Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Iselder ôl-enedigol ac iechyd meddwl amenedigol

Yn egluro iselder ôl-enedigol a phroblemau iechyd meddwl amenedigol eraill, gan gynnwys achosion posibl, triniaethau ac opsiynau ar gyfer cefnogaeth. Hefyd yn cynnwys gwybodaeth i ffrindiau a theulu, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i bartneriaid.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Beth yw iselder amenedigol?

Os ydych yn cael iselder tra rydych yn disgwyl babi neu ar ôl geni babi, mae’n bosibl y bydd yn cael ei alw yn:

  • iselder cynenedigol – tra rydych yn disgwyl babi
  • iselder ôl-enedigol – yn ystod y flwyddyn gyntaf fwy neu lai ar ôl geni babi
  • iselder amenedigol – unrhyw bryd o’r adeg rydych yn darganfod eich bod yn disgwyl babi tan tua blwyddyn ar ôl geni’r plentyn.

Mae llawer o bobl yn ymwybodol o iselder ôl-enedigol. Ond ychydig o bobl sy’n gwybod bod llawer o bobl yn cael iselder cynenedigol, a bod rhai pobl yn cael y ddau.

Mae’r wybodaeth sydd ar y dudalen hon yn ymwneud ag iselder amenedigol, felly mae’n berthnasol os ydych yn cael iselder cynenedigol neu ôl-enedigol. Mae’n trafod:

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y ‘felan’ ar ôl geni babi (y 'baby blues') ac iselder ôl-enedigol?

Mae’r 'baby blues' yn cyfeirio at gyfnod byr o deimlo’n isel, yn emosiynol ac yn ddagreuol rhwng tua tri a 10 diwrnod ar ôl geni plentyn. Rydych yn debygol o fod yn ymdopi â llawer o ofynion newydd, heb lawer o gwsg, felly mae’n naturiol i chi deimlo’n emosiynol ac yn flinedig iawn. Dim ond am ychydig ddiwrnodau y mae’r teimlad hwn yn para fel arfer, ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn gallu ei reoli. 

Mae iselder ôl-enedigol yn iselder llawer dyfnach a mwy hirdymor. Fel arfer mae’r iselder hwn yn datblygu rywbryd yn ystod y chwe wythnos ar ôl geni plentyn, a gall ddigwydd yn raddol neu yn sydyn. Gall amrywio o iselder ysgafn i iselder difrifol iawn.

Arwyddion a symptomau iselder amenedigol

Dyma rai o arwyddion a symptomau cyffredin iselder amenedigol:

Sut y gallech fod yn teimlo

Os oes gennych iselder amenedigol, efallai y byddwch yn teimlo:

  • yn isel, yn ofidus neu’n ddagreuol
  • yn anesmwyth, yn gynhyrfus neu’n anniddig
  • yn euog, yn ddiwerth ac yn dda i ddim
  • yn wag ac yn ddideimlad
  • yn ynysig ac yn methu ag ymwneud â phobl eraill
  • yn cael dim pleser mewn bywyd neu’r pethau rydych yn eu mwynhau fel arfer
  • ymdeimlad bod pethau’n afreal
  • dim hunanhyder neu hunan-dyb isel
  • yn anobeithiol ac yn ddiobaith
  • yn elyniaethus neu’n ddi-hid tuag at eich partner
  • yn elyniaethus neu’n ddi-hid tuag at eich babi
  • teimladau hunanladdol.

Roedd hi’n anodd, oherwydd er bod pobl yn siarad am iselder ôl-enedigol, does yna ddim llawer o sôn am salwch meddwl yn ystod beichiogrwydd – cyfnod sydd i fod yn un hapus iawn.

Sut y gallech fod yn ymddwyn

Os oes gennych iselder amenedigol, efallai y byddwch:

  • yn methu canolbwyntio
  • yn methu cysgu, hyd yn oed pan fyddwch yn cael cyfle i gysgu
  • ddim cymaint o eisiau bwyd
  • heb ddiddordeb mewn rhyw.

Mae rhai o’r profiadau hyn yn gyffredin yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl dod yn rhiant. Ond mae’n dal yn bwysig eu crybwyll wrth eich meddyg os ydych yn pryderu y gallech fod ag iselder amenedigol.

Ro’n i’n teimlo’n hunanol ac yn euog oherwydd mod i’n teimlo’n negyddol ac yn isel. Canlyniad hyn oedd mod i’n ynysu fy hun fwy fyth, ac yn gwneud y broblem yn waeth.

Triniaethau ar gyfer iselder amenedigol

Gallwch gael cynnig triniaethau amrywiol ar gyfer iselder amenedigol. Dylai eich meddyg drafod yr opsiynau hyn gyda chi, er mwyn i chi allu gwneud penderfyniad gyda’ch gilydd ynglŷn â’r driniaeth orau i chi:

Therapi siarad

Mae’r therapïau siarad y gallech gael eu cynnig yn cynnwys therapi ymddygiadol gwybyddol (CBT) neu therapi rhyngbersonol (IPT). Therapïau byrdymor sy’n cael eu hargymell i drin iselder yw’r rhain.

Meddyginiaeth

Mae’n debyg mai gwrthiselydd fydd y feddyginiaeth. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â chymryd meddyginiaeth, gallwch siarad gyda’ch meddyg neu fferyllydd. Mae gennym hefyd wybodaeth ynglŷn â chymryd gwrthiselyddion tra rydych yn feichiog neu’n bwydo ar y fron.

Cyfuniad o therapi siarad a meddyginiaeth

Mae rhai pobl yn gweld bod cymryd meddyginiaeth yn eu helpu i deimlo’n ddigon sefydlog i gael y budd mwyaf o therapi siarad. Ond mae pobl eraill yn gweld bod meddyginiaeth neu therapïau siarad yn fwy buddiol ar eu pen eu hunain.

Weithiau bydd rhestrau aros hir ar gyfer therapïau siarad yn eich ardal. Efallai y bydd eich meddyg yn cynnig gwrthiselydd i’ch helpu chi tra rydych yn aros am therapi.

Therapi electrogynhyrfol (ECT)

Os oes gennych iselder difrifol iawn sydd ddim yn ymateb i driniaethau eraill, efallai y bydd eich meddyg yn awgrymu therapi electrogynhyrfol (ECT). Gall ECT weithio’n gyflym iawn, felly efallai y bydd meddygon yn awgrymu eich bod yn ei gael yn fuan ar ôl geni eich plentyn. Pwrpas hyn yw eich helpu i ofalu am eich babi a bondio gyda’ch babi cyn gynted ag sy’n bosibl.

Mae’n bosibl defnyddio ECT yn ystod beichiogrwydd, ond mae’n bosibl y bydd pryderon ynglŷn â rhoi anaesthetig i chi tra rydych yn disgwyl babi. Gallwch siarad gyda’ch meddyg am hyn.

Edrychwch ar ein tudalen am driniaethau ar gyfer iselder i gael mwy o wybodaeth. 

Er mod i’n poeni am gael iselder ôl-enedigol, doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i mor wael pan o’n i’n disgwyl babi. Cyfuniad o hormonau, diffyg meddyginiaeth, poeni am roi genedigaeth a salwch yn y tri mis cyntaf wnaeth gyfrannu at fy salwch i.

Hunanofal ar gyfer iselder amenedigol

Gall cael iselder amenedigol fod yn brofiad anodd iawn, ond dyma rai camau a allai eich helpu:

Bod yn garedig â chi eich hun

Efallai y bydd gennych lawer o ddisgwyliadau ar eich cyfer chi fel rhiant, ond does neb yn gallu bodloni ei holl ddisgwyliadau drwy’r adeg.

Peidiwch â chosbi eich hun os nad ydych chi’n gwneud rhywbeth roeddech chi wedi bwriadu ei wneud, neu os byddwch yn gweld eich hun yn teimlo’n waeth eto. Ceisiwch drin eich hun fel y byddech yn trin ffrind, a bod yn garedig â chi eich hun.

Cadw dyddiadur hwyliau

Gall hyn eich helpu i dracio unrhyw newidiadau yn eich hwyliau, ac efallai y gwelwch eich bod yn cael mwy o ddiwrnodau da nag yr ydych yn ei feddwl. Gall hyn hefyd eich helpu i sylwi os yw unrhyw weithgareddau, lleoedd neu bobl yn gwneud i chi deimlo’n well neu’n waeth.

Edrychwch ar ein tudalen o gysylltiadau defnyddiol ar gyfer dolenni sy’n arwain at ddyddiaduron hwyliau ar-lein, gan gynnwys apiau tracio hwyliau i’w defnyddio ar eich ffôn.

Gofalu am eich hylendid

Pan fyddwch yn cael iselder, mae’n hawdd teimlo nad yw hylendid yn flaenoriaeth. Ond gall pethau bach wneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd rydych yn teimlo. Er enghraifft, gallech gael cawod a gwisgo amdanoch, hyd yn oed os nad ydych yn mynd allan o’r tŷ.

Siarad gyda phobl sydd â phrofiadau tebyg

Yn aml iawn gallwn deimlo mai ni yw’r unig rai sy’n teimlo fel hyn. Mae cefnogaeth gan gymheiriaid a grwpiau cyngor ar gael i rannu meddyliau, teimladau a phrofiadau.

Cysylltwch â Llinell Wybodaeth Mind neu gangen leol o Mind i gael gwybodaeth am opsiynau cefnogaeth gan gymheiriaid yn eich ardal chi.

Cysylltu â sefydliadau arbenigol

Mae PANDAS yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i bobl sy’n cael iselder cynenedigol ac ôl-enedigol. Edrychwch ar ein tudalen o gysylltiadau defnyddiol i ddod o hyd i sefydliadau eraill a all helpu.

Gofyn am help

Os oes modd, gofynnwch am help a derbyniwch help gan bobl sydd o’ch cwmpas. Gall cefnogaeth ymarferol ac emosiynol gan deulu, ffrindiau a chymunedau fod yn hanfodol er mwyn eich helpu i ymdopi.

I gael mwy o syniadau, edrychwch ar ein tudalen am ffyrdd o ofalu am eich iechyd meddwl pan fyddwch yn dod yn rhiant.

Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf yn Ebrill 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig