Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Siarad gyda meddyg am dy iechyd meddwl – ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed

Canllaw i bobl ifanc 11-18 oed ar sut i siarad â meddyg am sut wyt ti'n teimlo, a sut gall meddyg dy gefnogi.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Gall y wybodaeth hon dy helpu os wyt ti'n awyddus i gael cymorth ar gyfer dy iechyd meddwl gan feddyg.

Mae gennym hefyd wybodaeth am beth i’w ddweud wrth dy feddyg.

Siarad â meddyg

Os wyt ti'n cael trafferth gyda sut wyt ti'n teimlo, neu os wyt ti'n mynd trwy gyfnod anodd, efallai y bydd siarad â meddyg yn help.

Gellir gweld meddyg ar gyfer dy iechyd meddwl a lles yn union fel y bysi ti'n ei wneud ar gyfer dy iechyd corfforol.

Mae’r dudalen hon yn ymdrin â:

Mae meddyg teulu’n gallu helpu gydag iechyd corfforol a meddyliol. Rydym yn defnyddio’r gair ‘meddyg’ yn y wybodaeth hon, ond mae’n golygu’r un peth â meddyg teulu.

Sut gall fy meddyg fy helpu i?

Gall siarad am dy feddyliau, teimladau a phrofiadau gyda rhywun nad wyt ti’n ei adnabod fod yn frawychus. Ond mae dy feddyg yno i helpu ti i gael y cymorth ti’n ei haeddu. Mae’n gallu:

  • Gadael i ti siarad, a dy helpu i ddeall sut wyt ti’n teimlo
  • Dy helpu i ddeall iechyd meddwl
  • Rhoi rhywle diogel i ti fod yn onest am bethau sydd wedi bod yn digwydd
  • Ateb unrhyw gwestiynau sydd gennyt ti am bethau rwyt ti’n eu teimlo
  • Trafod gwahanol ddewisiadau o ran cymorth a pha rai allai fod orau i ti
  • Trafod gwahanol driniaethau a allai helpu, fel cwnsela
  • Gwneud atgyfeiriad i ti weld gwasanaeth a allai helpu, fel Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS)
  • Dy helpu i ddod o hyd i gymorth yn dy ardal leol neu ar-lein
  • Awgrymu pethau a allai helpu gartref, yn yr ysgol, yn y coleg neu yn y gwaith

Ti sy’n penderfynu pryd fyddi di'n siarad â dy feddyg, ond does dim rhaid i ti aros nes bydd pethau’n mynd yn waeth cyn gofyn am help. Maen nhw yno i helpu gyda beth bynnag wyt ti’n ei brofi ar hyn o bryd.

Cadw'n ddiogel

Os wyt ti'n teimlo fel bod ti wedi dy lethu, neu eisiau brifo dy hun, mae cymorth ar gael i ti trafod pethau. Rwyt ti'n haeddu cymorth cyn gynted ag y sydd ei angen.

I siarad â rhywun yn gyfrinachol am sut rwyt ti'n teimlo, gallet ti:


Os wyt ti'n teimlo y gallet ti ceisio lladd dy hun, neu os wyt ti wedi brifo dy hun yn ddifrifol, mae hwn yn argyfwng
. Gallet ti:

  • Ffonio 999 a gofyn am ambiwlans.
  • Dweud wrth oedolyn rwyt yn ymddiried ynddo a gofyn iddynt ffonio 999 am help.


Mae argyfyngau iechyd meddwl yn ddifrifol. Nid wyt ti’n yn gwastraffu amser neb.

Does dim rhaid i ti aros i fod ar dy waethaf i ofyn am help. Byddet ti ddim yn gwneud hynny ar gyfer salwch corfforol ac mae cael help yn gynharach yn gallu gwella dy adferiad yn fawr.

Fyddan nhw’n dweud wrth unrhyw un arall beth rydw i wedi’i ddweud?

Bydd popeth ti’n ei ddweud mewn apwyntiad yn cael ei gadw rhyngot ti a dy feddyg fel arfer. Ni fydd yn rhannu'r hyn ti'n ddweud oni bai ei fod yn poeni bod ti neu rywun arall mewn perygl o gael niwed.

Os oes angen i’r meddyg ddweud wrth rywun arall, fel dy rieni neu ofalwyr, dylai roi gwybod i ti yn gyntaf. Os nad wyt ti eisiau iddyn nhw wybod rhai pethau, gallet ofyn i'r meddyg beidio â rhannu'r rhain. Gallet hefyd ofyn iddyn nhw dy helpu i ddweud wrth dy rieni, gofalwyr neu warcheidwaid os wyt ti’n meddwl y byddai hynny’n haws.

Efallai y bydd angen iddynt hefyd rannu’r hyn rwyt ti wedi’i ddweud, gyda dy ganiatâd, i dy helpu i gael mwy o gefnogaeth. Gallai hyn gynnwys siarad â CAMHS i dy atgyfeirio at eu gwasanaethau.

I gael rhagor o wybodaeth am sut a phryd mae gwybodaeth am dy iechyd meddwl yn cael ei gadw’n breifat, cer i’n tudalen ar gyfrinachedd.

Sut mae gwneud apwyntiad?

Efallai y bydd gan bob meddygfa ffyrdd ychydig yn wahanol o drefnu apwyntiadau. I drefnu apwyntiad gyda meddyg, gelli di:

  • Ffonio’r feddygfa
  • Defnyddio eu gwasanaeth bwcio ar-lein
  • Defnyddio ap, os oes un gyda nhw 
  • Mynd i’r feddygfa

Os yw'n well gen ti drefnu dy apwyntiad ar-lein, gelli di chwilio am dy feddygfa leol ar wefan y GIG. Gelli di chwilio am feddygfeydd yng Nghymru a Lloegr i gael manylion eu gwefan. Ar ôl dod o hyd i’r wefan a’u gwasanaethau bwcio ar-lein, dilyna'r cyfarwyddiadau ac ateb pob un o’r cwestiynau cystal ag y modd.

A fydd rhaid i mi aros am apwyntiad?

Bydd yr amser y bydd yn rhaid aros am apwyntiad yn dibynnu ar ble ti'n byw a ble mae dy feddygfa leol. Efallai na fydd apwyntiad ar gael ar unwaith, gall fod ychydig wythnosau i ffwrdd neu’n hirach. Paid â digalonni. Gall meddygfeydd fod yn brysur iawn, a byddan nhw’n ceisio rhoi apwyntiad i ti cyn gynted â phosib.

Dylai derbynnydd roi gwybod i ti pryd fydd dy apwyntiad. Os gwnes ti geisio trefnu apwyntiad ar-lein, dylent roi gwybod i ti pryd y bydd o fewn 2 ddiwrnod gwaith (dydd Llun i ddydd Gwener). Os yn dal i fod yn ansicr pryd fydd dy apwyntiad, cysyllta â dy feddygfa.

Sut ydw i’n cofrestru gyda meddygfa?

Mae'n rhad ac am ddim i gofrestru gyda meddygfa, ac mae'n rhad ac am ddim i drefnu a mynychu apwyntiadau.

Os nad wyt ti wedi cofrestru gyda meddygfa, gallet ddod o hyd i un drwy ddefnyddio adnodd chwilio’r GIG. Os wyt ti'n byw yng Nghymru, defnyddia adnodd chwilio GIG Cymru.

Efallai y bydd gan bob meddygfa wahanol ffyrdd o gofrestru gyda nhw. Dylent ddweud wrthyt sut i gofrestru ac a oes angen rhiant neu ofalwr arnat i dy helpu i wneud hynny.

Sut beth fydd fy apwyntiad?

Gall dy apwyntiad fod ar ffurf:

  • Wyneb yn wyneb yn y feddygfa
  • Galwad ffôn
  • Galwad fideo
  • Neges destun neu e-bost, a allai arwain at apwyntiad arall

Os nad oes gen ti ffôn neu liniadur dy hun ar gyfer dy apwyntiad, gallet ofyn i’r feddygfa beth i’w wneud. Gelli di ddefnyddio cyfrifiadur yn dy lyfrgell leol i drefnu apwyntiadau ar-lein ac ateb negeseuon e-bost. Ond mae’n debyg y byddi di am gael galwadau ffôn neu fideo yn rhywle preifat.

Os bydd dy apwyntiad yn cael ei drefnu yn ystod diwrnod ysgol neu ddiwrnod gwaith, efallai y byddi di am roi gwybod i athro neu reolwr. Efallai y byddan nhw wedyn yn gallu trefnu lle tawel i ti fynd iddo.

Mae’r rhan fwyaf o apwyntiadau’n para tua 10 munud. Wrth drefnu dy apwyntiad, gellir gofyn am apwyntiad hirach os wyt ti'n teimlo bod angen mwy o amser arnat ti.

Y feddygfa sy'n penderfynu pa fath o apwyntiad sydd ei angen arna ti. Pan yn cael dyddiad ac amser, dylet ti hefyd gael gwybod pa fath o apwyntiad wyt ti wedi’i gael. Os llenwaist ti ffurflen ar-lein, efallai y gwnei di dderbyn y wybodaeth drwy neges destun, e-bost neu neges ar-lein.

Bydd y meddyg wedi ei hyfforddi i gynnal apwyntiadau dros y ffôn neu drwy fideo. Os nad yw hyn yn iawn i ti, gallet ti ofyn i’r feddygfa am fath gwahanol o apwyntiad. Os nad wyt ti eisiau apwyntiad wyneb yn wyneb yn gyntaf, gallet ofyn am gael newid hynny hefyd.

Sut dylwn i baratoi ar gyfer apwyntiad?

Efallai y bydd hi’n deimlad ofnus siarad am dy deimladau a meddyliau gyda rhywun dieithr, ond mae dy feddyg yno i helpu i gefnogi ti. Gelli di wneud rhai pethau i baratoi ar gyfer apwyntiad meddyg i dy helpu i deimlo'n barod, gan gynnwys meddwl am beth i'w ddweud a pha gwestiynau i'w gofyn.

Gall apwyntiad meddyg deimlo’n fyr, ac efallai y byddi di’n anghofio’r pethau wyt ti eisiau eu dweud. Mae bod yn barod yn gallu helpu i wneud y mwyaf o'r apwyntiad. Gall y canlynol dy helpu:

  • Ysgrifennu be ti am ei ddweud.
  • Cadw dyddiadur o sut ti’n teimlo neu beth ti’n ei brofi.
  • Mynd ati i ymarfer beth allet ti ei ddweud yn dy ben. Gallet ymarfer gyda theulu, ffrindiau, partneriaid neu rywun arall ti’n ymddiried ynddynt.
  • Trafod pethau gyda llinell gymorth yn gyntaf.
  • Siarad â phobl ifanc eraill ar fyrddau negeseuon ar-lein i gael cyngor, fel Kooth a Tellmi.
  • Dod ag unrhyw wybodaeth sy’n helpu i esbonio sut wyt ti’n teimlo gyda ti i’r apwyntiad
  • Dweud wrth rywun pryd bydd dy apwyntiad yn cael ei gynnal er mwyn iddyn nhw allu dy gefnogi cyn neu ar ôl yr apwyntiad. Meddwl a wyt ti eisiau i rywun arall fod yno i dy cefnogi yn ystod yr apwyntiad hefyd.
  • Gofyn am apwyntiad hirach os oes gen ti ambell beth i siarad amdano - bydd rhaid i ti wneud hyn pan fyddi di’n gwneud yr apwyntiad.
  • Meddwl am unrhyw gwestiynau i’w gofyn i’ch meddyg.
  • Mynd â diod neu fyrbryd gyda ti os yw dy apwyntiad yn un wyneb yn wyneb. Efallai y byddi di hefyd eisiau rhywbeth i chwarae ag ef, fel pêl straen os wyt ti’n nerfus.
  • Dod o hyd i rywle tawel ble rwyt ti'n teimlo’n gyfforddus os yw dy apwyntiad dros y ffôn neu drwy fideo.
  • Gwneud nodiadau ar dy ffôn neu ar ddarn o bapur yn ystod yr apwyntiad i’dy helpu i gofio'r drafodaeth.

Efallai nad wyt ti’n teimlo dy fod wedi paratoi’n iawn ac mae hynny’n iawn. Yr unig beth i’w wneud yw gwneud dy orau.

Fe wnaeth fy helpu i ysgrifennu popeth roeddwn i eisiau ei gyfleu i wneud yn siŵr ein bod ni wedi rhoi sylw i bopeth yn yr apwyntiad.

Oes rhaid i mi gael rhiant neu ofalwr yno?

Gallet fynd i weld meddyg neu nyrs dim ots faint yw dy oedran, ond efallai y bydd yn dy annog i siarad â rhiant, gofalwr neu warcheidwad am beth sy’n digwydd. Gallet ti egluro unrhyw bryderon sydd gen ti i’r meddyg, e.e. os wyt ti’n teimlo na fyddan nhw’n deall neu na fyddan nhw’n gefnogol.

Os wyt ti o dan 16 oed, efallai y bydd gofyn dod â rhywun gyda ti i’r apwyntiad.

Os byddai’n well gen ti beidio â chael rhywun gyda ti, gall fod yn ddefnyddiol gofyn i oedolyn neu ffrind arall wyt ti’n ymddiried ynddynt am gefnogaeth. Gallan nhw fynd gyda ti os bydd dy apwyntiad wyneb yn wyneb. Neu, os yw dros y ffôn neu drwy alwad fideo, fe allen nhw dy helpu i baratoi a chysylltu â ti wedyn.

Beth sy’n digwydd mewn apwyntiad?

Yn dy apwyntiad, bydd dy feddyg yn gwrando arna ti, a gallai ofyn cwestiynau am y canlynol:

  • Dy hwyliau, fel defnyddio holiaduron sy’n holi am sut wyt ti wedi bod yn teimlo’n ddiweddar
  • Dy fywyd yn yr ysgol neu gartref, ac unrhyw ddigwyddiadau diweddar a allai fod yn effeithio ar sut wyt ti’n teimlo
  • Unrhyw newidiadau wyt ti wedi’u cael yn ddiweddar fel newidiadau yn dy arferion cysgu, bwyta neu iechyd cyffredinol
  • Dy hanes meddygol, ac a wyt ti neu dy deulu wedi cael unrhyw broblemau iechyd yn y gorffennol

Efallai y bydd hi’n help i feddwl am y pethau hyn cyn i ti fynd i’r apwyntiad. Mae gennym wybodaeth am baratoi ar gyfer dy apwyntiad â meddyg, a allai fod o gymorth.

Os wyt ti wedi defnyddio ffurflen ar-lein i drefnu dy apwyntiad, efallai dy fod wedi ateb rhai o’r cwestiynau hyn yn barod. Efallai y bydd dy feddyg yn mynd drwy'r atebion gyda thi.

Efallai y bydd y meddyg am wirio dy iechyd corfforol hefyd. Mae’n bosib y bydd yn gwneud hynny drwy gymryd dy bwysedd gwaed, dy bwyso a gwneud rhai profion gwaed. Os yw dy apwyntiad drwy alwad ffôn neu fideo, efallai y bydd y meddyg yn gofyn i ti ddod i mewn i’r feddygfa rywbryd eto i wirio dy iechyd corfforol.

Cofia: ar dy gyfer di mae'r apwyntiad. Mi gei di ofyn cwestiynau unrhyw bryd neu ofyn iddynt roi mwy o wybodaeth am unrhyw beth nad wyt ti yn ei ddeall. Dwyt ti ddim yn gwastraffu amser neb.

Roedd fy meddyg teulu’n ymddangos yn ofalgar, yn empathig, ac yn bwysicaf oll, yn dangos parch mawr at fy mhenderfyniadau. Rwy’n falch fy mod wedi gofyn am help.

Awgrymiadau ar gyfer siarad â meddyg

Dydy hi ddim bob amser yn hawdd siarad am yr hyn sy’n digwydd ond dyma rai awgrymiadau a allai helpu:

  • Paid â bod ofn bod yn onest am dy iechyd meddwl. Dylai dy feddyg wrando ar sut wyt ti’n teimlo.
  • Defnyddia eiriau sy’n teimlo’n naturiol i ti. Esbonia sut mae dy deimladau neu brofiadau yn effeithio ar dy fywyd o ddydd i ddydd. Gallai hyn fod yn bethau fel ysgol a bywyd gartref, cwsg a chwant bwyd.
  • Paid â bod ofn gofyn os nad wyt ti’n deall unrhyw beth.
  • Rho wybod iddynt os yw rhai pethau’n ei gwneud yn anoddach i ti siarad. Er enghraifft, os byddai’n well gen ti ddiffodd y camera ar alwad fideo. Os oes angen iddyn nhw gyfathrebu mewn ffordd wahanol, mae’n iawn gofyn iddyn nhw.
  • Rho gymaint o fanylion ag yr wyt yn gyfforddus yn eu rhannu. Does dim manylion yn rhy fach, a gallai helpu’r meddyg i ddeall mwy am sut wyt ti’n teimlo.
  • Rho wybod iddynt os wyt ti eisiau i rywun dy helpu. Os wyt ti’n teimlo dy fod yn cael dy lethu, efallai y byddi di am i oedolyn neu ffrind yr wyt ti’n ymddiried ynddynt gamu i mewn.
  • Dyweda wrthynt os wyt am gael mwy o amser neu apwyntiad arall cyn penderfynu beth fydd yn digwydd nesaf. Efallai fod hyn yn ymwneud ag opsiynau ar gyfer triniaeth neu gymorth.

Efallai y bydd dy feddyg yn gofyn llawer o gwestiynau i ti i ddod o hyd i’r ffordd orau o helpu. Gorau po fwyaf agored y gelli fod, ond gallet wrthod ateb cwestiynau os nad wyt ti eisiau eu hateb. Mae'n  yn iawn rhoi gwybod i’r meddyg os yw’r sgwrs yn gwneud i ti deimlo’n rhy anghyfforddus a dy bod am ddod â’r sgwrs i ben.

Mae gennym wybodaeth am beth i’w ddweud wrth dy feddyg a pha gwestiynau y gellir eu gofyn i helpu.

Cofia: Dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Bydd dy feddyg wedi siarad â llawer o bobl eraill am eu hiechyd meddwl o’r blaen. Sut bynnag wyt ti’n teimlo, rwyt ti’n haeddu cefnogaeth.

Yn ystod fy apwyntiad wyneb yn wyneb, roeddwn i’n teimlo’n ddigon cyfforddus gyda fy meddyg i ddweud beth oedd yn digwydd. Cefais fy atgyfeirio at wasanaethau CAMHS, a chefais wasanaeth cwnsela yn yr ysgol.

Beth os oes gen i broblem gyda fy meddyg?

Os nad wyt ti'n cytuno â’r math o apwyntiad, rho wybod i’r feddygfa. Gallet ddweud wrthynt pam mae’n anodd i ti gael math penodol o apwyntiad a beth hoffet ti ei gael yn lle hynny.

Efallai na fyddi di'n cytuno â phopeth y mae dy feddyg yn ei ddweud, neu yr hoffet siarad am wahanol opsiynau ar gyfer cymorth. Mae’n iawn holi'r meddyg a dweud ‘na’ wrth unrhyw beth ti yn anghytuno gydag. Gallet ti ofyn am apwyntiad arall gyda nhw os wyt ti eisiau trafod pethau’n fanylach.

Os wyt ti'n anhapus â’r ffordd y mae'r meddyg wedi siarad â ti, neu os nad wyt ti’n teimlo eu bod wedi ateb dy gwestiynau, gallet ofyn am gael gweld meddyg arall.

Os wyt ti’n teimlo’n anghyfforddus yn siarad â’r meddyg ar unrhyw adeg, gallet ti ofyn am apwyntiad arall gyda meddyg gwahanol. Gall y rheswm fod nad wyt ti'n teimlo eu bod yn deall dy safbwyntiau diwylliannol. Gallet hefyd gael oedolyn dibynadwy yno i dy helpu i leisio dy farn.

Gwneud cwyn

Os wyt ti’n teimlo dy fod wedi cael dy drin yn annheg, mae gen ti hawl i gwyno am dy feddyg neu unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Gallet ofyn i'r feddygfa sut i wneud hyn, ac i bwy y dylse ti gwyno. Mae gan bob gwasanaeth ffordd wahanol o ddelio â chwynion. Gall fod yn anodd gofyn am yr hyn sydd ei angen arnat ti, felly efallai y byddi di am ofyn am help gan oedolyn dibynadwy arall i dy helpu i wneud hyn.

Cofia: mae’n iawn os nad wyt ti’n cytuno â’r hyn mae'r meddyg wedi’i ddweud. Beth bynnag wyt ti'n ei deimlo, mae'n ddilys. Os nad wyt ti'n gyfforddus â’r gefnogaeth sydd wedi ei gynnig, mae’n bwysig fod dy farn yn cael ei glywed.

Mae’n cymryd llawer i ddal ati i frwydro dros dy hun a dod o hyd i rywun sy’n deall, ond mae yna rywun, a gallan nhw helpu.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd yr hyn sy’n digwydd ar ôl dy apwyntiad yn dibynnu ar ychydig o bethau. Gan gynnwys be ti wedi’i ddweud, be mae dy feddyg yn ei feddwl bydd yn helpu ti, a pha gymorth sydd ar gael i ti.

Efallai y byddi di eisiau, neu angen, apwyntiad arall i drafod pethau ymhellach.

Gwna yn siŵr dy fod yn cymryd amser i fyfyrio ar dy apwyntiad a’r hyn a drafodwyd. Bydd yn garedig â dy hun a meddwl beth wyt ti eisiau ei weld yn digwydd nesaf. Efallai y byddi di hefyd am drafod pethau gydag oedolyn neu ffrind ti’n ymddiried ynddo.

Ar ôl dy apwyntiad, galli di:

  • Gael dy gyfeirio at wasanaeth iechyd meddwl fel CAMHS
  • Cael cynnig asesiad iechyd meddwl sylfaenol os wyt ti’n byw yng Nghymru
  • Cael cynnig cefnogaeth leol neu ar-lein
  • Cael dy fonitro am dy iechyd corfforol a meddyliol
  • Cael cynnig gwahanol driniaethau, fel cwnsela
  • Cael meddyginiaeth ar bresgripsiwn neu drafod meddyginiaeth
  • Cael apwyntiad arall gyda’r meddyg i drafod sut wyt ti’n teimlo a beth rwyt ti’n ei brofi
  • Gofyn i’r meddyg dy helpu i siarad â rhiant, gofalwr neu warcheidwad am yr hyn rydych chi wedi’i drafod

Os oes angen meddyginiaeth ar gyfer eich iechyd meddwl, dylai gael ei roi i ti gan seiciatrydd yn dilyn asesiad. Gwneir hyn fel arfer drwy wasanaethau fel CAMHS.

Efallai y bydd dy feddyg yn trafod meddyginiaeth gyda ti, ond mae'r canllawiau'n dweud mai dim ond ar ôl i ti gael asesiad gyda seiciatrydd y dylent ei roi ar bresgripsiwn i ti.

Os wyt ti'n ddryslyd neu’n poeni am yr hyn sy’n digwydd gyda’r feddyginiaeth, siarada ag oedolyn ti’n ymddiried ynddo, fel rhiant neu ofalwr.

Gall gymryd ychydig o amser i gael mwy o gymorth, boed hynny’n apwyntiad arall gyda'r meddyg neu’n help gan wasanaeth arall fel CAMHS. Gelli di ofyn i’r meddyg beth wyt ti neu’r meddyg yn gallu ei wneud i dy gefnogi yn y cyfamser.

Mae siarad â dy feddyg yn le gwych i gael help i ddechrau teimlo’n well.

Mae llawer o lefydd eraill i ddod o hyd i gymorth, yn ogystal â ffyrdd o ofalu am eich llesiant.

Ni allaf bwysleisio ddigon mor bwysig ydy parhau i geisio cael y gefnogaeth iawn, hyd yn oed os daw o rywle arall. Oherwydd rwyt ti’n ei haeddu.

Cafodd yr wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Ionawr 2023. Byddwn yn ei diwygio yn 2026.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os hoffech chi atgynhyrchu unrhyw ran o’r wybodaeth hon, gweler ein tudalen ar ganiatadau a thrwyddedau.

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig