Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Deall CAMHS – ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed 

Canllaw i bobl ifanc 11-18 oed sy’n egluro beth yw CAMHS, pa gymorth maen nhw’n ei gynnig a sut gallwch chi gael help ganddyn nhw.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Mae’r wybodaeth hon yn gallu eich helpu os ydych chi’n bwriadu cael triniaeth a chymorth gan CAMHS.

Os ydych chi’n aros am help, efallai yr hoffech chi ddarllen ein tudalen am apwyntiadau gyda CAMHS.

Os ydych chi eisoes yn cael help gan CAMHS, efallai y bydd yn fuddiol hefyd i chi ddarllen ein gwybodaeth am bwy sy’n gweithio yn CAMHS a’r problemau y gallech chi eu hwynebu.

Beth yw CAMHS?

Mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) yn wasanaethau sy’n cefnogi pobl ifanc sy’n profi iechyd meddwl gwael, neu deimladau neu brofiadau anodd. Gall CAMHS weithio gydag ysgolion, elusennau ac awdurdodau lleol.

Yn Lloegr, efallai y byddwch ch’n eu clywed yn cael eu galw’n:

  • Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CYPMHS)
  • CAMHS Arbenigol neu CYPMHS Arbenigol

Yng Nghymru, byddwch chi fel arfer yn eu clywed yn cael eu galw’n Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed Arbenigol (SCAMHS).

Mewn rhai ardaloedd, efallai bydd gan eich gwasanaeth CAMHS enw arall. Os nad ydych chi’n siŵr, gallwch chi holi yn eich meddyg.

Pan fyddwn ni’n sôn am CAMHS ar y dudalen hon, rydyn ni’n golygu’r gwasanaethau am ddim sy’n cael eu rhedeg gan y GIG yn eich ardal chi, y tu allan i’r ysbyty.

Gallwch chi ddarllen mwy am ofal i gleifion mewnol yn ein hwb gwybodaeth ar gyfer mynd i’r ysbyty.

Gyda beth all CAMHS fy helpu i?

Gall CAMHS gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag amrywiaeth o brofiadau a phroblemau iechyd meddwl. Er enghraifft, os ydych chi’n profi:

  • Tristwch, hwyliau drwg neu iselder
  • Teimladau o boeni neu bryder
  • Hyder a hunan-barch isel
  • Problemau bwyta neu gyda’ch perthynas â bwyd
  • Problemau gyda rheoli dicter
  • Cael trafferth cysgu
  • Problemau gydag ailadrodd yr un gweithredoedd neu ymddygiad
  • Clywed lleisiau neu weld pethau
  • Meddyliau am fod eisiau brifo eich hun
  • Meddyliau a theimladau hunanladdol
  • Teimladau anodd ar ôl digwyddiad trawmatig

Mae gennym ni wybodaeth hefyd am beth i’w wneud os na fydd CAMHS yn eich helpu.

Os ydych chi’n niwrowahanol ac yn cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl, efallai y bydd CAMHS yn gallu eich cefnogi.

Ond, oherwydd bod gwasanaethau’n wahanol yng Nghymru a Lloegr, ni fydd pob tîm CAMHS yn darparu’r cymorth sydd ei angen arnoch.

Os oes angen math ychwanegol o gymorth arnoch na all eich CAMHS lleol ei gynnig, e.e. os ydych chi’n awtistig neu os oes ADHD gyda chi, ceisiwch chwilio ar-lein am wasanaethau lleol yn eich ardal. Gallech chi hefyd geisio gofyn i’ch meddyg.

Dywedodd fy ffrindiau yn yr ysgol wrth athro am fy mhroblemau bwyta... Cytunodd yr ysgol a minnau i drefnu i mi weld cwnselydd yr ysgol. Penderfynodd fy atgyfeirio at CAMHS drwy fy meddyg teulu er mwyn i mi allu cael gofal iechyd meddwl arbenigol.

Pa fathau o driniaeth a chymorth mae CAMHS yn eu cynnig?

Gall CAMHS gynnig llawer o wahanol opsiynau o ran triniaeth a chymorth, fel:

  • Therapïau siarad – siarad un i un gyda therapydd am eich meddyliau, eich teimladau a’ch ymddygiad. Weithiau, efallai y byddwch chi’n cael y sesiynau hyn gyda phobl ifanc eraill, a elwir yn therapi grŵp, neu gyda phobl sy’n byw gyda chi, a elwir yn therapi teulu. Mae rhai mathau o therapi yn cynnwys cwnsela a therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT). Efallai y bydd CAMHS yn cynnig therapïau gwahanol i chi yn dibynnu ar eich profiad a’ch diagnosis.
  • Therapïau creadigol – defnyddio celfyddydau fel cerddoriaeth, peintio, dawnsio neu chwarae gemau i archwilio eich teimladau, gyda therapydd creadigol.
  • Meddyginiaeth – rhoi cyngor ar gyffuriau a’u presgripsiynu i’ch helpu i ymdopi â sut rydych chi’n teimlo, neu’r hyn rydych chi’n ei brofi. I gael rhagor o wybodaeth am feddyginiaeth, ewch i wefan YoungMinds.
  • Gofal ysbyty i gleifion mewnol – aros yn yr ysbyty fel claf mewnol i gael triniaeth a chymorth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein hwb gwybodaeth am fynd i’r ysbyty.
  • Iechyd corfforol ac adolygiadau meddygol – mae’n cynnwys cefnogaeth fel nyrsys yn gwirio eich pwysedd gwaed, cymryd samplau gwaed, neu greu cynlluniau prydau i helpu gyda phroblemau bwyta.
  • Cymorth mewn argyfwng – llinellau cymorth a gweithwyr proffesiynol sy’n gallu helpu i’ch cadw’n ddiogel os ydych chi eisiau brifo eich hun, neu os ydych chi’n teimlo y gallech chi geisio lladd eich hun.

Fe wnaeth gymryd amser i ddod o hyd i'r ffit iawn yng Ngwasanaethau Iechyd Meddwl Arbenigol Plant a’r Glasoed (S-CAMHS). Ond pan wnes i, roeddwn i'n gallu cael rhywfaint o help allan ohono ac roeddwn i'n teimlo fy mod i'n gallu bod yn fwy agored – Charlotte, 13

 

Bydd eich tîm CAMHS yn penderfynu pa fath o driniaeth a chefnogaeth i’w rhoi i chi. Ond fe ddylen nhw ofyn i chi beth fyddech chi'n ei hoffi a beth fyddech chi'n teimlo fwyaf cyfforddus yn ei wneud. Mae rhagor o wybodaeth am wneud dewisiadau ar ein tudalen am broblemau y gallech chi eu hwynebu yn CAMHS.

Mae’n bosibl y bydd pobl sy’n gweithio gyda CAMHS yn darparu eich triniaeth a’ch cefnogaeth mewn gwahanol ffyrdd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen ar bwy sy’n gweithio yn CAMHS.

Mae mwy nag un opsiwn ar gael. Mae’n rhaid i chi ddal ati nes i chi ganfod y llwybr iawn – ac mae ar gael, rwy’n addo.

Sut galla' i gael help gan CAMHS?

Efallai y bydd y ffordd rydych chi’n cael help gan eich CAMHS lleol yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw. Mae gan y rhan fwyaf o wasanaethau eu gwefan eu hunain lle gallwch chi gael rhagor o wybodaeth.

Fel arfer, bydd angen i chi gael eich atgyfeirio gan eich meddyg, ond mae rhai gwasanaethau hefyd yn derbyn atgyfeiriadau gan:

  • Ysgolion a chwnselwyr ysgol
  • Gweithwyr cymdeithasol
  • Timau troseddu ieuenctid
  • Chi eich hun, yn dibynnu ar eich oedran a beth mae eich gwasanaeth lleol yn ei ganiatáu

Os na allwch chi atgyfeirio eich hun, bydd angen rhywun i wneud yr atgyfeiriad ar eich rhan. Os nad ydych chi'n siŵr sut i gael atgyfeiriad, gofynnwch i rywun fel eich meddyg, athro neu oedolyn dibynadwy am help.

Sut galla' i ddod o hyd i fy CAMHS lleol?

I ddod o hyd i’ch CAMHS lleol, edrychwch pa gymorth maen nhw’n ei gynnig ac i gael gwybod sut mae cael help ganddyn nhw:

Ar ryw adeg ar ôl i CAMHS gael eich atgyfeiriad, byddan nhw’n cysylltu â chi dros y ffôn, drwy e-bost neu drwy anfon llythyr atoch chi. Gallai hyn fod er mwyn trefnu eich apwyntiad cyntaf neu ofyn mwy o gwestiynau am yr hyn rydych chi’n ei brofi. Os byddai’n well gennych, gallwch chi ofyn iddyn nhw anfon llythyrau apwyntiad neu negeseuon testun at eich rhieni, eich gofalwyr neu eich gwarcheidwaid hefyd.

Roedd cael rhywun i eistedd i lawr a dweud wrtha i ‘oes, mae yna broblem go iawn’, yn anhygoel o ran dilysu.

Beth os na fydd CAMHS yn fy helpu i?

Ar ôl i chi gael eich atgyfeirio, weithiau bydd CAMHS yn penderfynu nad yw eu gwasanaeth yn addas i chi:

  • Efallai na fyddant yn darparu’r math o driniaeth a chymorth sydd eu hangen arnoch
  • Efallai na fyddan nhw’n gallu cynnig help i chi ar hyn o bryd oherwydd eu bod yn rhy llawn
  • Efallai y bydd eu rhestr aros yn rhy hir ar gyfer y math o gymorth brys sydd ei angen arnoch

Gall hyn beri gofid a’ch gwneud yn rhwystredig, yn enwedig os ydych chi eisoes wedi aros am amser hir ac nad ydych chi’n cael unrhyw gymorth. Os yw hyn yn digwydd, dylent awgrymu lleoedd eraill gallwch chi fynd i gael cymorth neu bethau gallwch chi roi cynnig arnynt a allai helpu.

Pan es i CAMHS am y tro cyntaf, dywedwyd wrtha i nad oedd fy sefyllfa’n ddigon brys i gael gofal ar unwaith. Fel dewis arall, cynigiwyd sesiynau therapi grŵp i mi. Os ydw i’n onest, wnaeth y rhain ddim fy helpu i ryw lawer – yn enwedig gan fy mod i’n cael trafferth gyda gorbryder cymdeithasol.

Os ydych chi’n cael trafferth cael help gan eich CAMHS lleol am unrhyw reswm, dylech chi siarad â phwy bynnag wnaeth eich atgyfeirio chi. Gallant eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd eraill o gael cymorth. Os ydych chi wedi atgyfeirio eich hun, cysylltwch â’r gwasanaeth i ofyn.

Gallwch chi hefyd ddod o hyd i lefydd eraill sy’n gallu helpu ar ein tudalen am ddod o hyd i gymorth.

Roeddwn i’n teimlo na fyddai dim byd arall yn helpu ar wahân i CAMHS. Mewn gwirionedd, elusennau lleol a chymorth gan yr ysgol sy’n gallu gwneud y gwahaniaeth mwyaf.

A fydd CAMHS yn siarad â fy rhieni, gofalwyr neu warcheidwaid?

Fel arfer, bydd eich tîm CAMHS yn siarad â’ch rhieni, eich gofalwyr neu’ch gwarcheidwaid i ddeall mwy amdanoch chi a’ch bywyd gartref. Pwrpas hyn ydy gallu eich helpu yn y ffordd orau bosibl.

Efallai y bydd eich tîm hefyd yn siarad gyda nhw am y math o gymorth y gallai CAMHS ei gynnig i chi, neu’n gofyn iddyn nhw ddod i apwyntiadau.

  • Gall cael rhywun rydych chi’n ei adnabod yn rhan o’ch triniaeth eich helpu i deimlo eich bod yn cael mwy o gefnogaeth
  • Does dim rhaid i chi fod ar eich pen eich hun pan fydd angen i chi ddelio â phethau, neu wneud penderfyniadau
  • Gallant helpu gyda phethau ymarferol, megis mynd â chi i apwyntiadau neu siarad â'ch ysgol

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen ar siarad â ffrindiau a theulu am eich iechyd meddwl.

Yn realistig, bydd angen i chi golli’r ysgol ar gyfer apwyntiadau, a doeddwn i ddim wedi meddwl am hynny go iawn. Roedd yr ysgol yn gwybod fy mod yn mynd i apwyntiadau oherwydd bod fy mam wedi siarad â nhw.

  • Dydych chi ddim eisiau iddyn nhw ddod i apwyntiadau gyda chi
  • Rydych chi’n poeni y byddan nhw’n cael gwybod beth rydych chi wedi’i ddweud
  • Does gennych chi ddim perthynas dda â nhw, neu rydych chi’n cael trafferth gyda’ch bywyd gartref

Ceisiwch egluro i’ch tîm CAMHS pam mae hyn yn gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus. Gallwch chi hefyd ofyn iddynt faint o’r hyn rydych chi’n ei ddweud yn eich apwyntiad sy’n aros yn breifat.

Hyd yn oed os nad ydych chi eisiau i’ch rhieni, eich gofalwyr neu’ch gwarcheidwaid gymryd rhan, gall fod yn dda cael rhywun i’ch cefnogi. Efallai y byddwch am ddweud wrth ffrind neu bartner beth sy’n digwydd yn CAMHS os ydych chi’n teimlo’n fwy cyfforddus gyda nhw.

Os nad ydych chi am i’ch tîm CAMHS gynnwys eich rhieni, eich gofalwyr neu’ch gwarcheidwaid o gwbl, efallai y byddwch chi’n gallu trafod hyn gyda’ch tîm CAMHS. Ond mewn gwirionedd, mae’n dibynnu ar sut mae eu gwasanaeth yn gweithio, yn ogystal â’ch oedran a’ch sefyllfa.

I gael gwybod sut a phryd mae gwybodaeth am eich iechyd meddwl yn cael ei chadw’n breifat, ewch i’n tudalen ar gyfrinachedd.

Pan oeddwn i’n ymwneud â CAMHS am y tro cyntaf, nid oeddwn yn barod i siarad gan fod arna i ofn y byddai pethau’n mynd yn ôl at fy rhieni. Byddai wedi bod yn llawer gwell pe bawn wedi gwybod sut y byddai CAMHS yn trin fy ngwybodaeth, ac wedi cael gwybod mwy am gyfrinachedd.

Os ydych chi yn LGBTQIA+, efallai y byddwch chi’n poeni bod CAMHS yn rhannu’r wybodaeth hon â phobl eraill. Mae gennych hawl i’ch gwybodaeth bersonol gael ei chadw’n breifat.

Gallwch chi benderfynu pwy sy’n gwybod am eich rhywioldeb neu eich hunaniaeth o ran rhywedd, a sut a phryd y byddwch yn dweud wrthynt.

Gallwch ddod o hyd i’r canlynol:

  • Gwybodaeth a chyngor i bobl LGBTQIA+ ar wefan Stonewall
  • Cefnogaeth os ydych chi’n drawsryweddol, yn anneuaidd neu’n rhywedd-amrywiol ar wefan Mermaids

Yn ystod fy nghyfnod gyda CAMHS, roedd gen i seicolegydd a ddwedodd wrthyf, mewn ymateb i mi yn sôn am fod yn gwiar, am beidio â dweud wrth neb gan y byddwn i’n ‘tyfu allan ohono’.

Am ba mor hir fydd CAMHS yn rhoi cymorth i mi?

Am ba mor hir bynnag mae CAMHS yn darparu cymorth, bydd hyn yn unigryw i chi, ond gallwch chi ofyn iddyn nhw am syniad bras unrhyw bryd.

Roedd rhai pobl ifanc y buom ni’n siarad â nhw wedi cael cymorth gan CAMHS ar gyfer amrywiaeth o wahanol adegau:

Doeddwn i ddim yn sylweddoli am ba hyd y byddwn i gyda nhw. Doeddwn i ddim wedi llawn sylweddoli faint o help y byddai ei angen arnaf ac am ba hyd.

Yn hytrach na phenderfynu mynd at wasanaethau iechyd meddwl oedolion yn syth ar ôl CAMHS, fe wnaethon nhw fy rhyddhau pan oeddwn i’n 18 oed.

Roeddwn i’n gwneud yn well o lawer o fewn ychydig fisoedd. Cefais fy rhyddhau ar fy nhelerau i, pan oeddwn yn barod.

Os yw CAMHS yn cynnig triniaeth fel therapi i chi, efallai y byddan nhw’n rhoi nifer penodol o apwyntiadau i chi. Ar ôl y rhain, dylai eich tîm CAMHS siarad â chi am sut mae pethau’n mynd a sut rydych chi’n teimlo. Bydd hyn yn helpu’r ddwy ochr i benderfynu a ydynt yn dal yn gallu rhoi cymorth i chi.

Bydd CAMHS yn rhoi’r gorau i’ch cefnogi ar oedran penodol. Yn y rhan fwyaf o leoedd, bydd hynny yn digwydd pan fyddwch yn troi’n 18 oed, ond gall fod yn gynharach neu’n hwyrach. Mae’n dibynnu ar y gwasanaeth a ble rydych chi’n byw. Os ydych chi’n meddwl bod CAMHS wedi rhoi’r gorau i’ch helpu chi’n rhy fuan, dylech chi gysylltu â’r person sy’n gyfrifol am eich triniaeth a’ch cymorth.

Dylai CAMHS eich helpu hefyd i baratoi ar gyfer cael eich rhyddhau neu symud i Wasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion (AMHS). I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein canllaw ar adael CAMHS.

Cofiwch bob amser nad peth drwg ydy bod angen cymorth am gyfnod hir. Rwy’n fodlon â’r ffaith y bydd angen cymorth arnaf am weddill fy mywyd o bosib.

Beth os ydw i’n troi’n 18 oed wrth aros am gymorth?

Mae pob CAMHS yn wahanol. Dylai gwasanaethau eich cefnogi nes byddwch chi’n 18 oed, ond gall hyn fod yn wahanol hefyd os ydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr. Efallai y bydd rhai yn dechrau pontio i wasanaethau oedolion o 16 oed ymlaen, efallai y bydd eraill yn eich cefnogi yn CAMHS hyd nes byddwch chi’n 25 oed.

Yn gyffredinol:

  • Os byddwch chi’n troi’n 18 oed cyn eich apwyntiad cyntaf, efallai na fyddan nhw’n gallu eich helpu chi
  • Os byddwch chi’n troi’n 18 oed tra byddwch chi’n aros am driniaeth, efallai na fyddan nhw’n gallu eich helpu chi

Er y gallai’r ystodau oedran hyn gyfyngu ar eich gallu i gael cymorth gan CAMHS, gallech chi hefyd gael eich rhyddhau o’r gwasanaeth ar unrhyw oedran, hyd yn oed cyn i chi fod yn 18 oed. Ond ddylech chi ddim cael eich rhyddhau oni bai eich bod chi a’ch tîm gofal yn cytuno eich bod yn teimlo’n well.

Ychydig cyn i mi gyrraedd 18 oed, doedd fy iechyd meddwl ddim yn wych ond roeddwn i wedi sefydlogi. Yn hytrach na phenderfynu mynd at wasanaethau iechyd meddwl oedolion yn syth ar ôl CAMHS, fe wnaethon nhw fy rhyddhau pan oeddwn i’n 18 oed.

Os yw eich oedran yn golygu na allwch chi gael cymorth, dylent roi gwybod i chi am opsiynau eraill. Gallai hyn gynnwys cymorth y gallwch ei gael yn eich cymuned, neu gyngor ar AMHS. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â CAMHS neu’r person a’ch atgyfeiriodd.

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau oedolion ac opsiynau eraill ar gael ar ein tudalen ar adael CAMHS.

Os ydych chi wedi dechrau cael help gan CAMHS, efallai y byddwch chi’n teimlo bod angen llawer mwy o wybodaeth arnoch chi:

Cafodd yr wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr 2022. Byddwn yn ei diwygio yn 2025.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os hoffech chi atgynhyrchu unrhyw ran o’r wybodaeth hon, gweler ein tudalen ar ganiatadau a thrwyddedau.

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig