Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Deall cyfrinachedd – ar gyfer pobl ifanc

Canllawiau ar gyfer pobl ifanc sy’n egluro sut a pha bryd y mae gwybodaeth ynghylch dy iechyd meddwl yn cael ei chadw’n breifat.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Deall cyfrinachedd

Mae datgelu gwybodaeth i weithwyr proffesiynol ynghylch dy iechyd meddwl yn gallu bod y cam cyntaf i gael help. Ond gall deimlo’n wirioneddol ddychrynllyd hefyd.

Efallai dy fod yn teimlo’n ddryslyd ynglŷn â beth maen nhw am ei wneud gyda’r wybodaeth yr wyt yn ddatgelu wrthyn nhw. Neu efallai y gelli di fod yn poeni y byddan nhw’n ei rhannu gyda phobl eraill, fel dy deulu neu dy ffrindiau.

Rydym ni yma i dy helpu di i ddeall beth yw cyfrinachedd, fel dy fod yn gwybod sut a pha bryd y bydd dy wybodaeth yn cael ei chadw’n breifat.

Mae’r dudalen hon yn ymdrin â:

Mae gennyt ti hawl i dy wybodaeth bersonol gael ei chadw yn gyfrinachol.

Er mwyn darganfod mwy ynghylch pa hawliau sydd gennyt ti ar gyfer dy iechyd meddwl, dylet ddarllen ein gwybodaeth ynglŷn â dy hawliau.

Beth yw cyfrinachedd?

Mae cyfrinachedd yn ymwneud â chadw dy wybodaeth yn breifat.

Mae’n golygu pan wyt ti’n siarad gyda gweithwyr proffesiynol, ni ddylen nhw ddweud wrth unrhyw un arall beth ddywedaist ti.

Mae gwybodaeth sydd angen ei chadw yn gyfrinachol yn cynnwys:

  • dy enw a dy fanylion cyswllt
  • manylion ynglŷn ag unrhyw broblemau iechyd corfforol neu iechyd meddwl sydd gennyt ti
  • manylion ynglŷn ag unrhyw feddyginiaeth, triniaeth neu gynllun gofal sydd gennyt ti
  • unrhyw beth yr wyt ti wedi siarad amdano mewn apwyntiadau neu gyfarfodydd
  • beth mae rhywun yn ei ysgrifennu amdanat ti mewn apwyntiadau
  • beth sydd wedi cael ei ysgrifennu yn dy gofnodion.

Er enghraifft, os wyt ti'n siarad gyda dy feddyg ac yn dweud wrtho dy fod wedi bod yn teimlo’n isel, ni allan nhw ddweud wrth dy rieni na dy ofalwyr. Mae’n rhaid iddo gadw’r wybodaeth hon yn gyfrinachol.

“P​an oeddwn yn chwilio am ffyrdd i helpu fy hun, roeddwn i'n rhy ofnus i ddweud wrth unrhyw un i ba raddau yr oeddwn yn cael trafferth oherwydd nad oeddwn eisiau i fy rhieni gael gwybod.”

Gyda phwy allaf fi siarad yn breifat ynghylch fy iechyd meddwl?

Mae llawer o weithwyr proffesiynol y gelli di siarad gyda nhw yn hyderus ynghylch dy iechyd meddwl.

Gall gwybod y byddan nhw’n cadw’r hyn a ddywedaist ti yn breifat yn gallu dy helpu di i deimlo’n ddiogel a datgelu beth yr wyt ti yn ei ddioddef.

Mae’r rhestr yn cynnwys:

Mae’n rhaid i feddygon a therapyddion ddilyn rheolau arbennig ynghylch diogelu dy wybodaeth gyfrinachol.

Bydd gweithwyr proffesiynol eraill, fel athrawon, yn dilyn polisi eu hysgol neu'u coleg eu hunain. Mae’n bwysig gwybod y bydd y polisïau hyn ychydig yn wahanol ymhobman.

Nid yw bob amser yn hawdd gwybod pa bryd fydd dy wybodaeth yn cael ei chadw yn gyfrinachol.

Os nad wyt ti’n siŵr neu os wyt ti’n poeni, gofynna i’r unigolyn yr wyt yn siarad gydag ef. Gall ef ddweud wrthyt ti am y rheolau y mae’n rhaid iddo ef ei dilyn, a beth fydd yn digwydd i’r wybodaeth yr wyt yn ei datgelu wrtho.

Mae siarad gyda phobl sy’n gofalu amdanat ti yn gallu dy helpu i deimlo bod gennyt ti gefnogaeth a dy fod yn llai unig.

Am y rhan fwyaf o’r amser, y mwyaf y byddan nhw’n deall beth sy’n digwydd i ti, byddan nhw yn gallu dy helpu yn well.

Pan wyt ti’n datgelu wrth dy ffrindiau a dy deulu, dylen nhw barchu dy breifatrwydd a chadw’r wybodaeth ar gyfer eu hunain yn unig. Os nad wyt ti wedi gofyn iddyn nhw ei rhannu.

Er hynny, mae’n bwysig deall nad oes raid iddyn nhw gadw dy wybodaeth yn gyfrinachol. Gallan nhw ddweud wrth rywun arall beth a ddywedaist ti os ydyn nhw’n poeni amdanat ti neu pan maen nhw angen cefnogaeth ar gyfer eu hunain.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, gweler ein tudalen ynglŷn â datgelu i dy deulu a dy ffrindiau.

“Siaradais gyda chwnselydd a fynychoedd yr ysgol bob wythnos ac a wnaeth i mi deimlo yn ddigon cyfforddus i siarad ynglŷn â beth oedd yn achosi trafferth i mi a sut i ddelio gyda hynny yn well.”

Sut bydd fy ngwybodaeth yn cael ei storio?

Efallai dy fod yn poeni ynglŷn â beth fydd gweithwyr proffesiynol yn ei wneud gyda dy wybodaeth. Er enghraifft, os wyt ti’n meddwl y bydd dy gwnselydd ysgol yn cadw dy nodiadau yn rhywle y gall disgyblion eraill eu gweld.

Mae’r gyfraith yn datgan y dylid cadw dy wybodaeth yn ddiogel. Mae hyn yn golygu y dylid ei storio yn ddiogel fel na ellir ei dileu, ei cholli, ei dwyn na’i gweld yn ddamweiniol gan rywun arall.

Mae llawer o ffyrdd gwahanol y gall gweithwyr proffesiynol gadw dy wybodaeth yn ddiogel. Er enghraifft, gallen nhw gadw dy nodiadau mewn ffolder sydd wedi’i diogelu gan gyfrinair ar gyfrifiadur, neu mewn cwpwrdd ffeilio sydd wedi cael ei gloi.

Os nad wyt ti’n siŵr sut bydd dy wybodaeth yn cael ei storio, gelli di ofyn i’r unigolyn yr wyt yn siarad gydag ef. Dylai ef allu dweud wrthyt ti sut bydd yn cael ei chadw yn ddiogel.

Pryd allai fy ngwybodaeth gael ei rhannu?

Fel arfer, mae’n rhaid i ti roi caniatâd i dy wybodaeth gael ei rhannu. Cyfeirir at hyn fel rhoi dy gydsyniad.

Gall pobl rannu dy wybodaeth gyda dy gydsyniad os:

  • Wyt ti'n gofyn iddyn nhw wneud. Er enghraifft, os wyt ti’n gofyn i dy feddyg neu dy athro rannu'r hyn a wnest ti ddweud wrthyn nhw gyda dy rieni neu dy ofalwyr.
  • Wyt ti'n cytuno i hyn. Er enghraifft, os wyt ti’n cytuno i rannu dy wybodaeth gyda gwasanaeth arall, fel CAMHS, fel y gelli di gael dy atgyfeirio yno.
  • Bydd yn dy helpu di i dderbyn gofal da. Er enghraifft, os wyt ti’n cael cefnogaeth gan wasanaeth iechyd meddwl, gellid rhannu dy nodiadau o fewn y gwasanaeth. Gwneir hyn i sicrhau os byddi di’n gweld meddyg gwahanol, bydd yn gwybod sut i dy gynorthwyo.

Os oes yna bethau penodol nad wyt ti eisiau eu rhannu, gelli di ddweud wrth yr unigolyn yr wyt ti’n siarad gydag ef.

Ac os wyt ti’n penderfynu nad wyt ti eisiau i dy wybodaeth gael ei rhannu gydag unrhyw un mwyach, gelli di dynnu dy gydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg.

Mewn rhai sefyllfaoedd, gall fod angen i dy wybodaeth gael ei rhannu heb dy gydsyniad. Gelwir hyn yn ‘torri cyfrinachedd’.

Dylai hyn ddigwydd yn unig os:

  • Oes pryderon dy fod ti mewn risg o niwed difrifol neu dy fod mewn perygl. Er enghraifft, os wyt ti wedi dweud wrth rywun dy fod yn cael dy gam-drin, gallan nhw fod angen rhannu hyn er mwyn sicrhau dy fod yn aros yn ddiogel.
  • Oes pryderon bod rhywun arall mewn risg o niwed neu'u bod mewn perygl. Er enghraifft, os wyt ti’n dweud wrth rywun fod dy frawd neu dy chwaer yn teimlo fel lladd eu hunain, gallan nhw fod angen rhannu’r hyn a ddywedaist wrth rywun arall. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod dy frawd neu dy chwaer yn parhau i aros yn ddiogel.
  • Wyt ti'n methu â dod i benderfyniad ynglŷn â rhannu dy wybodaeth. Er enghraifft, os nad wyt ti'n gallu deall beth wyt ti'n rhoi dy gydsyniad iddo a beth all ddigwydd os wyt ti’n dweud ie neu na.
  • Dywedir wrth rywun bod yn rhaid iddyn nhw wneud hyn drwy'r gyfraith. Er enghraifft, os oes angen y wybodaeth ar gyfer achos llys.

Os yw’r gweithiwr proffesiynol angen dweud wrth rywun beth wyt ti wedi’i ddweud wrthyn nhw, dylen nhw bob amser geisio dweud wrthyt ti yn y lle cyntaf.

“Mae'n tawelu fy meddwl o wybod eu bod o ddifrif eisiau'r hyn sydd orau i ti a byddan nhw'n rhannu gwybodaeth yn unig er mwyn dy ddiogelu di a diogelu eraill sydd o dy gwmpas.”

Beth sy'n digwydd os ydw i'n dweud wrth rywun fy mod yn hunan-niweidio?

Efallai dy fod yn poeni am ddweud wrth weithwyr proffesiynol dy fod yn hunan-niweidio oherwydd nad wyt ti eisiau i dy rieni na dy ofalwyr ddod i wybod.

“Roeddwn i wedi dychryn am fy mywyd drwy siarad â gweithiwr proffesiynol y byddai ef yn dweud wrth fy rieni. Gan fy mod o gefndir Asiaidd, mae iechyd meddwl yn bwnc sy'n cael ei anwybyddu a byth yn cael ei drafod; mae stigma ynghlwm ag ef. ”

Mae’n bwysig gwybod na fydd hyn yn digwydd bob amser.

Bydd yr unigolyn yr wyt yn siarad gydag ef yn dymuno gwneud beth sydd orau i ti. Er enghraifft, byddan nhw’n ystyried sut wyt ti’n teimlo bod dy rieni neu dy ofalwyr yn cael gwybod, ac a oes unrhyw risgiau iddyn nhw wybod.

Bydd eu penderfyniad ynghylch a ddylen nhw ddweud wrth rywun arall yn dibynnu ar:

  • Eu swydd. Mae’n rhaid i rai gweithwyr proffesiynol, fel therapyddion neu nyrsys, ddilyn rheolau caeth ynghylch cadw dy wybodaeth yn gyfrinachol. Mae eraill, fel athrawon, yn gorfod dilyn polisi eu hysgol. Gall hyn ddweud fod rheini a gofalwyr bob amser angen cael gwybod ynghylch hunan-niweidio.
  • Pa mor fawr y maen nhw'n feddwl yw'r risg i dy ddiogelwch di. Os nad ydyn nhw’n meddwl bod risg o niwed difrifol, efallai y gallan nhw dy gefnogi di i reoli dy deimladau heb orfod dweud wrth dy rieni nag wrth dy ofalwyr.

Os nad wyt ti’n siŵr a fydd yr unigolyn yr wyt ti’n siarad gydag ef yn cadw’r hyn a ddywedaist yn breifat, gallet ti ofyn iddo.

Os ydyn nhw’n dweud bod angen iddyn nhw ddweud wrth rywun, gelli di drafod hyn gyda nhw a chytuno ar y ffordd orau o wneud hyn.

Gall hyn deimlo’n wirioneddol ddychrynllyd, ond mae’n bwysig cofio bod datgelu yn gallu dy helpu di i dderbyn yr help a’r gefnogaeth gywir.

I gael rhagor o wybodaeth am hunan-niweidio, gweler ein tudalen am ymdopi â hunan-niweidio.

“Y peth pwysicaf yr ydw i'n ei roi ar ddeall i fyfyrwyr yw na fyddaf byth yn rhedeg o gwmpas gyda golau glas sy'n fflachio ar fy mhen ac yn achosi argyfwng." – Arweinydd Bugeiliol mewn ysgol uwchradd.”

Beth sy'n digwydd os yw rhywun wedi rhannu fy ngwybodaeth yn anghywir?

Dyma pryd mae gweithwyr proffesiynol yn rhannu dy wybodaeth heb dy gydsyniad neu reswm dilys arall. Er enghraifft, os yw dy feddyg wedi anfon llythyr ynglŷn â dy atgyfeiriad CAMHS at rywun arall.

Os yw gweithwyr proffesiynol yn rhannu dy wybodaeth yn anghywir, gall fod yn ddryslyd iawn, ond mae rhai pethau y gelli di eu gwneud:

  • Gofynna pam y rhannwyd dy wybodaeth. Cysyllta â’r unigolyn neu’r sefydliad a rannodd dy wybodaeth er mwyn darganfod pam y cafodd ei rhannu. Dylet ti hefyd ofyn am gopi o’u polisi ynglŷn â chyfrinachedd.
  • Os nad ydyn nhw'n ymateb neu rwyt ti'n teimlo nad wyt ti'n cael dy drin yn deg, gelli di gwyno. Gelli di ofyn i’r gwasanaeth neu’r sefydliad yr wyt ti’n cwyno amdano sut i wneud hyn. Gallan nhw ofyn efallai i ti ysgrifennu llythyr i gwyno neu gwblhau ffurflen. Efallai y gelli di hefyd ddarllen copi o’u polisi cwynion sydd ar eu gwefan.

Templed ar gyfer ysgrifennu llythyr neu e-bost i gwyno

Lawrlwythwch fersiwn ddrafft o dempled llythyr neu e-bost yn egluro beth sydd wedi digwydd a beth fyddet ti’n dymuno ei weld yn digwydd yn awr (Word neu PDF – ffenestr newydd).

Os nad wyt ti’n teimlo’n gyfforddus neu’n ddigon da i wneud hyn dy hun, gallet ti ofyn i oedolyn yr wyt ti’n ymddiried ynddo i dy helpu di.

Os wyt ti’n parhau i fod yn anfodlon â’r modd y rhannodd y sefydliad dy wybodaeth, gallet ti siarad â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG).

Eu gwaith nhw yw sicrhau bod sefydliadau yn diogelu’r wybodaeth sydd ganddyn nhw amdanom ni. Gallan nhw hefyd ymchwilio i gwynion ynglŷn â’r ffordd y mae sefydliadau yn ymdrin â gwybodaeth. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, darllena wefan SCG.

Sut gallaf i weld beth sydd yn fy ffeiliau a'm cofnodion?

Efallai y byddi angen gweld pa wybodaeth sydd gan leoedd fel dy ysgol neu CAMHS amdanat ti yn eu cofnodion.

Ambell waith, gall fod yn eithaf hawdd gweld y wybodaeth hon. Er enghraifft, gallet ti ofyn i dy therapydd ddangos y nodiadau y mae ef wedi’u cymryd yn ystod dy sesiynau, a gall ef rannu hyn gyda thi yn syth.

Ond mewn sefyllfaoedd eraill, efallai y gelli di fod angen anfon e-bost neu lythyr i ofyn am y wybodaeth hon. Pan wyt ti’n gofyn am y wybodaeth hon, gelwir hyn yn ‘gais gan y testun am fynediad at ddata’.

Templed o lythyr neu e-bost ar gyfer cais gan y testun am fynediad at ddata

Lawrlwythwch fersiwn ddrafft o dempled ein llythyr neu ein e-bost er mwyn egluro pa wybodaeth yr wyt ti yn dymuno ei gweld (Word neu PDF – ffenestr newydd).

Os nad wyt ti’n teimlo’n gyfforddus neu’n ddigon da i wneud hyn dy hun, gallet ti ofyn i oedolion yr wyt ti’n ymddiried ynddo neu eiriolwr i dy helpu di.

Fel arfer, bydd y sefydliad yn cymryd un mis i ateb i dy gais. Ond os yw’r cais yn un cymhleth iawn, gallan nhw gymryd ychydig mwy o amser. Nid oes hawl ganddyn nhw godi tâl arnat i wneud hyn.

Mae ychydig o sefyllfaoedd pan all sefydliad wrthod dy gais. Mae hyn yn cynnwys:

  • os ydyn nhw’n meddwl nad wyt ti mewn gwirionedd angen y wybodaeth a dy fod yn gofyn amdano er mwyn achosi problemau iddyn nhw
  • os wyt ti’n parhau i ofyn am yr un wybodaeth neu wybodaeth debyg
  • os ydyn nhw’n meddwl y gall rhannu’r wybodaeth achosi niwed difrifol i ti neu i rywun arall.

Os nad wyt ti’n fodlon â’u hymateb neu dy fod yn teimlo nad wyt ti’n derbyn gwrandawiad, gallet ti gwyno wrth SCG. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, darllena wefan SCG.

Cafodd yr wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Mai 2021. Byddwn yn ei hadolygu yn 2023.

Mae tystlythyrau ar gael ar gais. Os hoffech atgynhyrchu unrhyw ran o'r wybodaeth hon, gweler ein tudalen ar ganiatadau a thrwyddedu.

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig