Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylderau personoliaeth

Mae'r adran hon yn egluro anhwylderau personoliaeth, gan gynnwys beth allai achosi hynny a sut gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys awgrymiadau ar gyfer sut i helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Sut alla' i helpu fy hun?

Os oes gennych chi anhwylder personoliaeth, gall pob dydd deimlo fel ymdrech ac weithiau, efallai y bydd popeth yn ymddangos yn ormod i chi. Ond, mae yna strategaethau ymdopi a all eich helpu. Dyma rai syniadau ynghylch pethau y gallwch eu gwneud i'ch helpu eich hun nawr ac yn y tymor hwy.

Mae gwahanol bethau'n gweithio i wahanol bobl ar wahanol adegau, felly ceisiwch fod yn garedig tuag atoch eich hun os nad ydy rhai pethau'n gweithio i chi. Mae pob un ohonom ni'n unigryw, felly efallai y bydd rhai pethau sy'n ddefnyddiol i chi pan fyddwch chi'n cael pethau'n anodd yn bersonol iawn i chi, ac mae'n bosib y byddan nhw'n newid dros amser.

Beth alla' i ei wneud nawr?

Os ydych chi'n profi llawer o deimladau anodd ac yn enwedig yn teimlo eich bod chi'n cael eich llethu, gall fod yn ddefnyddiol torri popeth i lawr a chanolbwyntio ar un peth ar y tro. Isod, mae rhestr o awgrymiadau a thechnegau a allai eich helpu drwy gyfnodau anodd. Dros amser, fe allech chi ddatblygu eich technegau eich hun i ychwanegu at y rhestr hon.

What you could do to get through it:

  • rhoi cynnig ar ymarfer anadlu
  • chwarae eich hoff gerddoriaeth a dawnsio neu ganu
  • gwneud rhywbeth gyda'ch dwylo, fel trwsio rhywbeth neu greu rhywbeth
  • gwneud rhywbeth creadigol fel lliwio, tynnu llun, ysgrifennu creadigol neu greu cerddoriaeth
  • ysgrifennu dyddiadur
  • mynd am gawod - mae rhai pobl yn teimlo bod cael cawod oer yn gallu helpu'n arbennig.

Edrychwch ar ein tudalen sut i ddelio â dicter i gael rhagor o awgrymiadau.

Beth allech chi ei wneud i ddod drwy hyn:

  • gwneud eich hun yn gyfforddus a gwylio eich hoff raglen deledu
  • darllen eich hoff lyfr
  • ysgrifennu eich holl deimladau negyddol ar ddarn o bapur a'i wasgu'n bêl neu ei rwygo
  • gwrando ar gân neu wylio fideo sy'n wneud i chi deimlo'n dda
  • ysgrifennu llythyr i gysuro'r rhan ohonoch chi sy'n teimlo'n drist neu'n unig
  • cofleidio anifail anwes neu degan meddal.

Edrychwch ar ein tudalen sut i ddelio ag iselder i gael rhagor o awgrymiadau.

Beth allech chi ei wneud i ddod drwy hyn:

  • gwneud diod boeth i chi'ch hun a'i yfed yn araf, gan sylwi ar y blas a'r arogl, siâp y mwg a'i bwysau yn eich llaw
  • cymryd deg anadl ddofn, gan gyfrif pob un yn uchel
  • ysgrifennu popeth y gallwch feddwl amdano am lle rydych chi y funud hon, fel amser, dyddiad, lliw'r waliau a'r dodrefn yn yr ystafell
  • mynd am fath neu gawod gynnes - gall hyn helpu i newid eich hwyliau drwy greu awyrgylch cysurus ac ymlacio eich corff.

Edrychwch ar ein tudalen hunanofal ar gyfer gorbryder a phyliau o banig i gael rhagor o awgrymiadau.

Beth allech chi ei wneud i ddod drwy hyn:

  • anadlu'n araf
  • gwrando ar synau o'ch cwmpas
  • cerdded yn droednoeth
  • lapio eich hun mewn blanced a'i theimlo o'ch cwmpas
  • bwyta neu arogli rhywbeth sydd â blas neu arogl cryf.

Edrychwch ar ein tudalen hunanofal ar gyfer anhwylderau ymdeimlad o ddatgysylltu i gael rhagor o awgrymiadau.

Beth allech chi ei wneud i ddod drwy hyn:

  • gludo tâp neu blastr ar eich croen a'i dynnu i ffwrdd
  • rhoi ciwbiau iâ lle rydych chi eisiau brifo eich hun
  • mynd am gawod oer iawn

Edrychwch ar ein tudalen helpu eich hun i ymdopi â hunan-niweidio i gael rhagor o awgrymiadau.

Dydy'r un pethau ddim yn ddefnyddiol i bawb. Mae'n bosib i bobl ddod o hyd i'w dulliau ymdopi eu hunain. Mae defnyddio technegau sydd ddim yn fy helpu i yn gwneud pethau'n waeth mewn gwirionedd, fel y mae rhywun yn dweud wrthyf fi bod rhaid i mi eu gwneud.

Beth alla' i ei wneud yn y tymor hwy?

Mae cymryd amser i roi blaenoriaeth i'ch lles yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i sut rydych chi'n teimlo. Dyma rai syniadau:

Gall fod yn anodd estyn allan at bobl pan fyddwch chi ddim yn teimlo'n dda, ond yn aml mae rhannu meddyliau anodd yn gwneud iddyn nhw ymddangos ychydig yn haws delio â nhw. Os dydych chi ddim yn teimlo'n gyfforddus yn siarad â phobl o'ch cwmpas, gallech geisio cysylltu â llinell gymorth.

Er enghraifft, gallwch siarad â'r Samariaid am ddim ar 116 123 neu drwy anfon e-bost at [email protected] am unrhyw beth sy'n eich ypsetio. Edrychwch ar ein tudalen cymorth dros y ffôn i gael rhagor o wybodaeth am wahanol linellau cymorth.

Bydd monitro eich hwyliau yn eich helpu i ddeall mwy amdanoch eich hun a phatrymau eich hwyliau, ac i sylwi ar newidiadau a allai fod yn anodd eu gweld fel arall. Mae llawer o bobl yn defnyddio dyddiaduron hwyliau i wneud hyn. 

Mae hefyd yn ddefnyddiol nodi'r pethau da rydych wedi'u gwneud neu sydd wedi digwydd i chi. Mae'n bwysig ymarfer bod yn garedig tuag atoch eich hun a nodi'r camau cadarnhaol rydych wedi'u cymryd neu'r technegau sy'n helpu.

 

Weithiau rydw i'n cael cyfnodau da a dydy fy symptomau ddim yn fy mhoeni – ar adegau eraill, maen nhw'n gallu bod yn llethol. Mae'n gallu bod yn anodd peidio â beirniadu fy hun ormod am lithro'n ôl, ond mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i mi ddal ati i weithio arno.  Mae'n iawn os ydych chi'n cael pethau'n anodd weithiau.

Efallai na fyddwch bob amser yn gallu dweud wrth bobl sut rydych chi'n teimlo na pha help sydd ei angen arnoch felly mae'n syniad da creu cynllun argyfwng sy'n egluro beth hoffech ei weld yn digwydd mewn argyfwng.

Gallai hyn gynnwys:

  • pwy i gysylltu â nhw
  • pa driniaethau yr hoffech eu cael neu eu hosgoi
  • pa bryd yr hoffech i bobl ystyried triniaeth mewn ysbyty fel opsiwn.

Mae sawl math gwahanol o gynlluniau argyfwng. Edrychwch ar ein gwybodaeth am gynllunio ar gyfer argyfwng a gwneud cynllun cymorth i gael rhagor o wybodaeth.

Os ydych chi'n teimlo nad ydych chi'n cael eich clywed neu eich trin yn deg (er enghraifft wrth siarad â meddygon neu wrth gael triniaeth), gall eiriolwr eich helpu i ddweud eich dweud. Edrychwch ar ein tudalennau eiriolaeth i gael rhagor o wybodaeth.

I gael rhagor o syniadau am ofalu amdanoch chi eich hun pan fyddwch chi ddim yn teimlo'n dda, edrychwch ar ein tudalennau hunanofal ar gyfer problem iechyd meddwl.

Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi gael rhai o'r pethau sy'n eich helpu chi pan rydych chi'n ei chael hi'n anodd wrth law yn rhwydd – ychydig fel paratoi pecyn cymorth cyntaf ar gyfer eich iechyd meddwl.

Er enghraifft:

  • hoff lyfrau, ffilmiau neu CDs
  • pêl straen neu degan i helpu i dawelu'r meddwl
  • dyfyniadau neu nodiadau anogaeth defnyddiol
  • lluniau neu ffotograffau sy'n rhoi cysur i chi
  • blanced neu degan meddal
  • bag lafant neu gannwyll ag oglau da arni.

Fe wnes i ddysgu technegau tynnu sylw. Fy hoff un oedd fy Llyfr Positifrwydd, sy'n fath o lyfr lloffion yn llawn o bethau sy'n fy ngwneud yn hapus.

Os oes gennych chi anhwylder personoliaeth, efallai eich bod yn hunan-niweidio fel ffordd o ddelio â theimladau anodd iawn neu sefyllfaoedd a phrofiadau sy'n eich llethu.

Edrychwch ar ein tudalennau hunan-niweidio am ffyrdd eraill i'ch helpu i ymdopi.

Gallai hyn eich helpu i deimlo'n dawelach eich meddwl ac i reoli meddyliau di-fudd. Edrychwch ar ein tudalennau ymwybyddiaeth ofalgar ac awgrymiadau ymlacio i gael rhagor o wybodaeth.

 

Dysgais fod yn garedig tuag ataf fy hun a bod bywyd yn gallu bod yn wahanol dim ond i mi wneud fy ngorau. Weithiau fe fydda' i'n anghofio sut beth ydy teimlo'n gadarnhaol ac yn obeithiol am y dyfodol, ond rydw i'n gwybod fydd hynny ddim yn para. Rydw i'n haeddu bod yn hapus a byw bywyd bodlon, a dydw i ddim am adael i salwch gymryd hynny oddi arna' i.

Gall siarad â phobl eraill sydd â phrofiadau tebyg i chi fod yn ddefnyddiol. Mae cymorth gan gymheiriaid yn rhoi cyfle i bobl rannu eu profiadau, rhoi a derbyn cymorth a chlywed a dysgu gan bobl eraill.

Mae llawer o ffyrdd o ddod o hyd i gymorth gan gymheiriaid. Gallech wneud y canlynol:

Gall eich iechyd corfforol wneud gwahaniaeth i sut rydych chi'n teimlo'n emosiynol, felly mae'n bwysig edrych ar ei ôl lle bynnag y bo modd. Er enghraifft, gall gwneud y pethau hyn helpu:

  • Ceisiwch gael digon o gwsg. Gall cwsg eich helpu i gael yr egni i ymdopi â theimladau a phrofiadau anodd. Ceisiwch wybod a pharchu beth rydych chi'n gallu ei wneud a faint o orffwys sydd ei angen arnoch i deimlo'n dda - dylech orffwys mwy os oes angen hynny arnoch chi. Edrychwch ar ein tudalennau ymdopi â phroblemau cysgu i gael rhagor o wybodaeth.
  • Meddyliwch am eich deiet. Gall bwyta'n rheolaidd ac yn iach wneud gwahaniaeth i'ch hwyliau a'ch egni. Edrychwch ar ein tudalennau  bwyd a hwyliau i gael rhagor o wybodaeth.
  • Ceisiwch wneud rhywfaint o weithgarwch corfforol. Gall ymarfer corff, gan gynnwys ymarfer corff ysgafn, fod yn dda iawn ar gyfer eich lles meddyliol. Does dim rhaid i hyn fod yn egnïol. Rhowch gynnig ar fynd am dro cerdded neu hyd yn oed ymarferion gan ddefnyddio cadair. Edrychwch ar ein tudalennau gweithgarwch corfforol i gael rhagor o wybodaeth.
  • Treuliwch amser y tu allan. Mae treulio amser mewn man gwyrdd yn gallu cael nifer o effeithiau cadarnhaol ar eich lles. Edrychwch ar ein tudalennau natur ac iechyd meddwl i gael rhagor o wybodaeth a syniadau i roi cynnig arnyn nhw ym myd natur.
  • Osgowch gyffuriau ac alcohol. Efallai y byddwch yn dymuno defnyddio cyffuriau neu alcohol er mwyn ceisio anghofio am deimladau anodd, ond yn y pen draw, gallan nhw wneud i chi deimlo'n llawer gwaeth a'ch atal rhag delio ag unrhyw broblemau sylfaenol y gallai defnyddio cyffuriau neu alcohol fod yn eu cuddio. Edrychwch ar ein tudalennau cyffuriau hamdden ac alcohol neu ewch i wefan Talk to Frank i gael rhagor o wybodaeth.

Mae rhai pobl ag anhwylderau personoliaeth wedi cael profiadau anodd iawn sydd wedi cyfrannu at eu trallod, fel camdriniaeth, bwlio neu wahaniaethu. Os ydych chi wedi cael problemau fel y rhain, gallai fod yn ddefnyddiol archwilio unrhyw gymorth sydd ar gael ar eu cyfer hefyd.

Er enghraifft, os oeddech chi wedi cael eich cam-drin pan oeddech chi'n blentyn, mae gan y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Pobl sydd wedi cael eu Cam-drin pan oeddent yn Blant (NAPAC) wybodaeth am wasanaethau cymorth, ac mae ein tudalennau camdriniaeth a PTSD yn rhestru nifer o sefydliadau eraill a allai helpu.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Ionawr 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig