Paranoia (Cymraeg)

Mae'n egluro paranoia, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.

Your stories

My experience of psychosis

Louise
Posted on 24/10/2013

Hearing voices

Lucy
Posted on 09/01/2013

Rediscovering words and writing

Charlie
Posted on 22/05/2013

Pam ydw i'n cael paranoia?

Does neb yn gwybod yn union beth sy'n achosi paranoia. Mae llawer o ddamcaniaethau a bydd gan bobl wahanol esboniadau gwahanol am eu profiadau eu hunain. Mae'n debygol o fod yn gyfuniad o bethau.

Mae ymchwilwyr wedi nodi rhai ffactorau risg cyffredinol - mae'r rhain yn bethau a allai olygu y byddwch yn fwy tebygol o gael meddyliau paranoiaidd.

  • Cael profiadau neu deimladau dryslyd neu anesmwyth na allwch eu hesbonio'n hawdd.
  • Sut rydych yn teimlo - os ydych yn teimlo'n orbryderus neu'n bryderus iawn neu os oes gennych hunan-barch isel ac yn disgwyl y bydd pobl eraill yn eich beirniadu neu'n eich gwrthod.
  • Sut rydych yn meddwl - os ydych yn tueddu i ddod i gasgliadau'n gyflym, yn credu pethau'n gryf iawn ac nad ydych yn newid eich meddwl yn rhwydd.
  • Os ydych wedi eich ynysu.
  • Os ydych wedi wynebu trawma yn y gorffennol.

Mae llawer o bethau mwy penodol a all fod yn rhan o'r rheswm dros gael y meddyliau paranoiaidd. Weithiau, gallai hyn fod am eu bod yn eich gwneud yn fwy tebygol o brofi'r ffactorau risg uchod. Er enghraifft, gallai cymryd cyffuriau neu ddiffyg cwsg olygu eich bod yn cael profiadau mwy dryslyd neu anesmwyth.

  • Profiadau bywyd. Rydych yn fwy tebygol o gael meddyliau paranoiaidd pan fyddwch mewn sefyllfaoedd sy'n golygu eich bod yn agored i niwed, wedi eich ynysu neu dan straen a allai wneud i chi deimlo'n negyddol amdanoch eich hun. Os ydych yn cael eich bwlio yn y gwaith, neu os bydd lladrad yn eich cartref, gallai hyn roi meddyliau amheus i chi a allai ddatblygu yn baranoia.
  • Gallai profiadau yn eich plentyndod wneud i chi gredu nad yw'r byd yn ddiogel neu wneud i chi fod yn ddrwgdybus neu'n amheus o eraill. Gallant hefyd effeithio ar eich hunan-barch a'r ffordd rydych yn meddwl fel oedolyn. (Cysylltwch â'r Gymdeithas Genedlaethol i Bobl a Gafodd eu Cam-drin yn ystod Plentyndod (NAPAC) os bydd angen i chi gael cymorth ar ddelio â chamdriniaeth yn ystod plentyndod.)
  • Amgylchedd allanol. Mae rhywfaint o waith ymchwil wedi awgrymu bod meddyliau paranoiaidd yn fwy cyffredin os ydych yn byw mewn amgylchedd neu gymuned drefol lle rydych yn teimlo eich bod wedi eich ynysu oddi wrth y bobl o'ch cwmpas yn hytrach na'ch bod yn gysylltiedig â nhw. Gall adroddiadau o droseddau, terfysgaeth a thrais hefyd fod yn rhannol gyfrifol am ysgogi meddyliau paranoiaidd.
  • Iechyd meddwl. Os byddwch yn cael gorbryder, iselder neu hunan-barch isel, efallai y byddwch yn fwy tebygol o gael meddyliau paranoiaidd - neu o gael eich cynhyrfu fwy ganddynt. Gall hyn fod am eich bod yn nerfus, yn poeni llawer neu'n fwy tebygol o ddehongli pethau mewn ffordd negyddol. Mae paranoia yn symptom o rai problemau iechyd meddwl . Mae llawer o bobl yn cael rhithdybiaethau paranoiaidd fel rhan o bwl o seicosis.
  • Salwch corfforol. Weithiau, bydd paranoia yn symptom o salwch corfforol penodol fel clefyd Huntington, clefyd Parkinson, strociau, clefyd Alzheimer a mathau eraill o ddementia. Gall colli clyw hefyd ysgogi meddyliau paranoiaidd mewn rhai pobl.
  • Diffyg cwsg. Gall diffyg cwsg arwain at deimladau o ansicrwydd a hyd yn oed deimladau anesmwyth a rhithweledigaethau. Gall ofnau a phryderon ddatblygu yn hwyr yn y nos.
  • Effeithiau cyffuriau ac alcohol. Gall cyffuriau fel cocên, canabis, alcohol, ecstasi, LSD ac amffetaminau oll ysgogi paranoia. Gall rhai steroidau a gymerir gan athletwyr a chodwyr pwysau hefyd arwain at symptomau o baranoia. Mae rhai plaladdwyr, tanwydd a phaent hefyd wedi'u cysylltu â pharanoia.
  • Geneteg. Mae gwaith ymchwil wedi awgrymu y gall eich genynnau effeithio ar b'un a ydych yn fwy tebygol o ddatblygu paranoia - ond nid ydym yn gwybod pa rai.

Beth yw'r gydberthynas rhwng paranoia a gorbryder?

Mae'r gydberthynas rhwng paranoia a gorbryder yn gymhleth. Gellid disgrifio meddwl paranoiaidd fel math penodol o orbryder. Mae a wnelo'r ddau ag ymateb i'r posibilrwydd o ryw fath o fygythiad.

Gall gorbryder fod yn rhywbeth sy'n achosi paranoia. Mae gwaith ymchwil yn awgrymu y gall effeithio ar beth rydych yn baranoiaidd yn ei gylch, pa mor hir y mae'n para a pha mor ofidus y mae'n gwneud i chi deimlo. Gall meddyliau paranoiaidd wneud i chi deimlo'n orbryderus.

 


Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Hydref 2016. Byddwn yn ei diwygio yn 2019.


Mental Health A-Z

Information and advice on a huge range of mental health topics

> Read our A-Z

Training

Helping you to better understand and support people with mental health problems

> Find out more

Special offers

Check out our promotional offers on print and digital booklets, for a limited time only

> Visit our shop today