Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Rheoli dy deimladau ynghylch newidiadau i’r cyfnod cloi – ar gyfer pobl ifanc

Gwybodaeth i bobl ifanc sydd wedi bod yn ei chael hi’n anodd delio â’u teimladau am y cyfnod cloi yn newid, ac sydd am wybod sut i ymdopi ac i addasu i’r newidiadau.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Rheoli dy deimladau ynghylch newidiadau i’r cyfnod cloi

Mae'r cyfnod cloi wedi bod yn anodd i nifer o bobl. Ac er bod y rheolau’n dechrau newid i rai ohonom ni, mae dal i fod llawer o bethau nad ydyn ni’n cael gwneud – pethau rydyn ni’n colli allan arnyn nhw, ac mae nifer ohonom ni’n dal i boeni am hyn.

Mae llawer o newid ac ansicrwydd yn gallu teimlo’n anodd iawn.

Rydyn ni yma i dy helpu di i ddeall dy deimladau ynghylch newidiadau i’r cyfnod cloi, ac i roi ffyrdd cadarnhaol i ti ymdopi.

Mae’r dudalen hon yn mynd i’r afael â’r canlynol:

I gael gwybod beth yw’r rheolau ar hyn o bryd, cer i dudalen Llywodraeth Cymru os wyt ti’n byw yng Nghymru, neu dudalen Llywodraeth y DU, Coronavirus Outbreak FAQs: what you can and can’t do os wyt ti’n byw yn Lloegr.

“Roedden ni i gyd yn meddwl y byddai’r cyfnod cloi ar ben erbyn hyn, ac y byddai pethau’n dychwelyd i normal. Ond po hired mae hyn yn para, po fwyaf anobeithiol mae pawb yn teimlo.”

Newidiadau i’r cyfnod cloi

Pan oedden ni yn y cyfnod cloi llym, yr un rheolau oedd yn berthnasol i bawb, ac roedd pawb yn mynd trwy sefyllfa cymharol debyg. Roedden ni i gyd yn aros gartref, ac roedden ni’n siarad â’n ffrindiau ar lein.

Erbyn hyn, gall y rheolau fod yn wahanol i bob un ohonon ni. Er enghraifft, efallai dy fod di’n dychwelyd i’r ysgol tra bod dy ffrindiau, neu dy frodyr a chwiorydd ddim yn dychwelyd i’r ysgol. Neu efallai bydd dy rheini yn mynd nôl i’r gwaith, tra bod rhieni plant eraill yn parhau i aros gartref.

Erbyn hyn, mae’r rheolau’n llai eglur, ac yn gallu bod yn wahanol yn ôl y person. Bydd hyn yn para am beth amser, a gall deimlo’n anodd ymdopi â hyn.

Efallai bydd rheolau’r cyfnod cloi yn cael eu tynhau eto yn y dyfodol, a bydd y broses o ‘fynd nôl i normal’ yn codi ac yn disgyn fel ton. Mae cydnabod hyn yn gam pwysig, a bydd yn dy helpu di i ymdopi os yw hyn yn digwydd.

“Rwy’ ym mlwyddyn 12 ac roeddwn i’n gyffrous i gael cwrdd â phobl newydd. Ond rwy’ wedi bod yn sownd yn y tŷ ac rwy’ wedi cael hen ddigon. Rwy’n berson creadigol iawn ac rwy’n ei chael yn anodd rhyddhau’r egni creadigol sydd gen i. Mae’n gwneud i fi deimlo mor rhwystredig.”

Beth allaf i fod yn teimlo am newidiadau yn y cyfnod cloi?

Bydd pawb yn ymateb yn wahanol i’r newidiadau yn y cyfnod cloi.

Efallai y byddi di’n teimlo’n gyffrous neu’n llawn gobaith wrth glywed am newidiadau yn y cyfnod cloi lle rwyt ti’n byw, neu’n bryderus neu’n grac. Efallai na fyddi di’n gwybod sut rwyt ti’n teimlo, neu gymysgedd o emosiynau.

Er enghraifft:

Efallai dy fod di’n teimlo’n fwy diogel yn ystod y cyfnod cloi llym, a dy fod di bellach yn teimlo y gall y newidiadau achosi cynnydd yn y nifer sy’n dioddef o’r haint, neu y gall y cyfnod cloi gael ei dynhau eto.

Neu efallai dy fod di wedi mwynhau’r ffaith bod ysgolion ar gau ond bellach yn poeni am ddychwelyd. Gall hyn fod oherwydd dy fod di wedi teimlo dan lai o straen yn ystod y cyfnod cloi, neu oherwydd bod y cyfnod cloi yn gwneud i ti deimlo’n ddiogel rhag bwlio. Efallai dy fod di’n ymlacio ar ôl saib hir o astudio, a bellach yn poeni am y pwysau academaidd o ddal i fyny gyda’r gwaith.

Efallai dy fod di hefyd wedi bod yn teimlo’n agosach at dy deulu, dy gymdogion neu dy gymuned leol yn ystod y cyfnod cloi, neu fod wedi mwynhau amodau byw gwell, a dy fod di ddim eisiau hyn i ddod i ben.

Efallai dy fod di’n teimlo’n drist gan dy fod di’n gweld eisiau ffrindiau, dy gariad neu dy deulu, ac yn dal i fod yn ansicr pryd fyddi di’n gallu eu gweld nhw’n iawn eto.

Neu mae’n bosib dy fod di’n colli digwyddiadau pwysig ac yn ansicr a fyddan nhw’n cael eu haildrefnu. Er enghraifft, dathliadau pen-blwydd yn 18 oed, prom ysgol, neu ddathliadau ‘gadael ysgol’ eraill.

Mae’n bosib dy fod yn teimlo’n isel gan dy fod di’n colli allan ar bethau bob dydd fel partïon a chwaraeon, neu gynlluniau cyffrous fel teithio neu brofiad gwaith. Neu efallai dy fod di’n teimlo’n drist gan y bydd yn annhebyg y byddi di’n gallu gwneud pethau sy’n hwyl ar ôl i ti fynd nôl i’r ysgol, coleg, y brifysgol neu’r gwaith ‘ta beth.

Mae’n bosib dy fod di hefyd yn teimlo’n isel neu’n teimlo diffyg cymhelliad, gan dy fod di’n ansicr pryd y byddi di’n gallu mynd nôl i’r gwaith neu’r ysgol.

Mae’n bosib dy fod di’n teimlo’n flinedig os dwyt ti ddim yn dod ymlaen gyda dy deulu neu’r bobl rwyt ti’n byw gyda nhw, ac yn ansicr pryd y byddi di’n gallu cael saib oddi wrthyn nhw.

Neu efallai dy fod di wedi bod yn cuddio agweddau ar dy hunaniaeth oddi wrthyn nhw, fel dy rywioldeb neu dy ffydd, ac eisiau bod yn ti dy hun eto.

Efallai dy fod di’n teimlo’n rhwystredig oherwydd y pwysau i barhau i astudio adref ac i annog dy hun i wneud hynny, gan fod dim diwedd penodol ar y gorwel.

Mae’n bosib dy fod di’n teimlo bod gan rai pobl mwy o ryddid na ti, os yw dy gartref yn hunan-ynysu neu os wyt ti’n byw rhywle gyda chyfyngiadau tynnach. Neu efallai dy fod di’n teimlo bod pobl eraill yn gwrthod dilyn rheolau pellter cymdeithasol, yn enwedig nawr bod y rheolau’n dechrau newid.

Mae’n bosib dy fod di’n teimlo pwysau oddi wrth ffrindiau i gyfarfod, ac yn ansicr ynghylch beth rwyt ti’n cael gwneud. Neu efallai dy fod di’n trio cwrdd â ffrindiau wrth gadw pellter ac yn meddwl nad oes llawer ar gael i wneud, neu eu bod nhw’n gwrthod parchu’r rheolau.

Mae’n bosib dy fod di’n poeni neu deimlo’n ofnus oherwydd bod rhywun sy’n agos atat ti wedi gorfod mynd nôl i’r gwaith lle nad ydyn nhw’n teimlo’n ddiogel. Neu efallai dy fod di’n poeni ynghylch mynd nôl i’r ysgol neu’r coleg dy hun. Er enghraifft, gelli di fod yn teimlo y bydd yn anodd cadw pellter, neu na fydd pobl eraill yn parchu’r rheolau.

Mae’n bosib dy fod di’n poeni sut fydd y coronafeirws yn effeithio ar dy addysg, dy yrfa neu agweddau eraill ar dy ddyfodol. Er enghraifft, gelli di fod yn poeni na fydd y coleg neu’r brifysgol yn cwrdd â dy ddisgwyliadau, neu dy fod di’n mynd i golli allan ar bethau.

Neu efallai dy fod yn teimlo’n bryderus ynghylch darganfod bod dy berthnasau wedi newid yn ystod y cyfnod cloi, fel gyda dy ffrindiau neu dy gariad.

Mae’n bosib dy fod di’n teimlo’n rhwystredig gan fod canllawiau'r Llywodraeth i bobl ifanc yn aneglur.  Neu’n teimlo’n ddiymadferth, fel petai ti heb unrhyw lais i ddylanwadu’r hyn sy’n mynd ymlaen.

Efallai dy fod di’n teimlo o dan anfantais gan dy fod di wedi methu sefyll arholiadau pwysig, neu’n colli allan ar amser pwysig gydag athrawon.

Efallai bod dy gefnogaeth iechyd meddwl wedi gorfod newid yn ystod y cyfnod cloi. Neu rwyt ti’n teimlo’n rhwystredig gan fod y cyfnod cloi wedi cael effaith negyddol ar y broses wella.

Neu mae’n bosib bod dy deulu’n dioddef anawsterau ariannol, a dy fod di’n teimlo dan bwysau i gynnig cefnogaeth, neu dy fod yn teimlo y byddi di’n colli dy annibyniaeth.

Efallai dy fod di wedi bod trwy rywbeth sydd wedi peri straen, ofn neu ofid mawr i ti yn ystod y cyfnod cloi. Er enghraifft, mae’n bosib dy fod di wedi gorfod aros mewn lle nad oedd yn ddiogel i ti.

Neu efallai dy fod wedi bod yn gwella o’r coronafeirws, neu’n helpu aelod o’r teulu i wella. Neu gall fod rhywun rwyt ti’n ei garu fod wedi marw yn ystod y cyfnod hwn, a dy fod di’n poeni y byddi di’n colli rhywun arall.

Dim ond rhai enghreifftiau yw'r rhain o bethau elli di fod yn teimlo ar hyn o bryd. Gelli di fod yn profi nifer o’r teimladau hyn, neu’n mynd trwy brofiad cwbl wahanol.

Os wyt ti’n dal i’w chael yn anodd deall sut rwyt ti’n teimlo, cer i'n tudalen deall fy nheimladau.

"I ddechrau, roeddwn i’n ymdopi’n iawn gyda’r cyfnod cloi. Erbyn hyn, rwy’n gweld eisiau fy nheulu cryn dipyn, mae gen i broblemau cysgu, ac rwy’n ei chael yn anodd delio â’r holl waith ysgol sy’n cael ei osod."

Beth yw strategaethau ymdopi cadarnhaol a negyddol?

Ymdopi yw ein gallu i ymateb a delio gyda sefyllfaoedd sy’n achosi straen, sy’n annifyr, neu'n anodd. Gall ein gallu i ymdopi â phethau amrywio – efallai ein bod ni’n ymdopi’n dda ar ddiwrnod penodol, ond yn wael ar un arall.

Mae strategaethau ymdopi  yn bethau rydyn ni’n dewis eu gwneud mewn sefyllfaoedd annifyr er mwyn rheoli ein hemosiynau a’n helpu ni i ddod trwy’r sefyllfa neu leihau ei heffaith arnom ni.  Mae strategaethau ymdopi cadarnhaol a negyddol yn bodoli.

Mae strategaethau ymdopi cadarnhaol yn ffyrdd iach o ymdopi sy’n dda i’n llesiant yn y tymor hir. Gelli di ddod o hyd i syniadau ac enghreifftiau o strategaethau ymdopi cadarnhaol yn yr adran ar gyngor ynghylch ymdopi ac addasu isod.

Mae strategaethau ymdopi negyddol yn ffyrdd gwael o ymdopi sy’n gallu gwneud niwed i’n llesiant ac achosi problemau eraill. Gallan nhw deimlo fel ymateb mympwyol, neu ar hap, i rywbeth. Mae’n bosib nad ydyn ni’n sylweddoli ar y pryd ein bod ni’n defnyddio strategaethau negyddol i ddianc oddi wrth rywbeth.

Mae’r strategaethau ymdopi negyddol mae pobl ifanc wedi dweud wrthym ni eu bod nhw’n defnyddio’n cynnwys y canlynol:

  • Bwyta gormod, neu ddim digon
  • Yfed alcohol neu ddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon
  • Cyffuriau cyfreithlon (legal highs)
  • Ysmygu sigarennau neu ddefnyddio sigarennau electronig
  • Hunan-niweidio

I gael cefnogaeth gan sefydliadau all fod o gymorth, cer i’n tudalen cysylltiadau defnyddiol am y coronafeirws i bobl ifanc.

Cadw'n ddiogel

  • Os wyt ti’n teimlo dy fod di’n methu ymdopi neu eisiau gwneud niwed i ti dy hun, gelli di alw HOPELINEUK neu anfon neges i’w gwasanaeth testun Gwasanaeth negeseuo testun YoungMind a bydd cwnselydd yn siarad â ti.
  • Os wyt ti’n teimlo fel cymryd dy fywyd dy hun, neu os wyt ti wedi gwneud niwed mawr i dy hun, mae hyn yn argyfwng. Rhaid i ti neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw alw 999 a gofyn am ambiwlans, hyd yn oed yn ystod argyfwng y coronafeirws.
  • Mae argyfwng iechyd meddwl yn beth difrifol.  Dwyt ti ddim yn gwastraffu amser unrhyw un.

Beth allaf i wneud i fy helpu i ymdopi ac addasu?

Mae’n bosib dy fod di’n wynebu llawer o heriau nawr bod rheolau’r cyfnod cloi yn newid, ac efallai ei fod yn anodd i ti ddelio â rhai o’r teimladau rwyt ti’n eu cael.

Tra bod pethau’n parhau i fod yn aneglur, gallwn ni ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bosib ei reoli, a chymryd camau cadarnhaol i ofalu am ein llesiant.

Gofynnom ni i bobl ifanc ddweud wrthym ni beth maen nhw wedi bod yn gwneud i helpu eu hunain i ymdopi yn ystod y pandemig. Efallai y byddi di’n ystyried rhai o’u strategaethau ymdopi cadarnhaol i fod yn ddefnyddiol.

Dyma ambell syniad:

Dyma ambell beth y gelli di ei wneud i dy helpu di i ddeall a derbyn sut rwyt ti’n teimlo, fel:

  • Defnyddio olwyn emosiynau i helpu enwi teimladau sy’n anodd eu hadnabod.
  • Gelli di ddisgwyl teimlo’n rhyfedd ynghylch ailymuno â’r byd tu allan. Os oes gen ti ddewis, ceisia ailymuno’n araf deg, yn enwedig os wyt ti wedi bod yn hunan-ynysu.
  • Siarada â rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw am beth rwyt ti’n ystyried i fod yn ‘normal’ ar hyn o bryd, i dy helpu di dderbyn beth sy’n digwydd. Gall hyn fod yn riant neu warchodwr, yn ffrind, neu’n linell gymorth fel
  • Ysgrifenna, arlunia, neu gwna rhywbeth arall fydd yn rhoi lle i ti deimlo popeth rwyt ti’n ei deimlo ar hyn o bryd. Hyd yn oed y pethau anhapus a chas.
  • Cer i’n gwefan ‘Deall fy nheimladau’ os wyt ti’n ei chael yn anodd deall sut rwyt ti’n teimlo.


“Rwy’n ei chael yn anodd rheoli fy nhymer; rwy’n mynd yn grac ac o dan bwysau’n hawdd.”

Gall treulio amser gyda ffrindiau a theulu, wyneb yn wyneb neu beidio, ein helpu ni i deimlo’n well a gwella ein llesiant cyffredinol. Gelli di wneud y canlynol:

  • Treulio amser gyda’r perthnasau rwyt ti eisiau eu datblygu – pobl rwyt ti’n dibynnu arnyn nhw am gefnogaeth yn ogystal â hwyl.
  • Rhannu’r hyn rwyt ti’n ei deimlo gyda rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw – gall hyn helpu cryfhau’r berthynas rhyngoch chi yn ogystal â rhoi cyfle i chi’ch dau gefnogi’ch gilydd.
  • Gwisgo mwgwd sy’n dy siwtio di, neu dylunia fwgwd dy hun, i dy helpu di i deimlo’n fwy cyfforddus wrth gyfarfod â dy ffrindiau.
  • Dewis gweithgaredd y gelli di ei chwarae ar y tu allan wrth gadw dy bellter, fel pêl droed, dal pêl neu feicio. Gall hyn dy helpu di i ymgysylltu ag eraill wrth gadw eich pellter yn gorfforol, fel nad yw ymbellhau cymdeithasol yn teimlo’n rhy lletchwith.
  • Cysylltu â phobl eraill sy’n deall – er enghraifft, gelli di roi tro ar fyrddau negeseuon cymuned The Mix.

“Chwilia am bobl eraill o’r un oed â ti i gael siarad â nhw. Mae wir o help gan ein bod ni i gyd yn mynd trwy’r un peth.”

Pan fo pethau’n mynd yn anodd, dyma ambell beth cyflym y gelli di eu gwneud i geisio peidio poeni a mynd i banig:

  • Gweithgaredd tawelu (grounding activity) i atal dy feddyliau i fynd allan o reolaeth. Eistedda nôl gan ganolbwyntio ar yr hyn sy’n mynd ymlaen o dy amgylch di. Ceisia enwi pum peth rwyt ti’n eu gweld, pedwar peth rwyt ti’n eu teimlo, tri pheth rwyt ti’n clywed, dau beth rwyt ti’n eu harogli ac un peth rwyt ti’n ei flasu.
  • Ffeindia rywbeth i dy gadw di’n brysur ac sy’n cadw dy feddwl oddi ar bethau, fel mynd am dro, gwrando ar gerddoriaeth hapus neu siarad â rhywun. Gall y rhain helpu pan rwyt ti’n sylwi dy fod di’n poeni am y gorffennol neu’r dyfodol.
  • Ffeindia weithgaredd meddwlgarwch (mindfulness) i dy helpu di i fod yn ymwybodol o’r presennol. Gelli di roi tro ar yr ymarfer anadlu hwn - anadla mewn trwy dy drwyn wrth gyfri i bedwar, dal dy anadl a chyfri i ddau, yna anadla allan gan gyfri i saith. Os wyt ti’n ailadrodd yr ymarfer, gall arafu dy anadlu a dy helpu i ymlacio.
  • Gofynna am gefnogaeth oddi wrth rywun rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw, yn ffrind, aelod o’r teulu, neu linell gymorth fel Childline neu The Mix.
  • Gelli di ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar orbryder a chyngor ar sut i ymdopi ar wefan YoungMinds.

“Cadwa dy hun yn brysur, gan wneud y pethau rwyt ti’n eu mwynhau ac sy’n gwneud i ti deimlo’n falch o’u gorffen.”

Cymer gamau bach i adnabod beth sy’n bosib i ti eu rheoli ar hyn o bryd, a beth elli di wneud i gynllunio ymlaen llaw – gall hyn dy helpu di i setlo.

  • Gwna amserlen o dy ddiwrnod neu dy wythnos, gan sicrhau dy fod yn cynnwys gweithgareddau sy’n hwyl neu dy helpu di i ymlacio. Gall hyn dy helpu di i baratoi ymlaen llawn, a theimlo fwy mewn rheolaeth o dy ddyfodol agos.
  • Ysgrifenna dy bryderon ar ddarn o bapur cyn mynd i’r gwely a darllena nhw yn y bore. Gall hyn dy helpu di i weithio allan beth sydd ddim angen dy sylw di bellach, beth elli di wneud i wneud dy hun i deimlo’n well, a beth sydd allan o dy reolaeth.
  • Edrych ar deithiau rhithwir neu luniau o dy ysgol neu goleg nesaf ar-lein, os wyt ti’n symud i rywle newydd. Bydd hyn yn dy helpu di i wybod beth i ddisgwyl, fel dy fod di’n gallu dechrau teimlo’n gyffrous.
  • Mynna lais mewn penderfyniadau am y ffordd rwyt ti’n cadw’n ddiogel, fel gofyn i ddewis pa fath o sebon neu gel cawod rwyt ti’n ei ddefnyddio, neu ddewis dy fwgwd dy hun.

“Rwy’ bellach wedi sefydlu fy rwtîn fy hun i baratoi ar gyfer y coleg chweched dosbarth, ac wedi dod yn fwy annibynnol. Rwy’ wedi sylweddoli fy mod i’n well am wneud fy mhenderfyniadau fy hun heb bwysau oddi wrth fy ysgol.”

Mae gofalu am dy lesiant corfforol yn gallu cael sylweddol ar dy iechyd meddwl hefyd.

Mae pethau syml y gelli di eu gwneud i ofalu am dy iechyd corfforol, fel:

  • Sefydlu trefn dda o fynd i’r gwely a chysgu. Er enghraifft, ceisia osgoi edrych ar sgrin cyn mynd i’r gwely a chyfyngu ar y caffîn rwyt ti’n ei yfed.
  • Bwyta’n iach a gwneud digon o ymarfer corff – bydd hyn yn gofalu am y corff a’r meddwl ac yn dy helpu di i feddwl yn gliriach.
  • Sicrhau dy fod yn dal i ddilyn cyngor y GIG ar olchi dwylo a chadw pellter.
  • Bod yn garedig i dy hun os wyt ti’n anghofio gwneud rhywbeth, neu’n gwneud camgymeriad. Mae hyn yn brofiad newydd i bawb, a’r unig beth y gallwn ni wneud yw trio’n gorau.

“Gofala am dy anghenion sylfaenol - gwna ymdrech i fwyta ac yfed yn rheolaidd, brwsio dannedd, a chael cawod.”

Sut allaf i gefnogi ffrind neu aelod o’r teulu?

Os yw rhywun sy’n agos atat ti’n mynd trwy amser anodd, mae’n naturiol i fod eisiau eu cefnogi nhw. Ond gyda phopeth sy’n digwydd ar hyn o bryd, efallai nad wyt ti’n gwybod sut i helpu.

Dyma ambell i beth y gelli di wneud i gefnogi rhywun o bellter:

  • Cofia bod pawb yn mynd trwy brofiad gwahanol ar hyn o bryd – mae’r hyn sy’n hawdd i un person yn gallu bod yn anodd iawn i rywun arall.
  • Os wyt ti’n teimlo dy fod di’n gallu, gofynna beth elli di wneud i’w helpu nhw.
  • Gelli di gynnig amser i siarad os wyt ti’n credu eu bod nhw angen clywed llais cyfeillgar.
  • Cadwa mewn cysylltiad â nhw. Os nad ydyn nhw eisiau sgwrs, dywed wrthyn nhw bod hynny’n iawn, ond ceisia aros mewn cysylltiad gyda nhw mewn ffyrdd eraill. Er enghraifft, gelli di rannu llun neu gelf gyda nhw, neu bostio neu e-bostio rhywbeth iddyn nhw fydd yn codi gwên.
  • Gelli di ddweud diolch iddyn nhw ar y cyfryngau cymdeithasol trwy ein her #SpeakYourMind ar TikTok gan ddweud pam rwyt ti’n eu gwerthfawrogi nhw.

“Mae eu hatgoffa nhw dy fod di yno os oes angen, gwrando’n astud pan maen nhw’n dewis mynegi eu teimladau, yn ogystal â pharhau gyda’ch bywydau bob dydd, yn sicrhau’r cydbwysedd gorau posibl."

Ble allaf i gael cefnogaeth bellach?

Wrth i’r cyfnod cloi newid, efallai bydd angen rhagor o gefnogaeth arnat ti, neu mae’n bosib dy fod di eisiau cysylltu â phobl sy’n uniaethu â ti.

Am restr o sefydliadau all fod o gymorth, cer i’n gwefan Cysylltiadau defnyddiol coronafeirws.

Diweddarwyd y dudalen hon ar 8 Mehefin 2020.

  • Mae cynnwys y dudalen yn adlewyrchu'r cyngor gorau sydd gennym ar hyn o bryd. Byddwn yn ei ddiweddaru yn ôl yr angen, yn enwedig os oes newidiadau i arweiniad ar iechyd cyhoeddus.
  • Os ydych chi'n ail-ddefnyddio'r cynnwys hwn rhywle arall, rhannwch y ddolen i'r dudalen yn uniongyrchol yn hytrach na dyfynnu neu roi crynodeb o'r wybodaeth, er mwy osgoi rhannu gwybodaeth sydd allan o ddyddiad.
  • Rydyn ni'n gwerthfawrogi unrhyw adborth ar yr hyn rydyn ni'n ei amlinellu yma, neu unrhyw beth hoffech chi i ni ei gynnwys. I adael sylwadau, cliciwch y bawd i fyny /i lawr uchod.
arrow_upwardYn ôl i'r brig