Anhwylderau personoliaeth

Mae'n egluro anhwylderau personoliaeth, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.

Your stories

Katie's experience of inpatient care

Katie talks about borderline personality disorder and about her experience of inpatient care in her blog post.

Katie Evans
Posted on 04/12/2013

"What are you like when you're well?"

Louise talks about how her response when she was asked this question.

Posted on 27/04/2015

Life with Antisocial Personality Disorder (ASPD)

Andrew Brill
Posted on 16/06/2017

Pa driniaeth a all helpu?

Mae amrywiaeth o driniaethau a all eich helpu os byddwch yn profi anhwylder personoliaeth:

A all pethau wella i mi?

Weithiau bydd pobl yn tybio na allwn newid, yn enwedig mewn perthynas â'n personoliaeth. Ond dengys ymchwil nad dyma'r achos.

Gydag amser, gyda'r driniaeth gywir a thrwy feithrin cydberthnasau defnyddiol ag eraill, mae'n bosibl y gall pethau newid a gwella.

Rwyf wedi teimlo'n wahanol, yn ynysig ac ar ben fy hun erioed. Dim ond ers fy niagnosis o BDP yr wyf wedi dechrau deall pam a, gyda help, sylweddoli y gallwn wneud rhywbeth i newid y teimladau hynny a theimlo y gallaf fyw bywyd gwerth chweil.

Triniaethau siarad

Mae ymchwil yn mynd rhagddi i'r triniaethau sy'n helpu pobl ag anhwylder personoliaeth. Mae angen gwneud mwy o ymchwil ond nodwyd bod rhai triniaethau siarad yn helpu.

Yn dibynnu ar ble rydych yn byw a'r problemau yr hoffech gael help ar eu cyfer, gall y triniaethau siarad canlynol fod ar gael i chi:

  • Mae therapïau celfyddydol yn ffordd o ddefnyddio'r celfyddydau – er enghraifft, cerddoriaeth, y celfyddydau, dawns neu ddrama – mewn amgylchedd therapiwtig gyda therapydd hyfforddedig. Gweler ein tudalennau ar Therapïau celfyddydol am ragor o wybodaeth.
  • Mae Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT) yn ystyried sut mae eich teimladau, meddyliau ac ymddygiad yn dylanwadu ar ei gilydd a sut y gallwch newid y patrymau hyn.
  • Mae Therapi Dadansoddi Gwybyddol (CAT) yn cyfuno dulliau ymarferol CBT gyda ffocws ar y gydberthynas rhyngoch chi â'ch therapydd. Gall hyn eich helpu i fyfyrio ar y ffordd rydych yn cysylltu â phobl (gan gynnwys chi eich hun) a pham bod y patrymau hyn wedi datblygu. Gallwch ddarllen mwy am CAT ar ein tudalennau ar Therapïau siarad.
  • Therapi Ymddygiad Dilechdidol (DBT) - triniaeth a gafodd ei datblygu yn arbennig ar gyfer Anhwylder Personoliaeth Ffiniol (BPD). Mae'n defnyddio therapi unigol a therapi grŵp i'ch helpu i ddysgu sgiliau er mwyn rheoli eich emosiynau. Gweler ein hadran ar DBT am ragor o wybodaeth.

Ers dechrau cwrs o DBT, er ei fod yn anodd, rwy'n dechrau teimlo fy mod yn werth rhywbeth o'r diwedd.

  • Therapi sy'n Seiliedig ar y Meddwl (MBT) - triniaeth siarad hirdymor sydd â'r nod o wella eich gallu i gydnabod a deall eich cyflwr meddyliol chi a phobl eraill, a'ch helpu i archwilio eich meddyliau amdanoch chi eich hun a phobl eraill i weld a ydynt yn ddilys.
  • Mae therapi sgema fel arfer yn driniaeth siarad hirdymor sydd â'r nod o'ch helpu i newid y ffyrdd o feddwl (neu 'sgemâu') sy'n peri anhawster i chi, tra'n atgyfnerthu'r ffyrdd o feddwl sy'n ddefnyddiol i chi.
  • Cymunedau therapiwtig (TC) - rhaglenni wedi'u dylunio'n arbennig lle rydych yn gweithio gyda grŵp o bobl eraill sy'n profi problemau iechyd meddwl er mwyn helpu eich gilydd i wella. Mae'r rhan fwyaf o gymunedau therapiwtig yn rhai preswyl (fel arfer mewn tŷ mawr) lle gallech aros drwy gydol yr wythnos neu am ran o'r wythnos. Gall y gweithgareddau gynnwys gwahanol fathau o therapi unigol a therapi grŵp, yn ogystal â thasgau cynnal a chadw tŷ a gweithgareddau cymdeithasol. Mae'r Consortiwm ar gyfer Cymunedau Therapiwtig yn darparu cyfeirlyfr o gymunedau therapiwtig yn y DU.

Treuliais 18 mis mewn Cymuned Therapiwtig, ac nid gorliwio yw dweud i hyn newid fy mywyd. Mae fy newidiadau sydyn mewn hwyliau yn digwydd yn llawer llai aml, ac anaml y maent mor eithafol.

Sut y gallaf gael gafael ar driniaeth?

Gallwch gael gafael ar driniaeth mewn ffyrdd gwahanol. Gall hyn ddigwydd drwy'r GIG, yn breifat neu drwy elusen neu sefydliad. Gweler ein tudalennau ar gael gafael ar driniaeth siarad am ragor o wybodaeth.

Os ydych yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar y driniaeth sydd ei hangen arnoch, gall dod o hyd i eiriolwr fod yn ddefnyddiol.

Anhwylder personoliaeth osgoaol... ar y dechrau roedd yn rhyddhad gwybod nad dim ond fi oedd yn teimlo fel hyn – ond am ychydig fisoedd wedyn defnyddiais y label fel esgus i ymddwyn mewn ffyrdd penodol gan ei feio ar fy 'nghyflwr'. Yn ffodus, gyda help CBT, sylweddolais nad oedd rhaid i mi fyw fel hynny.

Meddyginiaeth

Nid oes unrhyw gyffuriau sydd wedi'u trwyddedu'n benodol er mwyn trin anhwylder personoliaeth. Gall eich meddyg teulu ragnodi meddyginiaeth i'ch helpu i reoli problemau fel iselder, gorbryder neu seicosis. Gallai'r meddyginiaethau hyn gynnwys:

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) - y sefydliad sy'n llunio canllawiau ar arfer gorau mewn gofal iechyd - yn argymell mai dim ond am gyfnod byr y cymerwch feddyginiaeth ar bresgripsiwn, os ydych mewn argyfwng neu er mwyn trin problem arall.

Cyn i chi gymryd unrhyw feddyginiaeth

Cyn i chi benderfynu cymryd unrhyw feddyginiaeth, gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl ffeithiau sydd eu hangen arnoch i deimlo'n hyderus am eich penderfyniad. Am arweiniad ar y wybodaeth sylfaenol y gallech fod am ei chael, gweler ein tudalennau ar:

Sut y gallaf fod yn rhan o fy nhriniaeth?

Ffactor pwysig iawn yn eich triniaeth yw'r gydberthynas rydych yn ei meithrin gyda'r gweithwyr proffesiynol sy'n eich helpu - p'un a ydynt yn weithiwr cymdeithasol, nyrs seiciatrig, therapydd neu seiciatrydd. Mae cael triniaeth dda hefyd yn dibynnu arnoch chi yn chwarae rhan ynddi ac yn dweud eich dweud. Dylech ddisgwyl:

  • Dweud eich dweud am eich triniaeth – dylai eich meddyg teulu neu seiciatrydd drafod eich holl opsiynau triniaeth gyda chi, a dylid ystyried eich barn a'ch dewisiadau bob amser wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â'ch triniaeth. Gweler ein tudalen ar gael help ar gyfer problem iechyd meddwl am ragor o wybodaeth am ddweud eich dweud.
  • Byddwch yn rhan o lunio eich cynllun gofal – mae cynllun gofal yn gytundeb rhyngoch chi a'r gweithwyr proffesiynol rydych yn gweithio gyda nhw, am yr hyn rydych am ei gael allan o'ch triniaeth. Dylech gynnwys y problemau rydych am gael help gyda nhw, unrhyw driniaethau y gall fod eu hangen arnoch a chynllunio at argyfwng.

Dim ond pan gwrddais â rhai gweithwyr proffesiynol ymroddedig a oedd yn barod i fynd gam ymhellach y dechreuais newid a chredu ynof fy hun. Bu modd i mi ddechrau therapi a meithrin cydberthynas dda llawn ymddiriedaeth sydd wedi bod yn gyson ac yn sicr.

Pryd nad oes gennyf ddewis o ran fy nhriniaeth?

Efallai na fydd gennych ddewis o ran eich triniaeth os:

  • nad ydych yn meddu ar y gallu meddyliol - os ystyrir nad ydych yn ddigon iach i wneud penderfyniadau hyddysg am sefyllfa benodol; gweler ein tudalennau ar y Ddeddf Galluedd Meddyliol i gael rhagor o wybodaeth
  • eich bod yn cael eich cadw yn yr ysbyty o dan un o adrannau'r Ddeddf Iechyd Meddwl (a elwir weithiau'n Saesneg yn 'being sectioned')
  • eich bod yn cael eich trino dan Orchymyn Triniaeth Gymunedol (CTO) - mae hyn yn golygu eich bod yn cael triniaeth dan oruchwyliaeth yn y gymuned
  • eich bod yn cael eich trin o dan orchymyn llys – gall hyn ddigwydd os ydych wedi cyflawni trosedd

Gweler ein tudalennau ar gyfyngiadau i'ch dewisiadau am ragor o wybodaeth.


Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Awst 2016. Byddwn yn ei diwygio yn 2019


Mental Health A-Z

Information and advice on a huge range of mental health topics

> Read our A-Z

Training

Helping you to better understand and support people with mental health problems

> Find out more

Special offers

Check out our promotional offers on print and digital booklets, for a limited time only

> Visit our shop today