Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Iselder ôl-enedigol ac iechyd meddwl amenedigol

Yn egluro iselder ôl-enedigol a phroblemau iechyd meddwl amenedigol eraill, gan gynnwys achosion posibl, triniaethau ac opsiynau ar gyfer cefnogaeth. Hefyd yn cynnwys gwybodaeth i ffrindiau a theulu, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i bartneriaid.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Pa gefnogaeth a gwasanaethau sydd ar gael?

Mae nifer o wahanol sefydliadau, gwasanaethau cefnogi a gweithwyr iechyd proffesiynol a all gefnogi eich iechyd meddwl pan fyddwch yn disgwyl babi ac ar ôl i chi gael babi. Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am y prif opsiynau.

Gallai’r rhain gynnwys gwasanaethau cefnogi cyffredinol ar gyfer iechyd a beichiogrwydd fel:

Mae gwasanaethau mwy arbenigol ar gael hefyd i’ch cefnogi os oes risg i chi waethygu, neu os byddwch yn gwaethygu. Mae’r rhain yn cynnwys:

Neu gallwch gael cefnogaeth a gwasanaethau drwy fudiadau gwirfoddol ac elusennau.

Mae gennym hefyd wybodaeth ynglŷn â beth i’w wneud os nad ydych yn cael y gefnogaeth rydych ei hangen

Os hoffech gael gwybodaeth am y triniaethau sydd ar gael ar gyfer diagnosis iechyd meddwl penodol, edrychwch ar ein tudalennau am:

Mae cael y gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn mor bwysig. Os ydych yn estyn allan a neb yn eich clywed y tro cyntaf, daliwch i drio.

Cefnogaeth gyffredinol ar gyfer iechyd a beichiogrwydd

Eich meddyg teulu

Gallwch bob amser siarad gyda’ch meddyg am eich iechyd meddwl. Gall eich meddyg drafod eich opsiynau ar gyfer triniaeth a chefnogaeth, eich cyfeirio at wasanaethau a rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn. 

Edrychwch ar ein tudalen am siarad gyda’ch meddyg os ydych yn poeni am gael y sgwrs hon. 

Gofal cynenedigol

Rydych yn debygol o fod mewn cysylltiad â nifer o wahanol weithwyr iechyd proffesiynol tra byddwch yn disgwyl babi. Ar ryw adeg, dylent eich holi am eich iechyd meddwl a sut rydych chi’n teimlo yn ystod beichiogrwydd. Os nad ydynt yn gofyn, gallwch bob amser godi unrhyw bryderon sydd gennych.

Mae gwefan y GIG yn cynnwys gwybodaeth am y gweithwyr iechyd proffesiynol a allai eich cefnogi yn ystod eich beichiogrwydd. Gallwch hefyd ymweld â gwefan Start4Life y GIG i gael gwybodaeth am feichiogrwydd a dod yn rhiant newydd.

Eich ymwelydd iechyd

Gall eich ymwelydd iechyd gynnig cefnogaeth ar gyfer gofalu am eich babi a rheoli eich iechyd meddwl. Gallwch hefyd siarad gyda’ch ymwelydd iechyd am unrhyw beth sy’n eich poeni, neu unrhyw deimladau neu feddyliau anodd rydych yn eu cael.

Gallant roi gwybod i chi am wasanaethau eraill yn eich ardal, neu gallant awgrymu eich bod yn siarad gyda’ch meddyg.

Gwasanaethau arbenigol

Gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol

Mae gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol mewn rhai rhannau o’r wlad ar gyfer unrhyw un sy’n disgwyl babi neu sydd wedi cael babi yn ddiweddar. Caiff y rhain eu galw’n wasanaethau iechyd meddwl amenedigol. Maen nhw’n cynnwys timau o nyrsys a meddygon arbenigol, yn ogystal â wardiau arbenigol mewn ysbytai, sef unedau mamau a babanod.

Os ydych wedi cael problemau iechyd meddwl yn y gorffennol, rydych yn debygol o fod mewn cysylltiad â thîm iechyd meddwl amenedigol drwy gydol eich beichiogrwydd. Gallai hyn gynnwys diagnosis o anhwylder deubegynol yn y gorffennol neu brofiad o seicosis. Gall y tîm iechyd meddwl amenedigol gadw llygad arnoch, asesu eich meddyginiaeth a chynllunio genedigaeth eich plentyn.

Yn anffodus nid yw’r gwasanaethau hyn ar gael ym mhob rhan o’r wlad, ac nid yw’n hawdd cael mynediad atynt bob amser. Gallwch gysylltu â Llinell Wybodaeth Mind i gael gwybodaeth am wasanaethau iechyd meddwl amenedigol sydd ar gael yn eich ardal chi.

Timau iechyd meddwl cymunedol a thimau argyfwng

Os ydych wedi cael diagnosis o broblem iechyd meddwl, mae’n bosibl y byddwch mewn cysylltiad â’ch tîm iechyd meddwl cymunedol neu dîm argyfwng yn barod. Efallai y gallant eich cefnogi chi os nad oes gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol yn agos atoch chi.

Edrychwch ar ein gwybodaeth am dimau iechyd meddwl cymunedol a thimau argyfwng i ddarganfod mwy.

Unedau mamau a babanod ac ysbytai

Mae unedau mamau a babanod yn wardiau seiciatrig arbenigol mewn ysbytai. Gallwch gael eich derbyn i uned mamau a babanod gyda’ch babi os ydych yn cael problemau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd neu ar ôl geni babi.

Gall yr uned mamau a babanod roi triniaeth a chefnogaeth i chi ar gyfer eich problem iechyd meddwl. Gall hefyd eich helpu i ddatblygu sgiliau magu plant ac i fondio gyda’ch babi.

Yn anffodus, mae unedau mamau a babanod yn brin, a dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ym mhob uned. Mae gwefan Action on Postpartum Psychosis (APP) yn cynnwys map sy’n dangos lleoliad unedau mamau a babanod yn y DU.

Os ydych yn cael eich derbyn i ward seiciatrig arferol, nid ydych yn debygol o allu cadw eich babi gyda chi. Os oes rhaid i chi fod ar wahân i’ch babi tra byddwch yn cael triniaeth, ni ddylai fod am fwy o amser nag sydd ei angen i’ch cadw’n ddiogel.

Edrychwch ar ein tudalen am driniaeth mewn ysbyty i gael mwy o wybodaeth.

Mudiadau gwirfoddol ac elusennau

Mae nifer o fudiadau gwirfoddol ac elusennau sy’n cynnig cefnogaeth amrywiol i deuluoedd a rhieni newydd:

  • Mae Family Lives yn cynnig cefnogaeth, gwybodaeth a chyngor cyfrinachol i rieni.
  • Mae Home Start yn cynnig gwasanaeth sy’n eich paru chi gyda gwirfoddolwr a fydd yn ymweld â chi i gynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol.
  • Mae Family Action yn cynnig gwasanaethau cefnogi arbenigol i rieni sydd â phroblem iechyd meddwl. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl geni babi.
  • Mae NCT yn rhedeg cyrsiau amrywiol i rieni newydd ac mae ganddo aelodaeth sy’n rhedeg gweithgareddau a grwpiau cymdeithasol.
  • Mae’r Gymdeithas Salwch Ôl-enedigol (APNI) yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth yn ymwneud ag iselder ôl-enedigol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth i bartneriaid a gofalwyr.
  • Mae’r Rhwydwaith Bwydo ar y Fron yn cynnig cefnogaeth yn ymwneud â bwydo ar y fron i bobl ym mhob cwr o Brydain.

Edrychwch ar ein tudalen cysylltiadau defnyddiol i weld manylion sefydliadau eraill a allai helpu. Mae’r rhain yn cynnwys sefydliadau a all helpu os oes gennych ddiagnosis o broblemau iechyd meddwl penodol.

Mae’n iawn i chi gyfaddef bod pethau ddim yn iawn a’ch bod chi angen help. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn falch o glywed eich profiad er mwyn iddyn nhw allu cael y dewrder i siarad neu gael cysur o wybod nad ydyn nhw ddim ar eu pen eu hunain.

Beth os nad ydw i’n cael y gefnogaeth rydw i ei hangen?

Gall symptomau problemau iechyd meddwl amenedigol newid llawer o ddydd i ddydd. Gallai fod yn anodd i weithwyr iechyd proffesiynol, fel eich meddyg neu fydwraig, ddeall beth rydych yn ei brofi a chynnig y gefnogaeth iawn i chi.

Os nad ydych yn teimlo eich bod yn cael yr help a’r gefnogaeth rydych ei hangen, gallwch godi hyn gyda gweithiwr iechyd proffesiynol. Edrychwch ar ein tudalennau am sut i siarad gyda’ch meddyg er mwyn cael mwy o gyngor.

Efallai hefyd y bydd angen i chi ofyn ychydig o weithiau er mwyn cael y gefnogaeth rydych ei hangen. Gall hyn fod yn anodd os ydych yn cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl. Gallwch ofyn i rywun rydych yn ei drystio eich helpu i ofyn am help, neu efallai y byddech yn hoffi cael help eiriolydd. Edrychwch ar ein tudalennau am eiriolaeth i gael mwy o wybodaeth.

Neu efallai y byddwch yn poeni y gallai gofyn am help ar gyfer eich iechyd meddwl olygu bod eich plentyn yn cael ei gymryd oddi arnoch. Mae’n anghyffredin i rieni gael eu gwahanu oddi wrth eu plant am y rheswm hwn. Ac mae llawer o gefnogaeth ar gael i’ch helpu i wneud yn siŵr nad oes angen i hyn ddigwydd.

Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf yn Ebrill 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig