Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Bod yn agored am eich iechyd meddwl – ar gyfer pobl ifanc

Canllaw ar siarad â ffrindiau a theulu ynglŷn â sut rydych chi'n teimlo.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Siarad â fy ffrindiau a fy nheulu

Mae siarad â phobl sy'n poeni amdanoch chi yn gallu gwneud lles go iawn i'ch iechyd meddwl. Ond efallai ei fod yn syniad ofnus, neu nad ydych chi'n gwybod ble mae dechrau. Ydych chi'n teimlo'n nerfus am ddweud beth sy'n digwydd wrth eich ffrindiau a'ch teulu? Ddim yn gwybod sut mae dechrau'r sgwrs? Rydyn ni yma i'ch helpu i ddod o hyd i ffordd.

Isod, mae gennym wybodaeth am y canlynol:

Pam dylwn i ddweud wrth rywun sut ydw i'n teimlo?

Mae'n gallu bod yn normal poeni am ddweud wrth rywun sut rydych chi'n teimlo, ond mae ceisio ymdopi â phethau ar eich pen eich hun yn gallu gwneud i bethau deimlo'n waeth. Mae siarad â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo yn gallu eich helpu chi:

  • i deimlo nad ydych chi ar eich pen eich hun
  • i deimlo bod y bobl o'ch cwmpas yn eich cefnogi
  • i ddod o hyd i driniaeth a dewisiadau cymorth i'ch helpu gyda'ch teimladau
  • i rwystro pethau rhag gwaethygu
  • i wybod bod pobl eraill wedi cael profiadau tebyg.

Sut fydda' i'n gwybod ym mhwy rydw i'n gallu ymddiried?

Mae penderfynu gyda phwy i siarad yn gallu bod yn anodd. Ceisiwch feddwl am rywun rydych chi'n ymddiried ynddo, sydd:

  • wedi eich cefnogi o'r blaen pan oedd pethau'n anodd
  • yn garedig, yn deall ac yn wrandäwr da
  • yn gwneud i chi deimlo'n ddiogel yn ei gwmni
  • wedi cael profiad tebyg efallai.

Paratoi ar gyfer dweud wrth rywun

Os ydych chi'n poeni am ddweud wrth rywun sut rydych chi'n teimlo, mae'n gallu helpu os ydych chi'n teimlo eich bod yn barod am y sgwrs. Dyma rai pethau gallech chi feddwl amdanynt:

Canfod ffordd sy'n teimlo'n iawn i chi – weithiau, efallai y byddwch chi'n dymuno siarad wyneb yn wyneb, ond os yw hyn yn teimlo'n rhy anodd, gallech chi roi cynnig ar y canlynol:

  • siarad ar y ffôn
  • anfon neges destun neu e-bost
  • ysgrifennu llythyr. Mae gan Childline dempled llythyr os ydych chi angen cymorth i benderfynu beth i'w ddweud
  • tynnu llun o'ch teimladau.

Dod o hyd i amser da – efallai na fydd hi'n teimlo fel amser perffaith byth, ond mae'n gallu helpu os yw'r person yn gallu rhoi ei sylw llawn i chi a'i fod yn rhywle lle rydych chi'n teimlo'n gyfforddus.

Gallech chi ymarfer yr hyn rydych chi am ei ddweud – naill ai yn eich pen neu gyda ffrind. Gallech chi nodi pethau ar bapur hyd yn oed.

Beth dylwn i ei ddweud?

Mae'n gallu bod yn anodd dros ben dod o hyd i'r geiriau cywir i ddweud wrth rywun sut rydych chi'n teimlo. Dyma rai awgrymiadau a allai fod o gymorth:

Meddyliwch am sut i ddechrau'r sgwrs – weithiau mae gwybod sut rydych chi am ddechrau'r sgwrs yn gallu eich gwneud yn fwy hyderus. Mae rhai syniadau ar gyfer dechrau sgwrs isod.

Syniadau ar gyfer dechrau sgwrs

Does dim pethau cywir nac anghywir i'w dweud ond os ydych chi'n ei chael hi'n anodd, gallech chi ddechrau drwy ddweud:

  • 'Mae'n anodd i fi siarad am hyn, ond mae angen i fi ddweud rhywbeth wrtha' ti'
  • 'Mae gen i dipyn ar fy meddwl, allwn ni gael sgwrs rhywbryd?'
  • 'Dwi wedi bod yn teimlo'n _____ yn ddiweddar, a dwi'n ceisio siarad gyda ti amdano oherwydd _____'


Efallai y bydd hi'n help gofyn i'r person rydych chi'n dweud wrtho am beidio ag ymateb nes eich bod wedi gorffen

Esboniwch sut rydych chi'n teimlo – a sut mae hynny'n effeithio ar rannau eraill o'ch bywyd fel eich patrwm bwyta a chysgu, a sut rydych chi wedi bod yn teimlo yn yr ysgol neu'r coleg.

Ceisiwch ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol neu enghreifftiau – os ydych chi wedi gweld rhywbeth ar y teledu, ar-lein neu mewn llyfr a'i fod yn teimlo'n debyg i'ch profiad chi, gallech chi ddangos hyn i'r person i helpu i esbonio eich teimladau.

Er enghraifft, gallech chi ddweud "Wyt ti wedi gwylio'r gyfres deledu am...", "Beth wyt ti'n meddwl am y cymeriad sy'n profi..."

Awgrymwch bethau gallan nhw ei wneud i helpu – fel eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth, siarad â'ch ysgol, trefnu apwyntiad meddyg i chi neu dim ond bod yno i wrando a'ch cefnogi.

Peidiwch â rhannu pethau nad ydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn eu rhannu – does dim angen i chi ddweud popeth ar unwaith. Dywedwch dim ond beth rydych chi'n teimlo eich bod yn gallu ei ddweud.

Beth os ydyn nhw'n ailadrodd yr hyn rydw i wedi'i ddweud wrth rywun arall?

Pan fyddwch yn dweud wrth rywun sut rydych chi'n teimlo, mae'n normal i chi ddymuno eu bod yn cadw beth rydych chi wedi'i ddweud yn breifat, ond efallai y bydd angen iddynt ddweud wrth rywun arall os ydynt:

  • yn poeni amdanoch chi– ac felly bod angen iddynt roi gwybod i rywun arall, fel eich rhiant, athro neu feddyg i wneud yn siŵr eich bod yn ddiogel
  • eisiau dod o hyd i gymorth i chi
  • eisiau cymorth ar gyfer eu hunain– oherwydd eu bod yn drist neu'n teimlo'n ddryslyd am yr hyn rydych chi wedi'i ddweud wrthynt, a ddim yn gwybod sut mae helpu

Os ydych chi'n poeni eu bod am ddweud wrth rywun arall, efallai y bydd hi'n help esbonio pam nad ydych chi eisiau i bobl eraill wybod a gofyn iddynt ddweud wrthych chi os ydynt yn bwriadu dweud wrth rywun arall.

Gofyn i ffrind gadw cyfrinach

Mae gofyn i ffrind addo peidio â dweud wrth unrhyw un yn gallu rhoi llawer o bwysau arnynt. Mae'n bwysig cofio y bydd angen iddynt siarad â rhywun maen nhw'n ymddiried ynddo o bosib, os ydynt yn poeni amdanoch chi a ddim yn siŵr beth dylent ei wneud.

Beth os nad ydyn nhw'n deall?

Dydyn ni ddim bob amser yn cael yr ymateb rydyn ni'n gobeithio ei gael pan fyddwn yn siarad â'n ffrindiau a'n teulu am ein teimladau. Os nad ydyn nhw'n deall neu ddim yn eich cymryd o ddifrif, nid eich bai chi yw hynny. Efallai eu bod wedi cael sioc a bod angen ychydig o amser arnynt i feddwl am yr hyn rydych chi wedi'i ddweud wrthynt.

Hyd yn oed os yw hynny'n eich brifo, efallai y bydd hi'n help siarad â rhywun arall rydych chi'n ymddiried ynddo, neu roi amser iddynt a rhoi cynnig arall arni rywbryd eto. Gallech chi roi cynnig ar ddweud wrthynt mewn ffordd wahanol, fel ysgrifennu llythyr.

Os nad ydynt yn deall o hyd, efallai y bydd hi'n help dweud "efallai nad wyt ti'n deall pam fy mod yn teimlo fel hyn, ond dwi angen i ti dderbyn y peth a fy helpu i drwy..."

Beth os nad oes gennyf i unrhyw un i siarad â nhw?

Os ydych chi'n teimlo eich bod ddim yn gallu siarad â'ch ffrindiau neu'ch teulu am yr hyn sy'n digwydd, neu nad ydynt yn deall, efallai y bydd hi'n help siarad ag un o'r canlynol:

  • rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo yn yr ysgol, fel athro
  • eich meddyg
  • sefydliad sydd wedi'i hyfforddi i wrando arnoch a'ch cefnogi, fel Childline neu The Mix.


Y peth pwysicaf yw eich bod yn cael cymorth ar gyfer eich teimladau.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Mehefin 2019. Byddwn yn ei diwygio yn 2021.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig