Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylderau personoliaeth

Mae'r adran hon yn egluro anhwylderau personoliaeth, gan gynnwys beth allai achosi hynny a sut gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys awgrymiadau ar gyfer sut i helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Pa driniaethau sydd ar gael?

Mae amryw o driniaethau a all eich helpu chi os ydych chi'n cael profiad o anhwylder personoliaeth. Mae'r rhain yn cynnwys:

I gael gwybodaeth am sut i gael triniaeth ar gyfer anhwylder personoliaeth a sut i gael dweud eich dweud ynghylch eich triniaeth, edrychwch ar ein gwybodaeth ar y canlynol:

All pethau wella i mi?

Weithiau, mae pobl yn tybio ei bod hi'n amhosib newid, yn arbennig o ran ein personoliaeth. Ond dim dyma'r achos, yn ôl gwaith ymchwil. Gydag amser a'r driniaeth iawn i chi, mae'n bosib i bethau newid a gwella.

Rydw i wedi teimlo'n wahanol, ar wahân ac ar ben fy hun bach drwy gydol fy mywyd. Dim ond ers i mi gael diagnosis o BPD y dechreuais ddeall pam, a gyda help, dechreuais sylweddoli y gallwn i wir wneud rhywbeth i newid y teimladau hynny a theimlo fy mod yn gallu byw bywyd gwerth chweil.

Therapïau siarad

Mae angen rhagor o waith ymchwil i weld pa therapïau siarad all helpu pobl gydag anhwylderau personoliaeth. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) – y sefydliad sy'n paratoi canllawiau ar arferion gorau mewn gofal iechyd – yn awgrymu y gallai'r mathau canlynol o therapïau siarad fod o gymorth:

  • Therapi ymddygiad dialectig (DBT) – triniaeth sydd wedi'i datblygu'n arbennig ar gyfer anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD). Mae'n defnyddio therapi unigol a therapi grŵp i'ch helpu i ddysgu sgiliau a rheoli eich emosiynau. Edrychwch ar ein tudalennau DBT i gael rhagor o wybodaeth.

Roedd y sesiynau un-i-un a gefais yn amhrisiadwy. Roedd fy therapydd yn gallu fy helpu i ddeall y sgiliau DBT roeddwn i'n eu dysgu ac yn fy helpu i ddeall sut i'w defnyddio yn fy mywyd. Y wers bwysicaf oedd dysgu methu a derbyn mai hyn ac ymarfer yn gyson oedd yr ateb i ddefnyddio DBT.

  • Therapi seiliedig ar feddwl (MBT) – therapi siarad tymor hir sy'n ceisio gwella eich gallu i adnabod a deall eich cyflwr meddwl chi a chyflwr meddwl pobl eraill, a'ch helpu chi i ystyried beth rydych chi'n ei feddwl amdanoch eich hun ac eraill i weld a ydy hynny'n ddilys.

Y ffordd orau o ddisgrifio therapi seiliedig ar feddwl ydy "meddwl am feddwl". Mae'n golygu gallu deall eich cyflwr meddwl eich hun a chyflwr meddwl pobl eraill, a sut mae hyn yn effeithio ar ein hymddygiad. Fe wnes i uniaethu â hyn ar unwaith, gan fy mod i'n ei chael hi'n anodd iawn gwybod beth ydy fy emosiynau ac o ble maen nhw'n dod.

Mae NICE yn dweud y gallai mathau eraill o therapïau siarad fod o fudd hefyd, gan gynnwys y canlynol:

  • Therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) – sy'n ceisio eich helpu chi i ddeall sut gallai eich meddyliau a'ch credoau effeithio ar eich teimladau a'ch ymddygiad. Edrychwch ar ein tudalennau CBT i gael rhagor o wybodaeth.
  • Therapi dadansoddol gwybyddol (CAT) – sy'n cyfuno dulliau ymarferol CBT a chanolbwyntio ar feithrin perthynas o ymddiriedaeth rhyngoch chi a'ch therapydd, a fydd yn eich helpu i wneud synnwyr o'ch sefyllfa a dod o hyd i ffyrdd newydd ac iachach o ymdopi â'ch problemau.
  • Therapïau siarad eraill – fel therapi gwybyddol sy'n canolbwyntio ar sgema, therapi seicodynamig, therapi rhyngbersonol neu therapïau celf. Edrychwch ar ein tudalennau therapïau siarad a therapïau celf i gael rhagor o wybodaeth.

Cymunedau therapiwtig

Rhaglenni lle'r ydych chi'n treulio amser mewn grŵp yn cefnogi'r naill a'r llall i wella, gyda help hwylusydd ydy cymunedau therapiwtig. Mae'r rhan fwyaf o gymunedau therapiwtig yn rhai preswyl (mewn tŷ mawr yn aml) lle byddech chi'n aros am wythnos neu ran o'r wythnos. Gall gweithgareddau gynnwys gwahanol fathau o therapi unigol neu therapi grŵp, yn ogystal â gwaith tŷ a gweithgareddau cymdeithasol. Mae gan y Consortiwm Cymunedau Therapiwtig gyfeiriadur o gymunedau therapiwtig yn y DU.

Treuliais 18 mis mewn Cymuned Therapiwtig, a dydw i ddim yn gor-ddweud pan fydda' i'n dweud bod hynny wedi newid fy mywyd. Dydy fy hwyliau ddim yn newid mor aml, ac anaml iawn y byddan nhw'n newid mor eithafol â'r hyn roedden nhw'n arfer ei wneud.

Meddyginiaeth

Does dim cyffuriau'n cael eu trwyddedu'n benodol ar gyfer trin anhwylderau personoliaeth. Mae nifer o bobl sydd ag anhwylderau personoliaeth wedi cael diagnosis iechyd meddwl arall hefyd, fel iseldergorbryder neu seicosis, ac mae'n bosib y byddan nhw'n cael meddyginiaeth ar bresgripsiwn ar gyfer hyn.

Gallai'r meddyginiaethau hyn gynnwys cyffuriau gwrthiselder, cyffuriau gwrthseicotig neu sefydlogwyr hwyliau.

Cyn i chi gymryd unrhyw feddyginiaeth

Cyn penderfynu cymryd unrhyw feddyginiaeth, gwnewch yn siŵr bod gennych chi'r holl ffeithiau sydd eu hangen arnoch i deimlo'n hyderus ynghylch eich penderfyniad. I gael arweiniad ar yr wybodaeth sylfaenol efallai yr hoffech ei chael, edrychwch ar ein tudalennau ar:

Ble alla' i gael triniaeth?

  • Bydd y driniaeth sydd ar gael yn eich ardal chi yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw. I gael triniaeth drwy'r GIG, dylech ymweld â'ch meddyg teulu i ddechrau, a all eich cyfeirio at eich tîm iechyd meddwl cymunedol (CMHT) lleol i gael eich asesu.
  • Mewn rhai ardaloedd efallai bydd gwasanaethau sy'n caniatáu i chi gysylltu eich hun a gofyn am gael eich cyfeirio at driniaeth. Hunangyfeirio ydy'r enw am hyn. Gallwch siarad â'ch tîm iechyd meddwl cymunedol i gael cyngor am hunangyfeirio.

Os ydych chi'n cael triniaeth gan y GIG, dylai fod yn unol â chanllawiau NICE. Mae'r rhain yn dweud:

  • Dylai unrhyw un ag anhwylder personoliaeth posib gael asesiad strwythuredig gydag arbenigwr iechyd meddwl cyn cael diagnosis.
  • Dylech gael dweud eich dweud ynghylch y math o driniaeth a gynigir i chi. Os nad ydych chi'n cael y math o driniaeth rydych chi'n credu fyddai'n eich helpu chi orau, gallai siarad ag eiriolwr helpu. Edrychwch ar ein tudalennau eiriolaeth i gael rhagor o wybodaeth.

Fydda' i'n cael yr help sydd ei angen arna' i mewn argyfwng?

Yn anffodus, efallai na fydd gwasanaethau yn eich ardal chi bob amser yn gallu darparu'r math o ofal sydd fwyaf defnyddiol i chi, ar unwaith, oherwydd pwysau ar wasanaethau.

Rydyn ni'n gwybod pa mor rhwystredig ac anodd y gall fod i ddelio â gwasanaethau pan nad ydyn nhw'n darparu'r cymorth sydd ei angen arnoch, pan fydd ei angen arnoch. Dyna pam ein bod yn ymgyrchu i wella gofal mewn argyfwng ledled y wlad.

Gallwch chi ddysgu mwy am ein hymgyrch gofal mewn argyfwng yma, a darllen am y ffyrdd gwahanol y gallwch chi weithredu gyda Mind.

Alla' i fynd yn breifat?

Yn anffodus, gall amseroedd aros ar gyfer triniaethau siarad gan y GIG fod yn hir. Os ydych chi'n teimlo nad ydych chi'n dymuno aros a'ch bod chi'n gallu fforddio'r gost, neu os hoffech weld therapydd sy'n arbenigo yn y mathau o brofiadau rydych chi wedi'u cael, efallai y byddwch yn dewis mynd i weld cwnselydd neu seicotherapydd yn breifat.

Edrychwch ar ein tudalennau chwilio am therapi sector preifat i gael rhagor o wybodaeth.

Siarad am anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD)

Mae Lechelle a Debbie yn siarad am gael anhwylder personoliaeth ffiniol a sut mae cyfuniad o feddyginiaeth a therapi ymddygiad dialectig (DBT) wedi eu helpu i ddatblygu'r sgiliau i'w reoli.

Sut alla' i gael dweud fy nweud ynghylch fy nhriniaeth?

Mae'r berthynas rydych chi'n ei ffurfio â'r gweithwyr proffesiynol sy'n eich helpu yn ffactor pwysig iawn yn eich triniaeth - boed yn weithiwr cymdeithasol, yn nyrs seiciatrig, yn therapydd neu'n seiciatrydd. Mae cael triniaeth dda yn dibynnu arnoch chi'n cymryd rhan weithredol hefyd ac yn cael dweud eich dweud. Dylech ddisgwyl:

  • Cael dweud eich dweud ynghylch y driniaeth –  dylai eich meddyg teulu neu eich seiciatrydd drafod yr holl opsiynau o ran triniaeth â chi, a dylid ystyried eich barn a'ch dewisiadau bob amser wrth wneud penderfyniadau am eich triniaeth. Edrychwch ar ein tudalennau chwilio am help ar gyfer problem iechyd meddwl i gael rhagor o wybodaeth am ddweud eich dweud.
  • Cyfrannwch at eich cynllun gofal – cytundeb rhyngoch chi a'r gweithwyr proffesiynol rydych chi'n gweithio gyda nhw ydy cynllun gofal, ac mae'n ymwneud â'r hyn rydych chi'n dymuno ei gael o'ch triniaeth. Dylai gynnwys y problemau rydych chi'n dymuno cael help ar eu cyfer, unrhyw driniaethau sydd eu hangen arnoch chi a chynlluniau ar gyfer argyfwng.

Dim ond pan wnes i gwrdd â rhai o weithwyr proffesiynol ymroddedig a oedd yn fodlon mynd yr ail filltir y gwnes i ddechrau newid a chredu ynof fi fy hun. Roeddwn i'n gallu dechrau therapi a datblygu perthynas dda o ymddiriedaeth, sydd wedi bod yn gyson ac yn sicr.

Pa bryd does gen i ddim dewis ynghylch fy nhriniaeth?

Efallai na fydd gennych ddewis ynghylch eich triniaeth os ydy'r canlynol yn berthnasol:

  • does gennych chi ddim y galluedd meddyliol – mae hyn yn golygu pan fyddwch yn cael eich ystyried yn rhy wael i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am sefyllfa benodol – edrychwch ar ein tudalennau ar y Ddeddf Galluedd Meddyliol i gael rhagor o wybodaeth
  • rydych chi'n cael eich cadw yn yr ysbyty o dan adran o'r Ddeddf Iechyd Meddwl (mae'n cael ei alw'n sectioned weithiau yn Saesneg)
  • rydych chi'n cael eich trin o dan Orchymyn Triniaeth Gymunedol (CTO) – mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael triniaeth o dan oruchwyliaeth yn y gymuned
  • rydych chi'n cael eich trin o dan orchymyn llys – gall hyn fod os ydych chi wedi cyflawni trosedd.

 

Edrychwch ar ein tudalennau chwilio am help ar gyfer problem iechyd meddwl i gael rhagor o wybodaeth.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Ionawr 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig