Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Cefnogi ffrind neu bartner sy'n hunan-niweidio – i bobl ifanc

Gwybodaeth i bobl ifanc ar sut i gefnogi ffrind neu bartner sy'n hunan-niweidio.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Cefnogi rhywun sy'n hunan-niweidio

Os yw dy ffrind neu dy bartner yn hunan-niweidio, gall fod yn anodd gwybod beth i'w wneud.

Os wyt ti’n chwilio am sut i siarad â nhw amdano, sut i'w cefnogi, neu sut i edrych ar ôl dy hun, rydyn ni yma i helpu.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys:

Os hoffet ti ddarganfod mwy am hunan-niweidio, edrycha ar ein tudalen ar hunan-niweidio ar gyfer pobl ifanc.

"Paid â rhagdybio – mae yna lwyth o resymau pam y gallai pobl ei wneud."

Rhybudd: gall rhywfaint o wybodaeth ar y dudalen hon fod yn anodd ei ddarllen neu gall achosi teimladau cryf neu ofidus. Dal ati i ddarllen dim ond os wyt ti'n teimlo'n ddiogel i wneud hynny.

Arwyddion y gallai rhywun fod yn hunan-niweidio

Gall fod yn anodd dweud a yw rhywun yn hunan-niweidio. Ni fydd pawb sy'n cael trafferth gyda rhywbeth anodd yn hunan-niweidio, ac efallai y bydd y rhai sydd yn hunan-niweidio yn ceisio ei guddio.

Mae rhai o'r ffyrdd y gallai dy ffrind neu dy bartner newid neu weithredu'n wahanol yn cynnwys:

  • peidio â gofalu amdanyn nhw eu hunain, fel newidiadau yn eu cwsg, bwyta neu hylendid
  • bod â hwyliau isel neu hunan-barch isel
  • bod yn ddig neu'n hawdd ei gythruddo
  • troi’n fwy caeedig neu'n ymbellhau
  • gwneud pethau mwy peryglus, fel yfed neu gymryd cyffuriau
  • cael cleisiau neu doriadau na wnân nhw eu hegluro
  • cuddio rhannau o'u corff, fel pan fyddant yn newid ar gyfer chwaraeon neu mewn tywydd poeth.

Mae'n bwysig nad wyt ti’n rhoi pwysau arnat dy hun i sylwi ar y newidiadau hyn yn dy ffrind neu dy bartner. 

Gallai rhai o'r rhain fod yn arwyddion o broblemau eraill, fel teimlo'n ddig, ac efallai na fyddant yn golygu eu bod yn hunan-niweidio. Os oes arwyddion rhybuddio eu bod yn hunan-niweidio, nid dy gyfrifoldeb di yw eu hadnabod.

Sut y gallwn fod yn teimlo

P'un a yw dy ffrind neu dy bartner yn dweud wrthyt am eu hunan-niweidio, neu os wyt ti’n sylwi arno dy hun, gall fod yn anodd gwybod beth i'w wneud pan fyddi di’n  sylweddoli beth sy’n digwydd.

Efallai dy fod yn teimlo:

  • yn ddiymadferth neu'n ynysig – efallai y byddi di’n teimlo fel nad wyt ti’n gwybod beth i'w wneud, neu nad wyt ti’n gwybod sut i ymdopi
  • yn ofnus neu’n bryderus – efallai dy fod ti’n poeni am sut mae dy ffrind neu dy bartner wedi brifo eu hunain, beth allen nhw ei wneud yn y dyfodol neu sut y gellir eu helpu
  • yn flinedig neu'n drist – efallai y byddi di’n teimlo ei bod hi'n mynd i gymryd amser iddyn nhw deimlo'n well, neu'n dymuno nad oedden nhw'n teimlo’r angen i hunan-niweidio
  • mewn sioc neu wedi dy orlethu – efallai y byddi’n teimlo bod eu gweithredoedd yn syndod i ti, fel na alli di eu cefnogi ar dy ben dy hun neu fel nad wyt ti’n gwybod at bwy i droi
  • yn flin neu'n ddig – efallai na fyddet ti eisiau bod yr unigolyn maen nhw wedi dod ato ynglŷn â'u hunan-niweidio. Neu efallai nad wyt ti’n deall pam eu bod nhw wedi brifo eu hunain, neu'n teimlo dan bwysau i'w cefnogi
  • wedi drysu – efallai nad wyt ti’n gwybod beth yw hunan-niweidio, neu'n deall yr hyn maen nhw'n ei ddweud wrthyt ti
  • yn euog – efallai y byddi di’n teimlo'n wael os nad wyt ti wedi sylwi ar eu gweithredoedd neu eu teimladau cyn hyn, neu'n teimlo mai dy fai di ydi o.

"Pan fyddi di dan gymaint o bwysau trwy'r amser, galli di ddechrau digio gyda rhywun rwyt ti'n ei gefnogi, ac efallai y bydd angen cefnogaeth arnat ti dy hun."

Mae'n bwysig cofio nad ti sy'n gyfrifol am eu gweithredoedd. Galli di fod yno i wrando arnynt a'u cefnogi, ond nid dy gyfrifoldeb di yw eu hatal rhag brifo eu hunain. Ac os wyt ti’n hunan-niweidio dy hun, gall fod yn anoddach fyth cefnogi rhywun arall. Rhaid i dy les dy hun ddod yn gyntaf.

Hefyd, nid yw profiadau unrhyw ddau berson o hunan-niweidio yr un peth. Os wyt ti’n hunan-niweidio neu'n adnabod rhywun arall sy'n gwneud hynny, cofia y gallai dy ffrind neu dy bartner ymdopi’n wahanol â'r hyn maen nhw'n ei brofi.

Gall cefnogi rhywun rwyt ti’n gofalu amdano fod yn anodd. Os oes angen mwy o gefnogaeth arnat, darllena ein hawgrymiadau ar 'Edrych ar ôl dy hun'.

"Mae'n bwysig gwybod nad ydym yn weithwyr proffesiynol - gallwn wneud cymaint ag y gallwn ond nid ydym yn gyfrifol am yr hyn sy'n digwydd."

Efallai y byddai'n ddefnyddiol iti ddeall beth yw hunan-niweidio neu pam y gallai pobl hunan-niweidio. Galli di ddarganfod mwy yn ein canllaw ymdopi â hunan-niweidio.

Awgrymiadau ar gyfer siarad â nhw am y tro cyntaf

Pan fyddi’n siarad â dy ffrind neu dy bartner am y tro cyntaf, gall fod yn anodd gwybod beth i'w ddweud neu sut i'w ddweud.

Os wyt ti eisiau rhai syniadau ar gyfer yr hyn i'w ddweud, galli di roi cynnig ar un o'n dechreuwyr sgwrs:

  • ‘Dwi'n gwybod nad wyt ti wedi bod yn gwneud cystal yn ddiweddar, oes yna unrhyw beth rwyt ti eisiau siarad amdano?’
  • ‘Dydw i ddim yn mynd i dy orfodi di i siarad, ond rydw i yma os wyt ti eisiau.’
  • ‘Dwi wedi sylwi dy fod yn ymddwyn ychydig yn wahanol yn ddiweddar, ydi popeth yn iawn?’
  • ‘Dwi’n poeni amdanat ti, wyt ti eisiau sgwrs?’
  • ‘Sut wyt ti'n teimlo? Wyt ti eisiau unrhyw help?’

"Os yw pobl yn teimlo dan bwysau, nid yw'n teimlo'n amgylchedd mor ddiogel i'w drafod."

Galli di hefyd ystyried sut rwyt ti am siarad â nhw.

Dyma ein prif gynghorion ar gyfer cynnal y sgwrs gyntaf:

  • Paid â chynhyrfu a cheisia beidio â mynd i banig – y peth gorau y galli di ei wneud yw gwrando arnyn nhw a pheidio â'u rhuthro. Ceisia gofio pa mor anodd fydd hi iddyn nhw agor allan.
  • Bydd yn anfeirniadol – paid ag awgrymu eu bod yn hunanol na gwneud iddynt deimlo'n ddrwg am eu hunan-niweidio, gan eu bod yn ymdopi orau ag y gallant gyda phrofiad anodd.
  • Cymera’r hyn maen nhw'n ei ddweud o ddifrif - gall yr hyn maen nhw'n ei brofi fod yn anodd i ti ei ddeall ond ceisia barchu sut maen nhw'n teimlo. Maen nhw'n ddewr iawn yn siarad gyda thi amdano.
  • Gad iddyn nhw wybod dy fod ti yno ar eu cyfer – oherwydd efallai eu bod yn teimlo'n unig ac yn teimlo cywilydd, neu'n poeni am sut y byddi di’n ymateb.
  • Rhanna brofiadau ar y cyd os wyt ti eisiau – os wyt ti wedi niweidio dy hun, efallai yr hoffet ti siarad am dy brofiadau i'w helpu i deimlo'n llai ar eu pen eu hun. Gwna hyn dim ond os wyt ti’n teimlo'n gyffyrddus ac yn ddiogel yn rhannu dy brofiadau gyda nhw.
  • Cynigia eu helpu i ddod o hyd i gefnogaeth neu i siarad ag oedolyn – os wyt ti’n teimlo y galli di wneud hynny. Efallai yr hoffet ddarllen trwy ein gwybodaeth am 'Ymdopi â'r ysfa i hunan-niweidio' gyda nhw. Fe allet hefyd gynnig bod yno gyda nhw os ydyn nhw am ddweud wrth rywun.
  • Os nad ydyn nhw eisiau siarad ar hyn o bryd – ceisia beidio â chael dy bechu. Byddant yn agor allan pan fyddant yn barod.

Dyma ychydig o awgrymiadau gan bobl ifanc:

  • "Mae'n anodd codi’r pwnc allan o unlle – dwyt ti ddim am ei ddweud yn y ffordd anghywir. Dwi'n aros iddyn nhw agor allan yn ei gylch a theimlo eu bod yn gyffyrddus."
  • "Mi ddechreuais i fod yn fwy presennol, Mi wnes i adael i’r sgwrs honno ddigwydd gyda mi’n bod yn fwy dibynadwy.
  • "Mae pawb yn barod ar wahanol adegau."

Os oes angen rhywfaint o gefnogaeth arnat o hyd, galli di siarad ag oedolyn dibynadwy fel dy riant neu ofalwr. Neu galli di ffonio Childline neu The Mix i siarad â chwnselydd yn gyfrinachol.

Awgrymiadau ar gyfer parhau â'r sgwrs

Os wyt ti’n teimlo y galli di, cadwa gyswllt gyda dy bartner neu ffrind ynglŷn â sut maen nhw'n teimlo. Bydd gwneud hyn bob hyn a hyn yn eu helpu i deimlo'n llai ar eu pennau eu hunain.

Dyma rai syniadau ar sut y galli di gadw cyswllt gyda nhw:

  • ‘Hei, dydyn ni ddim wedi dal i fyny am ychydig wythnosau, sut wyt ti wedi bod yn teimlo'n ddiweddar?’
  • ‘Ro'n  i’n meddwl tybed sut wyt ti wedi bod yn gwneud gyda dy hunan-niweidio yn ddiweddar?’
  • ‘Oes ots gen ti imi ofyn a wyt ti wedi brifo dy hun eto?’
  • ‘Sut wyt ti’n dygymod â’r ysfa i hunan-niweidio?’
  • ‘Wyt ti wedi dod o hyd i unrhyw beth sydd wedi dy helpu di?’
  • ‘Mi welais ar-lein dy fod wedi bod dridiau heb hunan-niweidio a ro’n i eisiau dweud ‘da iawn ti’!’
  • ‘Gad imi wybod a oes unrhyw beth yr hoffet i mi dy gefnogi yn ei gylch.’

Dyma ychydig o awgrymiadau gan bobl ifanc:

  • "Roedd gan fy ffrind draciwr sy’n olrhain pa mor hir maen nhw wedi mynd heb hunan-niweidio - mae hi'n rhannu hynny gyda mi ac rydyn ni'n dathlu. ”
  • Roedd fy ffrind a minnau yn creu targedau wythnosol – oedd yn cŵl iawn a dim yn broblem pe na baem yn ei gyflawni, ond roedd yn cadw'r ddau ohonom ar y trywydd iawn i gyrraedd rhywle da.”
  • "Mi wnes i bwysleisio’r cyflawniadau cadarnhaol a wnaethant yn eu taith a gwneud iddynt deimlo'n falch o'r cyflawniadau hynny."
  • "Sicrhewch nhw eich bod chi'n malio ac eisiau eu helpu ac felly hefyd bawb arall. Gall fod yn anodd peidio â gwybod beth fydd yn digwydd nesaf, ond mi ddysgais y gall derbyn dy gwmni a theimlo fel dy fod yn malio wneud byd o les iddynt.”

Gall dim ond parhau i fod eu ffrind neu bartner wneud byd o wahaniaeth.

"Os ydyn nhw'n teimlo fel siarad, does dim angen i ti fod yr ateb, galli di ddim ond bod yno."

Sut i fod yno ar eu cyfer

Gall fod yn anodd gwybod sut i gefnogi ffrind neu bartner sy'n hunan-niweidio.

Efallai nad wyt ti’n gwybod beth i'w wneud neu'n poeni nad wyt ti’n gwneud digon. Ond gwerthfawrogir unrhyw beth y galli di ei wneud i'w cefnogi yn ystod eu hadferiad.

Dyma rai pethau y galli di roi cynnig arnyn nhw:

  • Deall rhai strategaethau ymdopi ar gyfer hunan-niweidio a pha gymorth sydd ar gael. Galli di ddarllen ein gwybodaeth ar 'Ymdopi â hunan-niweidio' dy hun neu gyda'ch gilydd i gael mwy o wybodaeth.
  • Dal i siarad a chadw cyswllt gyda nhw. Ond bydd yn barod efallai na fyddan nhw bob amser eisiau siarad am eu hunan-niweidio gyda thi.
  • Cofia nad oes angen i ti ddod o hyd i atebion bob amser – un o'r pethau gorau y galli di ei wneud yw dim ond gwrando.
  • Parcha sut maen nhw'n teimlo a sut maen nhw'n ceisio delio ag ef - galli di roi gwybod iddyn nhw am ffyrdd o ymdopi neu ddod o hyd i help, ond eu penderfyniad nhw yw hynny ac maen nhw dal angen i ti eu cefnogi.
  • Dathlu llwyddiannau gyda nhw - fel os ydyn nhw'n mynd rhywfaint o amser heb hunan-niweidio, neu os ydyn nhw'n gwneud apwyntiad meddyg i gael help.
  • Bydd yn gefnogol os ydyn nhw'n ailwaelu ac yn brifo'u hunain eto – gall adferiad fod yn broses hir. Galli di eu hatgoffa nad yw adferiad byth yn syml, ond mae'n dangos pa mor gryf ydyn nhw bob tro maen nhw'n ceisio atal hunan-niweidio.
  • Atgoffa nhw o bethau a'u helpodd o'r blaen – efallai na fyddant yn eu helpu i roi'r gorau i hunan-niweidio y tro hwn, ond gall fod yn lle da i ddechrau.
  • Atgoffa nhw o'r hyn rwyt ti’n ei hoffi neu'n ei garu amdanyn nhw – galli di hyd yn oed ei ysgrifennu i lawr fel y gallant edrych yn ôl arno pan nad ydyn nhw'n teimlo'n dda amdanynt eu hunain.
  • Dal ati i gynnig i'w helpu i ddod o hyd i gefnogaeth – a bod yno tra eu bod nhw'n aros am help. Efallai nad dyma'r amser iawn iddyn nhw ar y dechrau, ond yn nes ymlaen efallai y byddan nhw'n gwerthfawrogi'r cynnig.
  • Cofia roi dy les dy hun yn gyntaf – galli di ddarllen ein hawgrymiadau ar 'Edrych ar ôl dy hun' am syniadau.

Dyma ychydig o awgrymiadau gan bobl ifanc: 

  • "Mae yna adegau pan na ddylet ti roi dy farn, mae dilysiant yn bwysicach o lawer."
  • "Nid yw'r broses adfer yn llinell unionsyth, ac os ydyn nhw’n dychwelyd at hunan-niweidio, nid yw'n golygu nad ydi eu hadferiad yn ddilys.”
  • "Roedd datganiadau cadarnhaol o gymorth mawr i mi, yn enwedig rhai am fy mhersonoliaeth, nid y ffordd yr oeddwn yn edrych.”
  • "Cymera lawer o amser a seibiau ar gyfer dy iechyd meddwl dy hun – dwyt ti ddim yn mynd i fod yr un mor ddefnyddiol os wyt ti’n teimlo drwgdeimlad tuag atynt am rywbeth na allant ei reoli."

"Rho sicrwydd iddyn nhw bod angen help arnynt, a'u bod yn ei haeddu a bod help ar gael."

Beth sydd ddim yn helpu?

Efallai y byddi’n poeni am yr hyn i'w ddweud wrth dy ffrind neu dy bartner.

Rwyt ti mwy na thebyg yn gwneud y gorau y galli di, ond dyma rai pethau i'w hystyried:

  • Paid â cheisio dod o hyd i'r holl atebion – nid dy gyfrifoldeb di yw hynny, ac efallai y byddi di’n colli'r cyfle i adael i dy ffrind neu dy bartner deimlo ei fod yn cael ei glywed.
  • Paid â cheisio eu gorfodi i stopio ar unwaith – gall dod o hyd i help a gwahanol ffyrdd o ymdopi gymryd amser hir. Mae'n bur debygol na fyddan nhw'n gallu stopio brifo'u hunain ar unwaith.
  • Paid â galw eu hunan-niweidio yn ‘chwilio am sylw’ – bydd yn eu brifo ac yn gwneud iddynt deimlo'n fwy ar eu pennau eu hunain. Beth bynnag yw eu rheswm dros hunan-niweidio, maent yn haeddu cefnogaeth a pharch.
  • Paid â chanolbwyntio ar y ffaith eu bod wedi brifo eu hunain – ceisia feddwl am y rhesymau pam eu bod wedi hunan-niweidio a sut y gellir eu cefnogi gyda'u teimladau.
  • Ceisia beidio â dweud pethau fel ‘mi fyddi di’n iawn yfory’ – a phaid â'u hanwybyddu. Os yw rhywun yn brifo'i hun, ni fydd yn stopio dros nos a dylid ei gymryd o ddifrif. Yn lle hynny fe allet ti ddweud: ‘dwyt ti ddim ar dy ben dy hun gyda hyn’ neu ‘sut alla i helpu ar hyn o bryd?’
  • Paid â gwneud iddyn nhw deimlo'n euog neu deimlo cywilydd – derbyn mai dyma sut maen nhw'n teimlo y gallan nhw ymdopi â'r hyn sy'n digwydd, hyd yn oed os yw'n anodd i ti ei ddeall.
  • Paid â dweud wrth bobl eraill yn dy ddosbarth neu dy gylch cyfeillion – na dechrau sibrydion. Os yw dy ffrind neu dy bartner eisiau i eraill wybod, byddan nhw'n dweud.

Meddylia am ba ffurf y medr caredigrwydd ei gymryd, a sut y galli di roi hynny iddyn nhw. Os nad wyt ti’n siŵr, galli di ofyn iddynt sut yr hoffent i ti eu cefnogi.

"Pan fydd y sgwrs yn codi, os wyt ti'n siarad am unrhyw beth sy'n gwneud i mi deimlo dy fod ti mewn perygl, efallai y bydd yn rhaid i mi ddweud wrth rywun arall, felly paid â'm casáu i am hynny."

A ddylwn i ddweud wrth oedolyn eu bod yn hunan-niweidio?

Efallai bod dy ffrind neu bartner wedi agor allan i ti am eu hunan-niweidio. Neu efallai nad ydyn nhw eisiau dy help ar hyn o bryd, a all fod yn anodd pan fyddi di’n poeni amdanyn nhw.

Mae ymdopi ar eu pennau eu hunain yn iawn i ddechrau. Ond os ydyn nhw'n cael trafferth dod o hyd i ffyrdd gwell o ymdopi neu os wyt ti’n meddwl bod eu hunan-niweidio'n gwaethygu, efallai y bydd angen cefnogaeth pobl eraill arnyn nhw.

Dyma rai pethau y galli di roi cynnig arnyn nhw:

  • Siarada â nhw ynglŷn ag estyn allan am help. Helpa nhw i ddeall beth yw eu hopsiynau a gweld sut maen nhw'n teimlo ynglŷn â’r peth. Galli di ddangos ein gwybodaeth am 'Driniaeth a chefnogaeth ar gyfer hunan-niweidio' iddyn nhw, neu gallwch hyd yn oed ei ddarllen gyda'ch gilydd.
  • Cynigia eu helpu i siarad ag oedolyn am eu hunan-niweidio. Gallet ysgrifennu pethau ar eu cyfer fel nad ydyn nhw'n anghofio, neu fod yno gyda nhw pan maen nhw'n dweud wrth rywun.
  • Meddylia gyda phwy y dylet ti siarad. Fel arfer bydd dweud wrth oedolyn dibynadwy yn helpu dy ffrind neu dy bartner i gael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Ond weithiau gall dweud wrth rieni neu ofalwyr fod yn ddi-fudd, fel ag yn y sefyllfa lle mae’r cartref yn rhan o'r rheswm eu bod yn brifo eu hunain. Ceisia feddwl pa oedolion rwyt ti’n ymddiried ynddynt - gallai'r rhain fod yn athrawon, gweithwyr ieuenctid, cymdogion, nyrsys neu feddygon.
  • Bydd yn onest â nhw ynghylch pryd y byddet ti'n ffonio 999 i gael cymorth brys, fel os ydyn nhw wedi brifo eu hunain yn ddifrifol. Efallai na fyddan nhw’n hapus, neu'n gofyn i chi beidio, ond mae eu diogelwch yn bwysicach.
  • Siarada â rhywun am sut rwyt ti’n teimlo. Does dim rhaid i ti roi eu manylion oni bai ei fod yn argyfwng. Galli di siarad â nyrs ysgol, athro, meddyg, rhiant neu ofalwr, neu gwnselydd o Childline neu The Mix.

Os yw dy ffrind neu dy bartner yn gwylltio dy fod wedi dweud wrth rywun, bydd yn amyneddgar gyda nhw. Fe wnest y peth iawn i sicrhau eich bod chi'ch dau yn ddiogel. Efallai na fyddant yn gallu deall hyn nawr, ond efallai y byddant yn nes ymlaen.

"Mae'n cael ei ystyried yn brepian os wyt ti'n dweud wrth rywun arall fel athro, ond dylai fod llai o stigma ynglŷn â'r peth, fel y galli di helpu pobl i gael cefnogaeth."

Os wyt ti’n poeni y gallai dy ffrind neu dy bartner fod wedi brifo'i hun yn ddifrifol, mae hyn yn argyfwng. Ffonia 999 a gofynna am ambiwlans, neu gofynna i oedolyn alw drosot ti - hyd yn oed os ydyn nhw wedi gofyn iti beidio â dweud wrth unrhyw un.

Edrych ar ôl dy hun

Gall poeni am dy ffrind neu dy bartner fod yn flinedig. Mae'n bwysig dy fod hefyd yn gofalu amdanat dy hun.

Dyma ein hawgrymiadau ar sut i edrych ar ôl dy hun:

  • Gosoda ffiniau clir – dwyt ti ddim bob amser yn mynd i deimlo dy fod ti’n gallu eu cefnogi. Er enghraifft, os oes gennyt iechyd meddwl gwael dy hun neu os na alli fod ar gael ar adegau penodol. Gallet ofyn i dy ffrind neu bartner i wirio sut wyt ti cyn iddynt ddechrau siarad am eu hunan-niweidio.
  • Paid â chymryd gormod o faich – os wyt ti’n ceisio ymdopi â dy broblemau dy hun hefyd, neu os oes angen mwy o gefnogaeth arnyn nhw nag y galli di ei roi. Galli di siarad ag oedolyn dibynadwy am y gefnogaeth sydd ei hangen arnat ti a bod yn onest gyda dy ffrind neu dy bartner ynglŷn â faint y galli di eu helpu.
  • Paid â mynd trwyddi ar dy ben dy hun – ceisia eu hannog i ddweud wrth rywun arall am eu hunan-niweidio. Hefyd, ceisia siarad â rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddynt ynglŷn â sut rwyt ti’n teimlo, fel rhiant, gofalwr neu athro. Fe allet ti hefyd alw llinell gymorth fel Childline neu The Mix.
  • Cadw dy hun yn ddiogel – os wyt ti’n dod o hyd i rywbeth sy'n peri gormod o bryder neu ofid i siarad amdano, dyweda wrthyn nhw fel y gallwch chi'ch dau ofalu am dy les di hefyd.
  • Darllena flogiau a ysgrifennwyd gan eraill – Mae gan YoungMinds flogiau gan bobl ifanc sydd wedi cefnogi eraill trwy hunan-niweidio.
  • Gwnewch bethau caredig i chi'ch hun – cymer amser i ofalu am dy iechyd meddwl dy hun. Galli di ddarganfod sut gyda'n hawgrymiadau lles.

Mae gennym hefyd gyngor cyffredinol ar gefnogi ffrind y galli di ei ddarllen.

"Mae'n rhaid i ti wneud pethau i ti dy hun o hyd – pethau sy'n gwneud i ti deimlo'n dda ac sy'n dy helpu i ymlacio. Fel penwythnos lle nad wyt ti'n mynd ar gyfryngau cymdeithasol."​

Cofia: rwyt ti’n gwneud y gorau y galli di. P'un a wyt ti’n helpu dy ffrind neu dy bartner, diolch am gymryd yr amser i'w cefnogi.

"Mi hoffwn petawn wedi sylweddoli nad arna i oedd y cyfrifoldeb i gyd, ac nad fy mai i yw gwybod am unrhyw beth drwg sy'n digwydd."

Cafodd yr wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Mehefin 2021. Byddwn yn ei hadolygu yn 2023.

Mae tystlythyrau ar gael ar gais. Os hoffech atgynhyrchu unrhyw ran o'r wybodaeth hon, gweler ein tudalen ar ganiatadau a thrwyddedu.

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig