Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Ymdopi â mynd i’r gwaith yn ystod argyfwng y coronafeirws

Os oes rhaid i chi adael y tŷ i fynd i’r gwaith yn ystod argyfwng y coronafeirws (COVID-19) gall deimlo fel cyfnod anodd, llawn straen.

Mae’r dudalen hon yn cynnig cyngor ar ofalu am eich iechyd meddwl a’ch llesiant, cyngor gyda deall teimladau anodd, a ffyrdd o ddod o hyd i gefnogaeth.

 

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

I bwy mae’r wybodaeth hon?

Mae’n bosib y bydd rhaid i chi fynd mewn i’r gwaith yn ystod argyfwng y coronafeirws gan eich bod chi ar restr y Llywodraeth o weithwyr allweddol (defnyddir ‘gweithwyr hanfodol’ hefyd) a’ch bod yn parhau i wneud gwaith pwysig sy’n cynorthwyo ac yn cefnogi pobl eraill.

Neu efallai nad yw’n bosib i chi wneud eich gwaith gartref, a bod eich cyflogwr wedi gofyn i chi barhau i fynd mewn i’r gwaith.

Pan fyddwch chi’n brysur yn gwneud gwaith pwysig, efallai y byddwch chi’n teimlo nad yw’n bosib i chi gymryd gofal o’ch hunan. Ond mae gwneud pethau bach hyd yn oed yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i’ch llesiant meddyliol, ac mae nifer o syniadau y gallwch chi roi tro arnyn nhw.

Bydd y wybodaeth hon o gymorth i chi ymdopi:

  • Os oes rhaid i chi adael y tŷ i fynd i’r gwaith yn ystod argyfwng y coronafeirws
  • Os ydych chi’n cael teimladau anodd ynghylch y coronafeirws a mynd i’r gwaith
  • Os ydych chi’n poeni sut y gall hyn effeithio ar y bobl rydych chi’n byw gyda nhw neu’n gofalu amdanyn nhw.

Os ydych chi’n gweithio yn y maes gofal iechyd neu’r gwasanaethau brys yn ystod argyfwng y coronafeirws, mae’n bosib y byddwch yn gorfod ymdopi â phrofiadau anodd ac unigryw.

Mae gennym adran ar gefnogaeth ac arweiniad penodol i weithwyr y gwasanaethau brys a gofal iechyd, yn ogystal â’r wybodaeth arall ar y dudalen hon.

Deall teimladau anodd

Os ydych chi’n mynd i’r gwaith yn ystod argyfwng y coronafeirws, efallai y byddwch yn cael teimladau anodd. Efallai y bydd y rhain yn deimladau newydd, neu’n rhai rydych chi wedi’u teimlo yn y gorffennol.

Efallai y bydd yn anodd ymdopi â’r teimladau hyn os nad yw’r bobl o’ch amgylch yn cael yr un profiad o fynd i mewn i’r gwaith. Neu, efallai y byddan nhw’n ymateb yn wahanol i brofiadau tebyg.

Does dim ffordd gywir nac anghywir o deimlo nac o ymateb i’ch sefyllfa. Ond dyma rai teimladau cyffredin mae’n bosib y byddwch yn eu teimlo yn ystod y cyfnod hwn:

Efallai y byddwch yn teimlo o dan straen am fynd i’r gwaith yn ystod argyfwng y coronafeirws. Gall dod i gysylltiad â llawer o bobl, yn cynnwys pobl gall fod yn dioddef o’r coronafeirws, achosi cryn straen.

Gall hyn fod ar ben y straen rydych chi eisoes wedi bod yn ei deimlo oherwydd yr argyfwng. Er enghraifft, mae’n bosib y bod gennych fwy o waith i’w wneud, neu’n gweithio oriau hirach nag arfer. Neu mae’n bosib eich bod yn teimlo’n ansicr ynghylch colli eich swydd, neu’n poeni ynghylch arian.

Os ydych cyn dechrau teimlo dan straen difrifol, gall arwain at broblemau iechyd meddwl fel gorbryder ac iselder, neu gall waethygu unrhyw broblemau sydd gennych eisoes.

Efallai y byddwch yn teimlo rhai o effeithiau straen yn syth, ond gall gymryd yn hirach i adnabod rhai effeithiau, hyd yn oed ar ôl i’r digwyddiad sy’n peri straen ddod i ben.

Darllenwch ein cyngor ar ofalu am eich llesiant meddyliol am ffyrdd i’ch helpu i ymdopi. Neu darllenwch ein tudalennau ar straen am ragor o wybodaeth.

 

Efallai y byddwch yn dioddef o orbryder os ydych chi’n mynd i’r gwaith yn ystod argyfwng y coronafeirws. poeni am eich iechyd eich hun neu iechyd y rheini o’ch cwmpas, gan gynnwys y rheini sy’n byw gyda chi neu sy’n derbyn gofal gennych chi.

Mae’n bosib eich bod chi’n teimlo hyd yn oed yn fwy pryderus os ydych chi’n gweithio gyda phobl sy’n dioddef o’r coronafeirws neu os ydych chi’n dod i gysylltiad â phobl all fod yn sâl. 

Ac efallai y bydd gennych bryderon eraill ynghylch y coronafeirws, fel colli eich swydd neu broblemau ariannol.

Darllenwch ein cyngor ar ofalu am eich llesiant meddyliol am ffyrdd i’ch helpu i ymdopi. Gallwch hefyd ddarllen ein tudalennau ar orbryder a phyliau o banig am ragor o wybodaeth, gan gynnwys cyngor ar reoli pyliau o banig.

“Rydyn ni’n poeni am fod yn fwy tebygol o ddal y feirws gan ein bod ni’n gorfod bod yn llawer mwy agored tuag at y cyhoedd... mae pawb yn poeni am ledaenu’r feirws yn anfwriadol i’r bobl maen nhw’n gweithio gyda nhw.”

Mae’n bosib eich bod yn teimlo’n euog am fynd mewn i’r gwaith yn ystod argyfwng y coronafeirws. Gall hyn fod am nifer o resymau:

  • Rydych chi’n poeni am ledaenu’r coronafeirws i’r bobl sydd o’ch amgylch
  • Rhaid i chi fynd a’r plant i’r ysgol neu i’r ysgol feithrin tra bod teuluoedd eraill yn aros adref
  • Rydych chi’n poeni a ydych chi’n gwneud digon, yn arbennig yn ystod y cyfnodau nad ydych chi’n gweithio.

Efallai eich bod chi hefyd yn teimlo’n euog os yw’n teimlo fel petai eich ymateb i’r sefyllfa’n wahanol i ymateb pobl eraill o’ch amgylch. Er enghraifft, gall gweithio o dan lawer o bwysau wneud i chi deimlo o dan straen, tra bod eich cydweithwyr i’w gweld yn ddigon bywiog.

Ond rydyn ni gyd yn ymateb i sefyllfaoedd anodd mewn ffyrdd gwahanol, felly mae’n bwysig bod yn garedig i’ch hun.

Darllenwch ein cyngor ar ofalu am eich llesiant meddyliol am ffyrdd o helpu’ch hun i ymdopi.

Gall mynd gwaith yn ystod argyfwng y coronafeirws wneud i chi deimlo’n grac neu’n flin. Gall hyn fod am nifer o resymau:

  • Rhaid i chi barhau i weithio mewn amgylchedd lle mae’n bosib y byddwch yn dal y coronafeirws
  • Dydych chi ddim yn teimlo eich bod yn derbyn cefnogaeth gan eich cyflogwr i wneud eich swydd
  • Dydy’r offer cywir ddim gyda chi i wneud eich swydd
  • Mae nifer o newidiadau mawr yn digwydd yn eich bywyd, gan gynnwys yn y gwaith.

Pan fydd y rhan fwyaf ohonom ni’n teimlo dicter, nid yw’n effeithio rhyw lawer ar ein bywydau. Dim ond os yw’n mynd allan o reolaeth ac yn eich niweidio chi neu’r bobl o’ch cwmpas y mae dicter yn dod yn broblem.

Os ydych chi’n ei chael yn anodd ymdopi â dicter, gall dysgu am ffyrdd llesol o ddelio â’r peth helpu eich iechyd meddwl a chorfforol.

Darllenwch ein cyngor ar ofalu am eich llesiant meddyliol am ffyrdd o helpu’ch hun i ymdopi. Neu darllenwch ein tudalennau ar ddicter am ragor o wybodaeth.

Gofalu am eich iechyd meddwl a’ch llesiant

Os ydych chi’n mynd i’r gwaith yn ystod argyfwng y coronafeirws, efallai eich bod yn ei chael yn anodd cymryd gofal o’ch llesiant meddyliol.

Gall hyn deimlo’n anodd iawn os ydych yn dod i gysylltiad gyda phobl all fod yn dioddef o’r coronafeirws wrth i chi fynd i’r gwaith. Neu efallai eich bod yn ei chael yn anodd os ydych chi’n gweithio oriau hir neu o dan bwysau sylweddol.

A hyd yn oed os ydych chi’n mynd i’r gwaith, efallai nad ydych chi’n gallu gweld rhai pobl yn eich bywyd ar hyn o bryd gan eu bod nhw’n aros adref.

Dyma gyngor i chi gefnogi eich llesiant:

 

  • Siaradwch â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo. Mae dweud wrth rywun sut rydych chi’n teimlo’n gallu gwneud gwahaniaeth, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n gallu newid yr hyn rydych chi’n ei deimlo. Gallech siarad â chydweithiwr sy’n deall eich profiadau, neu efallai byddai’n well gennych chi siarad â rhywun y tu allan i’r gwaith, am safbwynt gwahanol ar bethau.
  • Ceisiwch wneud cynlluniau i gael sgyrsiau fideo gyda phobl neu grwpiau rydych chi fel arfer yn eu gweld wyneb yn wyneb, pan fo hynny’n bosib. Gallwch hefyd drefnu i siarad ar y ffôn neu anfon negeseuon testun. Cadwch mewn cysylltiad ag eraill, cymaint neu gyn lleied ag yr hoffech chi.
  • Gallech ymuno â chymuned cefnogaeth i gymheiriaid. Mae gan Mind gymuned cefnogaeth i gymheiriaid ar-lein o’r enw Elefriends, lle gallwch chi rannu eich profiadau a chlywed gan bobl eraill.
  • Os ydych chi’n mynd ar lein yn fwy nag arfer, neu’n chwilio am gymorth i gymheiriaid ar y rhyngrwyd, mae’n bwysig gofalu am eich llesiant ar lein. Darllenwch ein tudalennau ar iechyd meddwl ar lein am ragor o wybodaeth.

Os ydych chi’n ei chael yn anodd ymdopi â’ch iechyd meddwl, mae’n iawn i ofyn am help. Yn aml, mae cefnogaeth ar gael i chi yn y gwaith a thu allan i’r gwaith. Gweler isod am opsiynau cefnogaeth cyffredin.

Os ydych chi’n gweithio ym maes gofal iechyd neu’r gwasanaethau brys, mae gennym wybodaeth am opsiynau cefnogaeth cyffredin sy’n benodol i’ch maes chi.

Cefnogaeth yn y gwaith

Mae rhai cyflogwyr yn cynnig cefnogaeth iechyd meddwl i’w gweithwyr. Os oes gennych gyflogwr, holwch os oes ganddyn nhw unrhyw wasanaethau cefnogaeth arbenigol, fel:

  • Llinell Gymorth Rhaglen Gymorth i Weithwyr
  • Gwasanaethau cwnsela
  • Grwpiau cefnogaeth i gymheiriaid
  • Gwasanaeth rheoli risg trawma (TriM) os ydych chi’n gweithio yn y gwasanaethau brys.

Llinellau cymorth a gwasanaethau gwrando

Gallwch chi siarad â llinell gymorth neu wasanaeth gwrando am eich iechyd meddwl:

  • Galwch Linell Gymorth Mind am wybodaeth ac am gyfarwyddyd ynghylch eich iechyd meddwl.
  • Os nad ydych chi’n credu eich bod chi’n gallu sicrhau eich diogelwch eich hun, galwch 999 am ambiwlans.
  • Os hoffech chi siarad â rhywun ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos am eich teimladau, galwch y Samariaid ar 116 123, neu 0808 164 0123 os hoffech siarad yn Gymraeg (o 7pm i 11pm bob nos).

Cefnogi rhywun ar y tu allan i’r gwaith

Gall cefnogi neu ofalu am rywun ar y tu allan i’r gwaith deimlo’n anodd yn ystod argyfwng y coronafeirws.

Gall deimlo’n arbennig o anodd os ydych chi’n gweithio oriau hirach nag arfer, neu os ydych chi’n poeni ynghylch pasio’r coronafeirws i rywun all fynd yn sâl.

Mae gan Carers UK wybodaeth ynghylch darparu gofal yn ystod argyfwng y coronafeirws. Gall ein gwybodaeth ar sut i ymdopi wrth gefnogi rhywun arall helpu hefyd. (LINK)

 

  • Byddwch yn ymwybodol o'r newyddion diweddaraf, ond byddwch yn ofalus o ble rydych chi'n cael y newyddion a gwybodaeth iechyd.
  • Am y wybodaeth ddiweddaraf yn Gymraeg, ewch i wefan coronafeirws GIG Cymru a gwefan coronafeirws Llywodraeth Cymru.
  • Am y wybodaeth ddiweddaraf yn Saesneg, ewch i wefan coronafeirws y GIG a thudalennau Llywodraeth y DU.
  • Os ydy straeon newyddion yn gwneud i chi deimlo'n bryderus neu'n ddryslyd, ystyriwch ddiffodd y newyddion am ychydig neu gyfyngu ar yr hyn rydych chi'n ei wylio.
  • Gall y cyfryngau cymdeithasol eich helpu i gadw mewn cysylltiad gyda phobl, ond gall hefyd wneud i chi deimlo'n bryderus, yn enwedig os yw pobl yn rhannu straeon o'r newyddion neu'n postio am eu pryderon. Dylech ystyried gymryd egwyl neu gyfyngu ar sut rydych chi'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol. Gallwch benderfynu gweld grwpiau neu dudalennau penodol ond peidio sgrolio trwy linellau amser neu ffrydiau newyddion. Ewch at ein tudalennau am iechyd meddwl ar lein am fwy o wybodaeth.

Gall deimlo’n hynod o anodd gwneud amser i chi eich hun tra eich bod yn gweithio, yn enwedig os ydych chi’n gweithio’n hirach nag arfer neu os ydych chi o dan lawer o bwysau. Efallai eich bod yn teimlo’n euog ynghylch ymlacio tra bod eich cydweithwyr yn gweithio.

Ond mae gosod amser i chi eich hun yn bwysig i’ch iechyd meddwl a chorfforol. Os ydych chi’n defnyddio’r amser pryd nad ydych chi’n gweithio i ofalu am eich hun, gall hyn eich cadw chi i fynd wrth i chi weithio. Gall hyn gynnwys treulio amser adref, neu fod ar egwyl yn y gwaith.

Dyma ambell syniad i chi roi tro arnynt:

Dewch o hyd o ffyrdd i ymlacio

Os ydych chi’n ei gael yn anodd rhoi’r gwaith i’r neilltu ar ôl mynd adref, gall ein tudalen ar ymlacio fod o gymorth. Mae’n cynnwys cyngor ac ymarferion i’ch helpu chi i ymlacio. Gallwch roi tro ar y rhain yn y tŷ neu ar eich amser egwyl yn y gwaith.

Gwnewch rywbeth rydych chi’n ei fwynhau

Gall deimlo’n afrealistig gosod amser i’r neilltu i wneud rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau. Ond mae cael rhywbeth arall i ganolbwyntio arno ar y tu allan i’r gwaith eich helpu chi i aros yn iach. Gall hyn fod yn rhywbeth bach, fel cael sgwrs fideo gyda ffrind, cael bath neu wrando ar gerddoriaeth.

Rhowch gynnig ar feddwlgarwch

Mae meddwlgarwch (mindfulness) yn ffordd o ganolbwyntio ar y presennol, gan ddefnyddio technegau fel myfyrio, ymarferion anadlu ac ioga. Mae’n gallu helpu pobl i fod yn fwy ymwybodol o’u meddyliau a’u teimladau. Felly, yn lle teimlo o dan bwysau oherwydd teimladau, mae hyn yn golygu ei fod yn dod yn haws delio â nhw.

Ewch i’n tudalen ar feddwlgarwch am fwy o wybodaeth, yn cynnwys ymarferion meddwlgarwch i chi gael rhoi tro arnyn nhw.

“Rwy’n trio gosod amser i roi tro ar bethau newydd rydw i erioed wedi eisiau eu gwneud ond heb gael amser i’w gwneud. A threulio mwy o amser yn gwneud y pethau rwy’n eu mwynhau. Mae’n rhoi rhywbeth i fi ganolbwyntio arno ac anghofio am bopeth arall, hyd yn oed am sbel fach.”

 

Ceisiwch ymgorffori gweithgarwch corfforol yn eich bywyd bob dydd, os yw hynny'n bosibl. Does dim offer ymarfer corff fel peiriannau rhedeg gyda'r rhan fwyaf ohonom ni gartref, ond mae rhai gweithgareddau y gallwch chi eu gwneud. Gall ymarfer corff gartref fod yn rhwydd, ac mae opsiynau ar gael i bob oedran a gallu, gan gynnwys y canlynol:

  • glanhau'r tŷ
  • dawnsio i gerddoriaeth
  • dringo'r grisiau
  • ymarferion wrth eistedd
  • sesiynau ymarfer ar-lein y gallwch eu dilyn
  • eistedd am lai o amser – os ydych chi'n sylwi eich bod wedi bod yn eistedd ers awr, gall godi neu newid safle helpu.

Gall deimlo’n anodd gofalu am eich iechyd corfforol os ydych chi’n teimlo’n brysur neu dan straen. Ond mae gofalu am eich iechyd corfforol yn gallu cael effaith sylweddol ar eich iechyd meddwl. Ac mae nifer o newidiadau bychain y gallwch chi eu gwneud i ofalu am eich llesiant cyffredinol:

Sut i wella safon eich cwsg

  • Ceisiwch osod trefn benodol gydag amser mynd i’r gwely, er mwyn sefydlu patrwm cysgu rheolaidd.
  • Dylech gadw amser yn rhydd o ddefnyddio teclynnau cyn mynd i’r gwely, gan osgoi sgriniau llachar.
  • Gwnewch ymarferion ymlacio cyn mynd i’r gwely.
  • Sicrhewch fod y man lle rydych chi’n cysgu mor gyfforddus â phosibl.

Bwytewch yn dda ac yfwch ddigon o ddŵr

  • Mae bwyta'n rheolaidd a chadw lefel y siwgr yn eich gwaed yn sefydlog yn gallu bod o fudd i'ch hwyliau a'ch egni.
  • Yfwch ddŵr yn rheolaidd. Mae yfed digon o ddŵr yn bwysig i'ch iechyd meddwl a chorfforol.
  • Ceisiwch fwyta 5 ffrwyth neu lysieuyn y dydd. Mae ffrwythau a llysiau yn cynnwys llawer o’r fitaminau, mwynau a’r ffibr sydd angen arnom i gadw’n iach, yn gorfforol ac yn feddyliol.
  • Rheolwch faint o gaffein rydych chi’n ei yfed. Gall caffein roi pwl o egni cyflym i chi, ond wedyn gall wneud i chi deimlo’n bryderus neu’n isel, neu amharu ar eich cwsg.

Ewch i’n tudalennau ar broblemau cwsg a bwyd a hwyliau am wybodaeth a chyngor gall fod o gymorth.

 

 

Cyngor ymarferol ynghylch mynd mewn i’r gwaith

Efallai eich bod yn poeni ynghylch sut y bydd y coronafeirws yn effeithio ar eich gwaith. Neu mae’n bosib y bydd gennych gwestiynau ynghylch beth i’w wneud os oes angen i chi gymryd amser salwch neu amser i ffwrdd i ofalu am eich plant neu bobl eraill sy’n dibynnu arnoch chi.

Dyma ffyrdd o ddod o hyd i arweiniad a chefnogaeth ynghylch mynd mewn i’r gwaith yn ystod argyfwng y coronafeirws:

Os ydych chi’n dal i fynd mewn i’r gwaith yn ystod argyfwng y coronafeirws, efallai bod gennych gwestiynau a phryderon am eich hawliau. Er enghraifft, gall hyn gynnwys eich hawl i’r canlynol:

  • Tâl salwch
  • Amser i ffwrdd o’r gwaith
  • Gofal plant

Gall ceisio cael gwybodaeth am eich hawliau ymddangos yn beth anodd a dryslyd i wneud yn y cyfnod hwn. Ond mae ffyrdd o ddod o hyd i arweiniad a chefnogaeth:

Mae canllawiau’r Llywodraeth yn nodi y dylai pawb sy’n gallu gweithio o adref wneud hynny yn ystod argyfwng y coronafeirws. Ond i rai ohonom, nid yw hynny’n bosibl. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr allweddol sy’n mynd mewn i’r gwaith i barhau i wneud swyddi pwysig.

Os ydych chi’n parhau i fynd mewn i’r gwaith, efallai eich bod chi’n teimlo’n bryderus am hyn. Mae’n bosib eich bod chi’n teimlo’n bryderus iawn os ydych chi’n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, neu’n gorfod dod i gyswllt agos gyda phobl eraill wrth weithio.

Mae gan Lywodraethau Cymru a’r DU  ganllawiau sy’n esbonio sut i’ch helpu chi a’ch cydweithwyr i aros yn iach. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar ymbellhau cymdeithasol (cadw pellter penodol o bobl eraill) wrth fynd i’r gwaith.

Os ydych chi neu rywun sy’n byw gyda chi yn arddangos symptomau o’r coronafeirws, ni ddylech fynd i’r gwaith. Os yw hyn yn digwydd, mae gan y GIG ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wybodaeth am ‘hunan-ynysu’ yn y cartref:

Cefnogaeth i bobl sy’n gweithio ym maes gofal iechyd ac yn y gwasanaethau brys

Os ydych chi’n gweithio ym maes gofal iechyd neu’r gwasanaethau brys, er enghraifft:

  • Mewn ysbyty
  • Mewn fferyllfa neu feddygfa
  • Mewn cartref gofal
  • I’r Heddlu neu i’r Gwasanaeth Ambiwlans

Mae’n bosib eich bod o dan straen sylweddol yn ystod argyfwng y coronafeirws, ac yn gweithio oriau hirach nag arfer. Mae’n bosib eich bod hefyd yn teimlo’n bryderus iawn ynghylch dal y coronafeirws neu basio’r feirws ymlaen i bobl eraill o’ch amgylch.

Gall fod o gymorth i chi ddarllen ein gwybodaeth ar ddeall teimladau anodd yn ystod argyfwng y coronafeirws, a’n cyngor ar ofalu am eich llesiant meddyliol.

Ond mae rhai profiadau ac emosiynau penodol, anodd sy’n benodol i’r maes hwn, all hefyd effeithio ar eich llesiant meddyliol:

Os ydych chi’n gweithio ym maes gofal iechyd neu’r gwasanaethau brys yn ystod argyfwng y coronafeirws, mae’n bosib y cewch chi brofiadau all achosi emosiynau anodd iawn. Er enghraifft, mae’n bosib y byddwch yn cael profiad o’r canlynol:

  • Pryder ynghylch dod i gysylltiad â phobl sy’n dioddef o’r coronafeirws. Efallai eich bod chi’n poeni amdanoch chi eich hun, ond hefyd am y rheini rydych chi’n gofalu amdanynt neu’n byw gyda nhw. Ac mae’n bosib eich bod yn pryderu ynghylch cael digon o gyfarpar diogelu personol (PPE) os oes angen hyn arnoch chi i wneud eich swydd yn ddiogel.
  • Lefelau uchel o straen a phwysau yn y gwaith. Gall hyn fod oherwydd eich bod chi’n gweithio oriau hir iawn i helpu cymaint o bobl â phosib, yn enwedig os oes gennych chi gydweithwyr sydd i ffwrdd o’r gwaith yn sâl. Efallai bod rhaid i chi wneud llawer o benderfyniadau anodd, nad yw’n beth rhwydd os ydych chi’n teimlo o dan bwysau neu wedi blino.
  • Pryder ynghylch gwneud tasgau ychwanegol sy’n ddiarth i chi, nad ydyn nhw’n rhan o’r gwaith arferol, neu hyd yn oed gwneud swydd hollol newydd nad oeddech chi’n ei ddisgwyl.
  • Straen ynghylch gweithio gyda’r cyhoedd a gorfodi mesurau newydd i reoli’r coronafeirws, os ydych chi’n aelod o’r Heddlu.

Darllenwch ein gwybodaeth isod ynghylch ble i gael help i ddelio gyda’r profiadau a’r emosiynau hyn.

Mae’n bosib bod rhaid i chi fod o amgylch pobl sy’n sâl a gofalu amdanyn nhw fel rhan o’ch swydd. Gall hyn gynnwys darparu gofal diwedd bywyd. Efallai y byddwch chi’n colli pobl rydych chi’n gofalu amdanyn nhw, cyd-weithwyr, neu bobl eraill yn eich bywyd.

Mae gweithio yn y fath awyrgylch yn gallu peri gofid neu drawma, ac mae’n naturiol teimlo llawer o emosiynau anodd. Er enghraifft:

  • Tristwch neu iselder ynghylch beth sydd wedi digwydd.
  • Sioc a theimlo ar goll. Gall hyn ddigwydd wrth i’ch meddwl geisio eich amddiffyn chi rhag y boen neu deimlo fel petaech chi’n methu ag ymdopi.
  • Panig a dryswch. Efallai y byddwch chi’n teimlo fel petaech chi’n methu ag ymdopi, ac yn meddwl pam mae hyn yn digwydd i chi. Efallai y byddwch chi’n poeni ynghylch sut rydych chi’n mynd i ymdopi.
  • Mae’n bosib y byddwch chi’n teimlo’n grac/yn flin neu’n rhwystredig, ac eisiau ffeindio rhywun neu rywbeth i’w feio am yr hyn sy’n digwydd, i’ch helpu chi i wneud synnwyr o’r peth.

Gall deimlo’n anodd canolbwyntio ar eich iechyd meddwl pan fyddwch chi’n delio gyda chymaint o bethau eraill. Ond gallwch ofyn am gymorth ar unrhyw adeg rydych chi’n teimlo ei fod angen arnoch chi. Gall hyn fod nawr, yn y dyfodol, neu’r ddau.

Darllenwch ein gwybodaeth isod ynghylch ble i gael cymorth am y profiadau a’r emosiynau hyn.

“Rwy’n teimlo bod rhaid i ni fod yn stoicaidd. Gan ein bod ni’n gweithio yn y maes gofal iechyd, dylem fod â’r gallu ac i fod yn barod i roi ein hun mewn perygl a delio gyda’r pwysau.”

 

Mae nifer o ffyrdd i ddod o hyd i gefnogaeth ac arweiniad os ydych chi’n gweithio yn y maes gofal iechyd neu yn y gwasanaethau brys yn ystod argyfwng y coronafeirws. Dyma rai opsiynau all fod o gymorth:

 

  • Gwybodaeth Golau Glas Mind sy’n cefnogi’r gwasanaethau Ambiwlans, Tân, Chwilio ac Achub a’r Heddlu gyda’u hiechyd meddwl. Mae hyn yn cynnwys opsiynau cyngor a chefnogaeth ar lesiant meddyliol, pwysau a gorbryder, chwilio am help gyda phroblem iechyd meddwl a ffyrdd o gefnogi cyd-weithiwr.
  • Mae gan Ffederasiwn yr Heddlu Raglen Cefnogi Lles, sydd ar gael trwy linell gymorth 24 awr.
  • Mae Police Care UK yn darparu cefnogaeth ymarferol, emosiynol ac ariannol i swyddogion a staff presennol ac sydd wedi ymddeol, gwirfoddolwyr a’u teuluoedd.
  • Mae Elusen y Gwasanaethau Ambiwlans yn cefnogi’r gymuned ambiwlans gyda’u llesiant meddyliol, corfforol ac ariannol.
  • Mae Head First yn adnodd llesiant meddyliol ar-lein sy’n rhad ac am ddim, wedi’i dargedu i weithwyr y gwasanaeth ambiwlans.
  • Mae gan Elusen y Diffoddwyr Tân hwb cefnogaeth coronafeirws i ddiffoddwyr tân, gan gynnwys ffyrdd i amddiffyn eich llesiant.

Iechyd a llesiant meddyliol

Cefnogaeth a gwybodaeth ymarferol

Iechyd meddwl a llesiant

Cefnogaeth a gwybodaeth ymarferol

 

Os ydych chi’n ei chael yn anodd ac angen siarad â rhywun ar frys:

  • Os nad ydych chi’n credu eich bod chi’n gallu sicrhau eich diogelwch eich hun, galwch 999 am ambiwlans.
  • Os hoffech chi siarad â rhywun ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos am eich teimladau, galwch y Samariaid ar 116 123, neu 0808 164 0123 os hoffech siarad yn Gymraeg (o 7pm i 11pm bob nos).
  • Mae Shout hefyd cynnig gwasanaeth neges destun 24/7 sy’n rhad ac am ddim. Anfonwch SHOUT i 85258.

Diweddarwyd y dudalen hon ar 9 Ebrill 2020.

  • Mae cynnwys y dudalen yn adlewyrchu'r cyngor gorau sydd gennym ar hyn o bryd. Byddwn yn ei ddiweddaru yn ôl yr angen, yn enwedig os oes newidiadau i arweiniad ar iechyd cyhoeddus.
  • Os ydych chi'n ail-ddefnyddio'r cynnwys hwn rhywle arall, rhannwch y ddolen i'r dudalen yn uniongyrchol yn hytrach na dyfynnu neu roi crynodeb o'r wybodaeth, er mwy osgoi rhannu gwybodaeth sydd allan o ddyddiad.
  • Rydyn ni'n gwerthfawrogi unrhyw adborth ar yr hyn rydyn ni'n ei amlinellu yma, neu unrhyw beth hoffech chi i ni ei gynnwys. I adael sylwadau, cliciwch y bawd i fyny /i lawr uchod.

Mae hwn yn argyfwng iechyd meddwl – mae angen eich cymorth nawr

Mae'r pandemig coronafeirws yn cael effaith enfawr ar ein hiechyd meddwl. Helpwch ni i gefnogi pawb sydd angen cymorth yn ystod y cyfnod hollbwysig yma.

Gwnewch rhodd heddiw

arrow_upwardYn ôl i'r brig