Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Dod o hyd i gymorth – ar gyfer pobl ifanc

Gwybodaeth i bobl ifanc ar sut a ble y gallwch gael cymorth iechyd meddwl, am beth bynnag wyt ti’n mynd trwyddo.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Dod o hyd i gefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl

Gall fod yn anodd dod o hyd i'r help cywir, yn enwedig os wyt ti'n ei chael hi'n anodd ymdopi neu'n teimlo'n sâl.

Mae yna lawer o ffyrdd y gallet ti dod o hyd i gefnogaeth – efallai y bydd angen i ti rhoi cynnig ar ychydig o opsiynau i ddarganfod beth sydd orau i ti.

Cofia: nid wyt ti ar dy ben dy hun ac rwyt ti'n haeddu cefnogaeth.

Mae'r dudalen hon yn cwmpasu:

Cadw'n ddiogel

Os wyt ti'n teimlo fel bod ti wedi dy lethu, neu eisiau brifo dy hun, mae cymorth ar gael i ti trafod pethau. Rwyt ti'n haeddu cymorth cyn gynted ag y sydd ei angen.

I siarad â rhywun yn gyfrinachol am sut rwyt ti'n teimlo, gallet ti:


Os wyt ti'n teimlo y gallet ti ceisio lladd dy hun, neu os wyt ti wedi brifo dy hun yn ddifrifol, mae hwn yn argyfwng
. Gallet ti:

  • Ffonio 999 a gofyn am ambiwlans.
  • Dweud wrth oedolyn rwyt yn ymddiried ynddo a gofyn iddynt ffonio 999 am help.


Mae argyfyngau iechyd meddwl yn ddifrifol. Nid wyt ti’n yn gwastraffu amser neb.

A ddylwn i gael help ar gyfer fy iechyd meddwl?

Efallai dy fod yn ansicr a oes angen help arnat ti neu pryd y dylet ti gofyn amdano. Efallai dy fod yn ansicr pa gymorth sydd ei angen arnat ti neu sut olwg fyddai ar help. Ond mae meddwl a oes angen help arnat ti yn gam cyntaf pwysig iawn.

Waeth sut wyt ti'n teimlo neu beth yw dy sefyllfa, rwyt ti'n haeddu cael cymorth a chefnogaeth unrhyw bryd.

Fe allet ti fod yn:

  • Meddwl am gael help am y tro cyntaf
  • Angen mwy o help nag yr wyt ti’n ei gael
  • Eisiau math gwahanol o help
  • Angen cymorth brys
  • Ansicr os oes angen help arnat ti
  • Teimlo nad yw dy broblem ‘yn ddigon difrifol’
  • Yn ei chael hi'n anodd deall dy deimladau
  • Cael trafferth gwybod sut wyt ti'n teimlo
  • Yn ei chael hi'n anodd ymdopi â bywyd bob dydd

Ceisia feddwl am yr hyn yr wyt ti’n cael trafferth ag ef a sut yr hoffet i dy gefnogaeth edrych. Efallai dy fod ti eisiau cefnogaeth barhaus gan weithiwr proffesiynol. Neu efallai dy fod ti eisiau rhannu'r hyn rwyt ti’n mynd trwyddo gyda rhywun rwyt ti'n ei adnabod yn barod.

Mae hefyd yn iawn os nad wyt ti'n siŵr pa gymorth sydd ei angen arnat ti ar hyn o bryd.

Roedd gofyn am gefnogaeth yn bendant yn un o’r pethau anoddaf wnes i erioed, ond roedd yn werth chweil.

Ble gallaf chwilio am help?

Mae yna lawer o wahanol leoedd lle gallet ti chwilio am help. Efallai y byddet ti'n gweld nad yw rhai opsiynau'n gweithio i ti, neu nad wyt ti'n gyfforddus â nhw ar hyn o bryd.

Cymera dy amser i feddwl am yr hyn sy'n teimlo orau i ti.

Cofia: gall gofyn am help deimlo'n anodd, ac weithiau efallai y bydd yn rhaid i ti aros am apwyntiadau. Does dim rhaid i ti mynd trwyddo ar dy ben dy hun. Gallet ti cael cymorth gan deulu, gofalwyr, ffrindiau a phartneriaid. Cymera dy amser.

Weithiau gall fod yn ddefnyddiol ac yn gysur i gael dy ffrindiau, teulu, gofalwyr, athrawon neu bartner i dy gefnogi. Gallant:

  • Gwrando arnat ti
  • Bod yno i dy gefnogi gyda sut rwyt ti’n teimlo
  • Helpu ti i deimlo'n llai unig
  • Cefnogi ti gyda phethau ymarferol, fel trefnu apwyntiadau
  • Helpu ti i ddod o hyd i gefnogaeth
  • Dod i apwyntiadau gyda ti

Efallai y bydd yn haws i ti siarad â phobl sydd yn dy adnabod. Ond efallai y bydd rhai pobl yn gwybod – ac mae hynny'n iawn. Does dim rhaid i ti rhannu popeth gyda phawb.

Nid yw bob amser yn hawdd bod yn agored i rywun rwyt ti'n ei adnabod, ac efallai ni fyddant bob amser yn ymateb yn y ffordd rwyt ti eisiau iddynt wneud. I gael awgrymiadau ar ddechrau'r sgwrs, gweler ein tudalen ar siarad â ffrindiau a theulu.

“Os wyt ti’n teimlo’n anghyfforddus yn dweud dy farn yn agored, dewis arall fyddai eu hysgrifennu i lawr a’u rhoi i bwy bynnag sy’n gwneud i ti teimlo’n gyfforddus.”

Gallet ti gofyn i dy feddyg am gymorth unrhyw bryd, hyd yn oed os nad wyt ti'n siŵr beth wyt ti'n ei deimlo neu'n ei brofi.

Gall meddygon roi lle diogel i ti siarad ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennyt.

Gallant hefyd:

Gallet ti gweld meddyg neu nyrs ar unrhyw oedran ar dy ben dy hun, ond efallai y byddant yn dy annog i siarad â dy riant neu ofalwr am yr hyn sy'n digwydd.

Weithiau efallai y byddi di yn cael trafferth cysylltu â dy feddyg teulu, neu’n teimlo’n anghyfforddus yn siarad â nhw ar y ffôn. Gallet ti gofyn i eraill am help.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalen ar ymweld â dy feddyg.

“Fe wnaeth diagnosis swyddogol fy helpu i gael mynediad at y cymorth yr oeddwn ei angen yn yr ysgol, a hefyd fy helpu i dyfu a deall fy nghyflwr yn well.”

Mae'r GIG yn darparu'r gwasanaethau hyn i gefnogi plant a phobl ifanc gyda'u hiechyd meddwl. Weithiau mae gan y gwasanaethau hyn enwau gwahanol, yn dibynnu ar ble rwyt ti'n byw. Efallai y byddi di'n clywed CAMHS hefyd yn cael ei alw:

  • Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CYPMHS)
  • Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed Arbenigol (SCAMHS) yng Nghymru

I gael help gan CAMHS, fel arfer mae angen atgyfeiriad gan dy feddyg. Mae rhai gwasanaethau'n derbyn cyfeiriadau gan ysgolion, gweithwyr cymdeithasol, timau troseddau ieuenctid neu hyd yn oed oddi wrthot ti – os wyt ti'n ddigon hen. Mae'n bosibl y bydd sut i gael cymorth gan dy CAMHS lleol yn dibynnu ar ble rwyt ti'n byw.

Mae gan CAMHS lawer o wahanol bobl a all dy helpu, fel seicolegwyr a seiciatryddion. Efallai y byddan nhw'n cynnig triniaethau gwahanol i ti, fel therapïau siarad a meddyginiaeth.

Efallai y bydd yn rhaid i ri aros am ychydig i gael cymorth, ond tra byddi di’n aros, gallet ti edrych ar ein syniadau am bethau y gallet rhoi cynnig arnynt dy hun.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein tudalen ar ddeall CAMHS.

“Gall fod amseroedd aros ar gyfer dy apwyntiad cyntaf gyda CAMHS ac i dy gymorth i ddechrau. Gall aros am gefnogaeth fod yn anodd iawn ond mae yna ffyrdd y gallet ti helpu i gefnogi dy hun yn ystod y cyfnod hwn.”

Mae llawer o ysgolion a cholegau yn cynnig y cymorth iechyd meddwl canlynol:

  • Nyrs ysgol
  • Gwasanaeth cefnogi disgyblion
  • Gwasanaeth cwnsela myfyrwyr

Os nad wyt ti’n siŵr pa gymorth sydd ar gael yn dy ysgol, gallet ti gofyn i athro neu aelod o staff yr wyt yn ymddiried ynddo.

Os oes gennyt ti swydd, rhaid i dy gyflogwr wneud popeth o fewn ei allu i gefnogi dy les. Ni allant ychwaith wahaniaethu yn dy erbyn os oes gennyt ti problem iechyd meddwl.

Mae siarad â dy oruchwyliwr neu reolwr yn fan cychwyn da. Gallent dy helpu i:

  • Mynnu cefnogaeth yn y gwaith, fel gwneud newidiadau i helpu i reoli'r hyn yr wyt yn ei chael yn anodd yn y gwaith.
  • Dod o hyd i rywfaint o hyfforddiant y gallet ti ei wneud i helpu dy rôl a dy les.

Gallet ti hefyd gofyn a yw dy weithle yn cynnig cymorth lles am ddim. Mae rhai cwmnïau yn cynnig Rhaglen Cymorth i Weithwyr, lle gallet ti siarad yn gyfrinachol â chwnselwr am ddim. Os wyt ti'n cael hyn yn anodd, efallai y byddan nhw hefyd yn gallu helpu ti i ddod o hyd i gefnogaeth y tu allan i'r gwaith.

I ddod o hyd i gymorth iechyd meddwl gan sefydliadau lleol, gallet ti:

  • Chwilio am sefydliadau gan ddefnyddio Cyfeiriadur Lles Ieuenctid Anna Freud.
  • Defnyddio ein map ar-lein i ddod o hyd i dy wasanaeth Mind Lleol agosaf i bobl ifanc.
  • Gofyn i glwb neu grŵp ieuenctid lleol a ydyn nhw'n gwybod am unrhyw leoedd y gallet ti dod o hyd i gefnogaeth. Chwilia ar-lein i ddod o hyd i glybiau a grwpiau ieuenctid lleol yn dy ardal. Gallet ti ffonio neu anfon e-bost i weld sut y gallent helpu.

Trwy dy gyngor lleol, gall gwasanaethau cymdeithasol ddarparu cymorth ychwanegol os wyt ti’n:

Gallai’r gefnogaeth hon fod yn:

  • Lle diogel i aros
  • Help gydag arian
  • Cefnogaeth yn yr ysgol
  • Gweithgareddau y tu allan i'r ysgol

Gallet ti defnyddio tudalen chwilio GOV.UK i ddod o hyd i dy gyngor lleol a gweld pa gymorth y maent yn ei gynnig yn dy ardal. Gallet ti hefyd anfon e-bost neu eu ffonio i gael rhagor o wybodaeth, neu ofyn i riant, gofalwr neu athro/athrawes wneud hyn ar dy hun.

“Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig cofio bod pobl yn malio, ac maen nhw eisiau dy helpu ti.”

Gall fod yn rhwystredig os wyt ti'n ei chael hi'n anodd cael y gefnogaeth rwyt ti'n ei haeddu.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys cyngor ar wneud cwynion, gweler ein tudalen ar ddeall dy hawliau.

Cyfrinachedd: cadw'r hyn rwyt ti'n ei rannu'n breifat

Wrth siarad â phobl eraill, efallai y byddi di’n teimlo'n bryderus am yr hyn maen nhw'n ei wneud â'r hyn rwyt ti'n ei ddweud, neu wrth bwy maen nhw'n dweud.

I gael gwybod mwy am sut a phryd y bydd dy wybodaeth yn cael ei chadw'n breifat, gweler ein tudalen cyfrinachedd.

Pan wnes i estyn allan, roedd pawb a siaradais gyda mor gefnogol a hoffwn pe bawn wedi gwneud hynny’n gynt – roedd y posibilrwydd ohono gymaint yn fwy brawychus na’r realiti.

Gyda phwy alla i siarad ar hyn o bryd?

Weithiau efallai y bydd angen help a chyngor arnat ti ar unwaith ar gyfer beth bynnag yr wyt ti’n mynd trwyddo. Efallai dy fod ti'n aros am fath arall o gefnogaeth, neu efallai nad wyt ti'n teimlo'n gyfforddus yn rhannu gyda phobl rwyt ti'n eu hadnabod.

Gall llinellau cymorth, llinellau testun a gwasanaethau ar-lein fod yno i ti unrhyw bryd, am ddim. Ac nid oes rhaid i ti rhoi unrhyw fanylion am bwy wyt ti.

Gall gymryd amser i ddarganfod beth sy'n gweithio orau i ti – ond gall rhoi cynnig ar wahanol opsiynau helpu.

Llinellau cymorth a llinellau testun

Gallet ti siarad â rhywun sydd wedi'i hyfforddi i wrando a dy gefnogi, dros y ffôn, neges destun neu sgwrs we. Bydd beth bynnag sy’n cael ei ddweud yn gyfrinachol ac mae pob un o'r gwasanaethau isod yn rhad ac am ddim i'w defnyddio. Rhai sefydliadau sydd yma i dy helpu yw:

  • Childline. Yn rhedeg llinell gymorth ffôn 24 awr, gwasanaeth e-bost a sgwrs we ar-lein a 1-2-1 i blant a phobl ifanc yn y DU. Gall Childline hefyd ddarparu cwnselwyr Cymraeg eu hiaith.
  • Y Samariaid a Samariaid Cymru. Rhedeg llinell gymorth 24 awr i drafod unrhyw beth yr wyt ti’n mynd trwyddo. Mae'r Samariaid hefyd yn cynnig gwasanaeth e-bost.
  • HOPELINEUK. Yn darparu cynghorwyr sydd wedi'u hyfforddi i dy helpu i gadw'n ddiogel rhag hunanladdiad. Gallant hefyd helpu os wyt ti’n yn poeni am rywun arall. Gallet ti cael cyngor a chymorth dros y ffôn, drwy neges destun ac e-bost.
  • The Mix. Yn cynnig llinell gymorth, gwasanaeth e-bost, llinell destun argyfwng, sgwrs 1-2-1 ar-lein a gwasanaeth cwnsela dros y ffôn i unrhyw un sydd angen cymorth.

I ddod o hyd i ragor o leoedd a all gynnig cefnogaeth i ti, gweler ein tudalen o gysylltiadau defnyddiol. Ar y dudalen hon, byddet ti yn gallu dod o hyd i opsiynau mwy penodol. Er enghraifft, os wyt ti'n cael trafferth gyda dy berthynas â bwyd neu dy rywioldeb.

Cysylltu ag eraill ar-lein

Efallai y bydd yn help i ti siarad â phobl ifanc eraill sy'n mynd trwy rywbeth tebyg i ti. Gallet ti siarad ag eraill ar fyrddau negeseuon ar-lein fel:

Gallet ti rhannu sut rwyt ti'n teimlo a chwilio am gyngor gan eraill ar sut i ymdopi â'r hyn rwyt ti'n ei brofi. Gallai cysylltu ar-lein dy helpu i deimlo:

  • Bod eraill yn dy ddeall yn well
  • Yn llai unig
  • Eich bod chi'n gallu helpu'ch gilydd

Trwy fod yn ddienw, efallai y byddet ti hefyd yn teimlo y gallet ti siarad yn fwy agored am yr hyn rwyt ti'n mynd trwyddo.

Mae byrddau negeseuon, apiau cyfryngau cymdeithasol a gwefannau eraill y gallet ti eu defnyddio i siarad ag eraill. Ond efallai y byddet ti'n gweld postiadau, delweddau neu sylwadau sy'n peri gofid.

Mae’n syniad da chwilio am wefannau sydd:

  • Gyda chanllawiau ynghylch yr hyn y gallet a'r hyn na allet ei bostio
  • Gyda chymedrolwyr a all sicrhau bod pawb yn cadw at y canllawiau
  • Wedi'u creu ar gyfer dy grŵp oedran
  • Ddim yn dy annog i wneud unrhyw beth peryglus neu niweidiol i di dy hun
  • Gwneud i ti teimlo'n well, nid yn waeth

Mae'r rhain yn wasanaethau iechyd meddwl arbenigol ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n cael eu rhedeg gan y GIG. Edrychwch ar ein tudalen ar CAMHS i gael mwy o wybodaeth.

Gofynna i dy hun: a yw byrddau negeseuon yn helpu neu'n brifo fy iechyd meddwl?

Diogelwch arlein

Mae'n bwysig sicrhau eich bod yn cadw'n ddiogel ar-lein. Mae Childline yn cynnig rhywfaint o wybodaeth ar sut i wneud hyn. Meddyliwch am yr hyn rwyt tii'n teimlo'n iawn yn ei rannu a beth rwyt ti am ei gadw'n breifat.

Cofia: does dim rhaid i ti rhannu unrhyw beth nad wyt ti eisiau ei wneud. Ac nid wyt ti'n gyfrifol am helpu unrhyw un arall.

Sut gallwn i geisio helpu fy hun?

Mae dod o hyd i ffyrdd o ofalu am dy iechyd meddwl yn bwysig ni waeth pa fath o gymorth rwyt ti'n ei gael. Gallet ti archwilio gwahanol ffyrdd o helpu dy hun a gallet ti eu defnyddio ynghyd ag unrhyw gymorth arall.

Cofia: nid oes rhaid i ti delio â phopeth ar dy ben dy hun. Mae'n iawn os oes angen mwy o gefnogaeth arnat ti.

Dod o hyd i wybodaeth arlein

Gallet ti dod o hyd i wybodaeth am dy les iechyd meddwl ar-lein. Ceisia edrych ar wefannau dibynadwy fel:

O’r gefnogaeth rydw i wedi’i chael trwy wefannau a chleifion allanol, mae fel fy mod i’n gweld pethau o safbwynt llawer mwy.

Darllen am hunangymorth

Mae cynllun Reading Well yn awgrymu llyfrau hunangymorth y gallet ti eu darllen. Mae gweithwyr proffesiynol yn argymell y rhain, a gallet ti eu cael am ddim yn dy lyfrgell leol.

Gallet ti hefyd gofyn yn dy ysgol neu wasanaeth CAMHS a oes ganddynt unrhyw adnoddau hunangymorth y gallant eu hargymell.

Gofalu am dy les

Mae gofalu amdanat ti dy hun a dy les yn bwysig iawn. Mae pawb yn wahanol – efallai yr hoffet ti meddwl am yr hyn rwyt ti'n ei hoffi a beth sy'n gweithio i ti. I ofalu am dy les, gallet ti ceisio:

  • Gofalu am dy iechyd corfforol, fel ceisio sicrhau dy fod yn bwyta ac yn cysgu digon.
  • Cysylltu ag eraill, fel treulio amser gyda theulu a ffrindiau, neu wirfoddoli.
  • Cysylltu â natur, fel mynd am dro neu wylio'r adar o dy ffenestr.
  • Gwneud pethau rwyt ti'n eu mwynhau, fel bod yn greadigol neu wylio dy hoff raglen deledu.
  • Gwneud pethau sy'n dy ymlacio, fel gwrando ar gerddoriaeth neu fyfyrio.

Cofia: mae pethau gwahanol yn gweithio ar adegau gwahanol, ac mae hynny'n iawn.

Am ragor o syniadau, gweler ein tudalen gofalu am dy les.

Mae’n gallu cymryd cryn dipyn o amser i ddarganfod pa fath o gefnogaeth sydd orau… rydw i wedi darganfod bod y gefnogaeth orau yn cynnwys ystod o bethau.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ebrill 2022. Byddwn yn ei hadolygu yn 2025.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig