Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Cyflwyniad i helpu dy ffrindiau neu bartner(iaid) – ar gyfer pobl ifanc rhwng 11-18 oed

Gwybodaeth ar gyfer pobl ifanc ar sut i helpu ffrind neu bartner gyda sut maen nhw’n teimlo.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Sut ydw i’n helpu fy ffrind neu bartner?

Os ydy dy ffrind neu bartner yn mynd drwy gyfnod anodd neu’n brwydro â’i deimladau, gall fod yn anodd gwybod beth i’w wneud.

P’un a wyt ti eisiau estyn allan ato neu os yw wedi siarad gyda ti yn barod, gallwn dy helpu i ddeall mwy am beth i’w wneud.

Awgrymiadau ar gyfer helpu dy ffrind neu bartner

Awgrymiadau ar gyfer helpu ffrindiau neu bartneriaid

Dw i wedi canfod mai’r ffordd orau o helpu ffrind yw drwy ddangos iddo dy fod ti bob amser yno i wrando.

Beth allai fy ffrind neu bartner fod yn mynd drwyddo?

Rydyn ni i gyd yn brwydro â’n teimladau ar ryw adeg. Weithiau mae rheswm clir dros y ffordd rydyn ni’n teimlo, ac weithiau does ‘na ddim. Y naill ffordd neu’r llall, rydyn ni’n haeddu’r help a’r gofal sydd eu hangen arnon ni.

Efallai bod llawer o bethau yn digwydd i dy ffrind neu bartner:

  • Gallai fod yn bethau sy’n digwydd yn ei fywyd – fel problemau gartref, yn yr ysgol neu yn y gwaith.
  • Gallai fod yn cael trafferth â’i iechyd meddwl.
  • Gallai fod newidiadau mawr yn ei fywyd.
  • Efallai ei fod yn poeni am rywbeth sy’n digwydd yn y byd.

Mae’n iawn os nad wyt ti’n deall yn iawn beth sy’n digwydd i’r unigolyn. Mae’r awydd i’w helpu yn ddechrau da.

hands-white

Gall fod yn anodd helpu ffrind neu bartner, ac mae'n bwysig gwneud yn siŵr dy fod ti’n gofalu amdanat ti dy hun. Rwyt ti’n haeddu blaenoriaethu dy iechyd meddwl dy hun, a bydd cadw’n iach yn dy helpu i fod yn gefn iddo.

Ar ein tudalen awgrymiadau, gelli di ddod o hyd i wybodaeth am ofalu amdanat ti dy hun tra byddi di’n ei helpu.

Arwyddion y gallai fy ffrind neu bartner fod yn gweld pethau'n anodd

Gall fod yn anodd gwybod a yw rhywun yn cael trafferth gyda'r ffordd mae’n teimlo a’i iechyd meddwl. Gall pob un ohonon ni ymddwyn mewn gwahanol ffyrdd pan fyddan ni’n mynd drwy gyfnod caled.

Dyma rai o’r ffyrdd y gallai dy ffrindiau neu bartner(iaid) ymddwyn yn wahanol i’r arfer:

  • Ymddangos yn bell, neu ddim yn ef ei hun
  • Ddim yn cwrdd â thi na phobl eraill cymaint
  • Treulio mwy o amser ar ei ben ei hun
  • Ddim yn sgwrsio, gwenu na chwerthin cymaint
  • Ymddangos yn llai hyderus
  • Crïo, gweiddi neu fod yn flin
  • Siarad am deimladau sy’n dy boeni, fel dweud ‘Dydw i ddim yn gallu ei wneud ddim mwy’ 
  • Ddim yn gwneud neu’n colli diddordeb mewn pethau mae’n arfer hoffi eu gwneud
  • Poeni mwy am bethau
  • Ysmygu, yfed neu gymryd cyffuriau mewn ffyrdd nad oedd yn eu gwneud o’r blaen
  • Defnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd wahanol

Dyma rai o’r newidiadau corfforol y gallet ti sylwi arnyn nhw yn dy ffrindiau neu bartner(iaid):

  • Ddim yn gwisgo fel yr oedd yn arfer ei wneud
  • Ennill neu golli pwysau’n gynt nag y byddet yn ei ddisgwyl
  • Bwyta gormod neu ddim digon
  • Ei chael yn anodd canolbwyntio
  • Edrych yn flinedig
  • Ddim yn ymolchi na gofalu amdano’i hun
  • Symud neu’n siarad yn arafach
  • Bod yn aflonydd ac yn llawn egni
  • Cael cur pen, poen bol neu’n teimlo’n sâl
  • Anafu ei hun yn fwriadol
  • Ymddygiad ailadroddus fel tapio neu wirio pethau’n aml

Gall fod yn anodd sylwi ar yr arwyddion, ac mae rhai ohonon ni’n cuddio arwyddion ein bod yn gweld pethau'n anodd. Ond cofia fod corff neu ymddangosiad rhywun yn gallu newid am bob math o resymau. Ac er nad yw’n dangos unrhyw arwyddion, dydy hynny ddim yn golygu na ddylet ti holi sut mae’r unigolyn.

Mae’n iawn os nad wyt ti wedi sylwi neu os wyt ti wedi methu’r arwyddion. Beth sy’n bwysig yw dy fod ti’n dymuno bod yno iddo nawr.

Os yw’n hunan-ynysu yn aml a ddim yn siarad â llawer o bobl, dim ond yn ymlacio ar ei ben ei hun ac yn dawel iawn, efallai y byddi di eisiau cael sgwrs i holi a yw’n iawn – Chantelle, 13

Sut galla i ofyn a yw’n iawn?

Gall fod yn anodd dod o hyd i’r geiriau i ddechrau siarad â dy ffrind neu bartner am sut mae’n teimlo. Does dim ffordd berffaith o ofyn a yw’n iawn - dim ond gwneud dy orau fedri di.

Gwna dy orau i feddwl am amser a lle y gall y ddau ohonoch deimlo mor dawel a chyfforddus â phosibl. Gelli di hefyd feddwl sut fyddai’r ffordd orau o siarad â’r unigolyn. Gallai fod wyneb yn wyneb, negeseuon testun neu lais, neu alwad ffôn.

Efallai y bydd yn gwneud i ti deimlo’n fwy hyderus petai gen ti rywfaint o syniadau ar gyfer dechrau sgwrs yn barod, fel:

  • “Hei, dw i yma i ti os wyt ti eisiau siarad.”
  • “Dydyn ni ddim wedi siarad ers tro. Beth sydd wedi bod yn digwydd?”
  • “Dw i wedi sylwi dy fod ti’n edrych yn flinedig yn ddiweddar. Oes yna unrhyw beth hoffet ti siarad amdano?”
  • “Dw i’n cofio i ti ddweud dy fod ti’n ypset am ___ wythnos diwethaf. Sut wyt ti’n teimlo am hynny nawr?”
  • “Os byddi di angen siarad â rhywun, ti’n gwybod mod i yma i ti dwyt?”
  • “Dw i’n gwybod dy fod ti’n mynd drwy bethau, ond dw i yma i ti.”

Gallet ti hefyd ddod o hyd i wybodaeth neu enghreifftiau o rywbeth ar y teledu, ar-lein neu mewn llyfr a allai fod yn berthnasol i'r unigolyn. Er enghraifft, gallet ti ofyn:

  • “Wyt ti wedi bod yn gwylio’r gyfres am...?”
  • “Beth wyt ti’n meddwl am y cymeriad sy'n delio â... ?”

Os nad yw dy ffrind neu bartner yn dymuno siarad, ceisia beidio â rhoi pwysau arno. Gall rhoi lle iddo ei helpu i fwrw ei fol wrthyt ti neu rywun arall pan fydd yn barod. Rho wybod iddo dy fod ti yno a gad iddo ddod atat ti.

Wnes i ddim sylweddoli ar y pryd faint o wahaniaeth mae’n ei wneud jest i ddweud ‘Dw i’n poeni amdanat ti, a dw i yma i ti’.

Beth ddylwn ei wneud os bydd yn ymddiried ynddo i yn gyntaf?

Os bydd dy ffrind neu bartner yn siarad yn agored gyda ti yn gyntaf, efallai na fyddi di’n gwybod sut i ymateb. Drwy siarad gyda ti yn gyntaf, gall hyn ddangos ei fod yn ymddiried ynot ti a’i fod eisiau cymorth gen ti. Mae’n iawn os ydy hyn yn teimlo’n anodd i ti. Mae bob amser llawer o ffyrdd gwahanol o ddangos ei fod yn bwysig i ti.

Os yw’n ymddiried ynddo ti yn gyntaf, gallet ti geisio:

  • Gwrando ar yr hyn mae’n ei ddweud. Gall gadael iddo siarad a dilysu sut mae’n teimlo wneud byd o wahaniaeth.
  • Dylet ti gymryd yr hyn mae'n ei ddweud o ddifrif. Gall fod yn anodd os wyt ti’n anghytuno neu os dwyt ti ddim wedi bod drwy’r un peth dy hun, ond gwna dy orau i beidio â gwadu neu fychanu’r hyn mae’n ei ddweud.
  • Gwna’n siŵr dy fod ti’n ei ddeall. Gallet ailadrodd yr hyn mae wedi’i ddweud i wneud yn siŵr dy fod ti’n deall yr hyn mae’n mynd drwyddo.
  • Gofynna sut gallet ti helpu. Gallai olygu bod yno iddo, neu efallai yr hoffai gael help i siarad ag oedolyn neu i chwilio am gymorth.
  • Anoga’r unigolyn i ofyn am help. Gallai hyn olygu siarad â meddyg neu oedolyn mae’n ymddiried ynddo, fel rhiant neu athro.
  • Gwnewch bethau rydych chi’ch dau yn eu mwynhau gyda’ch gilydd. Mae gwneud pethau mae’n ei fwynhau, fel gwylio ffilm neu fynd am dro, yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i sut mae’n teimlo.
  • Cadwch mewn cysylltiad. Dalia i holi sut mae o, a’i wahodd i bethau hyd yn oed os nad yw’n ymateb.
  • Cofia, does dim angen i ti ddatrys ei broblemau. Mae’n iawn peidio â gwybod beth i’w ddweud neu wneud i ddechrau. Efallai mai’r cyfan y bydd angen ei wneud yw siarad am sut mae’n teimlo ar hyn o bryd.
  • Atgoffa'r unigolyn ei fod yn bwysig i ti. Mae’n dda iddo wybod dy fod ti dal yno iddo.

Os wyt ti angen cymryd seibiant o siarad neu os dydy pethau ddim yn mynd yn dda, gelli di roi cynnig ar siarad ag ef rywbryd eto. Mae’n iawn os bydd angen amser ar y ddau ohonoch i fyfyrio a siarad eto rywdro arall.

Hyd yn oed os nad yw’n ymwneud â’r broblem, mae siarad â’r unigolyn, neu fynd am dro gydag ef, yn gwneud pethau’n well – Himani, 17

Beth os yw rhywun wedi gofyn i mi gadw cyfrinach?

Os bydd ffrind neu bartner yn dweud rhywbeth wrthyt ti ac yn gofyn i ti gadw hynny’n gyfrinach, mae’n normal i ti deimlo nad wyt ti am dorri ei ymddiriedaeth. Mae hefyd yn normal poeni efallai y bydd yn ffraeo gyda ti os byddi di’n dweud wrth rywun.

Ond os nad wyt ti’n teimlo’n gyfforddus â’r hyn mae wedi’i ddweud wrthyt ti, neu os wyt ti’n meddwl y gallai dy ffrind, neu rywun arall, fod mewn perygl, mae’n bwysig gwneud y peth mwyaf diogel.

Gallet ti wneud y canlynol:

  • Gofyn iddo ddweud wrth oedolyn y mae’n ymddiried ynddo
  • Dweud wrtho dy fod ti angen dweud wrth rywun am dy fod ti’n poeni amdano
  • Gofyn a oes rhywun arall y mae’n fodlon i ti siarad â nhw am y peth
padlock-white

Efallai y bydd yn teimlo dy fod ti’n torri ei ymddiriedaeth, ond mae’n bwysig dweud wrth oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo am yr hyn mae dy ffrind neu bartner(iaid) wedi'i ddweud.

Gall gwneud hyn helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn ddiogel.

Beth os na fydd yn gadael i mi helpu?

Os na fydd dy ffrind neu bartner yn derbyn cymorth gennyt ti na’r bobl o’i gwmpas, gall hyn wneud i ti deimlo’n ypset, yn rhwystredig, neu’n ddi-rym. Ond ceisia gofio, dim ond hyn a hyn alli di ei wneud.

Os bydd hyn yn digwydd, gallet roi cynnig ar y canlynol:

  • Rhoi amser iddynt. Efallai na fydd yn barod i siarad gyda ti ar hyn o bryd. Efallai y bydd yn ei chael hi’n haws pan fydd wedi cael mwy o amser i feddwl.
  • Rhoi gwybod iddynt dy fod ti yno iddo os yw’n dymuno siarad neu gael cwmni unrhyw dro.
  • Rhannu gwybodaeth gyda nhw ar ddod o hyd i gymorth i’w ddarllen pan fydd yn barod.

Beth alla i ei wneud os dydy pethau ddim yn mynd yn dda?

Weithiau efallai na fydd pethau’n mynd yn dda wrth siarad â ffrind neu bartner am sut mae’n teimlo. Efallai y bydd yn dy wthio i ffwrdd, yn dweud pethau cas neu’n gwylltio gyda ti. Efallai y bydd hefyd yn credu nad oes dim byd o'i le er dy fod ti'n poeni amdano.

Os wyt ti’n poeni na fydd pethau’n mynd yn dda, dyma ychydig o syniadau ar gyfer sut gallet ti ymateb:

“Hei, dydw i ddim wedi dy weld ti yn yr ysgol ers tro. Wyt ti'n iawn?”

“Gad llonydd i mi, fyddet ti ddim yn deall.”

“Efallai na fyddwn i’n deall yn llwyr, ond dw i yma i ti pryd bynnag hoffet ti siarad.”

“Dw i’n gwybod dy fod ti wedi bod yn cael trafferth gyda ___ yn ddiweddar. Wyt ti eisiau siarad amdano?”

“Does dim byd o’i le, dw i’n iawn ar fy mhen fy hun.”

“Wyt ti'n siŵr? Mae’n ymddangos y gallai fod yn anodd delio â hynny.”

“Rho’r gorau i drio bod yn fy mywyd i.”

“Mae’n ddrwg gen i dy fod ti’n teimlo felly. Dw i eisiau bod yno i ti os gallaf, ac os wyt ti eisiau i mi wneud hynny."

Ceisia gofio ei fod yn mynd drwy rywbeth anodd. Efallai na fydd yn golygu’r hyn mae’n ei ddweud neu’n ei wneud. A chofia fod dy deimladau di’n bwysig hefyd. Does dim rhaid i ti reoli pethau ar dy ben dy hun.

Os wyt ti’n poeni amdano, gallet ti ddweud wrtho y byddet ti’n hoffi iddo siarad â rhywun arall os yw’n gallu. Os yw'n effeithio arnat ti ac nad wyt ti'n credu ei fod yn ddiogel, gallet ti ddweud wrtho y bydd angen i ti siarad â rhywun arall amdano er dy les dy hun.

Pan fydd rhywun rwyt ti’n poeni amdano yn mynd drwy gyfnod caled, mae’n gwbl naturiol teimlo dy fod ti eisiau dod o hyd i ateb neu ddatrys rhywbeth.

Beth os ydw i’n poeni am ei ddiogelwch?

Os wyt ti’n poeni bod dy ffrind neu bartner mewn unrhyw fath o berygl, neu y gallai anafu ei hun neu rywun arall, mae’n bwysig nad wyt ti’n delio â hyn ar dy ben dy hun. Mae ychydig o bethau y gallet ti roi cynnig arnynt:

  • Os yw’n argyfwng, ffonia 999,  gofynna i oedolyn ffonio 999, neu cer yn syth i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys.
  • Os nad yw'n argyfwng, gelli di siarad â rhywun am yr hyn sy'n digwydd. Gallai fod yn aelod o’r teulu, yn ffrind arall neu’n bartner, neu’n gynghorydd HOPELINEUK ar 0800 068 4141.

Rho wybod i oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo cyn gynted â phosibl, fel rhiant neu athro. Os wyt ti’n teimlo’n gyfforddus, gelli di ddweud wrth dy ffrind dy fod yn bwriadu gwneud hyn er mwyn iddo ddisgwyl hynny. Efallai na fydd yn hoffi hynny, neu y bydd yn gofyn i ti beidio â dweud, ond mae diogelwch dy ffrind yn bwysig.

Gall fod yn eithriadol o anodd ymdopi â phoeni am ddiogelwch dy ffrind, felly cofia ofalu amdanat ti dy hun hefyd. I gael ychydig o syniadau, mae ein tudalen awgrymiadau ar gyfer helpu eraill hefyd yn cynnwys awgrymiadau ar sut i ofalu amdanat ti dy hun.

Beth os ydw i’n poeni am rywun ar-lein?

Os ydy rhywun ti’n adnabod yn ymddwyn yn wahanol ar-lein a bod hynny’n dy boeni di, mae’n dda dy fod yn dymuno ei helpu. Ond fedri di ddim bod yn gyfrifol am ddiogelwch pawb. Gelli di:

  • Siarad ag ef amdano
  • Dweud wrth oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo, fel rhiant neu athro

Os wyt ti’n meddwl y gall rhywun anafu ei hun neu y gallai fod mewn unrhyw fath o berygl fel arall, ffonia 999 neu ofyn i oedolyn wneud hynny.

Gall fod yn anodd iawn gweld rhywun sy’n bwysig i ti yn mynd drwy rywbeth anodd. Ond cofia fydd hyn ddim yn para am byth.

Ble galla i gael cymorth i fi fy hun, fy ffrindiau neu fy mhartner(iaid)?

Mae’n iawn os oes angen mwy o gymorth arnat ti, dy ffrindiau neu dy bartner(iaid) er mwyn ymdopi. A does dim rhaid i ti fod yr unig un sy’n eu helpu. Gall cael amrywiaeth o bobl yn cynnig cymorth fod yn ddefnyddiol, gan fod gwahanol bethau’n gallu helpu ar wahanol adegau.

Dwyt ti ddim yn gwneud unrhyw beth o’i le os ydyn nhw weithiau’n teimlo bod cymorth arall yn fwy defnyddiol na’r hyn ti’n gallu ei gynnig.

Gallet ti, dy ffrindiau neu dy bartner(iaid) gael cymorth drwy:

Hoffet ti gael fwy o wybodaeth am gael cymorth?

Cysylltiadau defnyddiol

Cafodd yr wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Medi 2023. Byddwn yn ei diwygio yn 2026.

Dyfyniadau gan bobl ifanc y buom yn siarad â nhw wrth gasglu’r wybodaeth hon sydd ar y dudalen hon. Maen nhw wedi rhoi eu caniatâd i ni ddefnyddio eu dyfyniadau yn ein gwybodaeth. Nid yw’r geiriau, y profiadau na’r farn yn y dyfyniadau yn gysylltiedig â’r bobl ifanc a ddangosir yn unrhyw un o’r ffotograffau rydyn ni’n eu defnyddio.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os hoffet ti atgynhyrchu unrhyw ran o’r wybodaeth hon, cer i edrych ar ein tudalen ar ganiatadau a thrwyddedau.

Am ragor o wybodaeth 

arrow_upwardYn ôl i'r brig