomau am ddau fis o leiaf, i weld a oes patrwm i'ch symptomau dros amser. Gall hyn fod yn eich dyddiadur neu efallai y bydd yn rhoi holiaduron dyddiol i chi eu llenwi.
- Eich holi am eich hanes meddygol, fel unrhyw hanes o broblemau iechyd meddwl.
- Eich holi am eich ffordd o fyw, er enghraifft ydych chi'n smygu, yn yfed alcohol neu ydych chi dros bwysau.
- Rhoi archwiliad corfforol i chi ynghyd â phrofion gwaed, fel y gall ddiystyru problemau meddygol eraill.
Pan fydd gofyn i chi gadw cofnod o'ch symptomau dros sawl mis, gall cael diagnosis deimlo fel proses araf iawn. Gall hyn fod yn rhwystredig os bydd yn rhaid i chi aros am amser hir i gael triniaeth. Mae ein tudalennau ar hunanofal ar gyfer PMDD yn cynnwys syniadau y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw yn y cyfamser.
Bues i'n cadw nodyn o fy symptomau am dri mis, a gwelais fod cysylltiad uniongyrchol rhwng fy nghylchred fisol â'm hiechyd meddwl.
Beth os caf i drafferth i gael diagnosis?
Bydd yn anodd iawn i rai pobl gael diagnosis o PMDD. Gallai hyn fod am ei bod yn cymryd llawer o amser i sylweddoli bod eich symptomau yn dilyn cylchred a'u bod yn gysylltiedig â'ch mislif. Gall hefyd fod am nad yw PMDD yn hysbys iawn, hyd yn oed ymysg gweithwyr iechyd proffesiynol. Gall eich gwneud chi'n ofidus a rhwystredig iawn os byddwch chi'n teimlo bod eich meddyg yn anwybyddu rhywbeth, neu na fydd yn eich cymryd chi o ddifrif. Ond mae pethau y gallech roi cynnig arnyn nhw:
- Cadwch eich cofnod manwl eich hun o'ch symptomau dros amser. Os oes gennych chi ffôn clyfar, gallwch chi lawrlwytho'r ap Me v PMDD i dracio eich symptomau a'ch cylchred. Gallech chi hefyd wneud hyn mewn dyddiadur neu gallwch chi lawrlwytho siartiau hwyliau o'r rhyngrwyd. Po fwyaf o wybodaeth y byddwch chi'n ei chasglu dros gyfnod hir, y mwyaf y byddwch chi wedi paratoi i egluro eich symptomau i'ch meddyg.
- Ewch â chanllawiau triniaeth PMDD gyda chi i'ch apwyntiad â'ch meddyg teulu. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a'r Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Syndrom Cyn Mislif (NAPS) yn cynnig canllawiau manwl cam wrth gam ar roi diagnosis o PMS a'i drin. Mae'r rhain yn cynnwys PMS difrifol, sy'n derm arall ar gyfer PMDD. Gallwch chi lawrlwytho'r rhain o'u gwefannau.
- Gofynnwch yn eich meddygfa am gael siarad â meddyg sy'n arbenigo mewn iechyd meddwl, gynaecoleg neu endocrinoleg. Gynaecoleg yw'r gangen o feddygaeth sy'n ymdrin yn benodol â system atgenhedlu merched, ac mae endocrinoleg yn ymdrin â hormonau.
- Ystyriwch chwilio am eiriolwr. Eiriolwr yw rhywun sy'n gallu dod i apwyntiadau gyda chi a'ch helpu i sicrhau bod pobl yn gwrando arnoch chi. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar eiriolaeth .
PMDD a'r eiliad pan sylweddolais beth oedd yn digwydd
Byddwn i'n awgrymu y dylai unrhyw un sydd â phroblemau iechyd meddwl ystyried y gallai ei chylchred fisol fod yn eu hachosi. Siaradwch â'ch meddyg (ac os na fydd yn gwrando, gofynnwch am gael gweld meddyg gwahanol) a chofiwch fod help ar gael i chi.
Pan aeth y teimladau hunanladdol yn annioddefol, sylweddolais fod yn rhaid i mi weithredu. Penderfynais fod yn rhaid i mi ei egluro'n iawn i'r meddyg gan fod fy mywyd yn dibynnu arno, felly es i â fy mam gyda mi i adrodd yr holl stori. Cefais fy atgyfeirio at gynaecolegydd, ac ers i mi ddechrau cael triniaeth hormonau, mae fy symptomau yn llawer gwell.
Gwaethygiad cyn mislif
Efallai y bydd eich meddyg yn ystyried a oes gennych chi waethygiad cyn mislif (PME) yn hytrach na PMDD. Ystyr hyn yw pan fydd problemau iechyd meddwl sydd eisoes yn bodoli yn gwaethygu yn ystod cyfnod lwteal cylchred eich mislif. Gyda PME, bydd eich symptomau'n parhau hyd yn oed ar ôl eich mislif ond byddant yn llai dwys. Dyma pam mae tracio eich symptomau drwy gydol eich cylchred yn bwysig er mwyn cael y diagnosis cywir
Mae gan y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Anhwylderau Cyn Mislif ragor o wybodaeth am PME ar ei gwefan.
Gwelais bum meddyg teulu (gwrywaidd) gwahanol cyn iddyn nhw dderbyn fy awgrym bod fy mhroblemau'n gysylltiedig â'm cylchred, ac yn y diwedd, cefais daflen ffeithiau am ‘PMS’. Dim ond yn ddiweddar y gwnes i eistedd o flaen meddyg nad oedd yn edrych arna i fel pe bawn i'n wallgof pan oeddwn i'n dweud bod cylchred fy mislif yn fy ngyrru i'n benwan.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Awst 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.