Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Iselder ôl-enedigol ac iechyd meddwl amenedigol

Yn egluro iselder ôl-enedigol a phroblemau iechyd meddwl amenedigol eraill, gan gynnwys achosion posibl, triniaethau ac opsiynau ar gyfer cefnogaeth. Hefyd yn cynnwys gwybodaeth i ffrindiau a theulu, gan gynnwys cefnogaeth a chyngor i bartneriaid.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Beth yw gorbryder amenedigol?

Os ydych yn cael gorbryder tra rydych yn disgwyl babi neu ar ôl geni babi, gallai hyn gael ei alw yn:

  • orbryder cynenedigol – tra rydych yn disgwyl babi
  • gorbryder ôl-enedigol – yn ystod y flwyddyn gyntaf fwy neu lai ar ôl geni babi
  • gorbryder amenedigol – unrhyw bryd o’r adeg rydych yn darganfod eich bod yn disgwyl babi tan tua blwyddyn ar ôl geni’r plentyn.

Mae llawer o bobl yn ymwybodol y gallwch gael iselder ar ôl cael babi. Ond mae llawer o bobl hefyd yn cael gorbryder tra maen nhw’n disgwyl babi ac ar ôl geni babi. Mewn gwirionedd, mae’n gyffredin i gael iselder a gorbryder gyda’i gilydd.

Mae’r wybodaeth ar y dudalen hon yn ymwneud â gorbryder amenedigol, felly mae’n berthnasol os ydych yn cael gorbryder cynenedigol neu ôl-enedigol. Mae’n trafod:

Os yw eich gorbryder yn ymwneud yn benodol â geni babi, mae hyn yn cael ei alw yn 'tocoffobia'. Mae gan elusen feichiogrwydd Tommy's wybodaeth am tocoffobia a pha gefnogaeth sydd ar gael.

 

Arwyddion a symptomau gorbryder amenedigol

Dyma rai o arwyddion a symptomau cyffredin gorbryder amenedigol:

Effeithiau ar eich corff

Mae effeithiau cyffredin gorbryder amenedigol ar eich corff yn cynnwys:

  • teimlad bod eich bol yn corddi
  • teimlo’n benysgafn neu’n chwil
  • pinnau bach
  • teimlo’n aflonydd neu’n methu eistedd yn llonydd
  • cur pen, poen cefn neu boenau eraill
  • anadlu’n gyflymach
  • calon yn curo’n gyflym, yn uchel neu’n afreolaidd
  • chwysu neu chwiwiau poeth
  • methu cysgu, hyd yn oed pan fyddwch yn cael cyfle i gysgu
  • crensian eich dannedd, yn enwedig yn y nos
  • cyfog (teimlo’n sâl)
  • angen y toiled yn fwy aml neu’n llai aml
  • newidiadau yn eich awydd am ryw
  • cael pyliau o banig.

Effeithiau ar eich meddwl

Mae effeithiau cyffredin gorbryder amenedigol ar eich meddwl yn cynnwys:

  • bod ar bigau, yn nerfus neu’n methu ymlacio
  • arswydo, neu ofni’r gwaethaf
  • teimlo fel pe bai’r byd yn cyflymu neu’n arafu
  • teimlo bod pobl eraill yn gallu gweld eich bod yn orbryderus, a’u bod nhw’n edrych arnoch
  • teimlo eich bod yn methu stopio poeni, neu y bydd pethau drwg yn digwydd os byddwch yn stopio poeni
  • poeni am y gorbryder ei hun, er enghraifft poeni pryd y gallai pyliau o banig ddigwydd
  • eisiau llawer o sicrwydd gan bobl eraill, neu’n poeni bod pobl yn flin gyda chi
  • poeni eich bod yn colli cysylltiad â realiti
  • poeni llawer am bethau a allai ddigwydd yn y dyfodol
  • hel meddyliau – meddwl llawer am brofiadau drwg, neu feddwl am sefyllfa drosodd a throsodd
  • dadbersonoli – teimlo eich bod wedi eich datgysylltu oddi wrth eich meddwl neu eich corff, fel pe baech yn gwylio rhywun arall (math o ddatgysylltiad)
  • dadwireddu – teimlo eich bod wedi eich datgysylltu oddi wrth y byd o’ch cwmpas, neu fel pe bai’r byd ddim yn real (math o ddatgysylltiad).

Triniaethau ar gyfer gorbryder amenedigol

Gallech gael cynnig triniaethau amrywiol ar gyfer gorbryder amenedigol. Dylai eich meddyg drafod yr opsiynau hyn gyda chi, er mwyn i chi allu gwneud penderfyniad gyda’ch gilydd ynglŷn â’r driniaeth orau i chi:

Therapi siarad

Y therapi siarad rydych yn fwyaf tebygol o gael ei chynnig ar gyfer gorbryder yw therapi ymddygiadol gwybyddol (CBT).

Efallai hefyd y bydd eich gwasanaethau iechyd meddwl lleol yn cynnig gwasanaeth cwnsela neu raglenni grŵp penodol ar gyfer gorbryder. Gallwch siarad gyda’ch meddyg neu gysylltu â’ch gwasanaethau lleol i gael gwybod beth sydd ar gael.

Edrychwch ar ein tudalennau am therapïau siarad a chwnsela i gael mwy o wybodaeth.

Adnoddau hunangymorth

Gallai eich meddyg eich cyfeirio at raglenni CBT ar-lein i chi eu trio eich hun. Neu gallai roi llyfrau hunangymorth ar bresgripsiwn i’ch helpu i ddysgu sut i reoli eich gorbryder.

Meddyginiaeth 

Mae nifer o fathau o feddyginiaeth sy’n gallu helpu i reoli gorbryder. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â chymryd meddyginiaeth, gallwch siarad gyda’ch meddyg neu fferyllydd. Mae hyn yn cynnwys trafod unrhyw bryderon ynglŷn â chymryd meddyginiaeth tra rydych yn disgwyl babi neu tra rydych yn bwydo ar y fron.

Edrychwch ar ein tudalen am siarad gyda’ch meddyg teulu os ydych yn poeni ynglŷn â chael y sgwrs hon. 

Cyfuniad o therapi siarad a meddyginiaeth

Efallai y byddwch yn cael cynnig cyfuniad o therapi siarad a meddyginiaeth. Mae rhai pobl yn gweld bod cymryd meddyginiaeth yn eu helpu i deimlo’n ddigon sefydlog i gael y budd mwyaf o therapi siarad. Ond mae pobl eraill yn gweld bod meddyginiaeth neu therapïau siarad yn fwy buddiol ar eu pen eu hunain.

Os oes rhestrau aros hir ar gyfer therapïau siarad yn eich ardal chi, efallai y bydd eich meddyg yn argymell eich bod yn rhoi cynnig ar ddewis arall yn lle therapi. Gall y rhain eich helpu i reoli eich iechyd meddwl tra rydych ar y rhestr aros.

Edrychwch ar ein tudalen am driniaethau ar gyfer gorbryder i gael mwy o wybodaeth. 

Ro’n i’n delio gyda phyliau o banig, a meddyliau dychrynllyd y byddai fy mabi yn well hebdda i.

Hunanofal ar gyfer gorbryder amenedigol

Gall gorbryder achosi i chi deimlo eich bod yn cael eich llethu a’i bod hi’n anodd iawn ymdopi â thasgau bob dydd.

Dyma rai syniadau i’ch helpu i edrych ar ôl eich hun ac ymdopi:

Trio newid eich ffocws

Os ydych yn teimlo’n orbryderus ynglŷn â rhywbeth ar hyn o bryd, trïwch newid eich ffocws a chanolbwyntio ar rywbeth bach, fel manylion llun neu wead rhywbeth rydych yn ei wisgo.

Os gallwch, trïwch gadw’ch meddyliau i gyd ar yr un peth hwn, gan edrych ar bob manylyn bach. Gall hyn eich helpu i gymryd munud neu ddau i dawelu.

Dysgu ymarferion anadlu

Gall rheoli eich anadlu helpu gyda rhai o synwyriadau corfforol gorbryder a’ch helpu i ymlacio. Mae enghraifft o ymarfer anadlu i’w weld ar ein tudalen am ymlacio.

Trio gwneud gweithgarwch corfforol

Gall hyn helpu i dynnu eich sylw oddi wrth unrhyw feddyliau sy’n eich gwneud yn orbryderus, a defnyddio rhywfaint o’r egni gorbryderus y gallech fod yn ei deimlo.

Does dim rhaid i chi fod yn cymryd rhan mewn chwaraeon na mynd i’r gampfa. Efallai y byddech yn hoffi mynd am dro, neu wneud ychydig o weithgarwch corfforol o gwmpas y tŷ, er enghraifft tacluso.

Edrychwch ar ein tudalennau am weithgarwch corfforol a’ch iechyd meddwl i gael mwy o syniadau.

Cysylltu â sefydliadau arbenigol

Mae elusennau fel Anxiety UK a No Panic yn cynnig cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth i bobl sy’n teimlo gorbryder.

I gael mwy o syniadau, edrychwch ar ein tudalen am ffyrdd o ofalu am eich iechyd meddwl pan fyddwch yn dod yn rhiant.

Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf yn Ebrill 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig