Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylder dysfforig cyn mislif (PMDD)

Mae'n esbonio beth yw PMDD, gan gynnwys achosion posibl, symptomau a sut i gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys awgrymiadau hunanofal ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Beth yw PMDD?

Mae anhwylder dysfforig cyn mislif (PMDD) yn fath difrifol iawn o syndrom cyn mislif (PMS). Mae'n achosi amrywiaeth o symptomau emosiynol a chorfforol difrifol bob mis yn ystod yr wythnos neu ddwy cyn cylchred eich mislif. Weithiau, cyfeirir ato fel ‘PMS difrifol’.

Bydd PMDD yn digwydd yn ystod cyfnod lwteal o gylchred eich mislif. Dyma'r cyfnod rhwng yr adeg y byddwch chi'n ofylu a phan fydd eich mislif yn dechrau. Bydd y cyfnod lwteal yn para tua phythefnos i'r rhan fwyaf o bobl ond gall fod yn fyrrach neu'n hirach

Yn ystod y cyfnod hwn, efallai y byddwch yn cael symptomau PMDD bob dydd, neu dim ond am ychydig ddiwrnodau. Mae gwefan y GIG yn cynnwys gwybodaeth am gamau cylchred y mislif a phryd y byddant yn digwydd.

Bydd llawer o bobl sy'n gallu cael mislif yn cael symptomau PMS ysgafn. Os oes gennych PMDD bydd y symptomau hyn yn llawer gwaeth a gallant gael effaith ddifrifol ar eich bywyd. Gall cael PMDD ei gwneud yn anodd gweithio, cymdeithasu a chael cydberthnasau iach. Mewn rhai achosion, gall hefyd arwain at feddyliau hunanladdol.

Y ffordd orau o'i ddisgrifio yw, unwaith y mis, roeddwn i'n pwyso fy motwm hunanddinistrio fy hun ac yn gadael i fy mywyd (oedd fel arfer yn hapus iawn a gwerth chweil) chwalu o'm cwmpas i. Yna pan oedd y meddyliau tywyll yn codi ac yn clirio, byddwn i'n treulio'r pythefnos nesaf yn ceisio codi'r darnau.

Beth yw symptomau PMDD?

Os oes gennych chi PMDD, efallai y byddwch chi'n gweld eich bod chi'n cael rhai o'r symptomau a restrir isod. Ond mae'n wahanol i bobl wahanol, felly efallai y byddwch chi hefyd yn cael mathau eraill o deimladau eraill, nad ydyn nhw wedi'u rhestru yma.

Profiadau emosiynol

  • newidiadau sydyn mewn hwyliau
  • teimlo'n ofidus neu'n ddagreuol
  • dim egni
  • llai o ddiddordeb mewn gweithgareddau rydych chi'n eu mwynhau fel arfer
  • teimlo'n anobeithiol
  • teimladau hunanladdol
  • teimlo'n ddig neu'n bigog
  • teimlo gorbryder
  • teimlo tensiwn neu fod ar bigau'r drain
  • teimlo eich bod yn cael eich llethu neu eich bod allan o reolaeth
  • ei chael hi'n anodd canolbwyntio.

Profiadau corfforol ac ymddygiadol

  • dolur neu chwydd yn y bronnau
  • poen yn eich cyhyrau a'ch cymalau
  • pen tost
  • teimlo'n chwyddedig
  • newidiadau yn eich archwaeth am fwyd, fel gorfwyta neu gael chwant am fwyd penodol
  • problemau cysgu
  • teimlo'n fwy dig neu'n gwrthdaro â phobl o'ch amgylch
  • teimlo'n ofidus iawn os byddwch chi'n teimlo bod pobl eraill yn eich gwrthod chi.

Gan fod PMDD yn gysylltiedig â chylchred eich mislif, nid yw'n debygol y byddwch yn cael symptomau os byddwch chi'n feichiog. Ond efallai y byddwch chi'n gweld y bydd y symptomau'n dychwelyd eto ar ôl i chi ailddechrau ofylu.

Pan fydd fy PMDD ar ei waethaf, rwy'n dueddol o fynd i'r gwely. Bydda i'n mynd yn isel iawn a bydd fy ngorbryder ar ei waethaf. Bydda i'n blino'n ofnadwy ac yn methu cadw fy llygaid ar agor. Bydda i'n cysgu am tua 18 awr y dydd.

PMDD a theimladau hunanladdol

Bydd rhai pobl yn gweld bod meddyliau hunanladdol yn un o'u symptomau misol. Gall hyn fod yn anodd iawn.

Os ydych chi'n cael teimladau hunanladdol ac yn poeni y gallech chi weithredu arnyn nhw, gallwch chi ffonio 999, mynd yn syth i adran Damweiniau ac Achosion Brys neu ffonio'r Samariaid am ddim ar 116 123 i siarad. Gallwch chi hefyd sgrolio i frig y dudalen hon a chlicio ar y botwm ‘Mae angen help arna i ar frys’, a fydd yn eich tywys drwy fwy o opsiynau ar gyfer cadw eich hun yn ddiogel.

Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau ar

Beth yw achosion PMDD?

Nid ydym yn deall yr union achosion yn llawn, ond mae ymchwilwyr o'r farn bod PMDD yn cael ei achosi drwy fod yn sensitif iawn i newidiadau mewn lefelau hormonau. Mae ymchwil ddiweddar yn awgrymu bod PMDD yn gysylltiedig â chynnydd mewn sensitifrwydd i'r newidiadau arferol sy'n digwydd i'r hormonau yn ystod cylchred eich mislif.

Ceir rhagor o wybodaeth am hormonau a PMDD ar wefan y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Anhwylderau Cyn Mislif (IAPMD).

Mae ymchwil i awgrymu achosion posibl eraill ar gyfer PMDD< yn ogystal â phethau a all wneud eich PMDD yn waeth. Ymysg rhai o'r ffactorau posibl hyn mae:

  • Geneteg. Mae rhywfaint o waith ymchwil yn awgrymu y gall amrywiadau genetig achosi cynnydd mewn sensitifrwydd i newidiadau mewn hormonau.
  • Smygu. Mae rhywfaint o ymchwil yn awgrymu y gall smygu effeithio ar eich sensitifrwydd i hormonau.
  • Trawma a straen. Mae gwaith ymchwil arall wedi dangos, mewn rhai achosion, y gall PMDD fod yn gysylltiedig â digwyddiadau llawn straen a thrawma o'r gorffennol, fel camdriniaeth emosiynol neu gorfforol. Gall straen hefyd olygu bod eich symptomau PMDD yn gwaethygu.

A yw PMDD yn broblem iechyd meddwl?

Caiff PMDD ei ddiffinio fel anhwylder endocrinaidd, sy'n golygu ei fod yn anhwylder sy'n gysylltiedig â hormonau. Ond yn ogystal â symptomau corfforol, bydd pobl â PMDD hefyd yn cael amrywiaeth o symptomau iechyd meddwl gwahanol fel iselder, teimladau hunanladdol a gorbryder.

Am y rhesymau hyn, caiff ei rhestru fel problem iechyd meddwl yn y DSM-5, un o'r prif lawlyfrau a ddefnyddir gan feddygon i gategoreiddio problemau iechyd meddwl a rhoi diagnosis ar eu cyfer.

Yn y bôn, mae'n bwysig cofio mai chi sy'n penderfynu sut rydych chi'n deall eich symptomau a'ch profiadau. Y peth pwysicaf yw eich bod chi'n cael y cymorth sydd ei angen arnoch chi ac rydych chi'n ei haeddu i'ch helpu i reoli effeithiau PMDD ar eich bywyd.

Bob mis am 30 mlynedd, cael a chael oedd hi i mi oroesi bob mis. Mae PMDD yn fwy na dim ond PMS gwael. Mae'n llawer mwy difrifol na hynny, ac mae'n gallu newid eich bywyd yn llwyr.

Byw gyda PMDD

Gwyliwch Laura yn trafod ei phrofiadau o PMDD, a'r hyn oedd yn ddefnyddiol iddi hi:

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Awst 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig