Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Deall eiriolaeth – ar gyfer pobl ifanc

Gwybodaeth i bobl ifanc yn egluro eiriolaeth a sut y gall eiriolwyr eich helpu i godi’ch llais. Mae’r dudalen hon hefyd yn egluro sut y gallwch chi eirioli drosoch chi eich hun.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Beth yw eiriolaeth ar gyfer iechyd meddwl?

Efallai na fyddwn ni’n teimlo bod pobl yn gwrando arnom bob amser, yn enwedig o ran cyrchu triniaeth a chymorth ar gyfer ein hiechyd meddwl.

Gallai fod llawer o bobl sydd angen i chi siarad â nhw, fel meddygon a therapyddion, sy’n gallu teimlo’n orlethol. Efallai ei bod hi’n teimlo fel petai nad ydynt bob amser yn gwrando ar eich barn nac yn eich cynnwys mewn penderfyniadau. Gall hyn fod yn ofidus ac yn rhwystredig iawn.

Dyma le y gall eiriolaeth fod o gymorth.

Mae eiriolaeth yn golygu cael cymorth gan berson arall i’ch helpu i leisio eich barn a sefyll dros eich hawliau.

Enw rhywun sy’n eich helpu i wneud hyn yw eiriolwr.

Ar y dudalen hon, byddwn ni’n eich helpu i ddeall eiriolaeth a sut y gall eiriolwyr eich cefnogi chi â’ch iechyd meddwl.

Mae’r dudalen hon yn drafod:

“Dwi ddim yn credu bod llawer o bobl ifanc yn gwybod am eiriolaeth ac mae’n bwysig gwybod amdano.”

Beth yw eiriolwr?

Mae eiriolwyr yn eich helpu i siarad am bethau sy’n bwysig i chi. Gall gwahanol fathau o eiriolwyr eich helpu mewn gwahanol ffyrdd.

Maen nhw’n annibynnol, sy’n golygu nad ydyn nhw’n gweithio i’r GIG, cynghorau lleol neu wasanaethau cymdeithasol.

Disgrifiodd y bobl ifanc y siaradom â nhw eiriolwr fel:

  • “Rhywun sy’n gallu siarad ar eich rhan a lleisio eich barn pan fyddwch chi’n teimlo na allwch ei wneud eich hun.”
  • “Rhywun sy’n gallu eich tywys trwy sefyllfa gan eich helpu i benderfynu beth i’w wneud.”
  • “Rhywun sy’n gallu eich cynrychioli a sicrhau bod eich barn yn cael ei ddeall.”
  • “Maen nhw’n gwybod y system yn well na chi ac yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen. Maen nhw’n gyfarwydd ag iaith feddygol ac yn gwybod sut i egluro’r hyn y mae’r meddygon a nyrsys yn ei ddweud mewn modd y gallwch ei deall.”
  • “Rhywun sy’n cefnogi mewn sefyllfaoedd ac yn gallu siarad ar eich rhan pe dymunech. Gall fod yn gefnogaeth emosiynol er mwyn iddyn nhw eich helpu i fynegi’r hyn rydych yn ei deimlo.”

Dywedodd eiriolwyr y siaradom â nhw:

  • “Gallwn eich helpu i wneud penderfyniadau hysbys a thrafod yr holl opsiynau, ond eich penderfyniad chi ydyw.”
  • “Byddwn ni wir yno 100% i’r person. I roi’r llais hwnnw iddynt i sefyll dros eu hawliau ac i symud ymlaen yn y ffordd yr ydynt ei heisiau.”
  • “Rwy’n gweld fy rôl fel sicrhau hawliau pobl. Nid yn unig eu helpu i ddeall eu rolau, ond hefyd sut i’w harfer. Rwy’n adleisio neu’n cryfhau eu llais ac yn codi materion gyda nhw neu ar eu rhan, gan hefyd adeiladu hyder a strategaethau y gallan nhw eu defnyddio i hunan-eirioli yn y dyfodol.”

Sut y gall eiriolwr fy helpu?

Gall eiriolwyr ddarparu gwahanol gefnogaeth yn dibynnu ar eich sefyllfa a’r hyn sydd angen cymorth arnoch ar ei gyfer.

Gall eiriolwyr:

  • Wrando arnoch. Er enghraifft, gallan nhw siarad â chi’n breifat am sut rydych chi’n teimlo a beth sy’n mynd ymlaen gyda chi. Neu os nad ydych am siarad, gallech ysgrifennu llythyr atyn nhw.
  • Eich helpu i gael gwybodaeth fel eich bod yn deall eich hawliauEr enghraifft, gallan nhw eich helpu i ddeall pa hawliau sydd gennych os ydych chi’n cael eich cadw yn yr ysbyty meddwl o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl neu os ydych chi'n glaf gwirfoddol yn yr ysbyty.
  • Siarad am opsiynau gyda chi fel eich bod chi’n gallu gwneud penderfyniadau eich hun. Er enghraifft, os ydych chi yn CAMHS, gallan nhw eich helpu i ddeall a chael llais o ran eich triniaeth a chymorth.
  • Eich cefnogi i leisio eich barn. Er enghraifft, gallan nhw eich helpu i ysgrifennu e-byst neu lythyrau, mynd i gyfarfodydd gyda chi neu egluro eich barn i bobl eraill. Gall hefyd fod yn rhywbeth fel eich helpu i sefydlu grŵp llais ieuenctid.
  • Sicrhau bod eich cwestiynau a phroblemau’n cael eu clywed a’ch bod yn cael atebion. Er enghraifft, os oes cwestiwn neu broblem gennych, gallan nhw ddelio ag ef i sicrhau eich bod chi’n cael ateb neu ei fod yn cael ei ddatrys.

Ni fydd eiriolwyr:

  • Yn gwneud penderfyniadau drosoch
  • Yn eich beirniadu

Efallai bydd gwahanol eiriolwyr yn gallu rhoi cymorth i chi am wahanol broblemau, neu os bydd eich sefyllfa’n newid, efallai byddwch chi’n cael cymorth gan eiriolwr arall. Er enghraifft, os ydych chi’n glaf gwirfoddol i ddechrau, ac yna rydych chi’n cael eich cadw yn yr ysbyty meddwl o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

“Ni fyddan nhw’n rhoi unrhyw bwysau arnoch i wneud penderfyniadau rydych chi’n anghyfforddus â nhw neu’n gyflymach nag yr ydych chi’n gyfforddus i wneud.”

Cwestiynau i ofyn i’ch eiriolwyr

Efallai byddwn chi am ofyn:

  • Beth allwch chi ei wneud i fy helpu?
  • A oes unrhyw beth na allwch chi fy helpu i’w wneud?
  • Allwch chi fy helpu gyda…?
  • Pa mor aml alla i'ch gweld?
  • Sut fydda i’n cysylltu â chi?
  • Am ba mor hir y byddwch chi’n gallu fy helpu?
  • A fydd popeth rwy’n ei ddweud wrthych chi’n cael ei gadw’n gyfrinachol?
  • A oes eiriolwyr eraill y galla i gael cymorth ganddynt?

“Cefais gymorth gan fy eiriolwr drwy gamau cyntaf cael triniaeth ar gyfer fy iechyd meddwl gan CAMHS…Helpodd hi i mi rannu fy marn gyda fy nheulu a chynllunio er mwyn i mi allu cefnogi fy hun yn well.”

Bydd eich eiriolwr yn cadw’r hyn yr ydych yn ei ddweud wrthynt yn gyfrinachol. Byddan nhw ond yn rhannu’r hyn yr ydych yn dweud wrthynt mewn rhai sefyllfaoedd. Er enghraifft, os ydych chi’n gofyn iddyn nhw ddweud, neu os ydynt yn poeni y gallech chi neu rywun arall fod mewn perygl.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein tudalen am gyfrinachedd.

“Roeddwn i’n bendant yn teimlo fy mod yn gallu bod yn fwy gonest oherwydd roeddwn i’n gwybod eu bod yn annibynnol. Roedd gwybod eu bod yn ystyried fy muddion pennaf yn ei gwneud hi’n haws.”

Pa fath o eiriolaeth sy’n bodoli?

Mae gwahanol fathau o wasanaethau eiriolaeth a ffyrdd i eirioli sy’n gallu’ch helpu i godi’ch llais.

Bydd y math o eiriolaeth yn dibynnu ar eich sefyllfa a pha fath o gymorth sydd ei angen arnoch.

Dyma’r prif fathau o eiriolaeth ar gyfer iechyd meddwl:

“Bydd dysgu beth y gall yr eiriolwr ei wneud, a sut y maen nhw’n gweithio, yn eich helpu i benderfynu a ydych chi eisiau eu cymorth. Ni fyddai eiriolwyr yn gwneud y gwaith hwnnw pe nad oedden nhw am eirioli dros bobl.”

Pryd y mae gen i'r hawl i eiriolwr?

Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai bydd hawl cyfreithiol gennych i gefnogaeth gan eiriolwr. Gelwir hyn yn eiriolaeth statudol.

Hyd yn oed os oes hawl gennych i eiriolwr, eich dewis chi yw cael eu cefnogaeth ai peidio. Os ydych chi’n penderfynu ei wrthod yn gyntaf, gallwch bob amser newid eich meddwl yn nes ymlaen.

Dyma rai enghreifftiau o bryd y mae hawl gyfreithiol gennych i eiriolwr:

Gelwir y rhan fwyaf o eiriolwyr mewn ysbytai seiciatrig yn Eiriolwyr Iechyd Meddwl Annibynnol (IMHAS). Nid ydynt yn rhan o staff y ward.

Os ydych chi’n byw yng Nghymru, mae gennych yr hawl i IMHA os:

Os ydych chi’n byw yn Lloegr, mae’r hawl gennych i IMHA os:

  • Rydych chi o dan rai adrannau
  • (fel adran 2 neu 3)
  • Rydych chi ar CTO
  • Rydych chi’n glaf gwirfoddol yn cael ei ystyried ar gyfer Therapi Electrogynhyrfol

Mae hefyd gan rai wardiau CAMHS yn Lloegr eiriolwyr ar gyfer cleifion gwirfoddol, ond mae’n dibynnu ar yr hyn sydd ar gael yn eich ardal. Gallwch ddysgu rhagor yn ein gwybodaeth am eiriolaeth gyffredinol neu gymunedol.

Sut y gall IMHA fy helpu?

Gall IMHA eich helpu i ddeall:

  • Eich hawliau o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
  • Unrhyw driniaeth feddygol rydych chi’n ei chael neu y mae’n bosibl y byddwch chi’n ei chael

Gallan nhw hefyd helpu â phethau ymarferol fel:

  • Eich cynrychioli mewn cyfarfodydd a rowndiau ward
  • Eich helpu i godi eich safbwyntiau â staff y ward
  • Eich helpu i gyrchu nodiadau a chofnodion meddygol
  • Gwneud cwyn am eich triniaeth neu gefnogaeth
  • Gwneud cais i’r Tribiwnlys Iechyd Meddwl

Sut alla i ddod o hyd i IMHA?

Os ydych chi yn yr ysbyty, dylai IMHAs ymweld â’ch ward yn rheolaidd. Gallwch hefyd ofyn i aelod o staff y ward i’ch cysylltu â nhw.

Os ydych chi ar CTO, gallwch ofyn i’ch cydlynydd gofal i’ch cysylltu ag IMHA.

“Byddai’r eiriolwr yn cael sgwrs â’r staff ar y ward i drafod y pethau rydym wedi eu codi a’r hyn yr oeddem eisiau i ddigwydd. Roedd y staff wir yn parchu’r safbwyntiau a rhoesom i’r eiriolwr.”

Os ydych chi am wneud cwyn am eich triniaeth a chefnogaeth gan y GIG, mae hawl gyfreithiol gennych i gael cefnogaeth gan eiriolwr.

Sut y gall eiriolwr fy helpu?

Gallant eich helpu i wneud cwyn am y bobl sy’n darparu eich gofal. Er enghraifft, eich meddyg, seiciatrydd neu therapydd.

Gallan nhw eich helpu i:

  • Benderfynu os yw gwneud cwyn yn iawn i chi
  • Dod o hyd i’r hyn rydych eisiau i’ch cwyn ei gyflawni
  • Ysgrifennu’r llythyr cwyno a’i anfon at y bobl iawn
  • Deall yr ymateb ac egluro eich opsiynau

Sut alla i ddod o hyd iddyn nhw?

Os ydych chi yn Lloegr, gallwch gysylltu â’ch Healthwatch lleol. Gofynnwch iddyn nhw ba asiantaeth eiriolaeth sy’n darparu’r gwasanaeth hwn yn eich ardal.

Os ydych chi yng Nghymru, bydd eich Cyngor Iechyd Cymunedol yn gallu eich helpu.

“Siaradais â’r eiriolwr yn rheolaidd a thrafodom ni’r problemau oeddwn i’n eu cael â staff a ph’un ai i wneud cwyn ffurfiol. Yn y pen draw, fe wnaethom ni hynny’n anffurfiol.”

Alla i gael cymorth gan wasanaethau eiriolaeth eraill?

Os nad oes gennych hawl gyfreithiol at eiriolwr, gallwch o hyd gael cefnogaeth i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.

Bydd y math o gefnogaeth yn dibynnu ar eich sefyllfa a pha fath o gymorth rydych ei eisiau.

“Oherwydd nad oes gennych hawl gyfreithiol i rywbeth, nid yw hynny’n golygu nad yw eich anghenion mor fawr neu nad yw eich profiad mor wael.”

Dyma rai opsiynau ar gyfer mathau eraill o gefnogaeth eiriolaeth:

Mae rhai gwasanaethau, elusennau a sefydliadau’n darparu math o eiriolaeth o’r enw ‘eiriolaeth gymunedol’. Efallai byddwch chi hefyd yn clywed hwn yn cael ei alw’n ‘eiriolaeth gyffredinol’.

Mae eiriolwyr cymunedol neu gyffredinol yn eiriolwyr proffesiynol. Gallan nhw eich cefnogi â sefyllfaoedd neu benderfyniadau pan nad oes hawl gyfreithiol gennych i eiriolaeth.

Er enghraifft, efallai byddwch chi’n glaf gwirfoddol yn Lloegr ac angen cymorth i godi’ch llais ar y ward, neu efallai byddwch chi’n cael problemau gyda’ch gofal yn CAMHS.

Sut y gallan nhw helpu?

Gallant:

  • Eich helpu i gyrchu gwasanaethau iechyd meddwl
  • Eich helpu i ddysgu am ddewisiadau meddyginiaeth a thriniaeth gwahanol
  • Eich cefnogi i fynegi eich safbwyntiau am eich meddyginiaeth neu driniaeth
  • Eich helpu i ysgrifennu llythyrau neu e-byst am eich meddyginiaeth neu driniaeth
  • Mynd i gyfarfodydd gyda chi a’ch helpu i baratoi ar eu cyfer
  • Eich helpu â hunan-eiriolaeth

Yn dibynnu ar le’r ydych chi’n byw, bydd gwahanol fathau o eiriolaeth gymunedol neu gyffredinol ar gael.

Ym mhle y galla i ddod o hyd i ragor o wybodaeth?

Os ydych chi’n byw yn Lloegr, gallech chi gysylltu â VoiceAbility, POhWER neu Barnardo’s. Sefydliadau elusennol yw’r rhain sy’n cynnig gwasanaethau eiriolaeth am ddim.

Os ydych chi’n byw yng Nghymru, gallech chi gysylltu â’r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol neu Barnardo’s.

Gallech hefyd ofyn i’ch meddyg os ydynt yn gwybod am unrhyw wasanaethau eiriolaeth lleol.

Mae eiriolwyr sy’n gymheiriaid yn bobl ifanc y gallent fod wedi profi rhywbeth tebyg i chi yn y gorffennol, neu efallai bod ganddynt broblem iechyd meddwl debyg.

Sut y gallan nhw helpu?

Gall eiriolwyr sy’n gymheiriaid ddefnyddio eu gwybodaeth a phrofiad i’ch cefnogi ag unrhyw broblemau yr ydych chi’n eu profi.

Er enghraifft, os ydynt wedi profi problem debyg i chi, gallan nhw siarad â chi am sut y gwnaethon nhw ymdopi â hi.

Gall deimlo’n gysurus i siarad â phobl sy’n eich deall. Efallai bydd hi’n teimlo’n werthfawr i chi rannu eich profiadau â nhw hefyd.

Ym mhle y galla i ddod o hyd i ragor o wybodaeth?

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth gan eich swyddfa Mind lleol.

“Mae’n dda cael rhywun sydd wedi profi’r un pethau â chi.”

Efallai bydd rhai elusennau a sefydliadau sy’n cefnogi grwpiau penodol yn gallu cynnig gwasanaethau eiriolaeth i chi. Er enghraifft:

  • Mae Centrepoint yn cynnig eiriolaeth i bobl ifanc yn Lloegr sy’n ddigartref ac yn profi problemau iechyd meddwl.
  • Mae Coram Voice yn cynnig eiriolaeth iechyd meddwl i bobl ifanc mewn gofal, yn ogystal â phobl sy’n gadael gofal.

Ni fydd rhaid i chi dalu am unrhyw un o’r gwasanaethau hyn.

Os na allwch chi ddod o hyd i eiriolwr cymunedol neu sy’n gymar, darllenwch ein gwybodaeth am deulu, ffrindiau neu ofalwyr fel eiriolwyr a bod yn eiriolwr ar gyfer eich hun.

“Fy nghyngor i bobl ifanc eraill sy’n gweithio gydag eiriolwr yw manteisio ar unrhyw weithgareddau neu dasgau y mae eich eiriolwr yn eu hawgrymu. Hyd yn oed os yw’n ymddangos na fydd y gweithgareddau hyn yn helpu.”

Beth alla i ei ddisgwyl o’r gwasanaethau hyn?

Yn dibynnu ar le’r ydych chi’n byw, gall gwahanol fathau o wasanaethau eiriolaeth a’r cymorth y maen nhw’n ei gynnig fod yn wahanol. Gall gwasanaethau eiriolaeth gwahanol weithio mewn gwahanol ffyrdd hefyd.

Efallai byddwch chi’n gweld bod rhai gwasanaethau:

  • Â rheolau am bwy y gallan nhw eu helpu. Os ydych chi’n ansicr, mae’n werth cysylltu i weld os gallan nhw eich helpu. Os na allant, efallai byddan nhw’n gallu dweud wrthych pwy sy’n gallu.
  • Angen oedolyn i helpu gyda’ch cyfeiriad. Er enghraifft, efallai bydd angen oedolyn arnynt i gwblhau neu lofnodi ffurflen. Gall hyn fod yn rhywun fel rhiant, gofalwr neu eich meddyg.
  • Ag amseroedd aros hir i gael cefnogaeth. Tra’ch bod chi’n aros, gallech ystyried cael cymorth gan riant, gofalwr, ffrind neu bartner. Gallech hefyd roi cynnig ar rai o'n hawgrymiadau ar gyfer eirioli drosoch chi'ch hun.

Sut alla i ddod o hyd i eiriolwr?

Bydd eiriolwr fel arfer yn gweithio i asiantaeth eiriolaeth.

Gallwch ddysgu am wasanaethau eiriolaeth yn eich ardal drwy:

Gallech hefyd ofyn am gymorth gan:

  • Eich ysgol neu goleg. Gallan nhw roi gwybodaeth i chi neu helpu eich cyfeirio at eiriolwr. Siaradwch â rhywun fel eich tîm gofal bugeiliol neu wasanaethau lles myfyrwyr i gael rhagor o gyngor.
  • Eich meddyg. Efallai bydd gwybodaeth ganddynt y gallent ei rhoi i chi am wasanaethau eiriolaeth lleol.
  • Eich tîm gofal. Os ydych chi yn yr ysbyty ar gyfer eich iechyd meddwl, neu rydych chi’n cael triniaeth a chefnogaeth trwy CAMHS.

Beth os nad ydw i’n hapus â fy eiriolwr?

Os nad ydych chi’n hapus â’ch eiriolwr, gallech geisio siarad â nhw’n gyntaf a rhoi gwybod iddynt sut rydych chi’n teimlo.

Os nad yw hynny’n gweithio, gallech chi:

  • Gwyno am y gwasanaeth eiriolaeth. Gallech ofyn i’r gwasanaeth sut i wneud hyn. Efallai byddan nhw’n gofyn i chi ysgrifennu llythyr neu e-bost, neu i gwblhau ffurflen.
  • Gofyn i’r gwasanaeth eiriolaeth os allwch chi weld rhywun gwahanol. Efallai na fyddant yn gallu dod o hyd i eiriolwr newydd i chi – mae’n dibynnu ar ba mor brysur ydynt a faint o bobl sy’n gweithio yno, ond dylent wrando ar sut rydych chi’n teimlo a cheisio gweithio gyda chi i ddatrys y broblem.

A all aelod o fy nheulu neu ofalwr fod yn eiriolwr i mi?

Gall aelodau o’r teulu a gofalwyr eich helpu i godi’ch llais mewn rhai sefyllfaoedd, ond nid ydynt yr un peth ag eiriolwyr proffesiynol.

Bydd y wybodaeth y gallan nhw ei chynnig i chi yn wahanol i eiriolwyr proffesiynol.

Mae’n ddefnyddiol ystyried y gwahaniaethau yn y ffordd y gall eiriolwyr proffesiynol neu deulu a gofalwyr eich cefnogi.

Manteision cael cefnogaeth gan aelod o’r teulu neu ofalwr

Efallai bydd hi’n haws i chi:

  • Siarad â rhywun rydych chi’n ei adnabod neu sydd eisoes yn deall eich profiad.
  • Trefnu i gael cefnogaeth gan aelod o’r teulu neu ofalwr, yn hytrach nag eiriolwr proffesiynol. Er enghraifft, efallai na fydd hawl gyfreithiol gennych i eiriolwr neu efallai na fyddwch chi’n gallu dod o hyd i gymorth gan eiriolwyr cyffredinol neu rai sy’n gymheiriaid.

Pethau i’w hystyried

Nid yw eich teulu neu ofalwyr:

  • Yn annibynnol, yn wahanol i eiriolwyr proffesiynol. Efallai bydd ganddynt farn eu hunain am yr hyn sydd orau i chi ac efallai bydd eu safbwyntiau’n wahanol i’ch rhai chi.
  • Yn gorfod cadw’r hyn yr ydych yn dweud wrthynt yn gyfrinachol, yn wahanol i eiriolwyr proffesiynol. Gallwch o hyd ofyn iddynt gadw’r hyn yr ydych wedi’i ddweud wrthynt yn breifat.
  • O bosib wedi cael profiad o ddelio â’r sefyllfaoedd neu benderfyniadau yr ydych yn eu hwynebu. Bydd gan eiriolwyr proffesiynol brofiad o gefnogi pobl ifanc mewn sefyllfaoedd anghyfarwydd, ac os nad oes ganddynt y wybodaeth sydd ei hangen arnoch, byddan nhw’n gwybod lle i ddod o hyd iddi’n fwy na thebyg.
  • Efallai byddai angen iddynt wybod popeth am eich iechyd meddwl a thriniaeth, y mae’n bosib na fyddwch chi’n teimlo’n gyfforddus ag ef.
  • O bosib yn gallu cynnig y math o gymorth sydd ei angen arnoch, neu efallai na fyddwch chi eisiau iddyn nhw eich cefnogi yn y ffordd hon.

Os hoffech i aelod teuluol neu ofalwr eich helpu i godi’ch llais, sgwrsiwch â nhw’n gyntaf.

Ceisiwch egluro’r math o gefnogaeth yr hoffech ei chael a sut y gallant eich helpu. Efallai bydd angen rhywfaint o amser arnynt i feddwl am a allant eich helpu yn y ffordd rydych wedi gofyn amdani.

A all ffrind neu bartner fod yn eiriolwr i mi?

Gall ffrindiau neu bartneriaid eich helpu i godi’ch llais, ond nid ydynt yr un peth ag eiriolwyr proffesiynol. Bydd y gefnogaeth y gallant ei chynnig yn wahanol i’r hyn y gall eiriolwyr proffesiynol ei gynnig.

Hyd yn oed os ydynt wedi profi rhywbeth sy’n debyg i chi:

  • Efallai na fyddant yn teimlo’n ddigon hyderus i helpu
  • Efallai byddant yn teimlo nad ydynt yn deall digon i helpu

Os hoffech chi iddynt eich cefnogi i godi’ch llais, gallant ofyn iddyn nhw sut y maen nhw’n teimlo amdano. Ceisiwch barchu pa bynnag ateb y maen nhw’n ei roi i chi.

Cofiwch: gall aelodau o’r teulu, gofalwyr, ffrindiau a phartneriaid o hyd eich helpu mewn ffyrdd eraill.

Beth bynnag ydych chi’n ei ddewis, rydych chi’n haeddu cael cefnogaeth gan rywun.

“Gall cael cefnogaeth gan berson arall fod yn fuddiol iawn, hyd yn oed os nad yw hynny gan eiriolwr proffesiynol.”

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Chwefror 2022. Byddwn yn ei diwygio yn 2025.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os hoffech chi ail-gynhyrchu unrhyw ran o'r wybodaeth hon, gweler ein tudalen am hawliau a thrwyddedu.

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig