Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Y cysylltiad rhwng arian ac iechyd meddwl

Awgrymiadau ymarferol ar gyfer rheoli eich arian a gwella eich iechyd meddwl.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Efallai y bydd dysgu am y cysylltiad rhwng iechyd meddwl ac arian yn helpu os byddwch chi'n ei chael hi'n anodd ymdopi. Gallai rhoi trefn ar bethau deimlo fel tasg lethol. Ac efallai fod llawer o bethau y tu hwnt i'ch rheolaeth. Ond ceisiwch gymryd un cam ar y tro. Mae'r awgrymiadau ar y dudalen hon yma i'ch helpu i ddechrau arni.

Y coronafeirws a phryderon ariannol

Mae pandemig y coronafeirws yn achosi pryderon ariannol i lawer o bobl. Os bydd gennych chi bryderon ariannol, efallai y bydd y wybodaeth hon yn helpu:

Gall iechyd meddwl effeithio ar y ffordd rydych chi'n delio ag arian

Dyma rai ffyrdd cyffredin y gall eich iechyd meddwl effeithio ar y ffordd rydych chi'n delio ag arian:

  • Os byddwch chi'n teimlo'n isel neu os bydd gennych chi iselder, efallai na fydd cymhelliant gennych i reoli eich arian. Efallai y byddwch chi'n teimlo nad oes pwynt rhoi cynnig arni.
  • Efallai fod gwario yn gwneud i chi deimlo'n dda am ychydig, felly efallai y byddwch chi'n gorwario i deimlo'n well.
  • Efallai y byddwch chi'n gwneud penderfyniadau ariannol byrbwyll pan fyddwch chi'n wynebu mania neu hypomania.
  • Os bydd eich iechyd meddwl yn effeithio ar eich gallu i weithio neu astudio, gallai hyn leihau eich incwm.
  • Efallai y byddwch chi'n osgoi gwneud pethau i gadw rheolaeth o'ch arian, fel agor biliau neu edrych ar eich cyfrif banc. Efallai y byddwch chi'n osgoi meddwl am arian yn gyfan gwbl.
  • Gallai cael problem iechyd meddwl effeithio ar eich yswiriant, felly byddwch chi'n talu mwy yn y pen draw.

Arian ac anhwylder deubegynol

Doeddwn i ddim yn ateb y ffôn a doeddwn i ddim yn agor y post, ac roedd dyled ar ôl dyled yn cynyddu.

Gall problemau ariannol effeithio ar eich iechyd meddwl

Dyma rai ffyrdd cyffredin y gall arian effeithio ar eich iechyd meddwl:

  • Gall sefyllfaoedd penodol sbarduno teimladau o orbryder a phanig, fel agor amlenni neu fynd i asesiad budd-daliadau.
  • Gall poeni am arian arwain at broblemau cysgu.
  • Efallai na fyddwch chi'n gallu fforddio'r pethau sydd eu hangen arnoch i aros yn iach. Gallai hyn gynnwys tai, bwyd, dŵr, gwres, neu driniaethau fel meddyginiaeth a therapi. Darllenwch ein gwybodaeth am beth i'w wneud os na allwch chi fforddio'r pethau sydd eu hangen arnoch.
  • Gall problemau ariannol effeithio ar eich bywyd cymdeithasol a'ch perthnasau. Efallai y byddwch chi'n teimlo'n unig neu'n ynysig, neu'n teimlo na allwch chi fforddio gwneud y pethau yr hoffech eu gwneud.

Pan roeddwn i'n gwyro i ffwrdd o'm cynlluniau, hyd yn oed drwy brynu rhywbeth bach, roeddwn i'n dueddol o deimlo'n euog a theimlo cywilydd.

Teimladau sy'n gysylltiedig ag arian

Gall meddwl am arian fod yn emosiynol, ac efallai y bydd gennych deimladau gwahanol am arian. Dyma rai o'r teimladau cyffredin y gallai fod gennych:

  • Efallai y byddwch chi'n teimlo'n euog am wario arian, hyd yn oed os byddwch chi'n gwybod eich bod yn gallu fforddio gwneud hynny. Neu, efallai y byddwch chi'n teimlo'n euog am geisio cymorth, hyd yn oed os byddwch chi'n gwybod bod ei angen arnoch.
  • Efallai y byddwch chi'n ofni edrych ar falans eich cyfrif banc neu siarad â'r banc.
  • Efallai y byddwch chi'n teimlo cywilydd am fod angen cymorth arnoch. Mae'n bwysig cofio bod gan bawb yr hawl i deimlo'n iach, a'r hawl i hanfodion fel bwyd a thai. Mae cael cymorth ariannol yn ffordd dda o wneud yn siŵr bod gennych y pethau sydd eu hangen arnoch.
  • Efallai y byddwch chi'n teimlo dan straen, er enghraifft os bydd llawer o bwysau arnoch i gefnogi eich hun a phobl eraill. Neu, efallai fod ceisio defnyddio'r system budd-daliadau yn achosi straen.
  • Efallai y byddwch chi'n teimlo'n flinedig neu wedi eich llethu, yn enwedig os byddwch chi wedi bod yn brwydro â phroblemau ariannol ers amser maith.
  • Os ydych chi wedi wynebu camdriniaeth ariannol yn y gorffennol, gallai hyn effeithio ar sut rydych chi'n teimlo am arian nawr.

Gallai dod i adnabod y teimladau a'r emosiynau sydd gennych am arian eich helpu i nodi patrymau yn eich ymddygiad, a theimlo bod mwy o reolaeth gennych.

Dod i adnabod eich patrymau arian a phatrymau eich hwyliau

Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi dreulio ychydig o amser yn meddwl am sut rydych chi'n teimlo am arian a pham. Er enghraifft, os ydych chi wedi cael trafferth ag arian yn y gorffennol neu os nad oedd gennych chi lawer o arian pan oeddech chi'n tyfu i fyny, gallai hyn effeithio ar y ffordd rydych chi'n teimlo am arian nawr. Gallech chi geisio ateb y cwestiynau hyn:

  • A oes adegau penodol pan fyddwch chi'n fwy tebygol o wario arian?
  • A oes adegau penodol pan fyddwch chi'n fwy tebygol o arbed arian?
  • Sut mae'n teimlo pan fyddwch chi'n gwario arian?
  • Ydych chi'n teimlo'n wahanol pan fyddwch chi'n gwario ac yn arbed?
  • Beth yw'r emosiynau a'r teimladau a gewch, pan fyddwch chi'n meddwl am arian?
  • Pa agweddau ar ddelio ag arian sy'n gwneud eich iechyd meddwl yn waeth? Er enghraifft, pethau fel mynychu apwyntiadau, agor amlenni, gwrthdaro neu gael eich camddeall.

Gallai helpu i gadw dyddiadur o'ch gwariant a'ch hwyliau, i gofnodi faint rydych chi'n ei wario a pham. Gallech chi gofnodi sut roeddech chi'n teimlo cyn ac ar ôl hynny hefyd.

Unwaith y byddwch chi wedi gwneud hyn, efallai y byddwch chi'n dechrau teimlo fel petaech chi'n deall eich arferion a'ch patrymau mewn perthynas ag arian ychydig yn well. Gallai gwybod y rhain eich helpu i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer adegau anodd. Darllenwch ein gwybodaeth am gynllunio ymlaen llaw â'ch arian.

Doeddwn i ddim yn sylweddoli'r effaith roedd fy iechyd meddwl yn ei chael ar fy ngallu i reoli arian, na'r effaith roedd rheolaeth wael o arian yn ei chael ar fy iechyd meddwl.

Gorwario pan fyddwch chi'n sâl

Pan fyddwch chi'n sâl, efallai y byddwch chi'n gwario mwy o arian nag yr hoffech chi ei wneud, neu fwy nag y gallwch chi ei fforddio. Gall gorwario ddigwydd am resymau gwahanol, fel:

  • Gallech chi wario i wneud i'ch hunan deimlo'n well. Mae rhai pobl yn disgrifio hyn fel hwyliau da iawn am gyfnod byr.
  • Os byddwch chi'n cael symptomau fel mania neu hypomania, efallai y byddwch chi'n gwario mwy o arian neu'n gwneud penderfyniadau ariannol byrbwyll.
  • Efallai fod gennych chi gaethiwed neu ddibyniaeth sy'n gwneud i chi wario arian. Er enghraifft, os byddwch chi'n gaeth i gamblo.

Byddwn i'n prynu pa bynnag anrhegion bach roeddwn i eisiau i mi fy hun. Byddai hynny'n teimlo'n wych ar y pryd, ond byddwn i'n dihuno'r diwrnod wedyn gyda theimladau dwys o euogrwydd, cywilydd a dicter.

Dyma rai awgrymiadau a allai eich stopio rhag gorwario:

  • Dywedwch wrth rywun rydych chi'n ymddiried ynddo am yr arwyddion rhybudd y gallech chi fod yn gorwario, neu arwyddion eich bod chi'n brwydro â'ch iechyd meddwl.
  • Rhowch eich cardiau i rywun rydych chi'n ymddiried ynddo neu rhowch nhw yn rhywle lle mae'n anodd cael gafael arnyn nhw.
  • Peidiwch â chadw manylion eich cardiau ar wefannau.
  • Dilëwch apiau lle rydych chi fel arfer yn gorwario, neu apiau sy'n eich annog i wario.
  • Os byddwch chi'n cael eich temtio gan hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol, cyfyngwch ar faint o amser rydych chi'n ei dreulio arnyn nhw.
  • Dewch o hyd i ffyrdd o oedi cyn prynu pethau. Gallech chi ddweud wrthoch chi eich hun, “Fe wna i brynu hwn yfory os bydda i dal am wneud hynny”. Gallech chi dynnu lluniau o'r pethau rydych chi am eu cael neu eu hysgrifennu mewn rhestr dymuniadau.
  • Tynnwch eich sylw gyda rhywbeth arall sy'n gwneud i chi deimlo'n dda.
  • Ystyriwch ddweud wrth eich banc fod gennych broblem iechyd meddwl. Mae'n bosibl y bydd yn gallu ychwanegu nodyn at eich ffeil i gadw llygad am batrwm gwario anghyffredin. Darllenwch ein gwybodaeth am ddweud wrth eich banc fod gennych chi broblem iechyd meddwl.
  • Mae rhai pobl yn ei gweld hi'n ddefnyddiol i osgoi cardiau credyd yn gyfan gwbl.

Gwnaeth gwario arian i wneud i mi deimlo'n well fy achosi i fynd i ddyled – gwnaeth Step Change fy helpu

Daeth gwario arian yn fath o therapi...

Gamblo a chaethiwed

Gall gamblo fynd yn gaethiwed. Os byddwch chi'n poeni am gamblo, mae pethau y gallwch chi eu gwneud:

Mae gallu dweud wrth rywun rwy'n ymddiried ynddo yn helpu. Os bydd pethau'n wael, mae fy Mam yn cadw fy nghardiau.

Cam-drin ariannol

Os bydd rhywun yn eich stopio rhag cael gafael ar arian, gallai hyn fod yn achos o gam-drin ariannol. Os bydd rhywun yn defnyddio arian fel ffordd o'ch rheoli, mae hyn yn arwydd arall o gam-drin ariannol.

Gall cam-drin ariannol effeithio ar eich iechyd corfforol a meddyliol, yn ogystal â'r ffordd rydych chi'n teimlo am arian. Os byddwch chi'n cael eich cam-drin, nid chi sydd ar fai. Mae help ar gael.

Mae gan Helpwr Arian fwy o wybodaeth am gam-drin ariannol, gan gynnwys ble i gael cymorth

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon fis Awst 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig